Friday, January 31, 2014

kurt

Mae popeth yn gweithio'n dda wedi i Kurt drwsio yma ac acw. Dyn medrus ydy o ac mae o'n gwirioni ar ei waith. Efallai mai dyna pam ei fod o mor fedrus. Mae o hefyd bob amser yn meddwl am ei gwsmeriaid yn hytrach nag ennill pres arnyn nhw. Bydd o'n gweithio'n llawn amser mewn safle adeiladu yn Tulsa am ddwy flynedd. Er fydd o'n dod yn ôl i weld ei deulu bob penwythnos, dw i'n amau bydd ganddo amser i waith ychwanegol. Beth dan ni'n mynd i wneud hebddo fo yn y cyfamser?

Thursday, January 30, 2014

trwsio'r tŷ

O'r diwedd mae Kurt yma heddiw i drwsio'n tŷ ni. Gofynnais iddo ddod ryw ddau fis yn ôl ond handyman poblogaidd ydy o, ac ar ben hynny roedd o'n sâl iawn am ddyddiau. Mae'r rhestr drwsio yn hirach bellach. Mae o wrthi rŵan. Mae ganddo gynghorion ac awgrymiadau amrywiol mae o awyddus i'w rhoi i chi bob tro. Er ei fod o'n tueddu'n siarad dipyn yn rhy hir, dw i a fy ngŵr yn ei werthfawrogi'n fawr.

Wednesday, January 29, 2014

national geographic

Dyma fo! Copi o gylchgrawn National Geographic (Chwefror 2014) ! Dw i newydd ei brynu mewn fferyllfa leol. Mae yna erthygl arbennig am y gromen yn Florence. Mae hyd yn oed llun mawr ar strwythur y gromen efo esboniad manwl. Bydd yna raglen amdani hi ar Nova/PBS 12 Chwefror. Adeiladodd peirianwyr gromen fach yn ôl cynllun Brunelleschi. Dw i wedi bod yn edrych ymlaen at y cylchgrawn a'r rhaglen ers wythnosau.

Tuesday, January 28, 2014

ar gau

Mae Pont Rialto yn Fenis yn sâl. Mae angen ymweliad "meddygon" arni hi, ac felly mae hi ar gau am dri diwrnod o heddiw ymlaen. Does ryfedd ei bod hi'n sâl gan ystyried y nifer o dwristiaid sydd yn cerdded arni hi bob amser ers blynyddoedd. Rhaid cael asesu cyn y gwaith adfer. Gobeithio y bydd hi'n gwella a dal i sefyll am amser hir.

Monday, January 27, 2014

llawer o lyfrau

Cafodd fy ail ferch fenthyg dwsin o lyfrau teithio yn Ewrop gan ffrind sydd wedi teithio dros y byd. (Mae'r ffrind yn mynd efo'i gŵr sydd yn teithio ar fusnes; braf iawn!) Mae yna dri ar gyfer yr Eidal, a dyma innau fenthyg un ohonyn nhw: DK Eyewitness Travel, Florence & Tuscany. Mae cyfres Eyewitness yn dda iawn. Dw i'n gwerthfawrogi'r amrywiaeth o luniau a mapiau efo esboniadau cryno. Ces i syniad gwell o gwmpas Florence bellach. Dw i'n mynd i ddarllen am Lucca lle bydda i'n gwneud cwrs Eidaleg ynghyd â'r lleoedd cyfagos.

Sunday, January 26, 2014

byth yn colli cyfle

Sgrifennais am gloeon clap ar Bont Accademia yn Fenis o'r blaen. Er bod yr awdurdod a gwirfoddolwyr yn dod i ryddhau'r bont o bryd i'w gilydd, mae'r broblem yn dal yno fel gweddill o'r lleoedd prydferth yn y byd. A doedd y mewnfudwyr anghyfreithlon ddim eisiau colli cyfle i ennill pres gan gymryd mantais ar y sefyllfa yn gwerthu cloeon clap i gyplau addawol ar y bont. Dydy patrolio'r heddlu ddim yn ymddangos yn effeithiol chwaith.

