Thursday, February 28, 2013

jack bara caws

Cafodd ei ethol yn gynghorydd yn Aberteifi fisoedd yn ôl. Fo ydy'r Japaneaidd cyntaf erioed i fod yn wleidydd yn y DU. Akira Shimazaki ydy ei enw a gelwir yn Jack Bara Caws gan y bobl leol. Mae o'n teimlo'n ddwfn caredigrwydd y bobl a roddwyd iddo dros flynyddoedd ac eisiau gweithio'n galed drostyn nhw.

Wednesday, February 27, 2013

ffa coffi

Does gen i ddim peiriant malu ffa coffi. (Ddim yn arbenigwr coffi dw i!) Prynais i fag o goffi ar sêl ddyddiau'n ôl a sylweddoli wedyn mai ffa cyfan oedden nhw. Roeddwn i'n bwriadu eu cyfnewid efo rhai wedi'u malu ond cofio bod yna peiriant yn y siop. Dyma fynd â'r bag pan es i siopa'r bore 'ma a defnyddio'r peiriant am y tro cyntaf. Hwrê! Roedd y coffi'n arogleuo'n hyfryd. Dw i'n mynd i wneud hynny pob tro o hyn ymlaen.

Tuesday, February 26, 2013

ci ffyddlon

Mae cŵn yn ffyddlon ym mhob gwlad. Darllenais am y ci hwn yn yr Eidal, diolch i Idris am yrru'r erthygl ata i. Mae'r ci'n fendith i'r trigolion; gobeithio ei fod o'n cael cysur ganddyn nhw hefyd wedi colli'i feistres.

Monday, February 25, 2013

ffarwel i'r cardiau

Heddiw cawson ni wared ar y cardiau Nadolig a oedd yn hongian ar y wal. Eithaf hwyr ond mae hi'n anodd dweud ffarwel wrth y cardiau bob blwyddyn. Dw i'n cadw rhai, fodd bynnag, gan: Antwn, Linda, hen ddynes yn Japan a oedd yn byw'n agos aton ni, fy merch hynaf (cynlluniwyd ganddi hi ei hun.) Mae'n lawog trwy'r dydd yn ôl rhagolygon y tywydd.

Sunday, February 24, 2013

i'r elyrch

Llongyfarchiadau mawr i'r Elyrch am y fuddugoliaeth! Hyfryd gweld y Gwpan i ddod i Gymru. Tro Caerdydd bydd nesaf!

Saturday, February 23, 2013

rowndabowt yn japan

Un peth a roddodd fraw i mi tra oeddwn i yng nghar fy ffrind neu ar y bws yng Nghymru oedd rowndabowt. Doedd gen i ddim syniad beth oedd beth a phwy sydd gan y flaenoriaeth. Wrth gwrs mai peth cyffredin ydy hwn yn Ewrop ac mae 'na rai yn America hefyd (dw i erioed wedi gweld un eto.)

Mae yna ddeg ohonyn nhw yn Japan ar y cyfan, ac mae un groesffordd newydd gael ei adnewyddu'n rowndabowt am y tro cyntaf erioed. Mae'r cefnogwyr yn llawn clod; dw i'n cytuno yn y bôn, ac eto mae gen i ofn pan feddylia' i am y rheol.

Friday, February 22, 2013

prynu cinio

Mae'n heulog ond oer heddiw. Roedd y gŵr eisiau i mi nôl cinio sydyn gan siop ger ei swyddfa. Cerddais drwy'r maes parcio i'r adeilad ond roedd hi ar gau. Chychwynnais tuag at un arall yng nghanolfan myfyrwyr; roedd hi ar gau hefyd, a dweud y gwir doedd hi ddim ar agor eto (am 10:30.) Penderfynais i gerdded i'r stryd fawr at siop coffi. Yna, prynodd frechdan gig a chawl cartref. Cerddais i'n ôl at yr Ysgol Optometreg wrth gario'r pecyn. Roedd yn ofnadwy o oer. Fedra i ddim cwyno oherwydd mai rhan o fy ngwaith oedd hynny.

