Monday, April 30, 2012

soroban

Wrth ddarllen erthygl am peli soroban o bren olewydden heddiw, es i ati i ddarllen o'r newydd am y teclyn cyfrif syml traddodiadol o Japan. Syml a chyntefig efallai, ond mae'r peth bach yn helpu datblygu sgil mathemateg a mwy. Mae pob plentyn yn Japan i ddysgu sut i'w ddefyddio yn yr ysgol, ac mae rhai'n mynd i ddosbarthiadau penodol ar ôl yr ysgol hyd yn oed yn adeg Apple hon. Doedd gen i ddim diddordeb ynddo fo pan oeddwn i'n blentyn, ond mae'n hwyl a dweud y gwir. Ffeindiais i soroban ac ymarferion ar lein i'w ailddysgu. Rhaid cael gafael  yn soroban go iawn rywdro!

Sunday, April 29, 2012

amser bath

Mae'n gynnes. Penderfynodd fy merch roi bath blynyddol i'w thri mochyn cwta. Daethon nhw ati'n disgwyl cael bwyd pan alwodd hi nhw. Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd yn eu disgwyl! Doedden nhw ddim yn hapus i ddweud y lleiaf, ond maen nhw'n lân rŵan. Tan y flwyddyn nesa ta!

Saturday, April 28, 2012

twrnai ffasiynol

Dechreuodd fy merch flog newydd efo ffrind iddi. Mae'r blog yn dangos y dillad ffasiynol y maen nhw'n eu gwisgo i'w gwaith. Andrea, ffrind fy merch, yn ddynes anhygoel. Dach chi ddim yn disgwyl gweld rhywun felly mewn llys - un ddel, fach, ifanc a ffasiynol. Twrnai ydy ei swydd hi, ond peidiwch â chael eich twyllo gan ei golwg ciwt. Mae hi'n gallu bod yn ofnadwy o "tough and scary" yn ôl pob sôn! Mae hi a fy merch yn ffrindiau da beth bynnag, ac maen nhw'n cael hwyl postio eu blog ffasiwn.

Friday, April 27, 2012

y tocyn cyntaf

Penderfynais i fynd i'r cinio i gefnogi Mike Huckabee, a dyma fynd i brynu tocyn, ar fy ffordd i gasglu'r plant, i Go Ye Village sy'n trefnu'r digwyddiad. Am syrpreis! Y fi ydy'r gyntaf! Argraffwyd 500 o docynnau yn ôl y ddynes at y ddesg. Gobeithio y bydd yna ddigon o bobl i lenwi'r neuadd. Gofynnais i a gawn i fy mhres i gyd yn ôl pe bai'r cinio'n cael ei ganslo (rhag ofn.) - Gawn. Efallai fy mod i'n haeddu i eistedd wrth y bwrdd agosaf ato fo!

Thursday, April 26, 2012

paffwragedd

Chwiorydd ydyn nhw, un yn 19 oed a'r llall yn 17 oed. Nhw ydy'r cyntaf yn Japan fel chwiorydd i chwarae paffio'n broffesiynol. Dechreuodd Saki a Mako Yamada chwarae crefftau ymladd yn ferched bach, a chychwyn yn broffesiynol pan oedden nhw'n troi'n 17 oed. Maen nhw wedi gwneud yn dda hyd yma, ac yn anelu at bencampwriaeth y byd. Pob lwc!

Wednesday, April 25, 2012

pont ddinosor

Doeddwn i ddim yn gwybod am y bont newydd hon yn Tokyo tan y bore 'ma. Agorodd hi'n swyddogol ym mis Chwefror eleni. Tokyo Gate Bridge ydy'r enw, ac mae ganddi lysenw, sef "Dinosaur Bridge" oherwydd y siâp. Cafodd hi ei goleuo'n ogoneddus neithiwr a denu llu o ffotograffwyr.

