Friday, May 20, 2011

am y pedwerydd tro

Dw i'n mynd i Gymru. Fe adawa' i yfory a dod yn ôl Mehefin 15 os eith popeth yn iawn. Dw i ddim yn bwriadu crwydro'r tro hwn ond aros yn Llanberis a Chaernarfon. Bydd yna gyfleoedd i mi wirfoddoli gyda Chyngor Henoed ac Antur Waunfawr. Ddim yn hollol siŵr beth yn union bydda i'n ei wneud, ond byddwn i eisiau cyfrannu at gymunedau Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe wna' i adrodd fy hanes ar ôl dod yn ôl.

Falch iawn bod y llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâr heb godi twrw eleni!


Wednesday, May 18, 2011

i napolis eto


Y tro hwn es i a'r gŵr i'r tŷ bwyta Eidalaidd yn y dref i ddathlu'n pen-blwydd priodas dipyn yn gynt. Roeddwn i'n edrych ymlaen at gael cyfle i ddefnyddio fy Eidaleg mod i wrthi ers misoedd. Ond ar y llaw arall, roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy o nerfus.

Wel, ddaeth gweinydd siriol aton ni. Archebais i wydraid o win coch yn Eidaleg. (Roedd fy nghalon yn curo'n wyllt!) Ond yn anffodus Sbaenwr oedd o er ei fod o'n deall tipyn o Eidaleg. Chwarae teg iddo, fodd bynnag, dwedodd o, "buonasera, grazie."

Ces i spaghetti carbonara. Cafodd y gŵr ravioli lasagna. (Swnio fel tâp adolygu Cwrs Pellach!) I bwdin, rhannon ni gacen hufen Eidalaidd. Roedd popeth yn flasus.


Friday, May 13, 2011

sut i smwddio crys yn berffaith

Tra oeddwn i'n chwilio am air Eidaleg am smwddio, des i ar draws y You Tube hwn. Dysgais i eiriau newydd sy'n perthyn i'r gwaith smwddio drwy ei wylio, ac yn ogystal, roeddwn i'n falch o wybod mod i'n smwddio crysau'r gŵr yr un modd â'r ddynes ar y clip! Dw i ddim, fodd bynnag, defnyddio chwistrell nag un o'r pethau bach ar gyfer llewys. Bydda i'n stopio'r sychwr dillad hanner ffordd er mwyn i'r crysau ddod allan yn llaith. fydd dim angen eu chwistrellu wedyn.

Sunday, May 8, 2011

amser bath!



Mae'r haf yn dod yn reit sydyn yn Oklahoma. Dw i wedi troi'r "air conditioner" ymlaen heddiw; dim ond sawl diwrnod yn ôl roeddwn ni'n defnyddio'r gwres canolog!

Gan fod y tymheredd yn ddigon cynnes, penderfynodd y plant roi bath i'n moch cwta a oedd yn drewi erbyn hyn! Doedden nhw (y moch cwta) ddim yn hoffi'r syniad o gwbl a chawson nhw eu dychrynu'n arw. Er gwaetha'r helynt, mae'n siŵr bod nhw'n teimlo'n well bellach.