Wednesday, December 31, 2008

diwrnod olaf y flwyddyn 2008



Mae'n anodd credu bod blwyddyn arall drosodd bron â bod. Ceisiais i feddwl am ddigwyddiadau pwysig y flwyddyn fel gwnaeth Linda yn ei blog heddiw:

1. priodas fy merch hyna a newidiau sefyllfaoedd yn y teulu
2. gwneud ffrind newydd
3. mynd i gwrs Cymraeg Madog yn Iowa
4. Gorffen Cwrs Pellach a dechrau un arall

Dw i'n ddiolchgar am y flwyddyn hon ac yn obeithiol am y flwyddyn newydd er gwaetha popeth.

Dymuniadau gorau i bawb.

llun 1: Mae'r stof yn gweithio'n ddibaid i'n cadw ni'n gynnes.
        2: Rhaid ymdrechu i ddarparu coed tân!




Sunday, December 28, 2008

torri gwallt 'ngwr


Gan fod fy merch ddim ar gael heddiw, gofynodd 'ngwr i mi dorri ei wallt cyn cyfarfodd rhywun heno. Bydda i'n torri gwallt fy mab fenga (ac dw i'n meddwl mod i'n gwneud job da braidd) ond mae torri gwallt dynion yn hollol wahanol. Mi wnes i fy ngorau glas pur. Wel, dydy ei wallt ddim yn edrych yn rhy druenus. Ella wna i wella os treia i ddigon aml. 

Saturday, December 27, 2008

teclyn celfydd (i mi)



Dim 'iPhone' ond teclyn coginio ges i yn anrheg Nadolig ydy hwn. Gas gen i dorri nionyn. Basai fy llygaid yn brifo'n ofnadwy. Gwisga i ogls pan eu torria i nhw felly. Ond does dim rhaid bellach. Ces i dipyn o drafferth y tro cynta ond dw i'n dallt beth oedd y broblem, ac yn siwr gwna i'n iawn y tro nesa. 

Friday, December 26, 2008

gêm cyfieithu

Gan fy mod i a rhai o fy mhlant yn dysgu ieithoedd, mi wnaethon ni chwarae gêm cyfieithu pan oedd pawb adre. Basai'r ferch 15 oed yn dweud brawddeg yn Saesneg, yna basen ni'n ei chyfieithu i'r Sbaeneg, Ffrangeg, Cymraeg a Japaneg. Hi sy'n gyfrifol am feddwl am frawddegau achos dydy hi ddim yn medru gramadeg Ffrangeg cymhleth eto. Wrth gwrs bod 'na ddim modd gwybod ydan ni'n iawn neu beidio heblaw am Japaneg, ond mae'r gêm yn peri i ni feddwl a chyfieithu'n gyflym. Ac mae o'n hwyl!

Thursday, December 25, 2008

diwrnod mawr


Byddwn ni'n chwarae gêm bach cyn agor ein hanrhegion bore Nadolig. Dan ni i ddyfalu faint o anrhegion sy gynnon ni a cheith unrhywun sy'n agosa ennill tocyn ffilm o'i ddewis. Yr enillydd eleni oedd fy mab fenga - 115 o anrhegion i naw ohonon ni, a dyfalodd o yn union hyd yn oed.

Yna caethon ni ginio Nadolig - cig moch wedi'i rostio, tatws stwns, llysiau, rholiau, pwnsh ac 'egg nog'. Cacen benblwydd oedd y pwdin achos mai Noswyl Nadolig ydy penblwydd fy merch hyna. Caethon ni gymaint o fisgedi gan ffrindiau, fwyton ni mo pwdin Nadolig. 

Dim eira yma. Roedd hi'n eitha cynnes.








Wednesday, December 24, 2008

noswyl nadolig

"Tra roedden nhw yno daeth yn amser i'r babi gael ei eni, a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni - bachgen bach. Dyma hi'n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a'i osod i orwedd mewn preseb. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo."

"Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i feddwl dyn, y cwbl a ddarparoedd Duw ar gyfer y rhai sy'n ei garu."

Nadolig llawen i chi i gyd.

Tuesday, December 23, 2008

deuddydd cyn y Nadolig




Mae pwdin Nadolig yn barod. Mi wnes i ddefnyddio rysait gyhoeddwyd yn y Ford Gron ym 1930 eto efo tipyn o newid yn y cynhwysion (margarin yn lle siwet a chael gwared ar gandid 'peel' yn llwyr.) Defnyddies i bapur wedi'i gwyro ar waelod y ddysgl y tro ma wedi i'r pwdin fynd yn sownd y llynedd.

Es i a'r plant i Wal-Mart am y tro ola (gobeithio) cyn y Nadolig i gwblhau anrhegion. Aethon ni'n ôl yn hwyr ond roedd y swper hanner ffordd ar y stof erbyn i ni gyrraedd. Cawl tatws a chaws oedd o. Wnes i gynhesu rholiau arno fo hyd yn oed.

