Friday, January 30, 2009

dadmer


Mae hi wedi cynhesu cryn dipyn a diosgodd y coed i gyd y rhew bellach. Ond mae'r storm wedi gadael difrod mawr yn ei sgil. Mae nifer o deuluoedd yn dal heb drydan. Bydd yn wythnosau cyn i bopeth gael ei drwsio.

Wednesday, January 28, 2009

dal yn oer


Dydy'r ffyrdd ddim cynddrwg heddiw. Roedd rhaid prynu bwyd, felly es i'n ofalus. Weles i ddifrod ym mhob man, yn union fel digwyddodd ddwy flynedd yn ôl. Syrthiodd nifer o ganghennau enfawr wedi'u rhewi ar doeau.

A dweud y gwir syrthio cangen ar linell drydan ymyl ein to wnaeth wrth dorri rhan ohono fo. Chollon ni ddim trydan oherwedd hynny ond roedd y gangen yn dal y llinell i lawr. Mae'r cwmni trydan yn brysur dros ben wrth reswm. Rhaid aros am ein tro. Yna, diolch i Ron, fy myfyriwr Japaneg, daeth o i dorri'r gangen. ('Handy Man' ydy o.) 

Mae'r awyrennau yn hedfan heddiw, ac mae fy ngwr ar ei ffwrdd adre wedi cyrraedd Tulsa'n ddianaf.  

Tuesday, January 27, 2009

gwlad yr iâ



Mae popeth wedi rhewi dros nos. Mae yglolion wedi cau. Mae fy ngwr ar ei ffordd adre wedi ymweld â'i rieni yn Hawaii, ond caeth ei awyren ei ganslo. Mae o'n aros mewn gwesty yn Dallas heno. Syrthiodd cangen fawr ein cymydog ac oedd bron iddi daro'n blwch post. Dw i'n medru clywed swn canghennau yn cael eu torri ym mhob man. Gobeithio bydd y tywydd yn gwella'n fuan. Dw i ddim yn gyrru heddiw beth bynnag.

Monday, January 26, 2009

diwrnod cenedlaethol t. llew jones, 2

Sgwennais i yr wythnos diwetha at brifathro Ysgol Chwilog yn mynegu fy nymuniadau gorau iddyn nhw i gyd ar eu hymgyrch.  Dw i newydd glywed gynno fo bod dros 100 o ysgolion a sefydliadau yn cefnogi eu syniad bellach. Basai'n wych cael Diwrnod Cenedlaethol T.Llew Jones cynta ar ei benblwydd (Hydref 11) eleni!

Friday, January 23, 2009

diwrnod cenedlaethol t. llew jones

 Mae gan blant ysgol ym Mhwllheli syniad penigamp. Maen nhw'n ymgyrchu i gael diwrnod i gofio'r brenin llenyddiaeth plant (a dysgwyr.) Gobeithio'n arw byddan nhw'n llwyddiannus.

Ar y diwrnod, basen nhw isio darllen gwaith T.Llew a gwisgo fel cymeriadau yn y llyfrau. Syniad da! Mae o'n haeddu pob parch ag edmygedd.

Thursday, January 22, 2009

sedd gyffyrddus?


Dyma'r olygfa ryfedd welais i wrth gerdded yn y gymdogaeth p'nawn ma. Brasgamais i adre i nôl fy nghamera gan obeithio basai hi'n dal yno. Ac dyma hi! (Sgynni hi ddim gynffon. Druan ohoni!)

  

Wednesday, January 21, 2009

tai chi


Dan ni wedi dysgu'r 18 o symudiadau i gyd i ddechreuwyr. Maen nhw'n hawdd ond yr her ydy eu cofio nhw fel y medra i wneud yr ymarfar wrth fy hun adre. Dw i'n cofio rhai ohonyn nhw ond dim popeth. Rôn i'n teimlo'n braf ar ôl y dosbarth beth bynnag. Dim ond wyth o bobl oedd yn y dosbarth y bore ma. Ella bydd na fwy pan fydd hi'n cynhesu. Mae'n anodd mynd allan o dai cynnes yn y boreau oer.

llun: Dwr y ffynnon yn Adran Optometreg wedi 'i rewi.