Tuesday, April 24, 2012

ipad

Prynodd y gŵr iPad yn ddiweddar (wedi meddwl yn hir a chaled.) Mae'n anhygoel gweld pa mor fach ac ysgafn ydy o. Mae'n edrych fel brawd hŷn iPhone a chyda chymaint mwy o bosibilrwydd. Gan fod y gŵr yn dibynnu ar gyfrifiaduron yn ei swydd ac yn teithio'n aml, mae iPad yn prysur fynd yn rhan hanfodol o'i fywyd. 

Monday, April 23, 2012

diffyg cwsg

Mae'r gŵr newydd ddod yn ôl wedi bod yn Dallas am fusnes am ddyddiau. Roeddwn i'n methu cysgu'n dda tra oedd o i ffwrdd oherwydd bod gen i ofn tywyllwch er bod y plant yn cysgu ochr arall o'r ystafell fyw. Gadawais i olau drwy'r nos. Yna, methais i gysgu'n dda o'i herwydd! (Doedd gen i broblem pan oeddwn i'n cysgu ar ben fy hun mewn gwesty yng Nghymru.) Cysgais yn dda neithiwr. Dw i'n mynd i ofyn i un o'r plant gysgu yn fy ystafell wely'r tro nesa!

Sunday, April 22, 2012

mae mike huckabee yn dod!

Ydy! Mae'r dyn ei hun yn dod i'r dref fach yma ym mis Mehefin! Dw i newydd gael y wybodaeth, a dw i a'r teulu'n gyffro i gyd. Bydd y cinio penodol i'w gyfarfod o'n ei gostio dipyn, felly efallai mai ond y gŵr yn gallu mynd. Hwrê, fodd bynnag! Mae ganddo gymaint o synnwyr cyffredin ymysg y gwleidyddion sydd ddim yn rhy gall.

Saturday, April 21, 2012

pêl arbennig

Roedd hi'n teithio am flwyddyn ar y môr a chyrraedd Alaska - pêl o ardal Japan a gafodd y trychineb gan y tsunami.  Mae yna enwau bechgyn ac ysgol arni hi. Mae awdurdod America'n trio gyrru'r bêl yn ôl at y perchennog. Gobeithio fod o'n iawn.

Friday, April 20, 2012

llinynnau ffidil arbennig

Gwneud y gwaith ymchwil ar sidan pryfed cop am 35 mlynedd mae S. Osaki o Japan. Mae o wedi llwyddo i wneud llinynnau ffidil gan sidan y pryfed. Efallai byddai yna gyngerdd arbennig rywdro! Defnyddiwyd 10,000 o sidan i greu un llinyn yn ôl papur newydd Japan yn hytrach na 3,000 - 5,000 a adroddwyd gan y lleill.

Thursday, April 19, 2012

llyfrau i batagonia

Wedi darllen erthygl yng nghylchgrawn y Wawr gan Gymraes ym Mhatagonia, penderfynais i gasglu rhai o fy llyfrau Cymraeg ar y silff, a'u gyrru nhw ati hi. Mae'n anhygoel bod cymuned Gymraeg/Gymreig yn parhau mor bell o'r Hen Wlad. Dw i'n cofio fy mhrofiad rhyfeddol o gyfarfod y gaucho Cymraeg a'i griw yn Eisteddfod y Bala, 2009. Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn gyrru'ch llyfrau neu gylchgronau Cymraeg i helpu Cymry Cymraeg (gan gynnwys plant, ) dysgwyr ym Mhatagonia, cysylltwch â Merched y Wawr.

Wednesday, April 18, 2012

maen nhw'n ôl

Mae'r adar wedi dychwelyd at eu nyth bellach! Dim ond cip sydyn drwy'r ffenestr fach dw i'n ei gael o bryd i'w gilydd achos nad ydw i eisiau eu dychryn. Rŵan rhaid i ni i gyd fod yn ofalus pan agorwn ni'r drws. Mae fy merch yn gofyn i mi fynd drwy ddrws y garej.

