Tuesday, April 30, 2013

golwg enwog

Roeddwn i'n darganfod y cerdyn post hwn ymysg y rhai a roddwyd gan fy mam flynyddoedd yn ôl (Cafodd hi'r rhain gan ffrind) - golwg enwog o Eglwys San Giorgio Maggiore yn Fenis efo gondola neu ddwy yn y blaen. Paentiwyd efo pensil a dyfrlliw ysgafn. Nodwyd bod yr artist wedi cael amser braf yn Ewrop efo 20 o ffrindiau yn 1995. Mae'r cerdyn hyfryd ar y wal wrth ochr y ddesg bellach.

Monday, April 29, 2013

wy aur

Roeddwn i'n bwriadu darllen y nofel newydd hwn gan Donna Leon ond yn gobeithio cael benthyg copi gan y llyfrgell. Wedi gwirio gwefan y llyfrgell yn aml ers i'r nofel gael ei argraffu ddiwedd mis Mawrth, dw i newydd ffeindio dau gopi yn rhwydwaith llyfrgelloedd gogledd-ddwyrain Oklahoma! Dyma ofyn am un yn syth. Dw i ddim yn gwybod pryd doith o; mae'n dibynnu ar le mae'r llyfrgell sydd gan y copi. 

Sunday, April 28, 2013

stori fer

Mae fy nhrydedd ferch yn hoff iawn o sgrifennu storiâu; mae hi eisiau bod yn awdures o ddifrif. (Cafodd air o gyngor gan y diweddar T.Llew!) Wedi cychwyn yn y brifysgol y llynedd, mae hi'n mynd i ddosbarth sgrifennu ac wrthi'n gwneud ei gwaith cartref yn gyson. Mewn rhyw awr rhaid gorffen stori fer (30 dudalen) mae hi'n gweithio arni ddydd a nos ers dyddiau. Gawn ni weld sut bydd y dywysoges yn achub ei theyrnas.

Saturday, April 27, 2013

y gêm olaf

Chwaraewyd gêm olaf y tymor. Collon ni 12 - 0 ond roedd yr hogiau'n ceisio'n galed heb roi'r gorau iddi. Roedden nhw'n gwneud yn dda yn ystyried bod nhw'n llawer ifancach na phawb arall. Roedd y cae'n wlyb a mwdlyd dros ben wedi tywydd mawr; hunllef i'r mamau i gyd!

Friday, April 26, 2013

rysait newydd (ac hawdd)

Dw i wedi blino ar fy nghoginio. Penderfynais chwilio am ryseitiau newydd ar y we. Wrth gwrs bod well iddyn nhw hawdd neu na wna' i byth eu defnyddio. Mae'n anhygoel gweld cynifer ohonyn nhw dim ond teipio'r geiriau. Dewisais un neu ddau ac maen nhw wedi profi'n llwyddiannus. Dyma un - chicken & biscuits. Roedd yn flasus, mwy blasus efallai achos fy mod i'n defnyddio cyw iâr ffres wedi'i ffrio yn lle tun ohono fo. 

Thursday, April 25, 2013

hysbysfwrdd

Sgen i ddim syniad beth ydy "billboard" yn Gymraeg, felly mi alwa' i'n hysbysfwrdd am y tro. Mae fy merch hynaf wedi bod yn gwirfoddoli dros Heddlu Dinas Norman yn frwd ers misoedd yn cynllunio a dylunio amrywiaeth o bethau. Un diweddaraf ydy hwn - hysbysfwrdd i recriwtio heddweision. Mae o newydd gael ei godi yn y ddinas (mewn lle braidd yn anhysbys yn anffodus oherwydd diffyg cyllid mae'n amlwg.) Mae o yno fodd bynnag ac mae fy merch wrth ei bodd.

Wednesday, April 24, 2013

iard heb laswellt

Mae fy merch hynaf a'i gŵr wrthi'n creu iard heb laswellt. Gosodir graean neu frics yn ei le. Mae'n ymddangos bod hynny'n boblogaidd yn ddiweddar; mae'n debyg i iard Japaneaidd. Syniad da! Byddwn i eisiau iard dwt heb angen torri lawnt arni hi. Mae'n hynod o drafferthus torri'r lawnt bob wythnos yn ystod yr haf er dim fi sydd yn gwneud y gwaith ond y mab ifancaf druan. Dw i'n siŵr bydd o'n cytuno â fi!

