Wednesday, September 30, 2015

cês bach

Prynais gês bach sydd "i fod" i fynd dan sedd awyren ddwy flynedd yn ôl oherwydd nad ydw i eisiau codi cês at y storfeydd uwchben. Roeddwn i'n sylweddoli fodd bynnag, nad ydy o'n ffitio felly yn yr awyrennau bychan. Dw i'n benderfynol o ffeindio un digon mawr i gadw fy holl eiddo ar gyfer fy siwrneiau yn y dyfodol (dw i ddim yn hoffi check-in fy nghês) a digon bach i fynd dan sedd fach ar yr un pryd, efo olwynion i mi gael ei lusgo o gwmpas. Her fawr ydy hyn, ond rhaid cyflawni er mwyn teithio'n hawdd.

Tuesday, September 29, 2015

defnydd arall sgŵp hufen iâ


Byrger eog ydy un o ffefrynnau'r teulu, a dw i'n hoffi ei baratoi hefyd oherwydd bod o'n hynod o hawdd. Roeddwn i'n arfer ffurfio'r byrger efo'r dwylo. Ces i syniad gwych un diwrnod, a dyma ddefnyddio sgŵp hufen iâ wedi'i iro i greu byrgers unffurf yn gyflym iawn (wrth gadw fy nwylo'n lân.) Bydda i'n eu gwthion nhw dipyn efo sbatwla ar ôl eu troi nhw. Dyma'r cynhwysion rhag ofn.
Tun o eog (bydda i'n cael gwared ar y croen a'r esgyrn)
Taten stwns neu ddau
Briwsion bara a/neu geirch
2 wy
Halen, pupur, perlysiau eraill

Monday, September 28, 2015

cinderella

Fe wyliais Cinderella newydd (DVD) efo'r plant dros y penwythnos. Roeddwn i'n hoffi'r fersiwn honno'n fawr iawn. Creodd y dechnoleg ddiweddaraf ffilm ffantasi anhygoel. A mwy na hynny, dw i'n gwerthfawrogi pwyslais y stori, sef "byddwch yn ddewr ac yn garedig." Fy hoff olygfa oedd pan dorrodd y swyn ac aeth pawb a phopeth yn ôl o dipyn i beth. Roeddwn i wrth fy modd efo ffrog las hardd Cinderella wrth gwrs.

Sunday, September 27, 2015

app yn ffrangeg

Des o hyd i App Beibl Ffrangeg i blant. Mae o'n hynod o ddefnyddiol i ddysgwyr Ffrangeg oherwydd bod y nifer o storiau'n cael eu hysgrifennu'n syml a chewch chi wrando ar yr awdio wrth ddarllen y testun. Fe wnes i lawr-lwytho fy nwy ffefryn am y tro - Ruth; Dafydd a Goliath.

Saturday, September 26, 2015

lluniau swyddogol

O'r diwedd uwch-lwythodd fy mab hynaf y lluniau a dynnwyd gan y ffotograffydd yn y briodas. Maen nhw'n ardderchog (wrth reswm.) Roeddwn i'n meddwl mai photoshop oedd un ohonyn nhw oherwydd bod yr hogia i gyd yn neidio mor uchel mewn modd anghredadwy. Cadarnhaodd y mab ifancaf mai llun naturiol ydy o heb gael ei addasu o gwbl. Mae o hyd yn oed yn edrych fel tasai fo'n rhedeg yn yr awyr.

Friday, September 25, 2015

rhagolygon y tywydd

Mae rhagolygon y tywydd yn ddiddorol o safbwynt dysgu ieithoedd. Dw i'n gyfarwydd â Rhian Haf a'r lleill ar Radio Cymru, ac yn gwylio fideo Eidalaidd o bryd i'w gilydd. Yn ddiweddar, des o hyd i raglen dywydd Ffrengig a dyma lyfrnodi'r dudalen. Peth diddorol am yr olaf ydy bod yna sawl cyflwynydd, a chewch chi glywed acennau amrywiol. Maen nhw'n gwisgo'n anffurfiol iawn, gyda llaw.