Tuesday, April 17, 2012

diwrnod braf

Wedi'r cant o dornados, mae'r tywydd yn arbennig o braf. Mae'r haul yn gwenu; mae'r awyr yn las las. Rhaid bod y peilliau wedi cael eu golchi allan o'r awyr gan y stormydd; dw i'n cael cerdded heb disian yn ddi-baid. Felly penderfynais i gerdded adref o'r brifysgol. Dydy'r heol syth ddim yn addas i gerddwyr a dweud y gwir; does dim palmant ac mae ceir yn gwibio heibio'n gyflym; does dim golygfeydd hardd. Roedd yn braf fodd bynnag. Dyma gar efo mwstas sydd braidd yn enwog yn y dref hon.

Monday, April 16, 2012

nyth

Fe wnaeth y gŵr silff i'r aderyn bach druan pan gawson ni aeaf caled. Doedd hi ddim wedi cael ei defnyddio, hynny ydy, hyd at ddiweddar. Rhaid bod rhai adar yn meddwl bod hi'n lle braf i wneud eu nyth. Mae yna un cadarn ei olwg arni bellach. Yr unig broblem ydy bod o'n rhy agos at y drws blaen. Dw i heb weld unrhyw aderyn o'i gwmpas. Gobeithio na wnaeth y pâr roi'r gorau iddo.

Sunday, April 15, 2012

tornadoes

Roedd yna 100 ohonyn nhw yn y taleithiau o gwmpas 'ma ddyddiau diwethaf. Na chafodd fy nhref ei hanafu hyd yma. Aeth un drwy ddinas Norman lle mae fy merch hynaf yn byw ynddo. Mae hi a'i theilu'n iawn ond cafodd y gweithgaredd ar gyfer yr oriel gelf ei ganslo'r munud olaf. Mae hi'n arddangos ei gwaith yno, ac mae hi wedi trefnu timau dawns a drymiau Japaneaidd i berfformio'r noson gyntaf. Wrth gwrs mai problem bitw ydy hynny o gymharu â'r difrodau a gafodd yr ardaloedd eraill. Tornado Alley y maen nhw'n eu galw nhw.

Saturday, April 14, 2012

sgrin fach

Beth dach chi'n ei wneud tra bod chi'n pwmpio petrol? Sbïo ar y mesurydd? Gwelais i wasanaeth newydd ar orsaf petrol yn ddiweddar, sef sgrin fach i'ch diddanu nes i chi orffen llenwi'r tanc. Yn fy nhyb i, teclyn diangen ydy hwn; mae yna bethau gwell i'w gwneud fel cerdded o gwmpas y car neu dysgu fy flash cards, ayyb. Ond dyna fo.

Friday, April 13, 2012

ceirios

Dw i newydd gael gwybod gan Tokyobling bod y coed ceirios yn Japan wedi cael blodeuo'n llawn wedi'r cwbl. Roeddwn i braidd yn poeni drostyn nhw wedi clywed gan fy mam bod y tywydd acw wedi troi'n wael, a'r blodau druan yn crynu yn yr oerni. 


Digwyddiad tymhorol cenedlaethol ydy blodeuo'r coed ceirios yn Japan. Mae o'n codi calonnau pawb sydd yn mynd ar wibdaith benodol i weld y blodau (a chael partïon o dan y canghennau blodeuol!)

Thursday, April 12, 2012

pizza gorau

Doeddwn i ddim yn disgwyl bwyta pitsa gwych mewn maes awyr. Wedi gweld siop bitsa efo popty coed tân ynddi hi yn Denver, archebais i Margherita'n syth. Er defnyddiwyd caws Americanaidd yn hytrach na Mozzarella ffres, roedd o'n bitsa gorau a ges i erioed. Roeddwn i'n meddwl mai Eidalwr oedd y cogydd, a dyma brofi fy Eidaleg sydyn yn betrusgar  - Sbaenwr oedd o ond roedd o'n ddigon clên yn dweud, "grazie." 

