Thursday, February 26, 2009

teils


Dan ni'n cael trwsio llawr un o'r ddwy ystafell ymolchi ar hyn o bryd. Mae'n gas gen i garpedi yn enwedig mewn ystafell ymolchi. Maen nhw'n wlyb wrth reswm ac oherwydd hynny mae rhan o'r llawr pren wedi pydru. Rhaid cael pren newydd. Ac dan ni'n cael teils yn lle carped y tro ma.

llun: darnau sy'n mynd o dan y teils

Wednesday, February 25, 2009

siaradwch gymraeg â fi!

Fasech chi'n hoffi nwyddau sy'n dweud "Siaradwch Gymraeg â fi!" ? Dw i newydd archebu crys T. Mae fy merch hyna wedi dechrau gwerthu nwyddau efo ei dyluniadau gwreiddiol. A gofynes i iddi wneud rhywbeth Cymraeg. A dyma nhw! Ei syniad ydy'r cymal. Diolch yn fawr i szczeb am ei help efo'r cyfieithiad. Bydd hi'n gwneud dyluniadau Cymraeg eraill yn y dyfodol hefyd. Dewch yn llu!

Tuesday, February 24, 2009

rhwystredigaeth

Dw i'n dal i ddarllen Traed Mewn Cyffion. Mae'r nofel ma'n llawer mwy anodd na Te yn y Grug. Mae gen i gyfieithiad Saesneg ac mae rhaid i mi edrych arno'n aml. Dw i wedi sylweddoli bod y cyfieithydd ddim wedi cyfieithu popeth. Sgen i ddim crefft cyfieithu wrth gwrs ond dw i ddim eisiau gweld brawddegau a chymalau gwreiddiol cael eu gadael heb gael eu cyfieithu. e.e.

Yn y trên, eisteddai Wiliam a'i law dan ei ben, a'i brudd-der yn lwmp yn ei frest.
In the train Wiliam sat with his hand under his chin.

Does yna ddim sôn am 'brudd-der yn lwmp yn ei frest' yn y fersiwn Saesneg. Mae'r cymal yma'n bwysig er fod o'n fyr. Mae yna enghraifftiau eraill tebyg drwy'r llyfr. O, wel, does na ddim byd i'w wneud amdanyn nhw ond roedd rhaid i mi gael dweud hyn i ysgafnhau fy rhwystredigaeth.




Monday, February 23, 2009

mae gen i gariad


Prynes i'r gân hon gan Tony ac Aloma wedi ei chlywed hi ar raglen radio Dewi Llwyd heddiw. Dw i'n hoff iawn o'u caneuon. Mae eu cytgord swynol sy'n fy mhlesio. Fedra i ddim peidio dawnsio pan glywa i'r gân ysgafn a rhythmig ma. 

Gyda llaw peth hwylus ydy iTune. Falch iawn o weld nifer mawr o ganeuon Cymraeg ar gael. (Cân Hogia'r Wyddfa ydy un arall a brynes i'n ddiweddar.)

Thursday, February 19, 2009

piano wedi'i gyweirio


Mae'n amser i gael cyweirio'n hen biano. Daeth Mr. Brice i wneud y gwaith p'nawn ma. Mae o'n ein gwasanaethu ers blynyddoedd. Er bod o'n ddall, mae o'n mynd o gwmpas y dre a'i chyffiniau efo cymorth ei frawd. Mae o'n gwneud job reit dda bob tro ac yn trwsio yma ac acw'n fedrus hyd yn oed. Mi wela i fo eto flwyddyn nesa.

Monday, February 16, 2009

mae'n wir!

Ydy! Mae'n wir! Bydd yna raglen gyfnewid rhwng y brifysgol leol yma a Phrifysgol Abertawe cyn hir! Bydd yn bosibl dechrau yn yr hydref eleni.

Ymwelodd swyddog Prifysgol Abertawe â Dr. Carhart y bore ma'n siarad am bosibilrwydd. Mae yna adran astudiaethau Americanaidd yn Abertawe ac mae gynnyn nhw ddiddordeb mawr yn America mwy nag erioed ar ôl i Obama gael ei etholi. Hefyd ceith y brifysgol yma gynnig cwrs ar ddiwylliant Cherokee. 

Roeddwn i'n edrych ymlaen at gael gyfarfod efo'r swyddog ond ches i ddim cyfle gwaetha'r modd achos mai dim ond awr a hanner roedd hi yma. Mae hi wed bod yn ymweld â'r brifysgolion yn Oklahoma.

