Tuesday, July 31, 2012

car efo cynffon

Wrth i mi aros am y peiriant petrol i orffen ei waith, sylwais i'r panel doniol hwn. Dw i ddim yn trio hysbysebu'r orsaf betrol, cofiwch.

Monday, July 30, 2012

saig oer

Pwy bynnag a welodd y ffilm, Bread and Tulips, bydd yn adnabod y saig hon a gafodd Rosalba yn nhŷ bwyta Marco Polo yn Venice. Dim ond seigiau oer a oedd ar gael achos bod y cogydd yn sâl. Roeddwn i eisiau creu saig debyg, a dyma hi. (Roedd rhaid i mi ddefnyddio letys yn lle persli.) Prynais i bread sticks tebyg hefyd. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n dda ond efallai bod y plant ddim yn cytuno. O, wel.

Sunday, July 29, 2012

breuddwydion

Prin bydda i'n cael breuddwydion yn ddiweddar (beth bynnag mae'r gwyddonwyr yn ei ddweud.) Felly, wedi darllen blog fy merch, dechreuais i brofi cysgu wyneb i waered ar fy ngwely pan ddeffrwn i yng nghanol nos. Mae hi'n iawn; dw i'n cael breuddwydion, ond dw i ddim yn medru eu cofio nhw. Pan ddeffrais i'r bore 'ma, fodd bynnag, dwedais i'n uchel (heb feddwl yn glir) beth oeddwn i'n breuddwydio amdano fo. Yna dw i'n dal i gofio beth oedd o. Y cam nesaf ydy ffeindio modd i gael breuddwydion braf.

Saturday, July 28, 2012

o gongl wahanol

Cynhaliwyd Noson Tân Gwyllt flynyddol neithiwr wrth Afon Sumida yn Tokyo. (Es i ar gwch i lawr ar yr afon honno ym mis Mawrth.) Cafodd 20,000 ohonyn nhw eu saethu i fyny a welwyd gan ryw 950,000 o bobl. Yn eu mysg roedd yna 740 o bobl lwcus a welodd y tân gwyllt poblogaidd oddi ar y tŵr talaf yn y byd, sef Tokyo Sky Tree. "Roeddwn i'n teimlo fel taswn i'n hongian yn y gofod. Roedd y tân gwyllt yn anghredadwy o hardd" meddai dynes.

Friday, July 27, 2012

ar gyfer eich traed

Ces i'r chwistrell hon yn anrheg o'r blaen ond heb ei defnyddio tan yn ddiweddar. Cymysgedd o ewcalyptws, te gwyrdd, wermod lwyd ydy'r hylif. Pan fydd gynnoch chi draed poeth a blinedig, dim ond chwistrellu neu ddau ar eich traed sydd angen. Byddwch chi'n teimlo'n dda iawn. Mae'n grasboeth eto heddiw.

Thursday, July 26, 2012

cerdyn amazon

Dw i wrth fy modd efo'r cerdyn credyd hwn. Byddwch chi'n casglu pwyntiau bob tro byddwch chi'n ei ddefnyddio. A bob mis dach chi'n cael siopa ar wefan Amazon yn rhad ac am ddim yn ôl y pwyntiau. Mae'r teulu i gyd yn disgwyl am y diwrnod mawr hwn bob mis. Yna, rhaid cael trefn a phenderfynu pwy sy'n cael y flaenoriaeth. Ffeindiais i gynnau bach bod ein pwyntiau ar gael. Dyma ni'n archebu'n syth bin beth dan ni eisiau, pob un ohonon ni. Hwrê!

Wednesday, July 25, 2012

polenta

Grits ydy o yn America, bwyd mwy poblogaidd yn y De. Mae'r teulu wrth eu boddau efo hwn, ond dw i ddim yn ei baratoi'n ddigon aml. Wedi gwybod bod yna fwyd tebyg yng ngogledd Eidal sy'n ei galw'n polenta, coginiais i grits i swper ddoe (er mai bwyd brecwast ydy grits yn America.) Mae o'n syml a blasus wedi'r cwbl. Fe wnes i ffrio'r gweddill efo darnau o gig moch ar badell ffrio ddiwrnod wedyn i ginio sydyn. Roedd o'n dda hefyd.

