Friday, October 31, 2008

casglu fferins



Dw i a'r teulu ddim yn dathlu Calan Gaeaf ond mi wnes i ymuno â'r grwp o'r mamau a'u plant bach a staff y ganolfan i'r gwragedd a mynd ar daith 'trick or treat' y bore ma. Mi es i â hogan fach oedd yn gwiso'n dylwythen deg. Mae rhai swyddfeydd cyhoeddus a businesau'n barod am blant heddiw. Aethoni ni i Neuadd y Dre, yr Heddlu, y llyfrgell a banciau. Caeth y plant i gyd fagiau llawn o fferins.

Thursday, October 30, 2008

parti

Weles i erioed y ffasiwn beth. Mae 'na nifer mawr o gacwn wedi ymgasglu ar waliau'n ty ni a chael parti! Mae hi wedi bod yn gynnes yr wythnos ma. Ai dyna pam tybed. Rhaid i ni fod yn ofalus wrth agor y drws. Maen nhw isio mynd i mewn!

Tuesday, October 28, 2008

llyfrau

Dyma'r llyfrau dw i'n eu darllen ac wedi darllen yn ddiweddar:

Straeon ac Arwyr Gwerin yr Alban gan Myrddin ap Dafydd
Y Cwilt, Dwy Storm, Plant a storiau byrion eraill gan Kate Roberts
Charlie a'r Ffatri Siocled cafieithiwyd gan Elin Meek
Straeon ac Arwyr Gwerin yr Alpau gan Myrddin ap Dafydd
Feet in Chains gan Kate Roberts
Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Traed Mewn Cyffion ydy un o'r llyfrau dwi'n bwriadu archebu gan Gwales.com pan ga i gynnig Nadolig gynnyn nhw. (Mi ga i gludiant am ddim!)

Sunday, October 26, 2008

cael torri 'ngwallt



Roedd fy merch yn arfer torri fy ngwallt adre ond prin mae hi'n dwad adre y dyddiau hyn wedi symud i fflat gerllaw. Felly es i'w gwaith yn Wal-Mart ddoe am ei gwasanaeth. Dyma'r tro cynta i mi fod yn gwsmer yn y siop yno. (Ond doedd dim rhaid i mi dalu.) Mi wnes i'r gwaith siopa wedyn. Hwylus iawn.

Saturday, October 25, 2008

methu codi

Bore Sadwrn. Bydda i'n codi am saith bob bore boed dydd Sadwrn neu beidio. Ond heddiw dw i'n methu codi. Mae hi mor gynnes a chlyd yn y gwely tra bydd awyr yr ystafell yn oeraidd. Mae hi'n olau'r tu allan y llenni. Mae'r gwr oddi cartre o hyd. Mae un o'r plant yn rhedeg at yr ystafell ymolchi. Mae'n braf yn y gwely.

Chwarter i naw. Ddoith mudwyr dodrefn ddim na gwr efo hambwrdd brecwast at y gwely. Ond waeth i mi godi ddim.

Friday, October 24, 2008

mynd am dro



Braf ydy cael cerdded y tu allan. Caethon ni farrug cynta bore ddoe. Mae hyn yn golygu bod tymor alergedd yr hadref wedi darfod. Rôn i'n cerdded am dri chwarter awr wrth edmygu dail lliwgar a'r awyr las p'nawn ma. Mae'n brafiach o lawer na cherdded ar felin draed.

Wednesday, October 22, 2008

heulwen yn california


Dim fi sy'n mwynhau'r heulwen ond 'ngwr. Mae o'n mynychu cynhadledd optometreg yn Anaheim ar hyn o bryd. Yn ymyl Disney Land mae ei westy, ond sgyno fo ddim amser cyfarfod efo Mickey na Minnie. Roedd o mewn pwyllgor a darlithoedd am  saith awr heddiw. Aeth i redeg yn y dre ddiwedd y diwrnod hir, a chael mwynhau'r heulwen o leia. (Roedd hi'n bwrw'n drwm yma!) Mi wnaeth o dynnu'r llun ma efo ei 'iPhone' newydd.