Friday, January 16, 2009

cinio efo dr. carhart



Ar ôl gweithio yn swddfa fy ngwr (tacluso'r droriau, ac ati) ces i a 'ngwr ginio bach efo Dr. Carhart. Fo ydy pennaeth newydd cysylltiadau rhyngwladol y brifysgol yma. Dw i wedi bod gobeithio cyfarfodd efo fo wedi clywed pa mor selog ydy o yn ei waith. Fy mhwriad oedd annog iddo gychwyn cysylltiadau rhwng y brifysgol yma a'r rhai yng Nghymru.

Roedd gynno fo ddiddordeb mawr yn fy hanes ac yn awyddus i fynd ymlaen! Hwre! Mae o'n dweud bod y rhan fwya o fyfyrwyr Americanaidd yn mynd i Loegr, Ffrainc, yr Eidal neu Sbaen i astudio os ydyn nhw'n mynd o gwbl. Ond mae o eisiau gweld iddyn nhw fynd i wledydd llai ac anghyffredin (fel Cymru!) Wrth gwrs mai ei waith ydy trefnu rhaglenni astudio yn y brifysgol yma ar gyfer myfyrwyr tramor hefyd.

Felly, dw i mewn gobaith. Gawn ni weld!

Monday, January 12, 2009

er cof am t.llew

Mae yna gysur clywed a darllen y deyrnged i T.Llew. Dechreuais i ail-ddarllen un o'i storiau er cof amdano, sef darn o 'Trysor y Môr-Ladron.' Mae 'y Môr yn eu Gwaed' gen i, llyfr bach sy'n gasgliad o ddarnau o dri stori gynno fo. Dim ond rhyw drideg tudalen sy na, felly medra i ei gorffen heddiw. Er mod i wedi ei darllen mwy nag unwaith, dw i'n cael fy synnu eto mai mor afaelgar ydy hi.

Dyma fy llyfr cynta gan T.Llew Jones. A dweud y gwir, sgwennais i ato fo ar ôl darllen y llyfr byr yma tair blynedd a hanner yn ôl. Dwedodd o'n swta braidd yn ei lythyr fod o ddim yn hoffi'r syniad o roi darnau o storiau i blant. Roedd o eisiau iddyn nhw ddarllen 'storiau cyflawn gyda dechrau a diwedd.'

Os ca i ddweud, dw i ddim yn meddwl bod y syniad cynddrwg achos mod i wedi gwirioni ar 'Barti Ddu' sy'n un o'r tri stori fel y prynais i'r nofel gyflawn wedi'r cwbl. Ac dw i'n siwr gwna i brynu 'Trynor y Môr-Ladron' ar ôl gorffen y llyfrau ar fin cyrraedd.




Saturday, January 10, 2009

teyrnged i frenin


Rôn i'n rhyw hanner ofni clywed newyddion felly yn ddiweddar.

"T Llew oedd brenin llenyddiaeth plant yng Nghymru."
Mi faswn i'n ychwanegu "a dysgwyr" ar ôl "Nghymru."  I ddysgwyr sy eisiau tipyn mwy na "nofelau i ddysgwyr," mae'r rhai gan T Llew yn ddelfrydol. Yn un ohonyn nhw, mi wnes i gyfarfod "berfiau cryno amodol" a ffurfiau ffurfiol eraill wedi'u defnyddio i adrodd storiau mor ddifyr.