Tuesday, July 24, 2012

bwcedi sych

Roedd gen i ddau ddwsel a oedd yn gollwng dŵr. Mae'r gŵr oddi cartref am fis. Dydy Kurt, ein handyman ni ddim yn ateb ei ffôn am ryw reswm. Dw i erioed wedi trwsio dwselau. Dw i ddim yn hoffi dieithryn yn y tŷ'n gwneud y gwaith trwsio. Felly roeddwn i'n gosod bwcedi o dan y dwselau diffygiol i gasglu dŵr a dyfrio'r ardd. Ond roedd y broblem yn gwaethygu; roedd rhaid i mi gael help. O'r diwedd ffeindiais rywun (dw i'n ei nabod) a oedd yn fodlon dod. Hwrê! Mae'r bwcedi'n sych! 

Monday, July 23, 2012

beth sydd wedi digwydd?

Roeddwn i'n bwriadu darllen cyfres gyfan il Commissario Brunetti gan Donna Leon - 21 ohonyn nhw. Er nad ydw i'n cytuno â'i barn bob tro, dw i'n mwynhau dilyn y ditectif arbennig hwn yn ninas Venice. Ond penderfynais i beidio gorffen #15. Wedi darllen mwy na hanner, welais i ddim byd diddorol. Roedd o'n ddiflas a dweud y gwir. Sgrifennodd rhywun arall yn ei lle wrth efelychu ei harddull tra oedd hi ar wyliau? Ffeindiais i rai adolygiad sy'n debyg i fy un i, a dyma roi'r gorau i'r llyfr. Dw i newydd gychwyn #18 gan fy mod i wedi ffeindio #16 a #17 yn ddiflas hefyd. Gobeithio y bydd hwn cystal â'r lleill.

Sunday, July 22, 2012

mynd i "pootling"

Aeth fy merched i pootling efo eu ffrindiau yn Afon Illinois ddoe. Ffrind i'r teulu oedd arweinydd y grŵp ac o Loegr mae o'n dod. Pan glywodd y merched y gair, pootling, dechreuon nhw chwerthin a methu stopio. Wir, mae'r gair yn swnio'n ddoniol dros ben! Maen nhw'n cael hwyl dysgu geiriau Saesneg Seisnig ganddo fo'n aml. 


Wedi meddwl, does dim gair Saesneg Americanaidd addas sy'n disgrifio'r gweithgaredd - cael hwyl yn y dŵr heb nofio o ddifrif. Efallai bod rhaid i ni i gyd ddechrau ei ddefnyddio yn America.

Saturday, July 21, 2012

pry cop yn y bath

Clywais i sgrech un o fy mhlant. Ffeindiodd hi bry cop yn y bath. Roeddwn i erioed wedi gweld un byw ond roedd hi'n sicr mai Brown Reclus oedd o. Roedd ganddi ormod o ofn i'w ladd a gofyn i'r lleill i wneud y gwaith, ond doedd neb yn fodlon. Gan fod eu tad oddi cartref, y fi a wnaeth wrth gwrs! 

Friday, July 20, 2012

arfer

Es i i Reasor's (un o'r ddwy siop y bydda i'n mynd iddi bob wythnos) i wneud y gwaith siopa'r bore 'ma. Gwelais i ddynes arall o Japan sy'n byw yma ers blynyddoedd. Dyma ni'n dechrau siarad yn Japaneg ar unwaith yn cyfnewid ein hanes teuluol diweddaraf. Yna tra oedden ni'n gorffen ein sgwrs sydyn, fedren ni ddim peidio bowio at ein gilydd. Dw i ddim yn gwneud hynny pan siarada' i'n Saesneg (neu yn Gymraeg.) Mae'r arfer hwn yn rhan o'r iaith Japaneg tybiwn i!