Monday, October 20, 2008

gwneud 'chapatis'



Yn ôl cymeradwyaeth blewyn, mi wnes i a fy merch 'chapatis' i fynd efo cyri (Japaneaidd) heno. Doedd gen i ddim blawd roti ond un plaen y tro ma. Felly doedd y canlyniad ddim cystal ag un weles i ar 'You tube.' Roedden nhw'n ddigon blasus serch hynny. Mi wna i'n well y tro nesa.

Saturday, October 18, 2008

fish fry





Diwrnod 'Fish Fry' oedd hi heddiw. Es i a'r teulu i dyˆ ffrind am fryd o fwyd arbennig. Mae John y deintydd sy'n fysgotwr medrus yn cadw pysgod wnaeth o ddal yn yr haf yn y rhewgell a chael 'Fish Fry' yn yr hydref bob blwyddyn. (Ia, fo sy'n coginio!) Eleni caethon ni bysgod ddalodd fy hogyn fenga hefyd. Roedd 'na tua hanner cant o bobl efo bwyd yn ymgasglu yn ei sgubor. Mae John a'i deulu yn byw ar y tir ucha yn y dre, ac mae gynnyn nhw olygfa fendigedig i bob cyfeiriad. 

Friday, October 17, 2008

torri coed



Ddiwrnod braf yn yr hydref roedd 'ngwr yn torri coed efo dau fyfyriwr Japaneaidd p'nawn ma. Mae gynnon ni ddigon o goed heb fynd i gasglu rhagor eleni. Dim ond eu torri nhw'n goed tân sy angen. Dwedodd yr hogia fod nhw'n cael hwyl. Dw i'n siwr mai profiad arbennig oedd o achos bod bron neb yn torri coed i stofiau yn Japan y dyddiau hyn. Mae hi'n oeri cryn dipyn yn y nos bellach. Mae'n siwr byddwn ni'n cynnau tân cyn bo hir.

Thursday, October 16, 2008

mae totoro wedi dwad


O'r diwedd! Prynon ni DVD gan  Amazon, ac mae o yma. Caethon ni Noson Totoro neithiwr. Ein ffefryn Stwdio Ghibli ydy o. (Wna i a'r gwr bleidleisio dros Only Yesterday.) Mae gynnon ni fideo wnaeth fy mam recordio oddi ar y teledu flynyddoedd yn ôl. Mae o'n cynnwys hysbysebion dan ni'n hen gyfarwydd â nhw bellach. Mae'r plant wedi ei wylio fo drosodd a throsodd fel y bod y cyflwr braidd yn wael erbyn hyn. Roedd yn wych cael gwylio DVD ag ansawdd uwch er bod rhaid i ni drechu "y teimlad o ddisgwyl hysbyseb mewn lle penodol a chael sioc pan na ddoiff."   > ^ _ ^ <

Wednesday, October 15, 2008

pot lwc yr ysgol


Pot lwc eto, ia, ond y tro ma yn yr ysgol caethon ni un neithiwr. Roedd 'na lai o bobl nag arfer. Mae'n ymddangos bod nifer mawr o'r teuluoedd wedi gadael am eu gwyliau'n barod. Dechreuoedd gwyliau'r hydref heddiw am bum diwrnod.

Mwffinau efo selsig bach yn eu canol gwnes i. Rôn i'n llwyddiannus y tro ma, ond yn anghofio tynnu llun. (Sori Corndolly!)


Tuesday, October 14, 2008

arwyddion yr hydref



Mae hi'n oeri tipyn. Mae'r coed yn brysur colli eu dail. Mae'r dyddiau'n fyrrach. Arwyddion yr hydref ydy'r rhain i gyd. Mae 'na un peth arall sy'n gwneud i mi feddwl fydd y gaeaf ddim yn hir - glanhau'r simne. Ydy, mae'r amser wedi dwad cael glanhau'n simne cyn inni gynnau tân ar y stôf. Wrth gwrs bod hi ddim yn ddigon oer eto ond rhaid i ni fod yn barod. Doith oerni mewn wythnosau heb rybudd.