Dw i wedi bod yn trysori'r llythyr ges i gynno fo. Roedd o'n pryderu am ddyfodol yr iaith Gymraeg. Fy ngobaith ydy byddai fo'n profi'n anghywir ac bydd yr hen iaith yn barhau.

llun: T Llew efo ei hen deipiadur o Japan gan "Brother"

Friday, January 9, 2009

girl friday



Rhywbeth newydd dros flwyddyn newydd, 2

Dechreuais i weithio fel "girl Friday" fy ngwr heddiw, a hithau'n ddydd Gwener hefyd! Bydda i'n gweithio bob bore Gwener o hyn ymlaen. Cha i mo fy nhalu ond bydd yn help mawr iddo. Bydd yn gyfle da i mi wneud rhywbeth gwahanol a gweld ei gydweithiwyr a'r myfyrwyr hefyd.

Dyma fy ngorchwylion y bore ma: newid posteri gwaith ymchwil y myfyrwyr sydd ar y waliau. Helpu cyfieithu erthygl fy ngwr i'r Japaneg. 

Gorffenais i bobeth tua hanner dydd a chaethon ni ginio bach yn y ffreutur. Bu'n mwynhau'n arw. Edrycha i ymlaen at y tro nesa.

llun de: Adran Optometreg


Thursday, January 8, 2009

nel fach eto

Dw i newydd orffen ail-ddarllen O Drelew i Dre-fach gan Marged Lloyd Jones, hanes rhyfeddol Ellen Davies a gaeth ei magu yn y Wladfa a symud yn ôl i Gymru. Ces i fy nharo gan sgil M. Jones unwaith eto. Mae popeth yn cael ei ddisgrifio fel tasai fo'n digwydd o flaen eich llygaid. Wna i ddim adrodd beth ddwedes i o'r blaen eto ond y ddau ddyfyniad gipiodd fy sylw y tro hwn:

"Digon gofid pan ddelo, doedd dim angen mynd i'w gyfarfod."
"Paid â bod yn rhy falch i dderbyn caredigrwydd 'da nhw (ei ffrindiau.)"

Gobeithio ca i ddarllen mwy o lyfrau sy cystal ag hwn.

Wednesday, January 7, 2009

gwers 'tai chi' eto


Roedd 'na lai pobl yn y dosbarth y bore ma ac i ddechreuwyr hefyd a dweud y gwir. Ar ôl esboniad sydyn gan Mr. Wu, dysgon ni chwe symudiad allan o ddeunaw i ddechreuwyr. Rhaid i chi anadlu'n dwfn yn gyson tra byddwch chi'n symud. Mae hyn yn anodd braidd.

Soniodd Mr. Wu am y lles mae 'Tai Chi' yn ei wneud i chi. Dw i'n siwr fod o'n iawn achos mod i'n teimlo'n ddrwg ar gychwyn ond erbyn i mi orffen y sesiwn, stopiodd fy mheswch ac rôn ni'n medru anadlu trwy fy nhtrwynau. Mi fedra i ymarfer 'Tai Chi' ar fy mhen fy hun ar ôl dysgu'r symudiadau i gyd. Ond wrth gwrs bydda i'n dal i fynd i'r dosbarth.

llun: Mae'r bobl wrthi'n cerdded/rhedeg ar felinau traed.

Tuesday, January 6, 2009

glanhau'r stof


Mae'r stof yn wych. Mae o'n ein cynhesu ni'n braf. OND, rhaid glanhau'n gyson heb sôn am goed tân y mae'n rhaid darparu. Fi sy'n glanhau fel arfer. 'Ngwr sy'n torri coed wedi'r cwbl. Chwarae teg. Gas gen i'r wres llethol wnâi daro fy wyneb tra byddwn i'n gwneud y gwaith beth bynnag. Dyma gofio am y mwgwd a gaeth fy mab fenga yn anrheg o Loegr. Mae o'n taro deuddeg!