Thursday, July 19, 2012

her

"It wouldn't be called a challenge if it was easy," meddai Steve Redmond o Iwerddon wedi nofio dros Gulfor Tsugaru, Japan, ac yn bod yn ddyn cyntaf i nofio dros saith culfor peryglus yn y byd. Mae'n gamp anhygoel, ac yntau yn eu 40au. Fe wnes i a'r gŵr groesi i'r culfor hwnnw ar gwch flynyddoedd yn ôl pan oedden ni'n byw yn Japan. Mae yna dipyn o bellter rhwng y ddau arfordir. Mae'n anodd dychmygu bod rhywun wedi nofio yno. Llongyfarchiadau i Steve!

Wednesday, July 18, 2012

gwaith i fy mab

Mae fy mab ifancaf yn gofalu am gi a chath cymydog am bythefnos. Oherwydd bod gan y ci gyflwr arbennig, rhaid cael tabledi ar amserau penodol. Mae'r perchennog eisiau i fy mab fynd â'i gi am dro am 40 munud bob bore. Ynghyd â phethau bach i wneud o gwmpas y tŷ, mae fy mab yn mynd i'r tŷ pum gwaith bob dydd. Mae o'n hapus am gyfle i ennill pres (i dalu am ei Lego drud!) a dw i'n siŵr bod y cymydog yn hapus hefyd yn gadael ei anifeiliaid anwes mewn dwylo diogel.

Tuesday, July 17, 2012

cystadleuaeth

Cynhaliwyd cystadleuaeth Speed yn y teulu ddoe. Pan gynigiais i ddoler i'r enillydd, dechreuodd y plant chwarae o ddifrif! Wedi gemau caled, y fi a enillodd gan guro fy mab! Maen nhw eisiau cystadleuaeth arall heddiw. Gawn ni weld.

Monday, July 16, 2012

ffan newydd

Dw i'n trio cadw'r tymheredd yn y tŷ braidd yn uwch yn ystod yr haf - tua 83F/28C, ond mae'r plant yn cwyno. Mae gynnon ni hen ffan drydan fach hefyd ond dydy hi ddim yn effeithiol ac mae hi'n swnllyd. Wrth i mi siopa yn Wal-Mart y bore 'ma, gwelais i nifer o ffannau ar werth. Ces i ffansi ar un ohonyn nhw sy'n creu gwynt heb lawer o sŵn. Dyma benderfynu ei phrynu. Mae hi'n gweithio'n dda. Does dim rhaid gostwng y tymheredd yn y tŷ cymaint.

Sunday, July 15, 2012

priodas wrth lyn

Roedd priodas wrth lyn gyda'r nos. Es i ynghyd â'r bobl eraill i fendithio'r cwpl ifanc. Roedd hi wedi bod yn ofnadwy o boeth, ond cawson ni dywydd braf ddoe. Rhoddodd yr awyr ffres awyrgylch arbennig i'r seremoni syml a dirodres felly. Baswn i fod wedi mwynhau fy hun yn fawr pe na bai yno chiggers ar y tir! (Yn ffodus ces i mo fy mhigo.)

Saturday, July 14, 2012

gadael y gogledd

Mae'r gŵr newydd adael Ishinomaki, Japan lle'r oedd o'n treulio wythnos. Daeth o'n ffrindiau da efo teulu lleol ers iddo fynd yno'r llynedd. Efo nhw roedd o'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn ogystal â helpu llnai tai sydd yn dal mewn cyflwr gwael. Mae nifer o'r gwirfoddolwyr yn lleihau bellach wedi blwyddyn ers y trychineb; mae'r llywodraeth yn araf yn gweithredu o'r dechrau. Bydd yn cymryd blynyddoedd cyn i'r ardal gyfan gael ei hatgyweirio.