Tuesday, April 23, 2013

cwis teledu

Ces i gip ar y rhaglen ar You Tube wedi darllen y newyddion - University Challenge. Mae'n ymddangos yn rhaglen werthfawr, llawer gwell na rhai bydd y bobl yn ymddwyn yn hurt ynddyn nhw. Mae'r myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddangos yn rhannol canlyniadau eu hastudiaeth mewn modd hwyl - Uwch Gynghrair Lloegr ar Sedd efallai, ond heb berygl i gael eich brathu gan chwaraewr gwallgof! Tipyn o siom ydy dim ond un sydd yn dod o Gymru yn nhîm Bangor.

Monday, April 22, 2013

cacen gyrens duon

Gan fod teulu'r gweinidog i gyd i ffwrdd ar gyfer y briodas, penderfynwyd byddai'r gwasanaeth boreol dipyn yn wahanol. Cymysgedd o wasanaeth, astudio'r Beibl a chymdeithasu oedd o. Aelod sydd yn dod o'r Lloegr a arweiniodd popeth. Cawson ni amrywiaeth o "myffins" a chacennau i fynd efo coffi a the wrth i ni wrando arno fo. Braf iawn! Ymysg y dysglau ar y bwrdd, gwelais gacen gyrens duon hyfryd. Roeddwn i'n gwybod yn syth mai gwraig yr arweinydd a wnaeth; pwy arall  yn y dref hon byddai'n defnyddio cyrens duon mewn cacen? Roedd yn arbennig o dda! Ces i ddwy dafell arall i fynd â nhw adref. 

Sunday, April 21, 2013

priodas


Daeth y teulu'n ôl yn ddiogel cyn hanner nos neithiwr. Roedd y briodas yn braf yn ôl pob sôn. Ail fab ein gweinidog ni a briododd. Roeddwn i a'r teulu'n ei nabod o ers blynyddoedd. Dyma lun o'r cwpl hapus.

Saturday, April 20, 2013

i kansas city

Heddiw mae'r teulu i gyd, ar wahân i fi a'r mab ifancaf sydd ar daith fer efo'r ysgol, wedi mynd i seremoni briodas yn Kansas City. Cymrith rhyw chwe awr, felly gadawon nhw am 8:30 i gyrraedd y lle mewn pryd. Daeth y mab hynaf adref neithiwr wedi gyrru dros bedair awr er mwyn bod yn bresennol yn seremoni ffrind ei blentyndod. Gan fydd hi'n dechrau am 4 a chinio priodas wedyn, bydd y teulu'n gadael chwap ar ôl y seremoni er mwyn dod adref cyn hanner nos. Gofynnais i fy merch dynnu lluniau efo fy nghamera; gobeithio dangos un neu ddau yfory.

Friday, April 19, 2013

gwaith gardio (prin)

Mae tymor gellysg wedi dod. Mae'n rhai ni'n dod yn ôl bob blwyddyn yn ffyddlon ond maen nhw yn cael ei hanner goresgyn gan eiddew ers tro; rhaid cyfaddef nad ydw i'n hoff o ardio. Wedi cael diwrnod oer a gwlyb ddoe eto (efallai am y tro olaf nes yr hydref,) penderfynais i achub y gellysg druan y bore 'ma. Roeddwn i wrthi am ryw awr cyn i'r tywydd dwymo a thra oedd y tir yn llaith. Doedd dim gwybed chwaith yn ffodus. Dw i'n teimlo'n hollol fodlon wrth weld y canlyniad (er bod fy nghefn yn brifo!)

Thursday, April 18, 2013

o alasca

Ail-agorwyd tŷ bwyta ddoe yn y dref yn Japan a gafodd ei dinistrio gan y tsunami ddwy flynedd yn ôl. Cafodd y fflôt pysgota a oedd yn arwydd y siop, ei ddarganfod gan bâr yn Alasca a chael ei yrru'n ôl at y perchennog. Doedd ganddi fymryn o obaith i ailagor y siop ar y pryd, ond mae hi'n ddiolchgar iawn o gael gwneud efo cymorth a chefnogaeth gan nifer o bobl tu mewn a tu allan o Japan.

Wednesday, April 17, 2013

stamp newydd

Codwyd prisiau'r stampiau eto ddechrau'r flwyddyn hon. Roeddwn i'n defnyddio'r hen stampiau sydd gynnon ni ar gyfer y post rhyngwladol gan ychwanegu rhai. Heddiw am y tro cyntaf prynais stampiau newydd. Ces i fy synnu'n gweld y cynllun - maen nhw'n grwn!  Rhywbeth bach ond hollol wahanol. Syniad da.

