Monday, March 31, 2008

glaw!

Dw i erioed wedi gweld cymaint o law! Mi ddechreuodd fwrw'n sydyn p'nawn ma. Roedd rhaid i mi fynd i gasglu'r plant pan oedd y storm yn ei hanterth. Fedrwn i ddim gweld y ffyrdd yn iawn oedd fel afonydd. Ond mae hi wedi atal bellach ac dw i'n gweld yr awyr glas hyd yn oed. Mi gaeth fy nghar ei olchi am ddim, rhaid i mi ddweud. : )

Sunday, March 30, 2008

gwersi cymraeg

Mi nes i fwynhau dysgu Cymraeg i'm merch yn ystod y gwyliau diwetha. Ond rwan mae'r ysgol wedi ail-gychwyn, ac mae gynni hi gormod o waith cartre i wneud pethau ychwanegol. Dw i'n ceisio dweud brawddeg neu ddwy yn Gymraeg bob dydd serch hynny, e.e. "Be wyt ti'n neud rwan?" "Be ydy hwn?" ayyb.

Dan ni wedi bod yn defnyddio llyfryn bach a CD, "Get Your Tongue Around It" gan Acen ges i am ddim. Hefyd mae hi'n darllen yn uchel nofel fer i ddysgwyr (Simon a'r Ysbiwr) sy'n defnyddio amser presennol yn unig ar wahan i "meddai." Mi brynodd fy merch hyna yn anrheg i mi yn Llundain flwyddyn yn ôl. (Yr unig lyfr Cymraeg gaeth hi hyd iddo yno!) Mi fasai'n dda gen i CD.

Saturday, March 29, 2008

nippon 3 (dolen yma)

Mi naeth fy ngwr fideo byr Getap (uchod.) Mae'r sgrin yn fach fach, mae arna i ofn. Gobeithio gwnewch chi fwynhau serch hynny. Mae o'n bwriadu gwneud fideos ychwanegol nes ymlaen.

Friday, March 28, 2008

nippon 2



Roedd 'na dros 500 o bobl oedd yn mwynhau'r sioe gampus neithiwr. Un o'r dawnsiau arbennig oedd "Getap," sef dawns "tap" efo sandalau pren traddodiadol (geta) rhoies i'r ddolen iddi ddoe. Mae'n anodd cerdded heb sôn am ddawnsio ynddyn nhw. Mi fasa Asuka wedi gwirioni ar y caneuon "animes." Gaethon ni ddim tynnu lluniau yn ystod y sioe, felly does 'na ddim ond ychydig yma.

Lluniau: tocynnau lliwgar (cardiau chwarae traddodiadol ydyn nhw,) diwedd y sioe

Thursday, March 27, 2008

nippon (dolen yma)

Heno mi fydd 'na sioe, Nippon (Japan) gan y myfyrwyr Japaneaidd yn y brifysgol leol. Maen nhw wedi cynnal sioe bob blwyddyn ers blynyddoedd er mwyn cyflwyno diwylliant Japan i'r bobl leol. Mi fydd 'na ddawnsio, canu, sgitiau ac ati. Mae'r sioe wedi bod mor boblogaidd bod y myfyrwyr wedi cael gwahoddion i berffomio rhan o'r dawnsiau dros Ogledd Oklahoma. Mi na i sgwennu mwy a rhoi lluniau hefyd yfory.

Wednesday, March 26, 2008

cofeb madog (dolen yma)

A pham lai? Dim ond un llyfr darllenes i am y Tywysog Madog a'i hanes (Brave His Soul gan Ellen Pugh) ond dw i'n cefnogi'r damcaniaeth ma. Mae'n hollol ddifyr a chyffrous ac yn gredadwy yn fy marn i. Er tasai fo ddim yn wir, mi fasai'n codi proffil Cymru yn UDA o leia.

Mae 'na ddeiseb ar lein i achub Cofeb Madog. Dowch yn llu!