Friday, July 13, 2012

map annefnyddadwy

Mae map o dref Venice yn hynod o ddefnyddiol wrth ddarllen nofelau Donna Leon. Mae'n eich helpu i ddilyn y cymeriadau yn y storiau. (Mae gen i un a brynais ar ôl dechrau'r gyfres ym mis Mai.) Dw i newydd gael benthyg y13eg nofel gan y llyfrgell. Mae yna fap da o'r dref tu ôl y clawr. Gallai fo'n handi iawn oni bai bod y sticer a'r tâp yn ei guddio! 

Thursday, July 12, 2012

salsa!

Mae gen i ffrind sydd gan ardd enfawr; mae hi'n tyfu amrywiaeth o lysiau ar ei thir helaeth. Cafodd fy nwy ferch wers gwneud Salsa ganddi hi wrth ddefnyddio ei llysiau ffres. Mae'n ofnadwy o flasus! Cawson ni fasil a thomatos ffres hefyd. Dwedodd hi am ddod i gasglu ei llysiau pryd bynnag mynnwn ni. Baswn i'n hoffi mynd pe baen ni'n byw yn agosach.

Wednesday, July 11, 2012

diwedd hapus

Cnociodd cymdoges ar y drws a gofyn ydw i wedi colli ci. Does gynnon ni gi ers blynyddoedd. Ffeindiodd hi German Shepherd bach, neu aeth o ati hi. Ac mae hi'n mynd o gwmpas y gymdogaeth hon i chwilio am y perchennog ers wythnos. Mae gynni hi German Shepherd ei hun; ai dyna pam mae'r ci druan wedi mynd ati, tybed?


Roeddwn i'n cerdded wrth ymyl ei thŷ neithiwr, a dyma hi'n dod ata i'n dweud bod y ci bach wedi mynd adref o'r diwedd; daeth y perchennog ati i'w nôl. (Anghofiais i ofyn iddi ydy hi wedi gosod pwt yn y papur lleol.) Maen nhw'n byw'n gymharol bell - mwy na milltir i ffwrdd a thros y ffordd osgoi beryglus. Falch iawn o glywed y diwedd hapus.

Tuesday, July 10, 2012

mae fy mam yn cofio

Gwelais i hen ffilm ar You Tube wythnosau'n ôl - Summertime, ffilm a oedd yn lleoli yn Venice. Mwynheais i hi'n fawr iawn oherwydd golygfeydd ardderchog y ddinas. Gan fod fy mam yn arfer mynd i sinema i weld ffilmiau o dramor yn aml pan oedd hi'n ifanc, gofynnais i ydy hi wedi ei gweld erioed. Ydy! Ac mae hi'n dal i gofio pa mor hardd oedd Venice. Honno oedd y ffilm a welodd hi efo fy nhad am y tro cyntaf dros hanner canrif yn ôl! 

Monday, July 9, 2012

tai ystlumod

Clywais i fod dinas Milano'n bwriadu gosod 2,000 o dai ystlumod er mwyn datrys problem fosgitos yno. Byddwn i'n hoffi cael dwsinau o ystlumod o gwmpas ein tŷ ni hefyd. Mae gynnon ni broblem ofnadwy. Bydden ni'n cael ein hymosod ganddyn nhw eiliadau ar ôl camu allan o'r tŷ. Feiddia i ddim eistedd ar y dec yn mwynhau'r awyr iach. Ar y llaw arall dw i newydd ffeindio bod angen glanhau tai ystlumod yn rheolaidd. Efallai fy mod i ddim eisiau un wedi'r cwbl; mae tri mochyn cwta'n ddigon.

Sunday, July 8, 2012

mae'n boeth!

Dan ni heb law ers wythnosau. Mae'n boeth ac mae popeth yn sych ym mhob man. Truan o'r creaduriaid gwyllt. Dw i wedi gosod dwy ddysgl yn yr ardd efo dŵr. Mae'r tymor glaw yn dal am sbel yn Japan (y llun.) Byddwn i eisiau rhan o'r glaw yno. Yn ôl rhagolygon y tywydd bydden ni'n cael tymheredd is yr wythnos 'ma (90au.) Gobeithio bod nhw'n iawn.