Saturday, January 25, 2014

popty bach dros dro

Does gen i ddim popty bach handi. Wedi taflu tri neu bedwar ers symud i America, penderfynais beidio prynu un arall ond tostiwr sydd yn tostio tafellau o fara. Dw i'n amau bod nhw'n cael eu cynllunio'n benodol fel na fyddan nhw'n para'n hir. Weithiau, fodd bynnag, dw i'n ysu am dost efo caws arno fo. Fydda i byth yn defnyddio'r popty mawr i'w wneud o serch hynny. Waeth beth roeddwn i eisiau bynsen wedi'i dostio heddiw, a dyma ddyfeisio popty bach dros dro. Wedi ychydig o funudau, (troes o unwaith neu ddwy) fe wnes i lwyddo. Hwrê!

Friday, January 24, 2014

sodlau uchel cyntaf

Dw i wrthi'n darllen Duchessina gan Carolyn Meyer, nofel am Caterina de' Medici, sydd yn canolbwyntio ar ei phlentyndod. Mae hi newydd briodi tywysog Ffrainc tuag at ddiwedd y nofel. Ffuglen ieuenctid mae'n ymddangos ond diddorol iawn oherwydd dw i'n cael gwybod y cefndir o gwmpas ei bywyd cynnar mewn modd dealladwy. Ces i wybod peth diddorol hefyd - y hi a ddechreuodd gwisgo sodlau uchel fel ffasiwn gan eu gwisgo nhw yn ei seremoni briodas yn 1533. Roedd hi'n hogan fer o 14 oed ac roedd y tywysog yn dal iawn. 

Thursday, January 23, 2014

peth newydd

Wrth i fy drydedd ferch newydd gael swydd ran amser newydd, mae angen trefni reid o gwmpas y dref bellach. Mae hi'n beicio i'r brifysgol, ond mae angen car arni hi i fynd i'r swyddfa yn ystod y dydd, ond dw innau angen car i godi fy nau blentyn ifancaf yn yr ysgol ac i wneud pethau eraill. Mae'r sefyllfa'n gymhleth yr wythnos 'ma tra fy ngŵr yn mynychu cynhadledd oddi cartref, ac felly dim ond un car sydd ar gael. O leiaf mae ganddi hi swydd syml ond dda yn yr Adran Optometreg. Bydd hi'n ffarwelio i Braum's cyn hir lle mae hi'n gweithio ers blwyddyn a hanner.

Wednesday, January 22, 2014

storm trouper

Un greadigol ydy fy merch hynaf ers plentyndod. Roedd hi'n paentio a chreu pethau diddorol drwy'r amser (ac mae hi'n dal i wneud hynny'n broffesiynol bellach.) Un o'i champweithiau oedd gwisg Storm Trouper a greodd o flychau grawnfwyd pan oedd hi'n 15 oed. Ffrind iddi a oedd tu mewn. Fe wnaethon nhw a fy mhlant eraill orymdeithio i dŷ cymydog!

Tuesday, January 21, 2014

syniad diddorol ond

Beth ydy'r modd gorau i wahanu melynwy o wyn wy? Mae yna nifer o fideos ar You Tube sydd yn defnyddio potel blastig a sugno'r melynwy efo hi. Mae'n syniad diddorol ac yn rhyfeddol ei gweld, ond dw i'n gweld anfantais fawr - rhaid golchi'r botel a'r ddysgl ychwanegol! Well gen i'r modd traddodiadol.

Monday, January 20, 2014

croen grawnffrwyth

Dw i a'r plant yn hoffi grawnffrwyth a'i fwyta bron bob dydd. Dydw i ddim yn taflu'r croen yn y bin yn syth serch hynny. Mae o'n cael ei ddefnyddio'n hwylus cyn hynny fel:
1. llestri bach tafladwy i osod llwyau coginio, tamaid o fwyd, pils ayyb
2. sbwng dysgl i gael gwared ar ddarnau bwyd ar y llestri cyn iddyn nhw fynd i'r peiriant
Efallai fydd fy mam yn falch ohona i!