Tuesday, March 25, 2008

popty newydd


Mi dorrodd y hen bopty tra ô'n i'n paratoi swper. Rôn i a'r gwˆr benderfynu bod pryd i ni brynu un newydd. Mi brynodd o un rhata yn Lowe's bore ddoe a daeth dau ddyn â fo yn y p'nawn. Mae o'n gweithio'n dda.

Dw i'n teimlo'n ddrwg mod i wedi rhoi braw mawr iddyn nhw pan dynnes i'r llun ma heb ddweud dim. Roedden nhw'n meddwl bod rhywbeth wedi mynd o'i le hefo'r trydan pan fflachiodd y camera.

Monday, March 24, 2008

mansfield park

Mi nes i a'r plant iau wylio Mansfield Park dros y gwyliau ma. Cynhyrchwyd y ffilm gan BBC chwarter canrif yn ôl. Mae'r actio a'r gwisgoedd yn ardderchog. Mi naethon ni fwynhau'n fawr iawn er gwaetha'r gwaith camera truenus. Mae cymeriadau Jane Austen yn eitha difyr.

Sunday, March 23, 2008

pasg cynta

Daeth y bedd yn fan gobaith ar fore Pasg cynta.

"Os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd... Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, nyni yw'r mwyaf truenus ymhlith dynion. Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw..."

Pasg Hapus felly.

Saturday, March 22, 2008

podlediad dysgu cymraeg (dolen yma)

Mi ddes i ar draws podlediad dysgu cymraeg heddiw. (uchod) Dyn o'r enw Jason ddechreuodd o tri mis yn ôl i ddysgwyr rhonc. Mae o'n ychwanegu gwers newydd bob wythnos. Mae gynno fo syniad gwych ac angerdd dysgu (er fod o'n dysgu ffurfiau deheuol.)

Oes unrhywun isio dechrau un arall efo ffurfiau gogleddol i ddysgwyr canolradd?

Friday, March 21, 2008

torri coeden



Mae 'na goeden wedi 'i marw yn ein gardd ni sy wedi bod yn beryglus. Mi fasa hi'n syrthio taswn ni'n cael storm wael. Heddiw mi gaethon ni ei thorri i lawr. Mi naeth Kurt ein dyn trwsio wneud y gwaith yn effeithiol. Mi nes i a'r plant weld y olygfa (spectacle.)Ac mi fyddwn ni'n llosgi'r goeden yn y stôf flwyddyn nesa.

Thursday, March 20, 2008

gwers gymraeg

Gwers arall i'm merch. Mi naeth hi ddysgu lliwau ac enwau corff y tro ma. (Dw i wedi sylweddoli mod i ddim wedi dysgu enwau gwrywaidd a benywaidd yn dda.)

Roedd hi'n darllen yn uchel un neu ddwy dudalen o Brawd Newydd gan Mair Wynn Hughes hefyd. Stori fer i blant Cymraeg ydy hon. Felly mae'r ramadeg braidd yn anodd i ddysgwyr rhonc. Ond mi gaeth hi hwyl achos bod hi'n medru ynganu llawer o eiriau er bod hi ddim yn dallt be oedd hi'n ddarllen, diolch i Gymraeg sy'n seinegol bron.

Mae'n bleser mawr i mi gael dysgu Cymraeg i rywun arall a chael rhyw fath o "sgwrs" efo'r teulu!

Tuesday, March 18, 2008

parti penblwydd

Mi es i a'r gwr i barti penblwydd ffrind heddiw. Mae o'n 80 oed. Roedd o a'i wraig yn byw yn Japan mwy na 40 mlynedd fel cenhadwyr. Mae nhw'n medru Japaneg felly. Maen nhw'n dal i weithio dros fyfyrwyr Japaneaidd yn y brifysgol. Dyn annwyl ydy o. Mi fedrith o ddweud cellweiriau doniol iawn yn Japaneg.