Wednesday, April 11, 2012

japan - amser gadael


"Dydi amsar diodda nag amsar petha braf ddim yn para'n hir."  Efallai fy mod i wedi dyfynnu geiriau Nanw Siôn yma mwy nag unwaith, ond fedra i ddim helpu peidio teimlo felly ar ddiwedd fy ngwyliau bob tro. Felly cyrhaeddodd amser i adael Japan. Mwynheais i bob munud. Roedd yn ddeg gwaith brafiach mynd o gwmpas efo fy merch nag y byddwn i wedi mynd ar fy mhen fy hun. Roedd yn wych hefyd bod fy mam yn ddigon iach i fwynhau'n hymweliad ni a theithio i Atami efo ni. Hwyl fawr i Japan felly, am y tro.
llun uchod: fflat mam
llun isod: bara melys gwych, ayyb i'r brecwast olaf!

Tuesday, April 10, 2012

japan - aduniad

Methais i weld hen ffrind fy mebyd ddyddiau'n ôl, ond ffoniodd hi'r noson honno. (Roedd ganddi hi rif ffôn fy mam!) Trefnon ni'n cyfarfod mewn tref gyfagos. Roedd yn fendigedig ei gweld ers bron 40 mlynedd. Siaradon ni'n ddi-baid dros baned o caffè latte hyfryd wrth ddangos lluniau'n teuluoedd ni. Addawon ni gadw mewn cysylltiad a'n cyfarfod pan fyddwn i yn Japan eto. Gobeithio y cawn ni gyfleoedd yn gyson. (y llun: fy ffrind)

Monday, April 9, 2012

japan - sakuragicho


Am wasanaeth Sul, es i i Sakuragicho, ger Yokohama er mwyn gweld cyn-fyfyriwr a raddiodd yn y brifysgol leol yn Oklahoma. Mae'r eglwys newydd dipyn yn wahanol gan fod y gweinidog wedi cael ei addysg yn Hawaii a hoff iawn o syrffio. Felly roedd gan y gwasanaeth awyrgylch Hawaii! Roedd y sain yn ormod i mi a dweud y gwir, ond roedd yn braf gweld y ffrind teuluol unwaith eto. Ces i'r ramen gorau i ginio mewn tŷ bwyta bach Tseineaidd yn y dref hefyd.

Sunday, April 8, 2012

Saturday, April 7, 2012

japan - torikoh

Wedi cerdded am oriau, roedden ni eisiau bwyd. Lle gwell na Torikoh, tŷ bwyta fy mrawd yn Hatanodai i gael swper? Roedd hi'n rhyw 20 mlynedd ers i mi fwyta yno. Cafodd y tŷ bwyta ei adnewyddu ond doedd y bwyd ddim wedi newid; mae'n dal yn ardderchog. Coginiodd fy mrawd fy ffefrynnau i gyd gan gynnwys yakitori, cyw iâr wedi'i grilio (y llun.) Ymunodd ffrindiau fy merch â ni, a chawson ni noson fendigedig. Rhaid nodi bod Mr. Tokyobling yn synnu fy mrawd efo ei Japaneg rhugl a'i wybodaeth helaeth am fwyd Japan.

Friday, April 6, 2012

japan - ginza ac otemachi

Roeddwn i'n edrych ymlaen at y diwrnod hwn yn fawr - cyfarfod Mr. Tokyobling a chrwydro Tokyo efo fo. Cychwynnon ni yn Ginza. Dyma ffenestr enwog Wako. Yna aethon ni at gornel wedi'i llenwi efo blodau hardd ymysg yr adeiladau mawr; clywon ni gyngerdd bach ond ardderchog mewn un ohonyn nhw; gwelon ni arddangosfa ddinosor Japaneaidd; cawson ni olygfa wych o Orsaf Tokyo sydd yn cael ei adnewyddu .... Doeddwn i ddim yn gwybod bod cymaint i'w weld yng nghanol ardal fusnes Tokyo. Ces i fy synnu o'r newydd at wybodaeth Mr. Tokyobling am Japan a'i gariad tuag at y diwylliant. 