Tuesday, April 16, 2013

coed ceirios yn corea

Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod yna gymaint o goed ceirios yn Corea hefyd ac mae ganddyn nhw weithgaredd tebyg i Japan, sef hanami - cael picnic o dan ganghennau blodeuog coed ceirios. Mae hi wedi bod yn ofnadwy o oer yn Corea; dwedodd fy merch yno fod hi'n gwisgo ei chot drom ers saith mis. Ac eto mae'r bobl yn awyddus i fynd allan i fwynhau'r blodau. Daeth hithau â'r plant yn ei dosbarth i hanami.

Monday, April 15, 2013

dsek

Roeddwn i wrthi'n gwneud darluniau eraill ar y cyfrifiadur. Disgrifiad syml o DSEK (llawdriniaeth ar y llygaid) oedd y pwnc. Er mwyn darlunio, roedd rhaid darllen am y llawdriniaeth a deall sut mae hi'n cael ei gwneud. Diolch i'r holl waith, dw i'n gwybod yn y bôn rŵan beth ydy DSEKMae'n anhygoel beth sydd yn bosib yn y maes ddyddiau hyn.


Sunday, April 14, 2013

hufen iâ i'r ci

Mae fy merch yn gweithio'n rhan amser mewn siop hufen iâ ers misoedd. Mae hi'n gweini llawer o gwsmeriaid gan gynnwys rhai sydd yn dod yn gyson. Mae un ohonyn nhw, dynes ganol oed, yn prynu hufen iâ iddi ei hun, i'w gŵr ac i'w ci bob tro. Dydy hi ddim yn dod â'r ci i'r siop, felly dw i ddim yn gwybod pa mor hoff o hufen iâ mae o. Rhaid ei fod o, neu na fyddai hi'n dal i brynu'r trît melys oer iddo fo.

Saturday, April 13, 2013

poen yn y sodlau

Mae fy mab ifancaf wedi bod yn cwyno bod ei sodlau'n brifo pan mae o'n chwarae pêl-droed. Na chafodd ddamwain. Roeddwn i ar fin mynd â fo at y meddyg ond penderfynais weld oes yna rywbeth ar y we. Dim ond teipiais "my son who plays soccer has pains in his heels..." a dyma fo! Mae yna gwestiwn tebyg iawn gan fam arall ac ateb gan feddyg chwaraeon. Mae'n ymddangos bod y cyflwr yn gyffredin ymysg plant yn eu harddegau cynnar. Mae'r mab wrthi'n gwneud "stretch" bob dydd bellach. Gobeithio bydd hyn yn helpu.

Friday, April 12, 2013

fy ffefryn newydd

Il Volo - tri hogyn ifanc efo lleisiau anhygoel oedd fy ffefryn am gyfnod (dw i'n dal i'w licio.) A rŵan ar yr artist hwn dw i'n gwirioni. Dim yn canu efo ei lais mae o, ond mae o'n canu'r acordion. Doeddwn i erioed wedi ymddiddori yn yr offeryn cerddorol hwnnw a dweud y gwir, ond mae'n hyfryd. Mae'n rhyfeddol gweld sut mae o'n medru chwarae alawon amrywiol efo ei sgil campus. Dw i wedi gweld bellach bod yna nifer mawr o chwaraewyr acordion eraill, ond Riccardo Ambrogini ydy fy ffefryn.

Thursday, April 11, 2013

fy hoff coffi

Dw i wedi yfed rhyw ddwsin o goffi amrywiol sydd ar gael yn lleol. Hwn ydy fy ffefryn - Roughneck Coffee a broseswyd yn Tulsa. Mae o'n rhad; mae ganddo ddyluniad ofnadwy ar y pecyn; mae o ar silff isaf fel nad ydy perchennog y siop yn disgwyl llawer gan y cynnyrch. Ac eto, mae o'n dda iawn! Ysgafn, llyfn. Pe bai ganddo becyn mwy deniadol, dw i'n siŵr byddai fo'n boblogaidd.

Wednesday, April 10, 2013

stampiau blodeuog

Ces i lythyr (traddodiadol) gan fy nai yn Japan. Gosodwyd stampiau blodeuog - coed ceirios efo llawn o flodau pinc hardd. Maen nhw'n cael tywydd garw yn Japan; rhaid bod y blodau truan wedi hen fynd.

Tuesday, April 9, 2013

scantron

Marcio'r arholiad diweddaraf a phostio'r canlyniad oedd fy ngwaith y bore 'ma. Roeddwn i'n arfer gwneud y gwaith o'r blaen, ond efo modd traddodiadol. Scantron sydd yn cael ei ddefnyddio'r dyddiau hyn dw i'n deall. Mae'r gwaith yn anhygoel o syml efo fo. Ces i hwyl! (Dydy fy merch ddim yn ei licio gan ei bod hi'n gorfod ei brynu ar gyfer yr holl arholiadau.)