Thursday, February 21, 2013

ddim yn para'n hir

Stopiodd yr eira am hanner dydd ddoe a dechrau toddi'n gyflym. Trodd yn law wedyn a does fawr ar ôl bellach. Dim siawns am iglw arall. Roedd yna fellt y bore 'ma a chollon ni drydan. Roeddwn i mewn hanner tywyllwch am ryw awr nes i'r cwmni trydan ddod. Mor ddiolchgar oeddwn i pan drodd y trydan ymlaen a ches i olau a gwres yn ôl.

Wednesday, February 20, 2013

daeth yr eira

Yr eira go iawn o'r diwedd. Dechreuodd bwrw'r bore 'ma ac mewn dwy awr mae popeth wedi cael ei orchuddio gan liain gwyn. Roedd rhaid gyrru'n araf ar y ffordd beryglus. Mae'n llawer goleuach yn y tŷ oherwydd adlewyrchu'r eira. Bydd yr ysgolion yn gorffen am hanner dydd.

Tuesday, February 19, 2013

mae plentyn yn gwybod

Mae fy mab ifancaf yn hoffi chwarae Play Staion - gemau pêl-droed, Lord of the Rings fel arfer. Lego oedd ei ddewis ddoe. Dwedodd yn sydyn fod o ddim yn medru. 
"Ddim yn medru beth?" gofynnais i.
"Dw i ddim yn medru cyrraedd yr un ffigurau â'r ddyled genedlaethol." 
4,000,000 ydy'r pwyntiau mwyaf dach chi'n cael eu hennill yn y gêm honna. Does dim siawns i gyrraedd 16,500,000,000,000! 

Monday, February 18, 2013

fenis yma ac acw

Dw i newydd gael gwybod crewyd Fenis yng Ngwlad Thai. Wrth gwrs bod yna westy moethus ar ôl Fenis yn Las Vegas hefyd. Ces i sioc i weld y lluniau, yn enwedig hwn o Bont Rialto efo ceir yn rhedeg o dani hi. Efallai bod yna ddigon o bobl yn mwynhau mynd i'r llefydd felly sydd yn debyg i'r gwreiddiol, ond chewch chi ddim creu'r hanes sydd yn tu ôl i bopeth. (Dw i'n gwybod bod gan y perchenogion amcan penodol.) Yn fy nhyb i, fodd bynnag, y hanes sydd yn y bôn ac yn hollol bwysig; hebddo fo, does dim apêl.

Sunday, February 17, 2013

llo ar y ffordd


Ar fy ffordd i'r eglwys fe welais i anifail mawr yng nghanol y stryd y bore 'ma. Beth oedd ond llo a ddihangodd oddi wrth y cae cyfagos! Roedd yn ddu a gwyn ac yn ofnadwy o ddel. Dyma stopio'r car a thynnu llun ohono fo. (Symudodd i'r ochr wedi gweld car.)  Dwedais i wrth ffrind i mi sydd biau'r llo a'r cae. Clywodd am y llo dihangedig a gyrru rhywun i'w nôl yn barod. Roedd fy mhlant yn y car wrth eu boddau'n gweld llo rhydd yn annisgwyl.

Saturday, February 16, 2013

sms

Doeddwn i bron byth yn defnyddio SMS ar fy ffôn oherwydd ei fod o'n rhy gymhleth i mi. (Mae'r plant yn cytuno bod fy un i'n fwy cymhleth nag eu rhai nhw, cofiwch!) Llwyddais deipio "OK" yn ateb neges neu ddwy a anfonwyd ata i rhywsut ond doedd gen i ddim syniad sut i yrru un newydd hyd at ddoe. Penderfynais i ddysgu'r cyfarwyddiadau a cheisio anfon un gair at y gŵr sydd yn Kansas City ar hyn o bryd. Wps! Anfonwyd y neges at y teulu i gyd gan gynnwys fy nhad-yng-nghyfraith yn Hawaii !

Friday, February 15, 2013

camera newydd

Toesen? Na, camera ydy o! Ond mae o'n wir edrych fel toesen a hefo siocled ar un ochr hyd yn oed. Dywedir mai teimlo fel toesen mae o. Mae ganddo dechnoleg flaengar wrth gwrs. Mae yna gamerau eraill wedi'u gwneud ar ôl bwyd, ond tybiwn i mai'r twll a ysbrydolodd y cynllunydd.