Thursday, September 24, 2015

blog newydd

Wedi methu sgrifennu'r blog Eidaleg (Mandatami) yn gyson, rhoddais i orau iddo'n swyddogol. Roedd yn rhy anodd i feddwl pynciau gwahanol ar gyfer y blog hwnnw. Modd effeithiol i gadw/wella iaith arall ydy sgrifennu blog fodd bynnag. A dyma benderfynu dechrau blog Eidaleg newydd. Y tro hwn, dw i'n mynd i gyfieithu'n fras fy mlog Cymraeg i'r Eidaleg fel na fydd rhaid sgrifennu pyst gwahanol ac eto cael ymarfer fy Eidaleg. Roedd yn hwyl dewis yr enw, y templed ac yn y blaen. "Parli gallese?" ydy'r enw sydd yn golygu, "wyt ti'n siarad Cymraeg?"

Wednesday, September 23, 2015

lifft arbennig

Gadawodd fy merch ben bore ddoe i fynd yn ôl i Japan. Fel arfer bydd ei thad yn mynd â hi i Faes Awyr Tulsa mewn car ond cafodd hi lifft arbennig y tro hwn. Cynigodd ffrind i roi lifft iddi yn ei awyren fach o'r dref hon. Aeth fy ddwy ferch arall efo hi i gadw cwmni. Dim ond 15 munud cymerodd yn hytrach nag awr a 15 munud arferol. Gadawon nhw yn dywyllwch ond ar eu ffordd yn ôl (wedi brecwast) torrodd y wawr odidog arnyn nhw. Cyrhaeddodd fy merch Japan yn ddiogel. 

Tuesday, September 22, 2015

penblwydd yn y cysgod

Penblwydd fy ngŵr oedd hi ddoe. (Cafodd y diwrnod ei gysgodi gan y briodas tipyn bach.) Gyrrodd brawd y gŵr bres iddo a'i dri nai a nith sydd gan benblwyddi ym mis Medi er mwyn iddyn nhw gael parti pitsa. Dyma ni'n cyflawni ei ewyllys yn hapus ac archebu pitsa a phrynu potel o win. Fe wnes i grasu pastai pwmpen (ffefryn y gŵr) yn lle cacen. Cawson ni amser braf neithiwr cyn i fy ail ferch fynd yn ôl i Japan.

Monday, September 21, 2015

y briodas

Roedd yn briodas hyfryd er bod hi'n syml. Doedd dim ffrog briodferch ddrud, addurniadau cymhleth, cannoedd o westeion. Yn lle hynny, roedd addunedau priodas a ysgrifennwyd gan y ddau, nifer bach o ffrindiau agos a'r teuluoedd, bwyd da wedi'i arlwyo, lawer o ddawnsio a hwyl. Dawnsiais efo fy mab "Cowboy Buggie," o flaen pawb. Yna, dawnsiodd pawb yn egnïol gan gynnwys y briodferch am dri chwarter awr. Roedd rhaid i mi eistedd ar sedd ar ôl "Cotton Eyed Joe"! Yn anffodus nad ydy'r ddau'n medru mynd ar eu mis mêl ar yr unwaith oherwydd swydd fy mab. Rhaid aros nes mis Tachwedd iddyn nhw gael mynd ar fordaith Garibî. Mae gen i ferch newydd bellach.

Saturday, September 19, 2015

diwrnod priodas

Cysgais yn dda neithiwr. Mae'r fatres yn gyfforddus ac na symudodd fy merch lawer yn ei chwsg yn fy ymyl. Codais am chwech a hanner a chael digon o amser i baratoi am y diwrnod. Anghofiodd fy merch hynaf ei ffrog i'r briodas yn ei thŷ, ac roedd rhaid iddi fynd i'r siop gyfagos i brynu un y bore 'ma. Wedi iddi fynd efo ei chwiorydd, ces i amser distaw yn yr ystafell. Llwyddodd hi brynu ffrog neis a rhad ($15.) Maen nhw wrthi'n paratoi at yr achlysur arbennig. Bydd y seremoni'n dechrau am 4:30 dilynir gan fwyd a dawns.
llun: tatŵ dros dro arbennig

Friday, September 18, 2015

yn texas

Dw i a'r teulu i gyd yma yn Texas heddiw ar gyfer priodas fy mab hynaf yfory. Roedd yn siwrnai hir iawn a ches i gur pen ofnadwy ar ddiwedd ond dw i'n ymlacio rŵan mewn gwesty efo fy nhair merch. Mae gynnon ni ddwy ystafell i wyth ohonon ni. Mae'n hwyl bod efo pawb felly. Dw i'n teimlo'n gysglyd bellach ond mae'r merched yn mynd i wylio Sherlock heno.