Saturday, July 7, 2012

awyren corea

Mae'r gŵr newydd gyrraedd Japan. Cawson ni sgwrs drwy Skype pan ddeffrodd o yn y gwesty am 2 o'r gloch yn y bore! Hedfanodd ar Awyren Corea. Dwedodd fod o'n cael y gwasanaeth gorau. Roedd y criw clên hyd yn oed yn ei helpu efo'r Coreeg mae o wrthi.

Friday, July 6, 2012

jell-o

Mae ci cymydog fy merch hynaf yn hoff iawn ohoni hi, ac mae o'n gwasgu drwy fwlch y ffens a dod i'w gardd yn aml. Dydy'r cymydog ddim yn gofalu am ei gi'n iawn. Clywodd fy merch gyfarth druenus y bore 'ma, a dyma fo'n hollol sownd yn y bwlch gerfydd ei ben! Rhyddhaodd hi fo'n llwyddiannus, ond truan ohono fo; mae o'n benderfynol o ddod i ardd fy merch. Jell-o mae fy merch wedi ei enwi.

Thursday, July 5, 2012

wedi'r tân gwyllt

Dw i a fy mab ifancaf wedi goroesi tân gwyllt y cymdogion neithiwr. Ac mae'r gweddill o'r teulu i ffwrdd - mae'r ddwy ferch yn New Orleans ers dydd Sadwrn diwethaf, mae'r gŵr newydd adael am Japan. Es i â'r mab i Wal-Mart y bore 'ma iddo brynu Lego (Lord of the Rings.) Cafodd y darn o'i gacen ben-blwydd a gadwyd yn y rhewgell. Dan ni'n mynd i gael pitsa am swper heno. Ei ben-blwydd go iawn ydy hi heddiw wedi'r cwbl.

Wednesday, July 4, 2012

pen-blwydd hapus i'r unol daleithiau!



Mae gan y wlad fawr gynifer o broblemau sy'n cynyddu'n ddifrifol. Gobeithio y bydd y genedl gyfan yn deffro a ffeindio'r ffordd allan o'r traed moch.

Tuesday, July 3, 2012

pwll

Weithiau mae gair neu ddau'n dod at fy nghof yn sydyn heb unrhyw reswm esboniadol. Tra oeddwn i'n darllen ar y we gynnau bach, roeddwn i'n cofio'r gair hwn, vandpyt a glywais i mwy na chwarter canrif yn ôl. Gair Daneg ydy hwn sy'n golygi "pwll." 


Gwraig is lywydd y cwmni Danaidd a ddysgodd y gair i mi wrthon ni a'r lleill yn cerdded ar stryd yn Kyoto. Wedi dod at bwll, dechreuodd hi, dynes glên, ddysgu'r gair i mi nes i mi fedru dweud yn iawn. Dw i ddim yn cofio bron dim byd arall a ddysgais yn y llyfr Daneg, ond am ryw reswm neu beidio dw i'n cofio vandpyt yn dda.

Monday, July 2, 2012

ci da

Aeth hen ddynes ar goll gyda'r hwyr yn Japan. Wedi cael galwad ffôn gan y teulu, dechreuodd yr heddlu chwilio amdani hi gyda chymorth Laura, ci'r heddlu. Gwyntiodd Laura obennydd y ddynes a ffwrdd â hi. Ar ôl awr a hanner, stopiodd Laura wrth gae'n syllu arno. A dyma'r ddynes yn gorwedd ynddo ond yn fyw ac yn iach. Gobeithio bod Laura wedi cael asgwrn mawr yn wobr!

Sunday, July 1, 2012

coed tân

Cyflogodd y gŵr fyfyrwr optometreg i dorri coed tân. Daeth o ddoe a gweithio am oriau ar y fath dywydd. (100F/38C +-) Mae yna bentwr mawr yn ymyl ein tŷ ni, a rŵan fy mab ifancaf sy'n gorfod eu pentyrru ar resel. Bydd gynnon ni ddigon o goed tân am y gaeaf nesaf.