Daeth dau hogyn heddiw i wneud y gwaith, un ar y to a'r llall wrth y stôf. Gorffenon nhw bopeth mewn hanner awr. Dwedodd un o'r ddau basen nhw'n mynd i lanhau mwy o simneiau heddiw. Mae 'ngwr yn mynd i dorri coed ddydd Gwener.

Sunday, October 12, 2008

utgorn


Mae'r bobl ifainc yn cyfrannu at gyfeiliant offerynnol yn oedfaon ein eglwys ni bob wythnos. Heddiw ymunodd hogyn newydd efo'i utgorn yn annisgwyl. Ychwanegodd o naws arbennig at yr emynau a'r caneuon cyfrwydd.

Friday, October 10, 2008

penblwydd hapus i t. llew jones! (93 oed)


Mi sgwenna i'r neges ma dipyn yn gynt fel y ceith hi ei darllen yng Nghymru'n ddigon cynnar ddydd Sadwrn. Dw i heb glywed unrhyw newyddion amdano fo'n ddiweddar ond gobeithio fod o'n cadw'n iach. 

Dyma lyfrau T. Llew dw i wedi eu darllen eleni:
Ofnadwy Nos
Cyfrinach y Lludw
Un Noson Dywyll

Maen nhw i gyd yn gyfaelgar ac mae'n anodd rhoi nhw i lawr. Ac eto rhaid i mi gyfadde mai Barti Ddu sy'n dal yn fy ffefryn oherwydd stori'r môr a'r prif gymeriad. Dw i'n gobeithio ca i ddarllen mwy o'i nofelau flwyddyn nesa hefyd.

Cofion cynnes a dymuniadau gorau i T. Llew!

Monday, October 6, 2008

llechi cymreig


Bydd rhaid i ni gael toi'n rhannol cyn bo hir. Dim ond atgywerio dros dro wnaeth Kurt yn ddiweddar. Er bydd hi'n costio'n ddrud, fydd toeau newydd neu tai newydd ddim yn para'n hir y dyddiau hyn fel popeth arall. Basai'n dda gen i lechi Cymreig ar ein to.

Sunday, October 5, 2008

gwylio fideo

Ces i a'r teulu lawer o hwyl gwylio fideo Holes unwaith eto p'nawn ma. Mae'r actorion heblaw un neu ddau yn debyg iawn i sut ôn i'n eu gweld nhw yn fy meddwl. Ond dw i ddim yn meddwl oedd hi'n syniad da dadlennu'r gyfrinachau nionod a hanes Warden ar y dechrau. Uchafbwynt y stori ydy'r rhain. Hefyd roedd y madfallod melyn brith yn edrych braidd yn ddiniwed! Ffilm dda ydy hon beth bynnag.

Saturday, October 4, 2008

be sy i ginio?



Yn ddiweddar prynon ni badell drydan fawr i wneud nifer o 'pancakes' ar yr un pryd. Mae hi'n hanod o gyfleus ond a dweud y giwr dylen ni fod wedi ei phrynu flynyddoedd yn ôl cyn i hanner o'r plant adael adref.

'Pancakes' gaethnon ni i ginio heddiw beth bynnag. Ac dyma un ola wnes i i'r ddau fenga. Roedd rhaid iddyn nhw ei rannu achos doedd 'na ddim digon o gytew ar ôl.

Friday, October 3, 2008

melin draed eto


Mae'n ddiwrnod braf yn yr hydref .  Dyma ddychwelyd at y ganolfan ffitrwydd i wneud mwy o ymarfer corff a gorffen storiau Begw.

Roedd gen i ddigon o amser heddiw. Rôn i'n cerdded ar felin draed oedd yn edrych yn fwy newydd na'r lleill am 35 munud. Yna ar feic sefydlog am ddeg munud i orffen y sesiwn ôn i. Mi aeth Begw a'i brawd adre'n ddianaf trwy'r eira ar ôl gwneud neges i'w mam.

Wednesday, October 1, 2008

skype


Mae gan fy merch 22 oed ffrind sy'n dysgu Tsieineeg yn Tsieina ers flwyddyn. Heno roedden nhw a dwy ffrind arall yn cael sgwrs ar Skype.  Roedd y cysylltiad yn dda ac roedden nhw'n siarad dros awr.