Mae'r plant wedi bod wrthi'n lapio anrhegion i'w igilydd, ac mae pentwr yr anrhegion yn tyfu ynghyd efo'u cynnwrf.

Monday, December 22, 2008

salad tatws enwog



Mae 'na gaffi bach poblogaidd ger y brifysgol. Cewch chi fwyta salad tatws gorau yn ôl 'ngwr. Felly es i yno efo fo ac un o'r myfyrwragedd Japaneaidd am ginio. 'Iguana Cafe' ydy'r enw. Roedd 'na gryn dipyn o gwsmeriaid er bod wyliau'r Nadolig wedi cychwyn. Clyd  iawn oedd y tu mewn wrth i 'wood burning stove' ei gynhesu. Mi ges i frechdan Igwana (does 'na ddim cig igwana ynddi hi i chi!) efo'r salad tatws enwog. Roedd popeth yn wir flasus. Ac mi wnes i fwyta pob tamaid!

Friday, December 19, 2008

diwrnod olaf yr ysgol



Dim ond hanner diwrnod caeth y plant yn yr ysgol heddiw. Caethon nhw barti'r Nadolig ac wedin mynd i sglefrio rolio.  Mae gynnyn nhw ddwy wythnos o wyliau o'u blaen nhw.

llun 1: Mae dosbarth fy merch yn barod am eu hanrhegion
llun 2: Gwaith sydyn cyn y parti yn nosbarth fy mab

Thursday, December 18, 2008

tipyn o gysur

Dw i newydd ddod ar draws peth bach difyr, i mi o leia - darn o'r recordiad wnes i i ymarfer siarad ddwy flynedd yn ôl. Dw i'n swnio'n ofnadwy rwan ond dôn i ddim yn sylweddoli mod i'n swnio'n waeth fyth pryd hynny! Mae hyn yn golygu mod i wedi gwella faint mor fach bynnag ydy'r cynnydd. Dyma dipyn o gysur. (Ac rôn i'n dweud 'fe' yn hytrach na 'fo' ar y pryd. ^^)

Dw i'n dal i recordio fy ymarferion siarad. (Dw i'n hen gyfarwydd â'r gwaith poenus o wrando ar fy hun bellach!) Mi wna i gadw darn er mwyn cael gwrando arno fo flwyddyn nesa. Gobeithio swnia i'n ofnadwy pryd hynny.


Tuesday, December 16, 2008

cynefin i fuchod coch cota


Mae'n wir oer. Mae'r llu o'r buchod coch cota nythodd ar wal yn ein hystafell fyw wedi mynd bellach. Ond mae 'na ambell i rai sy'n dal. Ces i hyd i ddau oedd yn edrych yn drist braidd heddiw a gwneud cynefin sydyn iddyn nhw. Rhododd y plant ddiferyn o ddwr siwgr a dal hyd yn oed gwybed i'w bwydo. Mae'r buchod bach bach yn hapus.

llun: Dach chi'n medru gweld un ar y ddeilen ar y chwith? 

Monday, December 15, 2008

diwrnod i'r brenin




Roedd hi'n 70F/21C ddoe. 19F/-7C ydy hi y bore ma. Mae Oklahoma mor bell o'r moroedd. Dyna pam. Mae'r ffyrdd wedi rhewi dros nos ac mae'r ysgolion wedi cau. Dw i mor falch bod y tywydd ddim cynddrwg ag o'r blaen pan drodd popeth yn rhew.

Mae'r plant wrth eu bodd wrth reswm. A chynigiodd fy merch 15 oed olchi'r dillad a gwneud swper. (Mae hi'n hoff iawn o chwarae mam!) Diwrnod i'r brenin i bawb felly heblaw am 'ngwr oedd rhaid iddo fo fynd i'r gwaith er gwaetha'r rhew. 

Friday, December 12, 2008

pos i ddysgwyr

Gwrandewch ar fwletin y Post Cynta ar Radio Cymru heddiw (ddydd Gwener.) Ar ddiwedd y bwletin, mae Dyfan Tudur (fy hoff gyflwynydd gyda llaw) yn sôn am ddigwyddiad diddorol. Atebwch y cwestiynau canlynol:

1. Pa declyn arbennig gaeth ei werthu mewn arwerthiant yn Hollywood yn ddiweddar?
2. Am faint gaeth o'i werthu?
3. I beth gaeth o'i ddefnyddio yn y gorffennol? (dau beth)
4. Pam fethodd Dylan Ebeneser ateb cwestiwn Dyfan Tudur?

Fydd 'na ddim gwobr i'r enillydd ond bydd yn hwyl! (Antwn a Marjorie, mi gewch chi yrru eich atebion ata i drwy e-bost!)

Thursday, December 11, 2008

bwyta'n iach



Bydda i'n bwyta'n gymharol iach dw i'n meddwl. Ond yn ddiweddar, rôn i'n sylweddoli bod rhaid i mi fod yn fwy ofalus fyth wrth i mi...m... tynnu ymlaen.