Roedd 'na dros 60 o bobl mewn ffreutur cartre henoed i ddathlu. Mi ddaeth ei berthnasau o Efrog Newydd ac o Califfornia. (Dan ni'n byw yn Oklahoma, cofiwch.) Mi nes i anghofio mynd â chamera yn anffodus.

Sunday, March 16, 2008

sylw amheus

Mi ges i sylw ar fy mhost diwetha oddi wrth rywun geisiodd rhoi firws i mi, dw i'n meddwl. Mi nes i sylweddoli hyn ar ôl clicio'r ddolen yn y sylw. Yn ffodus, es i ddim ymhellach ac mae'r cyfrifiadur yn ddiogel. Mi ddylwn i fod wedi bod yn amheus achos fod o gan ddieithryn yn Saesneg. Ond dôn i erioed wedi derbyn unrhyw sylw amheus neu gas ers i mi ddechrau blogio. Felly dôn i ddim yn wyliadwrus. Mi nes i ddileu'r sylw am byth.

Saturday, March 15, 2008

priodas



Mae'n hwyr (11:45 pm) ond rhaid i mi sgwennu am y briodas cyn mynd i'r gwely. Roedd hi'n syml ac yn ddymunol. Mi ddaeth teulu'r briodferch o Japan ar gyfer y diwrnod mawr.

Roedd 'na barti mewn caffi yn y dre wedyn. Mi gaethon ni gacen, sushi a ffynnon siocled (y llun) ayyb. Rôn i'n cynnig te gwyrdd wrth y bwrdd. Dw i wedi blino'n llwyr.

Gyda llaw, llongyfarchiadau i dîm Cymru!

Friday, March 14, 2008

cardiau fflachio

Rôn i'n gwneud cardiau fflachio er mwyn dysgu geiriau newydd. Ond mi nes i roi gorau iddyn nhw achos bod nhw ddim yn gweithio'n iawn i mi.

Ac eto mae'n bwysig dysgu geiriau newydd yn gyson. Mi ddechreues i ddoe rywbeth newydd sy'n debyg i gardiau fflachio. Yn lle sgwenni gair newydd ar bob cerdyn, mi sgwenna i frawddeg gan gynnwys y gair. Ac pryd bynnag ddo i ar draws y gair, mi na i ychwanegu'r holl frawddeg ar yr un cerdyn.

Trwy'r system newydd gobeithio medra i ddysgu geiriau newydd nes i mi wybod sut i eu defnyddio.

Thursday, March 13, 2008

cystadleuaeth heinz (dolen yma)

Mae fy merch hyna wedi gwneud y fideo fach ma ar gyfer cystadleuaeth hysbyseb Heinz. Mi naeth hi bopeth ar wahan i actio a'r gerddoriaeth, sef cynllunio, ffilmio, golygu, llais y wraig. Mwynheuwch! (Cliciwch y teitl uchod.)

Wednesday, March 12, 2008

mary hopkin

Dw i newydd ddigwydd darganbod geiriau Aderyn Llwyd gan Mary Hopkin! Maen nhw ar gylchgrawn ACEN. Mae gen i un o'i CDs, sef y Caneuon Cynnar. Mae'r holl ganeuon yn fendigedig. Dw i wrth fy modd efo'i llais swynol a'r caneuon ma. Er bod ei Chymraeg yn ddigon clir, dw i ddim yn gwybod yr holl eiriau. Llawer o ddioch i ACEN!

Tuesday, March 11, 2008

pwy sy'n mynd

i gwrs Cymraeg Madog yn Iowa ym mis Gorffennaf, tybed? Mi fydd Sarah (Castell Tywod) yn mynd. Pwy arall? Ella bydda i'n cael cyfarfod rhai dysgwyr dw i wedi cysylltu â nhw ar y we.