Thursday, February 14, 2013

seremoni briodas yn mira

Wrth i mi chwilio am fwy o glipiau ar y maer ifanc, ffeindiais i hwn; roedd seremoni briodas sifil ar gyfer cwpl o Japan yn nhref Mira ac Alvise Maniero, y maer a weinyddu. Mae rhai o gwplau Japaneaidd wrth eu boddau cael seremoniau priodas tramor - mewn llefydd ffasiynol fel Fenis (yr ynys) ond pam Mira? Fedra i ddim meddwl unrhyw reswm ond y maer ifanc. Mae o'n edrych yn ifancach na'r cwpl gyda llaw!

Wednesday, February 13, 2013

maer ifanc

Mae gan dref Mira (gogledd Eidal) faer ifanc ers blwyddyn. 26 oed ydy o ac mae o'n dal yn astudio'r wleidyddiaeth yn y brifysgol. Wedi curo chwech arall llawer hŷn na fo ei hun, mae o wrthi'n taclo problemau'r dref.  Dw i ddim yn gwybod digon am ei bolisi i farnu dim, ond mae'n braf gweld pobl ifanc yn cymryd rhan yn awyddus ym mhethau pwysig. 

Tuesday, February 12, 2013

mac ar yr arddwrn

Efallai bydd o'n boblogaidd fel y lleill, ond ddim cymaint efallai. Mae'r sgrin yn fach fach ac oherwydd y cewch ddefnyddio ond un llaw i deipio, tybed a fydd yn eithaf anghyfleus? Mae gan Apple syniad da beth bynnag hyd yn oed ar ôl colli Steve Jobs. Neu tybed ydy o wedi gadael rhyw gynllun neu ddau?

Monday, February 11, 2013

ffigurau ar y sgrin

Mae'r gŵr eisiau i mi dynnu ffigurau ar y cyfrifiadur ar gyfer yr erthygl mae o'n ei sgrifennu. Dw i'n siŵr bod hyn yn waith hawdd i rywun sydd yn gyfarwydd â phethau felly, ond ddim i mi. Treuliais ddwy awr y bore 'ma yn ceisio creu peth ofnadwy o syml ond roeddwn i'n drysu'n llwyr. Fedrwn i ddim gwneud peth mwyaf syml heb ofyn i'r gŵr am gymorth tro ar ôl tro. Ar ben hynny, byddwn i'n anghofio popeth cyn gynted ag oeddwn i'n ei ddysgu. Dyma'r canlyniad (y gŵr a wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith.) Rhaid dysgu'r sgil.

Sunday, February 10, 2013

falchder a rhagfarn

Dw i wedi bod yn gwylio Pride and Prejudice yn Eidaleg ar You Tube, un bennod ar y tro. Gan fy mod i wedi gwylio'r fersiwn gwreiddiol (1995) tro ar ôl tro, dw i'n gwybod yn barod beth mae'r cymeriadau'n ei ddweud. Mae hyn yn help mawr i mi. Mae llais Eidaleg Mrs. Bennet yn rhyfeddol o debyg i Alison Steadman. Mae Lizzy, Mr. Darcy a Mr. Collins yn weddol, ond o ran Mr. Bingley a Lydia .... o wel. Dw i'n cael hwyl gwylio'r hen ffilm braf unwaith eto a dysgu Eidaleg yr un pryd beth bynnag.

Saturday, February 9, 2013

san simeone piccolo? na!

Feiddiwn i ddim sarhau un o'r eglwysi enwog yn Fenis, ond fedrwn i ddim peidio meddwl amdano fo pan welais y tanc dŵr hwn ar fy ffwrdd i dŷ ffrind y bore 'ma! (Mae ei dir wrth ei ymyl.)

Friday, February 8, 2013

stamp y cawr addfwyn

Falch iawn o glywed bydd wyneb y Cawr Addfwyn, sef John Charles ar stamp newydd y Post Brenhinol. Dyn mawr, cryf a chwaraewr pêl-droed eithriadol ac eto addfwyn a gostyngedig ar yr un pryd - mae gen i lawer o edmygedd tuag ato fo ers darllen ei hunan gofiant. (Dysgodd Eidaleg hefyd!) Byddai fo fod wedi dal yn llwyddiannus yn hirach pe na bai wedi gadael Juventus ..... ond "hindsight is 20/20" wrth gwrs.