Sunday, January 19, 2014

ffatri lego

"Dw i isio gweithio i Lego!" dwedodd fy mab ifancaf yn sydyn wrth chwarae efo Lego. A dyma chwilio am wybodaeth am Lego a des o hyd i fideo diddorol. Mwynheais i ynghyd â'r teulu ei weld. Ffatri Lego yn Denmarc ydy hon; mae'n rhyfeddol gweld sut mae miloedd o ddarnau Lego'n cael eu gwneud. 

Saturday, January 18, 2014

canu yn japaneg

Cynhaliwyd cystadleuaeth ganu ar y we - canu caneuon Japaneaidd gan bobl dramor. Ces i fy synnu'n gweld y nifer mawr o bobl tu allan i Japan yn gwirioni ar ganeuon Japaneaidd. Mae hi'n rhyfeddol bod nhw'n medru eu canu nhw cystal. Stiwardes ydy'r enillwr ac mae hi'n mynd i ddosbarth i ddysgu'r grefft hyd yn oed. Y plant bach o Congo sydd yn canu Totoro ydy fy ffefryn. Dw i'n gwirioni ar yr hogyn sydd yn dawnsio'n siriol!

Friday, January 17, 2014

cam nesaf i fy merch

Mae fy ail ferch newydd brynu tocyn awyren i'r Eidal. Bydd hi'n dysgu Saesneg am dri mis yno, ac wedyn mae hi eisiau teithio am wythnos neu ddwy yn Ewrop wrth gwblhau ei siwrnai yn Lloegr cyn dod adref. Mae hi bellach yn gyfarwydd a dysgu plant ond her newydd bydd hyn i gyd achos nad ydy hi erioed wedi bod yn Ewrop. Dw i eisoes yn edrych ymlaen at glywed ei hanes.

Thursday, January 16, 2014

hanner y gacen

Roedd y gacen yn anhygoel o flasus - llaith a llawn o flas siocled - y gacen siocled orau fwytes erioed! Ar y llaw arall, mae hi dipyn yn rhy fawr i mi, a dyma brofi hanner cacen a llwyddo. Roedd angen tipyn mwy na hanner amser penodedig ar y rysáit i'w choginio.

Wednesday, January 15, 2014

cacen mewn myg

Wedi gweld post Alberto am gacen mewn myg, roeddwn i'n chwilio am ryseitiau da a des o hyd i hon. Dim ond pedwar cynhwysyn sydd angen a heb wy neu fraster. Dw i newydd wneud un a'i bwyta - blasus iawn iawn! Fe wnes i ddefnyddio llefrith cyflawn. (Dw i a'r teulu ddim yn yfed llefrith isel mewn braster.)


Tuesday, January 14, 2014

llosgwyr logiau amrywiol

Tra oeddwn i'n chwilio am air yn Eidaleg, des ar draws lluniau llosgwyr logiau Eidalaidd. Maen nhw'n smart iawn! Mae yna rai sydd yn debyg i'n un ni, ond mae rhai'n edrych fel pethau hollol fodern. Dysgais sut i ddweud "rhaid i ni dorri coed tân" yn Eidaleg hefyd ar yr un pryd! - dobbiamo spaccare la legna. Mi ddysga' i hyn i fy mab ifancaf heno. Anogodd Alberto i gymysgu dysgu iaith a'ch diddordebau. Wrth gwrs nad hyn yn golygu fy mod i'n gwirioni ar losgwyr logiau, ond rhywbeth cyfarwydd ydyn nhw.

