Friday, April 30, 2010

filmed in llanberis, wales, england

Dw i'n hoff iawn o erthyglau gan Lowri Haf Cooke ar wefan BBC Cymru. Ei rhain hi ydy'r unig adolygiadau ffilmiau fyddwn i'n eu darllen o bryd i'w gilydd. Er mod i ddim yn ffan o Super Furry Animals (dw i heb wrando arnyn nhw a dweud y gwir,) dygodd ei hadolygiad ar gyfer Seperado! awydd ynof fi i'w gweld hi os ca' i gyfle.

Clywais i hi'n trafod "Clash of the Titans" ar raglen Nia ddydd Iau. Yr unig elfen o atyniad y ffilm i mi ydy'r ffaith bod hi wedi cael ei ffilmio'n rhannol yn chwarel Llanberis. Collais i fy chwilfrydedd yn llwyr fodd bynnag ar ôl clywed hi'n sylwi ar gredyd y ffilm: Filmed in Llanberis, Wales, England.

Thursday, April 29, 2010

ysbrydoliaeth

Sgrifennodd fy merch yn Japan yn dweud bod hi wedi ymweld â'r ysgol Saesneg cyn dechrau gweithio yno'n swyddogol. Dosbarth ydy'r lle'n hytrach nag ysgol a dweud y gwir. Dysgodd hi wers i ddod i nabod ei dosbarth.

Mae yna ddynes 78 oed sy'n mynychu'r dosbarth ddwywaith yr wythnos. Mae hi eisiau medru Saesneg yn ddigon da iddi gael ymweld ag Efrog Newydd rywdro. Mae hi'n mynd i ganolfan ffitrwydd ddwywaith yr wythnos, dringo mynyddoedd uchel sawl tro bob blwyddyn. Mae hi'n mynd â'i llestri te hyd yn oed fel y medrith hi gael paned iawn ar y copaon.

Roeddwn i'n rhyw feddwl mod i'n mynd yn rhy hen i wneud hwn a'r llall yn ddiweddar. Ces i fy ysbrydoli gynni hi.

Wednesday, April 28, 2010

arch noa

Cafwyd hyd i weddillion arch Noa gan griw o archeolegwyr o Tseina a Thwrci!

Cewch chi weld rhagor o luniau yma. (Mae'r wefan yn y Tsieinëeg.)

Monday, April 26, 2010

camp lawn

Fydd y geiriau sy'n dechrau gyda 'rh' a 'll' yn treiglo ar ôl enwau benywaidd unigol neu beidio? Weithiau fedra i ddim cofio rheol syml felly. Does dim eithriad yn cael ei nodi yn fy llyfrau gramadeg (sy'n golygu mai treiglo wnân nhw?) Methais i gael hyd i enghreifftiau ar y we.

A dyma gofio'n sydyn rhaglen Eleri Siôn rhywsut neu'i gilydd: Camp Lawn!
Ar ben hynny, clywais "wythnos lawn" ar y Post Cyntaf ddwywaith y bore 'ma. Gobeithio ceith y rheol ei gwasgnodi ar fy nghof.

Saturday, April 24, 2010

red fern festival




Dyma'r bedwerydd tro i'r ŵyl gael ei chynnal yn y dref hon. A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn gwybod amdani tan yn ddiweddar. Dyma fy nghyfle i gasglu pwnc ar gyfer fy mlog. Roedd yna fwy o bobl na'r disgwyl a hithau'n lawog drwy'r bore. Ces i a dau o'r plant flas ar 'chilis' a chig barbeciw yn ogystal â 'corndog' enfawr wrth y stondinau.

Cystadleuaeth cŵn hela oedd y prif atyniad wrth reswm. (Gweler y ddolen.) Roedd dwsinau ohonyn nhw'n ymgasglu mewn cae cyfagos. Roedd rhai ohonyn nhw wrth sodlau bechgyn ifanc fel prif gymeriad y nofel. Doedd gen i ddim syniad beth yn union oedden nhw ei wneud gyda racŵn mewn cawell fyny coedyn. Dyma ofyn i ddyn oedd yn sefyllian. Y ci sy'n rhoi nifer mwyaf o gyfarthiad at y racŵn i rybuddio ei feistr fydd yn ennill.

Roedd glaw'r bore'n fendith a dweud y gwir. Golchodd o'r paill yn yr awyr yn lan i mi gael crwydro'r cae.

Tuesday, April 20, 2010

tudalen newydd

i fy merch 23 oed. Gadawodd hi am Japan ben bore i ddysgu Saesneg i oedolion a phlant am chwe mis. Symudodd hi o'i fflat ddyddiau'n ôl i ni gadw ei heiddo tra bydd hi i ffwrdd. Roedd hi wrthi'n rhoi trefn arno fo tan yn hwyr neithiwr ond rhaid gadael i ni (fi, i fod yn benodol) gwblhau'r gweddill. Ces i baned Gymraeg wedi gorffen y gwaith gynnau bach, a dyma sgrifennu pwt ar fy mlog.