Thursday, February 7, 2013

ikea japan

Mae fy merch hynaf yn hoff iawn o IKEA. Dydy hi ddim yn meindio gyrru am oriau i fynd i'r siop agosaf er mwyn prynu dodrefn ffasiynol a syml sydd yn rhesymol ar yr un pryd. Clywais i fod IKEA Japan yn trefnu ystafell fodel mewn hen fflat yn Yokohama. Crewyd congl glyd i'r plant drwy gymryd mantais ar y trawstiau lletchwith (efo cymorth eu dodrefn parod a lliwgar wrth gwrs.) Gan fod y tai yn Japan yn fach, rhaid bod IKEA yn boblogaidd yna.

Wednesday, February 6, 2013

dillad isaf i dafydd 2

Darllenais i erthygl am y cerflun a sgrifennais i amdano (mae yna gerflun o Fenws hefyd) mewn papur newydd o'r Eidal ar lein y bore 'ma. Gobeithio nad ydy'r cerflunydd yn teimlo ei fod o wedi cael ei sarhau. Dim o gwbl; dim ond gwahaniaeth yn y diwylliannau ydy hyn. Gobeithio yr eith popeth yn iawn yn y diwedd.

Tuesday, February 5, 2013

dillad isaf i dafydd

Pe bai'r cerflun wedi cael ei osod mewn dinas fawr, efallai byddai fo wedi cael ei dderbyn gan y cyhoedd. Ond mae o'n rhy letchwith i ddiwylliant cefn gwlad, a fedra i ddim eu beio nhw; byddwn i'n teimlo'n debyg o flaen cerflun felly. Comisiynwyd cerflun ar ôl Dafydd gan Michelangelo i gerflunydd enwog o'r Eidal. Cyflwynwyd y cerflun i dref fach yng ngorllewin Japan. Ond dydy rhai trigolion ddim yn fodlon a chwyno bod o ddim yn addas yn y parc i'r plant. Gofynnodd rhai am roi dillad isaf i Dafydd.

Monday, February 4, 2013

tebyg i ...

Roeddwn i'n ceisio sganio llun ar y peiriant copio'r bore 'ma. Dilynais i'r cyfarwyddiadau ond rhywsut nei gilydd na chafodd y llun ei yrru. Gofynnais un o'r staff am gymorth ac roedd hi'n glên. Edrychais i arni ddwywaith. Roedd hi'n debyg i .... Donna Leon! - yr awdures a sgrifennodd Cyfres Commissario Brunetti; ei wyneb, ei naws, ei llais. (Mae'r ddynes yn ei 40au, felly ddweda' i ddim bod hi'n edrych fel awdures 70 oed!)

Sunday, February 3, 2013

aderyn yn ytŷ

Daeth aderyn bach i mewn yn sydyn pan agorwyd y drws blaen neithiwr. Roedd o'n hedfan yma ac acw. Diffoddon ni'r goleuadau yn y tŷ a gadael y drws ar agor, ond roedd o fel roedd o'n methu gweld yr allanfa o gwbl. Ar ôl hanner awr, llwyddon ni ei ddal mewn blwch a mynd â fo allan. Roeddwn i'n gorfod hwfro'r stafelloedd i gyd.

Saturday, February 2, 2013

samurai seisnig

Mae ddrama ddwyieithog ar lwyfan yn Llundain ar hyn o bryd o'r enw Anjin. Mae hi'n seiliedig ar hanes y Sais a aeth i Japan am y tro cyntaf erioed a mynd yn samurai (am y tro cyntaf fel gorllewinwr hefyd.) Hanes diddorol dros hen ydy o. Roedd y ffilm enwog, sef Shogun yn seiliedig arno fo hefyd. Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod Ieyasu, y Shogun cyntaf yn ddyn blaengar.

Friday, February 1, 2013

wedi blino ond fodlon

Dw i wedi bod yn cerdded llawer yn fy ngwaith wrth nôl hwn a'r llall yn Ysgol Optometreg ac weithiau tu allan i'r adeilad. Dw i'n fodlon achos fy mod i'n cael ymarfer corff heb wneud ymdrech. Rhaid i mi fynd yn gyfarwydd â defnyddio Excel (a chofio enwau'r staff!) Cyfle da i mi beth bynnag. Pan barciais i'r car un diwrnod yn y brifysgol, fe welais Ford Focus arian arall, a dyma dynnu llun.