Monday, April 8, 2013

tiwlipau

Mae tiwlipau Lianne newydd flodeuo. Ces i ddwsin o fylbiau gan y ferch o Abertawe dair blynedd yn ôlDw i a'r teulu'n dod i edrych ymlaen at y blodau lliwgar bob gwanwyn bellach. Er bod rhai cael eu cipio gan wiwerod, mae'r gweddill yn blodeuo'n ffyddlon.

Sunday, April 7, 2013

siocled ar gyfer yr wyneb

Wedi gweld You Tube, profais y masg wyneb hwn - cymysgedd o iogwrt, mêl, powdr coco. Nid dim ond roedd fy nghroen yn llyfn ar ôl y driniaeth, roedd y cymysgedd yn flasus iawn! Fe wnes wneud mwy na digon, felly bwytes y gweddill yn awyddus.

Saturday, April 6, 2013

saethwyr pys


Saethwyr Pys ydy un o'r hoff gemau electronig fy mhlant yn ddiweddar. Fe wnaeth fy merch un mawr a thri bach o papier-mâché yn y dosbarth celf. Dyma nhw: maen nhw'n ofnadwy o ddel. (Mae'r 'cerflun' mawr yn dal yn yr ysgol.) Y fi a awgrymodd ei bod hi'n gludio ceiniogau ar y gwaelod fel y sylfaen. :)

Friday, April 5, 2013

coed ceirios yn oklahoma


Dw i newydd sylwi bod yna goed ceirios, rhyw hanner dwsin, yn y dref hon. Dydyn nhw ddim yn dal ond coed ceirios Japaneaidd ydyn nhw ac maen nhw'n llawn blodau. Mae'n rhyfedd nad ydw i erioed wedi eu gweld nhw; maen nhw wrth y stryd dw i'n ei phasio bob dydd ger yr ysgol uwchradd. 

Thursday, April 4, 2013

logiau olaf

Cawson ni dywydd oeraidd am ddyddiau'n hollol annisgwyl (wedi'r Pasg!) Dan ni wedi bod yn defnyddio'n llosgwr logiau ni, efallai am y tro olaf y tymor. Y bore 'ma gosodais yn y llosgwr glwmp o logiau olaf sydd gynnon ni. Dan ni i fod i gael glaw a mymryn o eira drwy'r dydd yn ôl rhagolygon y tywydd, ond mae'r awyr yn troi'n las a gwyn rŵan. Mae'r adar yn prysur ganu. Gwanwyn o'r diwedd.

Wednesday, April 3, 2013

nyth eto!

Dechreuodd adar bach adeiladu nyth yr un lle wrth y drws blaen ddyddiau'n ôl. Er bod ni wedi cael gwared ar yr astell, mae'r adar yn benderfynol o godi nyth ar silff gul tua un fodfedd. Maen nhw wedi bod wrthi a rŵan mae'r nyth yn eithaf sylweddol. Dw i ddim eisiau llanast a phryderon unwaith eto ond maen nhw yno beth bynnag.

Tuesday, April 2, 2013

wedi'r adroddiad

Mwynheais adrodd hanes fy siwrnai yn Japan. Dw i'n teimlo dipyn yn drist bob tro ar ôl sgrifennu'r post olaf. Edrycha' i ymlaen at gyfle i fynd ar daith eto ac adrodd yr hanes wedyn. Yn y cyfamser dw i'n hapus bod adref unwaith eto. Mae'n wlyb ac oeraidd heddiw. Dw i ar gychwyn am y swyddfa.

Monday, April 1, 2013

yn ôl o wlad goed ceirios - olaf

Wedi cael amser bendigedig yn Tokyo, es i a fy merch ar ein ffordd adref. Aeth popeth yn dda iawn nes i ni gyrraedd maes awyr Dallas. Cafodd ein hediad i Tulsa ei ganslo oherwydd storm eira! Darparai American Airlines hediad arall y bore wedyn, ond rhaid ffeindio llety am y noson. Roedd y staff wrthi'n ffonio'r gwestai cyfagos tra cyhoeddodd rhai cyd-deithwyr fyddai'n rhentu ceir. Yn hytrach na'r holl gynnwrf, penderfynais aros lle oedden ni, sef yn y maes awyr. Roedd rhyw ddwsin o bobl eraill yn gwneud yr un peth. Cynigodd AA welyau cludadwy, blancedi a snac, chwarae teg iddyn nhw. Methon ni'n llwyr i gysgu fodd bynnag, ond roeddwn i'n fodlon efo fy newis. Aethon ni adref heb broblem wedyn.