Mae Madog wedi cyhoeddi enwau'r tiwtoriaid. Dw i ddim yn siwr ydy rhai yn dwad o'r Gogledd. Dw i'n siomedig iawn na fydd Elwyn Hughes yn dwad draw eleni. Mi ddaeth o'r llynedd. Gawn ni weld.

Monday, March 10, 2008

gwersi cymraeg

Dw i wedi bod yn mwynhau rhoi gwersi Cymraeg i'm merch. Mae hi'n gwneud yn dda iawn bellach er bod hi'n cael trafferth efo "ll". Mae'n ddifyr clywed hi'n ynganu "r" efo acen Ffrangeg! Dan ni'n gwylio rhaglenni plant ar S4C efo'n gilydd weithiau. Dw i isio iddi glywed Cymaeg naturiol. Mi fydd hi'n wych cael sgwrs efo hi ryw ddiwrnod. (Dw i'n siwr bydd ei Chymraeg yn well na fy un i.)

Sunday, March 9, 2008

cawod briadasol



Mi es i a'r ddwy o'r merched i gawod briodasol yn ein eglwys ni p'nawn ma. Mae hogan Japaneaidd yn priodi hogyn Americanaidd ddydd Sadwrn ma. Y syniad ydy rhoi anhegion i'r briodferch fel cawod. Roedd 'na lawer o ferched, hen ac ifanc. Mae hi i fod i agor anrheg fesul un, ac mae pawb yn dweud, "A" ac "O".

Mi baratôdd y myfyrwragedd Japaneaidd luniaeth. Mi naethon nhw "origami" twt hefyd.

Saturday, March 8, 2008

cymraeg oklahoma

Dôn i erioed wedi disgwyl clywed Cymraeg hefo acen Oklahoma! Dach chi'n gwybod y morfarch sy'n gwisgo het cowboi yn Oli Dan y Don (Yr Hen Long)? Mae o'n swnio'n ddoniol dros ben. Dydy fy nheulu ddim yn dallt Cymraeg ond roedden nhw'n canfod yr acen gyfarwydd maen nhw'n chlywed bob dydd. Da iawn chi, pwybynnag gynhyrchodd y rhaglen!

Gyda llaw, un o'r rhaglenni gwych i ddysgwyr ydy hon.

Friday, March 7, 2008

diwrnod pajamas

Ydy. Diwrnod Pajamas ydy hi yn nosbarth fy mab ifanca. Maen nhw i gyd gan gynnwys yr athrawes i wisgo pajamas yn yr ysgol. Dim ond Americanwyr sy'n cynllunio peth felly, dw i'n siwr! Yn aml iawn mae ysgolion yn cynnal wythnos arbennig mae'r plant a'r athrawon yn gwisgo ddillad ar ôl gwahanol bynciau ynddi hi. Y bwriad? Er mwyn cael hwyl!

Thursday, March 6, 2008

pwy ydy'r tiwtoriaid?

Wel, mae Cwrs Cymraeg Madog wedi pederfynu pwy fydd yn dysgu'r cwrs yn Iowa. Yn ôl y swyddog, bydd 'na ddau o'r Gogledd ac un o'r De. Ac mae'r un o'r De yn trefnu'r cwrs eleni. Mae'r tiwtoriaid eraill yn byw yn y gogledd America. Dw i mor awyddus gwybod pwy fydd yn fy nhiwtor i. Mi ga i wybod "cyn bo hir" yn ôl y swyddog. Mmmm, mae'n anodd aros.

Wednesday, March 5, 2008

can i gymru

Awyr ffres yn y byd caneuon ydy Aled Myrddin enillodd Cân i Gymru eleni. Fedra i ddim diodde rhai o gantorion cyfoes o unrhyw wlad sy'n sibrwd eu geiriau i mewn i'r microffon. Na, dw i ddim yn dallt caneuon trendi. Rhowch i mi rai o'r saith degau fel Brodyr Gregory, Mary Hopkin a Beach Boys.

