Wednesday, August 31, 2011

enwau corwyntoedd america

Des i ar draws y wybodaeth ddiddorol hon ynglŷn ag enwau corwyntoedd America. Mae 21 o enwau wedi cael eu dewis am chwe blynedd ymlaen llaw (gwrywaidd a benywaidd bob yn ail.) Ond pan fydd yna rai sydd wedi achosi ofnadwy o ddifrod, byddan nhw'n cael eu cyfnewid gydag enwau eraill (e.e. Katrina.)

Dechreuodd meteorolegwyr America enwi corwyntoedd gydag enwau eu gwragedd a chariadon yn ystod yr Ail Ryfel Byd! Newidiwyd y drefn flynyddoedd wedyn i ddefnyddio enwau ar y rhestr bresennol.

2006200720082009201020112012
Alberto
Beryl
Chris
Debby
Ernesto
Florence
Gordon
Helene
Isaac
Joyce
Kirk
Leslie
Michael
Nadine
Oscar
Patty
Rafael
Sandy
Tony
Valerie
William
Andrea
Barry
Chantal
Dean
Erin
Felix
Gabrielle
Humberto
Ingrid
Jerry
Karen
Lorenzo
Melissa
Noel
Olga
Pablo
Rebekah
Sebastien
Tanya
Van
Wendy
Arthur
Bertha
Cristobal
Dolly
Edouard
Fay
Gustav
Hanna
Ike
Josephine
Kyle
Laura
Marco
Nana
Omar
Paloma
Rene
Sally
Teddy
Vicky
Wilfred
Ana
Bill
Claudette
Danny
Erika
Fred
Grace
Henri
Ida
Joaquin
Kate
Larry
Mindy
Nicholas
Odette
Peter
Rose
Sam
Teresa
Victor
Wanda
Alex
Bonnie
Colin
Danielle
Earl
Fiona
Gaston
Hermine
Igor
Julia
Karl
Lisa
Matthew
Nicole
Otto
Paula
Richard
Shary
Tomas
Virginie
Walter
Arlene
Bret
Cindy
Don
Emily
Franklin
Gert
Harvey
Irene
Jose
Katia
Lee
Maria
Nate
Ophelia
Philippe
Rina
Sean
Tammy
Vince
Whitney

Mae pedwar o enwau fy mhlant ar y rhestr! Gobeithio na fyddan nhw'n achosi difrod erchyll!

Monday, August 29, 2011

casglu coed tân

Rhaid dechrau casglu coed tân ar gyfer y gaeaf er bod hi'n dal yn boeth, hynny ydy rhaid i'r gŵr eu casglu. Fel arfer mae yna ffrind neu ddau a fydd yn cynnig eu coed wedi'u torri ar eu tiroedd yn rhad ac am ddim i gael gwared arnyn nhw.

Heno aeth y gŵr i gasglu coeden a dorrodd cymydog yn ddiweddar. Gan ei bod hi'n cael ei thorri'n ddarnau mawr yn barod, dim ond eu cludo ar ferfa a oedd angen arno fo. Bydd o'n ei thorri'n ddarnau bychan i ffitio mewn ein llosgwr logiau ryw ddiwrnod.

Dydy'r hydref ddim yn rhy bell.

Sunday, August 28, 2011

atgofion

Mae darllen Blog Tokyobling yn fy atgoffa i o fy mhlentyndod sydd wedi bod yn gorwedd yn fy isymwybod ers blynyddoedd.

Mae'r awdur yn hoff iawn o ddawnsio gwerin o'r enw Awaodori. Pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd yn Japan (amser maith yn ôl,) roedd rhai o'r disgyblion yn gorfod mynd o gwmpas y cae ysgol yn ystod y ffair ysgol yn dawnsio'r ddawns hon. Cawson ni wers sydyn cyn cychwyn, a ffwrdd a ni. Yn anffodus roedd pawb yn rhy swil i wneud dim byd ond gorymdeithio wrth i'r gerddoriaeth fynd ymlaen drwy'r uchelseinydd. Chawson ni ddim gwisgo'r gwisgoedd traddodiadol chwaith ond sawl un ar ben y rheng beth bynnag.

Friday, August 26, 2011

dysgu cymraeg trwy gyfrwng japaneg

Llongyfarchiadau i'r ddau ddyn a sgrifennodd llyfr i ddysgu Cymraeg trwy gyfrwng Japaneg. Does llawer o bobl yn Japan yn gwybod lle mae Cymru heb sôn am y ffaith bod ganddi hi iaith eu hun. Mae yna gymdeithasau Cymru yn Tokyo ac Osaka, fodd bynnag, ac mae rhai wrthi'n hybu Cymru a'r Gymraeg. Gobeithio y bydd y llyfr yn cyfrannu at eu hachos.

Dw i ddim yn bwriadu prynu copi gan fod o braidd yn ddrud - dros 4,500 yen (£35) gan gynnwys y tâl post. Ond fe fyddwn i'n hapus ei adolygu pe bai Bwrdd yr Iaith yn fy nghomisiynu. :)

Thursday, August 25, 2011

ailddarganfod japan

Dw i newydd ddechrau dilyn blog Saesneg gan un o Sweden sy'n byw yn Japan. Mae o'n sgwennu am bethau annisgwyl; pethau na fydd y rhan fwyaf o dwristiaid neu hyd yn oed y trigolion cynhenid eu hun yn eu sylwi. Pwy sy'n disgwyl gweld cerfluniau Micky & Minnie Mouse a Hello Kitty ymysg rhai difrifol ar dir teml Bwdhaeth? Ffotograffydd ardderchog ydy o hefyd. Efallai fy mod i'n medru ailddarganfod Japan drwy ddarllen ei flog yn gyson.