Thursday, April 5, 2012

japan - y bro mebyd



Ces i fy magu mewn tref ddi-nod yn Kawasaki. Roedd arna i eisiau ymweld â hi sydd ddim yn bell o Machida. Pan oeddwn i'n blentyn, roedd yna berllannau gellyg ym mhob man. Am sioc! Mae fflatiau mawr sydd yn meddiannu'r dref bellach. Yn ffodus mae tŷ fy hen ffrind yn dal (aethon ni i'r ysgol meithrin ac i'r ysgol gynradd efo'n gilydd!) Y hi ydy'r etifedd. Des i at y drws ond ei mab a fy atebodd yn dweud bod ei mam oddi cartref trwy'r dydd. Cerddais i o gwmpas efo fy merch yn rhyfeddu at y newidiadau. Gwelais i ddigon. Penderfynais i fynd yn ôl i Machida; aeth fy merch i Shibuya i weld ei ffrindiau. (llun is - Hachikou druan wedi'i wisgo am Wythnos Ffasiwn)

Wednesday, April 4, 2012

japan - cwch

Es i a fy merch i Asasuka ar ôl gorffen gweld Palas Ymerodrol. Roedd bron yn sioc i mi weld Sky Tree newydd ei orffen wrth i mi gerdded i fyny'r grisiau o orsaf dan ddaear. Doedd gynnon ni ddim amser i grwydro o gwmpas Kaminarimon (Giât Daran). Dyma ni'n dal cwch olaf y diwrnod am siwrnai fer i lawr Afon Sumida. Roedd yn hynod o braf mynd dan ryw ddeuddeg o bontydd amrywiol. 

Tuesday, April 3, 2012

japan - palas ymerodrol

Mae yna gynifer o lefydd dw i erioed wedi ymweld â nhw yn ardal Tokyo er fy mod i'n cael fy ngeni a fy magu yno. Un o'r rhai ydy Palas Ymerodrol.  Wedi bwcio taith dywys ar lein, dyma ymuno efo fy merch â grŵp o gant o bobl yn gweld y lle. Roedd yn braf cerdded yno yn enwedig yr ardd fawr daclus sydd yng nghanol y ddinas enfawr felly. Roedd fy merch wrth ei bodd yn cael cerdded y tir roedd Castell Edo yn arfer bod arno. Does angen esbonio pam gelir y bont honno'n Megane Bashi - Pont Sbectol.

Monday, April 2, 2012

japan - atami - onsen

Mae Atami yn un o lefydd enwog diri am eu onsen, ddŵr poeth llesol. Dydy o ddim mor ffasiynol na'r lleill bellach a dweud y gwir, ond ymwelodd Ieyasu Tokugawa, y Shogun cyntaf ag Atami wedi'r cwbl. Roeddwn i eisiau dod yma ers gwylio ffilm Ghibli, sef Only Yesterday flynyddoedd yn ôl. (Wnes i ddim llewygu yn y bath fel Taeko!)


Roedd y gwesty'n arbennig o dda o ystyried y pris. Mae pob ystafell yn wynebu'r môr; mae'r baddonau mawr yn wych; mae yna gymaint o fwyd blasus yn y brecwast bwffe. Byddwn i wedi cerdded o gwmpas y dref mwy pe bai gynnon ni amser.

Sunday, April 1, 2012

japan - atami - perllan eirin

Wedi siwrnai fer ar Romance Car o Machida i Odawara ac yna i Atamai, aethon ni i'r berllan eirin gyntaf. Er bod hi dipyn yn hwyr yn y tymor, roedd y lle'n fendigedig. Cerddon ni'n hamddenol wrth weld pob math o eirin. Rhaid bod yn rhyfeddol hefyd pan droith y dail eu lliwiau yn yr hydref.