Monday, January 13, 2014

mae alberto'n ôl

Mae'n braf gweld bod Alberto newydd bostio awdio cyntaf y flwyddyn. Roedd gen i dipyn o ofn na fyddai o eto wrth weld yr hwyl roedd o'n ei gael ar ei wyliau efo ei ffrindiau yn Romania. Dwedodd fod o'n cael digon ac mae o'n barod i ail-gychwyn Italiano automatico. Siaradodd am Michael Phelps, nofiwr o fri a oedd yn nofio am ddwy awr a hanner o leiaf bob dydd am flynyddoedd hyd yn oed ar ei benblwydd. (Nofiodd ddwbl ar yr achlysur!) Ymarfer gwrando ydy'r awdio, ond cewch chi wrando ar bethau diddorol sydd yn eich ysgogi chi i ddal ati ar yr un pryd. 

Sunday, January 12, 2014

tacsi arbennig i'r maes awyr

Mae ffrind o Japan yn ymweld â'r dref hon ers ddoe. Fe wnaeth hi raddio yn y brifysgol leol flynyddoedd yn ôl. Dim ond dau ddiwrnod sydd ganddi hi yma cyn hedfan i dalaith arall. Cawson ni amser byr ond dymunol yn sgwrsio'r prynhawn 'ma. Bydd hi'n gadael bore fory. Clywais fod hi newydd gael cynnig braf gan un o'i ffrindiau yma sydd yn berchen ar awyren fach. Bydd hi'n cael lifft i Faes Awyr Tulsa yn ei awyren!

Saturday, January 11, 2014

enfys yn hawaii


Mae fy merch hynaf a'i gŵr newydd ddod adref wedi cael gwyliau hyfryd yn Hawaii. Aethon nhw ddim i leoedd poblogaidd fodd bynnag ond roedden nhw'n aros yng ngogledd Oahu efo ffrindiau ei thaid yn mwynhau'r golygfeydd godidog yno. Roedden nhw'n medru ymweld â'i thaid a nain yn aml a rhoi cymorth iddyn nhw hefyd. Tynnodd hi nifer mawr o luniau a hwn ydy'r gorau yn fy nhyb i! (Wnaeth hi ddim ffotosiop arno fo chwaith!)

Friday, January 10, 2014

ail-gychwyn dringo

Wedi'r gwyliau hir, agorwyd drysau'r brifysgol leol ar gyfer y tymor newydd, a dyma ail-gychwyn dringo grisiau NET Building. Roedd yn bwrw glaw'n arw pan es i allan ond doeddwn i ddim yn bwriadu gadael glaw fy atal rhag ymarfer fy nghoesau. Roeddwn i'n falch iawn sylwi fy mod i'n medru dringo'n haws nag o'r blaen. (Roeddwn i'n dringo grisiau'r tŷ yn ystod y gwyliau.) Wrth gwrs mai hollol wahanol bydd dringo 463 o risiau ar un pryd, ond o leiaf dw i'n mynd yn gryfach.

Thursday, January 9, 2014

disgyblaeth

Mae Alberto yn postio dyfyniadau pwyll yn aml. Dw i'n hoffi un diweddaraf: mae disgyblaeth yn golygu bod chi ond yn dewis rhwng y peth dach chi eisiau ei wneud rŵan a'r peth dach chi eisiau mwyaf.

Wednesday, January 8, 2014

glanhau'r peiriant golchi

Ac am y tro cyntaf ers prynwyd bum mlynedd yn ôl! A dweud y gwir, doeddwn i erioed yn meddwl bod angen gwneud hyn hyd yma er fy mod i'n sylweddoli arogl llwyd yn ddiweddar. Daeth fy ail ferch â thyweli budr i'w golchi oddi ar ei siop drin gwallt neithiwr oherwydd bod peiriant golchi'r siop wedi torri. Ac felly roeddwn i'n benderfynol o lanhau fy mheiriant y bore 'ma, a dyma ddarllen y cyfarwyddiadau a sylweddoli bod yna gylch arbennig ar gyfer glanhau'r peiriant. Awgrymwyd hyd yn oed i wneud hyn unwaith bob mis! Mae'r peiriant druan wrthi ar hyn o bryd. Mae'n ddiddorol gweld cymaint o ddŵr drwy'r ffenestr fach.