Wednesday, August 24, 2011

noson del rancho

Mae pobl ifanc ein heglwys ni'n trio codi arian ar gyfer eu gweithgaredd. Un o'r pethau maen nhw'n ei wneud ydy gweini yn Del Rancho, tŷ bwyta poblogaidd yn y dref hon. Maen nhw'n cael cadw'r cil-dwrn at yr achos, diolch i'r perchennog cefnogol.

Es i a'r teulu i Del Rancho neithiwr felly am swper i'w cefnogi tra oedd un o fy merched yn gweini. Ces i Tahlequah Taco (defnyddir bara Indiaid wedi'i ffrio'n ddwfn) a chafodd fy merch arall Steak Burger; mae'r ddwy'n saig boblogaidd Del Rancho. Beth bynnag yr achlysur, roedd y bwyd yn dda ac roedden ni'n mwynhau'r swper.

Tuesday, August 23, 2011

torrais i fy ngwallt

Na, chollais i ddim gafael ar fy Nghymraeg eto. Ches i ddim torri fy ngwallt; torrais i fy ngwallt yn llythrennol gynnau bach. Mae fy merch yn dal i ddysgu Saesneg yn Japan, a dw i'n methu ffeindio merch trin gwallt arall cystal â hi. Ces i ddigon ac es i ati'n torri fy ngwallt fy hun. Roedd yn dipyn o her trin y siswrn wrth edrych ar ddrych. Ond dw i braidd yn fodlon efo'r canlyniad er gwelwyd tipyn o waed!. (Rhoddais i hyd yn oed layer cyntefig yn y cefn.)

Saturday, August 20, 2011

ystategau eto

Am syndod pleserus arall - yr ymwelwyr sylweddol i fy mlog ar wahân i rai yn UDA, Ffrainc a'r DU sydd un byw yn yr Almaen. Awgrymodd Antwn efallai mai rhai yn Llydaw sy'n cael eu dangos fel "Ffrainc." Tebyg iawn. Oes gan neb syniad oes yna gysylltiad Cymraeg yn yr Almaen? Fe fyddwn i'n ddiolchgar am wybodaeth. A gwell fyth, fe fyddwn i'n hapus clywed gannoch chi yn yr Almaen.

Monday, August 15, 2011

cadi

Hi a achosodd fy niddordeb yn Llanberis y lle cyntaf yn 2008. Gwelais i hi'n siarad am yr arddangosfa yn Amgueddfa Lechi (pan oedd rhaglenni S4C ar gael ar y we'n rhwydd.) Ces i fy swyno gan ei hacen ogleddol hyfryd, a bron yn y fan a'r lle dechreuais i feddwl am ymweld â Llanberis a chyfarfod hi'r flwyddyn wedyn. Cadi Iolen, Curadur yr Amgueddfa ydy hi, ac roeddwn i mor hapus ei chlywed hi unwaith eto ar raglen Nia. (Mae hi'n dechrau tua 1:19 o'r dechrau.)

Penblwydd hapus ymlaen llaw i Amgueddfa Lechi'n 40 oed.

Saturday, August 13, 2011

'fish fry' eto

Mae un o'r athrawon optometreg yn gwahodd y lleill a'r staff yn yr adran a'u teuluoedd i fish fry cyn i'r tymor newydd gychwyn bob haf. Es i efo'r teulu i'w dŷ wrth Afon Illinois i fwynhau ei ddalfa o Catfish unwaith eto pnawn 'ma. Roedd yna ryw hanner cant o bobl yn bwyta, sgwrsio ac ymlacio tu mewn a tu allan. Roedd Hummingbirds yn prysur gael diod o fwydwr adar uwchben y dec.

Wednesday, August 10, 2011

tymor newydd

Mae'r plant yn ôl i'r ysgol heddiw wedi gwyliau haf hamddenol. Mae'r tŷ'n ddistaw unwaith eto. Dw i'n barod i ailddechrau'r bywyd arferol. Bydda i'n gwirfoddoli mwy yn llyfrgell yr ysgol.

Cawson ni law sylweddol yr ail dro neithiwr. Mae popeth yn wlyb am y tro cyntaf ers wythnosau. Dydy'r tymheredd ddim dros 100 am newid. Gobeithio y daw'r hydref yn gynt; cawson ni fwy na digon o wres erbyn hyn.

Saturday, August 6, 2011

llanberis a'r eidal

Sylwais i a'r arwydd wrth fynedfa Llanberis am y tro cyntaf eleni. Yr arwydd sy'n dweud bod gan Lanberis efeilldref yn Morbegno, tref fach fynyddig yng ngogledd yr Eidal. Dw i wrth fy modd yn gwybod bod yna gysylltiad arbennng rhwng fy hoff dref yng Nghymru a'r Eidal. Mae yna dipyn o fynd a dod rhyngddyn nhw o gwmpas rasau mynyddoedd yn eu trefi yn ôl y wybodaeth a ges i'n ddiweddar; canodd côr Cymru yn Morbegno hyd yn oed.