Gobeithio na neith gwynt chwythu lludw'r llosgfynydd i gyfeiriad ei hawyren.

Tuesday, April 13, 2010

poendod


Does gen i ddim byd yn eu herbyn cyhyd bod nhw'n cadw at eu cynefin. Ond unwaith maen nhw'n tresmasu ar ein un ni, rhaid cael gwared arnyn nhw. Wrth i'r tywydd gynhesu, mae eu nifer ar ein waliau a lloriau'n cynyddu'n sylweddol. Byddwn i am ddefnyddio rhywbeth rhad ac ecolegol os ydy'n bosibl. A dyma brynu sialciau lliwgar a gofyn i'r plant luniadu o gwmpas y tŷ. Wrth gwrs bod nhw'n fwy na hapus i ufudd i mi. Gobeithio bod gan y morgrug gas ar sialciau fel dylen nhw fod.

Sunday, April 11, 2010

the sound of music

Treuliais i ynghyd â'r teulu'r pnawn 'ma'n gwylio 'the Sound of Music" am y tro cyntaf ers amser (am y tro cyntaf un i'r ddau blentyn ifancaf.) Mae'r caneuon i gyd yn ardderchog a bythgofiadwy heb sôn am y golygfeydd godidog a'r stori ddifyr. Roedd yn DVD a wnaethpwyd i ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed. Diddorol oedd gweld gweddau diweddaraf Julie Andrews a'r actorion eraill a chlywed hanes Maria von Trapp go iawn. Hon ydy un o'r ffilmiau gorau wedi'r cwbl.

Thursday, April 8, 2010

dant y llew


Maen nhw'n glws yn fy nhyb i ond mae'r gŵr yn mynnu bod rhaid cael gwared arnyn nhw o gwmpas ein tŷ ni. Gwaith y plant ydy eu chwynnu ond maen nhw'n cael eu talu sent yr un (Dant y Llew, dim plentyn.) Roedden nhw wrthi'r pnawn 'ma a chwynnu dros 700!

Wednesday, April 7, 2010

mynd am dro


Roedd yr awyr yn wlyb a doedd dim gwynt y bore ma wedi'r glaw neithiwr. Dyma fynd am dro i gymryd mantais ar gyfle prin yn y gwanwyn. Roedd hi mor ffres ac roedd canu'r adar mor felys fel y mod i heb gyffwrdd â'r iPod yn fy mhoced.

"Yr oedd arnaf eisiau gweld a gweld, gweld y golygfeydd cyfarwydd a'r pethau cynefin a oedd yn newydd eto." Byddai Begw wedi cytuno â fi.

Tuesday, April 6, 2010

oklahoma yng nghaerdydd

Dyma'r tro cyntaf un i mi weld cymaint o sylw ar Oklahoma yng Nghymru. (Ond rhaid cyfaddef i mi heb weld y sioe enwog erioed.) Os eith rhywun i'w gweld hi, gad i mi wybod eich barnau. Tybed fydd yr actorion yn siarad gyda acen ddeheuol?

Monday, April 5, 2010

pot lwc wrth gwrs



Modd gwych i ddathlu'r Pasg! Darparodd ein heglwys ni dwrci a chig moch, a gwnaeth pawb bethau eraill. Cawson ni fryd o fwyd ardderchog ar ôl y gwasanaeth.

Roeddwn i'n gwisgo'r crys Cymaeg a brynais i yn yr Eisteddfod. Jenni oedd yr unig berson a sylweddolodd o. Americanes ydy hi ond mae hi'n briod â Sais a roedden nhw a'u plant yn byw ym Mryste ers 12 mlynedd cyn symud i'r dref yma'n ddiweddar. Buon nhw yn Ne Cymru ar eu gwyliau.

Gwnes i 'chocolate rice crispy treats' a brechdanau caws hufen gyda phinafal.

Sunday, April 4, 2010

Thursday, April 1, 2010

arwr

Dw i erioed wedi dysgu amdano fo yn yr ysgol. Doedd sôn amdano fo yng ngwerslyfrau hanes Japan, ar y pryd o leiaf. Ac eto mae yna barc a stryd wedi'u henwi ar ei ôl o yn Israel a Lithuania ynghyd cerflun ohono fo yn Unol Daleithiau.

Chiune Sugihara (Tsi-wne Swgihara) ydy'r dyn. Rhaid cyfaddef mai dim ond ddyddiau'n ôl y darllenais i amdano. Wrth gwrs bod yna nifer mawr o bobl ddewr yn y byd ym mhob cyfnod. Yr hyn sy'n fy nharo i'n arw ydy fy mod i heb wybod am y dyn felly ymysg fy mhobl i fy hun hyd hyn, ac yntau mor ddewr, tosturiol a ffyddlon yn achub cynifer o fywydau. Clywais i fod pawb yn Lithuania'n gwybod pwy oedd o.

O leiaf mae Llywodraeth Japan a rhai o'r bobl wedi ei anrhydeddu'n ddiweddar o'r diwedd. Mae yna lyfrau a fideos amdano fo ar gael. Bwriadu dilyn y pwnc dw i.