Sunday, February 28, 2010

cyfarchion


Dydd Gŵyl Dewi Sant Hapus i chi i gyd! O bydded i'r hen iaith barhau.

Dw i a dau o fy mhlant yn sefyll wrth fedd Evan Jones, Cymro a oedd yn genhadwr ymroddedig dros lwyth Cherokees.

Friday, February 26, 2010

lle maen nhw wedi mynd?

Dw i wedi dyfeisio modd i sgrifennu nodiau'r caneuon i lawr yn Japaneg er mwyn chwarae fy recorder. Maen nhw'n haws o lawer i'w defnyddio na'r nodiau cerddoriaeth fel G, F, C a ballu. Dw i wedi casglu ryw ddau ddwsin o ganeuon Cymreig, Japaneaidd, Americanaidd bellach a dal i ychwanegu mwy.

Un gân ddiweddaraf ydy "Yesterday Once More" gan Carpenters. Roedden nhw'n andros o boblogaidd yn Japan hefyd amser maith yn ôl. Dw i'n cofio trio dysgu geiriau'r gân hon a finnau heb fedru Saesneg pryd hynny. Wrth i mi wrando arni hi a darllen y geiriau, fedra i ddim peidio ond cytuno â'r llinellau hyn ond nad oedd fy mhlentyndod mor hapus â hynny.

Those were such happy times and not so long ago
How I wondered where they'd gone

Roedd gan Karen Carpenter lais hyfryd beth bynnag!

Wednesday, February 24, 2010

nia

Dw i'n mwynhau gwrando ar y rhaglen Nia ar Radio Cymru bob dydd yn ddiweddar. (Rhaid cyfaddef mod i'n sgipio'r rhan fwyaf o'r gerddoriaeth i arbed amser.) Dw i wrth fy modd efo'i hacen Benllech ac mae hi'n swnio'n debyg iawn i Linda.

Mae yna westeion amrywiol bob tro a phwy oedd yn siarad â hi ddydd Mawrth ond Peredr y Saer o Amgueddfa Lechi yn Llanberis a dywysodd fi a'r grŵp bach o ymwelwyr o gwmpas y lle! Mae o a'i ferch yn mynd i Machu Picchu yn Peru ym mis Medi. (Roedd fy merch yno'r llynedd digwydd bod!)

Hefyd roedd yna Gymraes sy'n cadw cysylltiad gydag Americanes o Kentucky drwy'r post ers 64 o flynyddoedd. Rhaglen ddiddorol!


Sunday, February 21, 2010

dal i fwynhau

Dal i fwynhau chwarae recorder dw i. Dw i am drio cân ar ôl y llall. Yr un dw i wrthi ar hyn o bryd ydy Bugeilio'r Gwenith Gwyn. Mae'r alaw i'r dim i recoder. Clywais hi'n cael ei chanu amser maith yn ôl. Mae'r amser yn cerddedd.


Friday, February 19, 2010

mae hi'n gweithio!

Ydy! Mae'r allweddell y collais i siocled poeth arni hi'n gweithio'n braf wedi iddi gael ei golchi o dan y dwsel. Gadewais i hi i sychu am wythnos nes iddi fod yn hollol sych. Dw i'n teipio'r post hwn arni hi a dweud y gwir. Mae hi'n berffaith iawn (a glân hefyd!)

Thursday, February 18, 2010

chwarae recorder

Dw i'n rhyw feddwl eisiau chwarae offeryn cerddorol yn ddiweddar. Ond rhaid ymarfer am flynyddoedd i chwarae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n ddigon da heblaw am hwn, sef recorder. Fe fedr unrhywun ei chwarae fo gyda thipyn o ymdrech. Roeddwn i'n chwarae un pan oeddwn i yn yr ysgol ac yn ei fwynhau. Dyma brynu Yamaha drwy Amazon.com a dw i wedi bod wrthi bob dydd gyda phleser yn canolbwyntio ar dair cân, sef Myfanwy, Auld Lang Syne, Totoro. Mae'n hwyl!

Wednesday, February 17, 2010

un nos ola leuad

Newydd orffen y nofel hon ynghyd y ffilm a fenthycwyd gan Linda. Mae diwedd y stori'n sobor o drist! (Roedd Idris yn iawn.) Roeddwn i am weiddi efo'r dyn. (Does gynno fo ddim enw gyda llaw.) O ran y ffilm, dw i'n gwybod bod rhaid cwtogi unrhyw stori i addasu i ffilm sy'n seiliedig o lyfr. Ac eto rhaid dweud bod y rhannau arwyddocaol a phwysig yn fy nhyb i wedi cael eu hepgor. Roedd golygfeydd yr ardal Eryri'n hyfryd wrth gwrs.