Pwy a wyr? Efallai bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn dod i astudio yma hefyd yn y dyfodol. (Ella bydd Dr. Hunter a'i fyfyrwyr isio dwad i gwblhau ei ymchwil ar Evan Jones?)

Sunday, February 15, 2009

diwrnod japan



Caethon ni Ddiwrnod Japan yn ein eglwys heddiw. Gwelon ni luniau o Japan. Siaradodd tri o fyfyrwyr Japaneaidd am eu profiadau. A Mr. Barthold, cyn-genhadwr i Japan am 42 mlynedd a wnaeth sôn am y bywyd ag yr arferion yn Japan.

Beth ddilynodd ond pot lwc dwyreiniol. Roedd yna gymaint o fwyd a oedd yn llenwi'r bwrdd hir (mwy nag arfer.) Cyfrannodd rhai myfyrwyr at goginio hefyd. Coginiais i 'mabo-dofu' sy'n saig Tseineaidd.

Daeth nifer o fyfyrwyr newydd a mwynheuodd pawb y diwrnod arbennig.

Friday, February 13, 2009

ddydd gwener


Mae'n ddiwrnod i mi weithio yn swyddfa fy ngwr heddiw. Tra oeddwn i'n cerdded yn yr adeilad, des i ar draws hwn. Roedd o ar wal mewn ffrâm ond tynnodd hogan glên tu ôl y cownter un rhydd allan o gwpwrdd i mi dynnu llun. Dim ond addurn ydy hwn. Does neb yn ei ddefyddio gwaetha'r modd.

llun: siart profi golwg efo llythrennau iaith Cherokee

ffair wyddoniaeth



Mae tymor ffair wyddoniaeth wedi cyrraedd unwaith eto. Mae plant yr ysgol wedi bod yn gweithio'n galed. Y pwnc a ddewisodd fy mhlant oedd moch cwta. Wedi'r cwbl, mae o'n bwnc eitha hwylus.

Y dweud a gwir, dydy'r ffair ma ddim yn rhy boblogaidd ymysg y plant a'r rhieni. Rhaid iddyn nhw weithio tu allan oriau'r ysgol ac yn aml iawn mai'r rhieni basai rhaid i wneud y rhan fwya o'r gwaith ar gyfer plant iau. Ond eleni, dw i'n falch o ddweud bod fy nau blentyn (12 a 9) wedi gwneud popeth ar eu pen eu hun gan gynnwys argraffu posteri ar y cyfrifiadur.

Caethon ni 'pot lwc' wedyn (wrth gwrs!)

Wednesday, February 11, 2009

tai chi chuan

Wedi gorffen mynd trwy'r symudiadau sylfaenol, dechreuon ni ddysgu 'Tai Chi Chuan' sy'n fwy cymhleth. Dach chi'n symud mwy ar y llawr. Mae'n hwyl ond dw i'n siwr bydd hi'n wythnosau neu fisoedd cyn i mi gofio popeth.

Dw i'n ceisio ymarfer y symudiadau bob bore wrth wrando ar Radio Cymru fel arfer. Dw i'n teimlo'n braf ar ôl gorffen.

Wednesday, February 4, 2009

lleuad yn olau


Cyrhaeddodd y pecyn gan Wasg Gomer ryw wythnos yn ôl o'r diwedd ac dw i wedi bod yn darllen a gwrando ar 'Lleuad yn Olau' gan T.Llew. Storiwr penigamp - disgrifiad perffaith ydy hwn. Roedd o'n darllen mor wych fel y swniai'r stori am Gelert yn dristach fyth. Dw i'n gwybod y bydda i'n gwrando ar y CD ma drosodd a throsodd.

Monday, February 2, 2009

anrheg


Mae'r bobl wrthi'n clirio'r cynghennau wedi'u syrthio yn eu gerddi. Ac mae busnes clirio'n llewyrchus yn y dref ar hyn o bryd.

Cyflogodd y cymydog un o'r hogia cryf a chael gwared ar y goeden oedd yn gorwedd wrth ymyl ein blwch post. Mae o'n glên iawn rhoi'r boncyff inni gan fod o'n gwybod bod ni'n llosgi coed yn y stof. Ond rhaid aros am ryw flwyddyn cyn i'r coed fod yn ddigon sych i'r stof.

Sunday, February 1, 2009

mis chwefror

Penderfynais i newid llun fy mlog bob mis. Ceisia i osod rhai tymhorol sy'n dangos y dre fach yma yn Oklahoma. 

Tynnais i'r llun ma yn Wal-Mart wrth aros fy nhro i dalu. Sylwais i'r olwg ddiddorol ma efo llawer o falwns 'St. Valentine's Day'. Baneri America ac Oklahoma sydd yn y pellter.