Beth bynnag, mae Aled yn hyfryd, ac dw i mor falch fod o wedi ennill. Aelod o'r grwp Cristnogol Manna ydy o. Pob llwyddiant iddo ac i Manna.

Tuesday, March 4, 2008

arfon jones ar fwrw golwg (dolen yma)

Wrth i mi wrando ar Radio Cymru tra ô'n i'n smwddio bore ma, mi glywes i Arfon Jones yn siarad â John Roberts ar Fwrw Golwg. Swyddog Gobaith i Gymru (http://www.gobaith.org/) a golygydd Beibl.net (http://www.beibl-newydd.net/adre/index.php) ydy Arfon. Dyn cyfeillgar ac efengylwr brwd ydy o hefyd. Mi nes i ymweld â fo a'i deulu yng Nghaerdydd y llynedd.

Mae o'n sôn am Larry Norman oedd wedi marw wythnos yn ôl. Dôn i ddim wedi clywed amdano fo o'r blaen, a dweud y gwir. Ond mae'n ymddangos fod o wedi bod yn Gristion didwyll efo arddull unigryw. Dyma un o'i ganeuon:
http://www.youtube.com/watch?v=BznsjIe5sMk

Hyfryd clywed Arfon ar Radio Cymru! Ac mae ei Gymraeg ogleddol mor glir ac haws i ddysgwyr hefyd.

Monday, March 3, 2008

hinamatsuri /gwyl ferched (cliciwch yma.)


Gwyl Ferched ydy hi yn Japan heddiw. Mae gan bob merch yn Japan dolis traddodiadol ar gyfer y wyl hon. Mae'r dolis yn cael eu arddangos am wythnos neu dwy bob blwyddyn. Ar ôl y traddodiad rhaid rhoi nhw eu cadw ddiwedd y wyl neu fydd y merch yn hen ferch am oes.

Dyma fy nolis ges i'n fabi gan ffrind fy mam. Yr un oedran ydyn nhw â fi. Mae gan y rhan fwya o ferched yn Japan ddolis crantach fel arfer ond dw i'n hoffi'r dolis del a syml ma. Mi nai roi nhw i un o'm merched un diwrnod.

Sunday, March 2, 2008

partner siarad

Wrth i mi weld bod gan fy merch sy'n 14 oed ddawn dysgu ieithoedd, mi nes i roi gwers Gymraeg fer iddi, rywbeth syml a defnyddiol fel, "Dw i'n dysgu......." "Dw i'n hoffi ......." Mi naeth hi'n dda iawn.

Fy mwriad hunanol ydy magu partner i mi gael siarad Cymraeg â hi. Mae hi'n awyddus dysgu pethau newydd ond dw i ddim yn siwr bydd y cynllun yn gweithio achos bod hi'n brysur iawn yn dysgu Ffrangeg a Sbaeneg ac yn ymarfer piano, ac yn sgwenni storiau heb sôn am orfod gwneud cymaint o waith cartre bob dydd.

Dw i'n meddwl arna i mai llwyddiant yn dibynnu. Bydd rhaid i mi ddal ati tipyn bob dydd. Gawn ni weld!

Saturday, March 1, 2008

dydd gwyl dewi sant


Mi fydd y diwrnod arbennig wedi mynd yn barod pan ddarllenith y rhai yng Nghymru fy mlog, ond gadewch i mi ddweud, Dydd Gwyl Dewi Sant Hapus i chi i gyd.

Dw i newydd ddwad adre o Wal-Mart. Roedd hi'n braf ac yn wyntog iawn, diwrnod perffaith i ddangos y Ddraig Goch i'r tregolion yma. Oedd bron i mi fethu cael cennin. Dim ond dau glwm â golwg drist arni hi oedd ar ôl yn y siop. Ond roedd rhaid cael cennin heddiw.

Mi nes i fara brith â rysait wahanol y bore ma. Mi na i baratoi cawl cennin, caws ar dost a salad i swper ar ôl postio hyn.