Tuesday, January 7, 2014

twrnamaint

Mae'r ysgolion yn yr ardal ar gau am yr ail ddiwrnod wedi'r eira diweddaraf. Wrth gymryd mantais ar yr amser sbâr, dechreuodd y plant a finnau gystadleuaeth Speed neithiwr. Fy mab ifancaf a baratowodd y grŵp. Cynhaliwyd y twrnamaint cyntaf. Enillodd y bedwaredd ferch a chael ei gwobrwyo efo $1. Fe fyddwn ni'n chwarae sawl gêm am weddill y diwrnod.

Monday, January 6, 2014

sinamon a mêl

Dw i newydd ddarllen am sinamon a mêl; maen nhw'n gwneud llawer o les i chi. Dywedodd rhai hyd yn oed eu bod nhw'n gwella'r rhan fwyaf o'r afiechyd. Pam lai? Does dim colled na sgil effaith drwg pe na fydden nhw'n gweithio cystal. Dechreuais ynghyd y teulu eu bwyta nhw pryd bynnag cawn ni gyfle. Dw i ddim yn hoffi cymysgedd o sinamon a dŵr achos ei fod o ddim yn toddi'n dda, ac felly dw i'n ei ddefnyddio fo a mêl yn fy uwd, iogwrt, ar fy mara, hyd yn oed ar fy wyneb!

Sunday, January 5, 2014

eira

Tra bod fy merch hynaf a'i gŵr yn mwynhau tywydd mwyn yn Hawaii, cawson ni eira eto yn Oklahoma. Cafodd gwasanaeth yr eglwys ei ganslo'r ail dro yn y gaeaf hwn, a dyma ni'n addoli Duw gartref. Mae hi'n dal i fwrw eira; bydd y tymheredd yn gostwng yn 3F/-16C heno yn ôl rhagolygon y tywydd. Mae tân yn llosgi yn y llosgwr logiau'n siriol. Dw i'n coginio cawl cyw iâr Mecsicanaidd yn y crock pot i swper rŵan.

Saturday, January 4, 2014

mac user

Ces i neges sydyn gan fy merch hynaf y bore 'ma yn gofyn pam fod fy enw'n dangos fel "Mac User" ar fy e-bost. Gan nad oes neb arall yn defnyddio fy MAC Book, fe'i gadawais fel mae o. Fe sgrifennais sawl neges at ffrindiau'n barod ond rhaid bod nhw meddwl mai junk mail a gawson nhw a'i daflu nhw! Rhaid i mi yrru neges atyn nhw.

Friday, January 3, 2014

gwarth arnyn nhw

Mae hi'n ddigon bregus heb ychwanegu cymorth i waethygu'r cyflwr - y ddinas fwyaf unigryw a phrydferth yn y byd, sef Fenis. Wedi "dathlu" Noson Galan yn Piazza San Marco, fe adawodd y dyrfa wallgof lanast anghredadwy yno. A phwy oedd yn gorfod glanhau popeth ond y gwirfoddolwyr lleol truan. Does dim angen ymddygiad gwarthus er mwyn dathlu'r flwyddyn newydd neu dim byd.

Thursday, January 2, 2014

aloha mail

Mae fy merch hynaf a'i gŵr newydd gyrraedd Hawaii. Profon nhw Noson Galan ddrwg-enwog yno - taflir miloedd o firecrackers ar y strydoedd am oriau wrth ddathlu dyfodiad y flwyddyn newydd. Mae'r ddau'n aros efo cwpl sydd yn ffrindiau i'w thaid yng ngogledd Oahu. Ces ei "Aloha Mail" cyntaf yr adroddodd ei hanes ynddo fo.

Wednesday, January 1, 2014

gobaith

Beth fydd yn digwydd eleni? Does neb yn gwybod ond dw i'n nabod yr un sydd yn ei wybod; mae o'n ffyddlon; mae yna obaith ynddo. "Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd," meddai. Blwyddyn Newydd Dda i bawb.