Doeddwn i ddim yn bwriadu darllen y nofel o'r blaen a dweud y gwir achos nad oedd disgrifiad y stori'n rhyw apelio ata i. (Dw i ddim yn sefyll arholiad chwaith!) Ond dw i wedi digwydd dod i nabod merch o Japan a wnaeth gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Y ffilm Un Nos Ola Leuad a gafodd ei dangos yn Japan ym 1992 a'i symbylu hi i ddechrau dysgu Cymraeg. Dyma ymddiddori yn y ffilm a'r nofel. A diolch i Linda am y benthyg.

O ran y nofel, ces i fy siomi ar yr ochr orau. Mae'r stori a'r Gymraeg yn llifo mor llyfn fel fy mod i wedi ei chael hi'n anodd rhoi'r llyfr i lawr. Byddai'n dda gen i pe bae hi wedi gorffen yn gadarnhaol, ond pwy ydw i i farnu un o'r clasuron Cymraeg?

Monday, February 15, 2010

picnic yn y gwynt


Mae'n dal yn oer a sobor o wyntog ond heb eira. Mae'n ymddangos fod o'n canolbwyntio ar y Dwyrain ar hyn o bryd (ac Ohio, druan o Antwn!)

Mae'n Ddiwrnod yr Arlywyddion heddiw ac mae'r ddau o'r plant yn cael diwrnod i ffwrdd tra bod y rhan fwyaf o'r ysgolion yn yr ardal ar agor i ddigolledi'r diwrnod a gollon nhw'n ddiweddar oherwydd yr eira.

Gofynodd y plant amser cinio wedi diflasu ar chwarae efo Legos o flaen y tân, "gawn ni bicnic?" A dyma nhw'n herfeiddio'r tywydd. Mae'n braf bod yn blant (weithiau!)


Thursday, February 11, 2010

llanast

Am lanast. Gollais i siocled poeth ar 'keyboard' y cyfrifiadur ac mae o'n cau gweithio. Pam na wnes i golli te yn lle siocled poeth? Rhaid glanhau'r llanast ond does gynnon ni ddim offeryn addas i droi'r sgriwiau bach bach ar y cefn. Dydy'r siop fawr yn y dref ddim yn gwerthu un chwaith. Roeddwn i ar fin archebu un pan ddarllenodd y gŵr rywbeth rhyfeddol yn rhifyn diweddaraf y cylchgwrawn MAC.

Gofynodd rhywun sut i lanhau tu mewn 'keyboard' digwydd bod. Ateb MAC oedd, "rinsiwch o mewn peiriant golchi llestri (!!!) heb sebon a gwres, yna tynnwch o allan a gadael iddo sychu'n naturiol (yr wyneb i lawr) am ddiwrnod neu ddau." Ydyn nhw o ddifrif? Rhaid bod nhw. A dyma rinsio'n 'keyboard' o dan y dwsel yn hytrach na yn y peiriant. Mae o'n sychu ar hyn o bryd. Gobeithio fod o'n iawn.

Sunday, February 7, 2010

speed


Un o'r pethau y bydda i'n ei wneud i ymarfer fy ymennydd (a chael hwyl efo'r hogyn ifancaf) ydy 'Speed,' sef gêm gardiau sydyn. Dim ond munudau mae hi'n para ond rhaid canolbwyntio'n arw. Fel arfer byddwn ni'n chwarae tair gêm i weld pwy enillith. Mae'n reit anodd ei guro. Chwaraewr caled ydy o. Dw i wedi sylwi bod rhaid dyfalu pa rif y byddai fo'n debygol o'i roi nesa er mwyn ennill y gêm tra byddwn i wrthi'n taflu fy nghardiau i lawr!

Thursday, February 4, 2010

Radio Cymru

Clywais i ar y Post Cyntaf y bore 'ma bod nifer o wrandawyr Radio Cymru wedi cynyddu. Ond ymysg y bobl hŷn mae'r cynnydd. Does ryfedd nad oes gan y genhedlaeth weledol cymaint o ddiddordeb mewn byd radio boed Cymraeg neu beidio. Wel, un o'r bobl "hŷn" sy'n cefnogi Radio Cymru dw i.

Tuesday, February 2, 2010

dadmer


Mae hi'n cynhesu gryn dipyn ac mae'r eira'n prysur doddi. Cawson ni amser gwych ynddo fo. Dw i'n falch nad oedd yna ddifrod y tro 'ma. Rhaid bod yn ofalus wrth gerdded allan serch hynny. Does wybod pryd syrthiai darn o eira gwlyb ar eich pennau oddi ar y coed heb sôn am y pibonwy miniog.