Dyma rysait ddes i hyd iddi ar wefan gyfeiriwyd gan Asuka. Paratoes i'r frechdan i ginio ddoe. Roedd yn hynnod o dda heb sôn am fod yn iachus. Dan ni'n bwyta tofu'n ddigon aml ond dyma flas newydd.

Un peth arall dw i wedi bod yn bwyta bob dydd yn ddiweddar ydy gwymon, dim un sych lepir am 'sushi' ond un fel llysiau y môr gelwir 'wakame.' Bwyd digon cyffredin ydy gwymon yn Japan ond prin dw i'n ei fwyta ers i mi symud i America. Cewch chi ddarllen pa mor iachus ydy gwymon ar y we. Fe'i bwytir yn amrwd mewn salad yn aml. mae o'n dda efo seleri, afocado, tofu a sesame wedi'i rostio.

Dw i heb gael Bara Lawr eto. Ydy o'n dda?

Wednesday, December 10, 2008

cyngerdd

Mae fy merch bymtheg oed yn canu yng nghôr yr ysgol uwchradd. Es i a'r teulu i'w gyngerdd neithiwr. Dôn i ddim yn disgwyl cymaint cyn mynd a dweud y gwir. Côr yr ysgol ydy o wedi'r gwbl. Ond o! Roedd o'n rhagorol! Dylen nhw gystadlu yn Last Choir Standing!

Roedd 'na ryw 80 o ddisgyblion yn canu emynau a chaneuon y Nadolig, ac roedd rhai eraill yn dawnsio mewn arddull jas gan ganu'n swynol. Eithriadol oedd y tair hogan wnaeth ganu unawed. Aeth amser heibio heb i mi sylweddoli. 

Yn anffodus roedd batri fy nghymera yn fflat. Dim lluniau felly.

Tuesday, December 9, 2008

meddwl ar fy mlog

Dw i wedi bod yn mwynhau fy mlog yn arw dros flwyddyn. Dw i'n gwerthfawrogi'r cyfle ardderchog i sgrifennu Cymraeg a chael sylwadau. Gan fod o'n cael ei ddarllen gan bobl eraill, dw i'n ceisio sgrifennu cyn gywired â bo modd, ond mae'n amhosibl osgoi gwallau. (Diolch i ti szczeb am dy help!) Ac dim ond digwyddiadau beunyddiol mewn teulu mewn tre fach wledyg yn Oklahoma dw i'n sgrifennu amdanyn nhw. Felly yn aml iawn dw i'n cael fy nghyfareddu at weld darn fy mhost union uwch neu o dan un Vaughan Roderick neu Dogfael ar wefan blogiadur. Mae hyn yn rhyfeddod  a braint ac rhaid cyfadde bod'n bleser hefyd. Mae'n anodd cael hyd i bynciau weithiau ond ddal i sgrifennu wna i siwr.

Monday, December 8, 2008

gwiwer mewn poen

Mae 'na nifer mawr o eiriau Cymraeg sy'n debyg i'w gilydd, yn enwedig y rhai sy'n dechrau efo 'c' a 'g'. Rhoan nhw benbleth i ddysgwyr yn aml.

Rôn i'n darllen adolygiad nofel newydd y bore ma ac des i ar draws brawddeg hon:
"Mae yma wewyr, rhwygiadau, tyndra a siomiant serch..."
Allu hi ddim yn sôn am y creadur bach anwylyd direidus sy'n achosi colled trydan yn ein ardal ni.
'throes' ydy'r ystyr.  (Dw i heb glywed y gair Saesneg hyd yma hyd yn oed.)

Ac mae 'na eiriau eraill: crefydd, clefyd, cleddyf, celfydd heb sôn am wyrion gwirion!


Saturday, December 6, 2008

nadolig!


Byddwn ni'n paratoi am Nadolig toc ar ôl Gwyl Diolchgarwch fel arfer. Ond dan ni'n hwyr eleni achos bod y merched hyn bydd yn arwain y criw oddi cartre. O'r diwedd mae'r goeden gynno ni. Roedd y plant iau wrthi'n ei haddurno p'nawn ma.

Thursday, December 4, 2008

dysgwr o japan

Ella bod rhai ohonoch chi wedi darllen yr erthygl ar newyddion BBC am hogyn o Japan sy'n astudio ieithyddiaeth ym Mangor ers blwyddyn. Roedd rhaid i mi wybod mwy amdano fo, ac dyma sgwennu i BBC yn ofyn am ei gyfeiriad. Diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth effeithiol, ces i gysylltu â fo'n go glou. Sgwennon ni Gymraeg fel dysgwyr da, wrth gwrs.

Chwarae teg i'w athro yn yr ysgol uwchradd wnaeth ddweud wrth y dosbarth bod 'na bedair gwlad ym Mhrydain, mae Ryuichiro wedi bod yn ymddiddori yn y Gymraeg ers pryd. (Dôn i ddim yn gwybod y ffaith nes dechrau dysgu bum mlynedd yn ôl.)