Monday, January 5, 2009

rhywbeth newydd dros flwyddyn newydd, 1


Tai Chi ydy'r peth! Mae canolfan ffitrwydd newydd agor yn y dre, ac dw i a fy merch 22 oed wedi ymaelodi. Rhesymol iawn ydy'r ffî, dim ond $30 y mis i deulu i gyd. Mae 'na wersi amrywiol ar gael hefyd.

Es i wers Tai Chi am y tro cynta erioed heno. Roedd y ganolfan dan ei sang. Dôn i ddim yn meddwl bod gan cymaint o bobl yn y dre ma ddiddordeb mewn cadw'n heini. Roedd 'na ryw 20 o bobl yn nosbarth Tai Chi. Mr. a Mrs. Wu o Taiwan ydy'r tiwtoriaid. Mi ges i hwyl ac rôn i'n teimlo'n dda ar ôl y wers. Syndod ydy bod fy nghoes yn flinedig braidd er bod y symudiadau mor araf.

Dw i'n bwriadu mynd i wers arall bore Mercher.

Saturday, January 3, 2009

gêm gyfweliad

Mae'n debyg bod hyn yn swnio'n hurt i'r dysgwyr sy'n cael mynd i ddosbarthiadau. Ond y broblem fwya i'r rhai sy'n dysgu tu allan i Gymru ydy diffyg cyfleoedd i siarad Cymraeg. Os oes 'na unrhywun sy gan syniad da sut i ymarfer Cymraeg llafar bob dydd, dudwch wrtha i.

Baswn i'n alw fo'n Gêm Gyfweliad. Sut i chwarae:
1. Cymwch arnoch chi bod chi'n gyflwynydd radio (yn fy achos i, Nia Thomas, Post Cynta) a sgwennu cwestiynau dach chi isio gofyn i'r gwestai.)
2. Recordiwch y gyfweliad.  Dechreuwch ofyn y cwestiynau. (Cewch chi ddarllen y sgript.)
3. Chi sy'n westai hefyd. Atebwch y cwestiynau heb sgript.
4. Gwrandawch ar y cyfweliad i sylwi ar gamgymeriadau ayyb.

Mi ddylech chi wneud hyn yn slei neu basai'ch teulu'n meddwl bod 'na rywbeth yn bod arnoch chi oni bai bod nhw'n hen gyfarwydd â'ch arferion od!

Friday, January 2, 2009

tyˆ moch cwta




Gwnaeth gwr fy merch hyna dyˆ twt hwylus i'n moch cwta ni am y Nadolig. Gellir dodi ar lawnt fel y medrith y moch cwta bori'n ddiogel rhag ysglyfaethwyr (llond ceg!) Mae'r un lloft yn mynd ar ben y llall hefyd. Mae lliw y paent yn cyd-fynd â'n tyˆ ni hyd yn oed. Gwnaeth fy merch yr arwydd.  Mae pawb yn hapus!

Thursday, January 1, 2009

diwrnod cynta y flwyddyn 2009

Dim tân gwyllt, dim parti, dim gwledd arbennig, dim ras 5 cilomedr. Dw i wedi croeso blwyddyn arall yn ddistaw. (Caeth fy mhlant hyn barti.) 

Archebes i ddau lyfr a CD gan Wasg Gomer - Traed mewn Cyffion gan Kate Roberts, Lleuad yn Olau (llyfr a CD) gan T.Llew Jones. Ches i mo'r tocyn am y Nadolig gan gwales.com wedi'r cwbl. Economi bregus, mae'n rhaid. Rôn i wedi bod yn meddwl am brynu 'Lleuad' ers blwyddyn neu ddwy. Edrycha i ymlaen at wrando ar T.Llew yn darllen ei nofelau ei hun.

Mae gan 'ngwr amser o'r diwedd i ddarllen ei hoff nofel Japaneg, sef nofel ditectif gan Kyôtarô Nishimura. Mi wnes i sylwi fod o'n tanllinellu geiriau newydd a defnyddiol hefyd. 

Mae'n braf ac yn oer. Mi wna i gerdded yn y p'nawn.