Thursday, September 17, 2015

bara melon

Daeth fy merch â melon pan (bara melon) o Japan i'r teulu. Mae o'n bodoli ers fy mhlentyndod. Gelwir yn felon oherwydd y blas a lliw (artiffisial.) Dydy o erioed wedi bod yn fy ffefryn ond mae fy mhlant yn hoff iawn ohono fo. Dyma gael blas beth bynnag y bore 'ma. Mae hwnnw'n hynod o flasus heb flas a lliw melon. Bara menyn yn hytrach na bara melon ydy o. Dywedir ar y bag defnyddir menyn o Normandy!  

Wednesday, September 16, 2015

adref

Mae fy ail ferch newydd gyrraedd adref. Wedi cael cinio sydyn, mae hi'n ymlacio ar soffa yn sgwrsio efo ei chwaer a dal ei moch cwta yn ei breichiau (un ar y tro.) Mae'n braf ei gweld hi eto am y tro cyntaf ers chwe mis. Peth rhyfedd ydy bod popeth yn ymddangos yn "normal", hynny ydy dw i'n teimlo fel pe bai hi wedi bod adref bob amser, ac mae hi'n dweud yr un peth. Bydd ei chwaer arall a'i brawd dod adref mewn oriau. Dw i'n mynd i goginio lasagna Eidalaidd (ddim Americanaidd) i swper heno.

Tuesday, September 15, 2015

ar ei ffordd

Mae fy ail ferch yn dod adref ar gyfer priodas ei brawd. Mae ei hawyren hi uwchben y Cefnfor Tawel ar hyn o bryd. Mae hi'n ofnadwy o brysur fel athrawes Saesneg yn Tokyo, ond dydy hi ddim eisiau colli'r achlysur mawr. A dyma hi'n dal yr awyren am hanner nos wedi gorffen ei gwaith. Dim ond wythnos bydd hi'n aros yma ond byddwn ni'n cael teithio i Texas efo'n gilydd i gymryd rhan yn y seremoni ddydd Sadwrn. Bydd hi'n cyrraedd Maes Awyr Tulsa bore fory.

Monday, September 14, 2015

brecwast seisnig

Dwedodd fy merch y byddai eisiau coginio brecwast Seisnig i swper; cafodd hi o sawl tro mewn tŷ bwyta yn Abertawe ac roedd hi'n gwirioni arno fo. Dyma brynu'r cynhwysion iddi ddoe ac wedyn ymlacio tra oedd hi wrthi yn y gegin. Cawson ni swper braf o wyau, selsig, ffa, tatws, tomatos, madarch a thost. Ces i ryw 30 o "like" ar Face Book gan ffrindiau fy merch dw i ddim yn eu hadnabod nhw!

Sunday, September 13, 2015

sgrifennu'r ffrangeg

Dw i'n mynd yn gyfarwydd â chlywed a darllen Ffrangeg ond peth hollol wahanol ydy sgrifennu. Fedra i ddim sgrifennu pethau syml hyd yn oed. Yn aml bydda i'n ceisio gwneud rhestr siopa yn Gymraeg neu Eidaleg efo gair neu ddau yn Japaneg a Saesneg. Roedd angen prynu siocled poeth yng nghegin yr eglwys y bore 'ma, a dyma geisio sgrifennu yn Ffrangeg ar ddarn o bapur - ashte siocola schud. Wedi dod adref, dangosais y nodyn i fy merch. Dyma iddi fy nghywiro. (Mae ei Ffrangeg yn llawer gwell na fy un i!) - acheter chocolat chaud. Mae ffordd hir o fy mlaen i.

Saturday, September 12, 2015

efo vincent

Wedi gorffen neu blino ar rai deunyddiau, roeddwn i'n chwilio am un arall i ddysgu Ffrangeg. Mae'n wir anodd ffeindio peth sydd yn taro deuddeg ymysg y llu o bethau ar gael ar y rhyngrwyd. Roeddwn i'n gwrando ar Vincent o'r blaen; dw i'n hoff iawn o'i acen a'i fodd i ddysgu'r manylion yn drylwyr. Mae o'n dal i uwchlwytho fideo newydd a rhai wedi'u hailwampio. Un ohonyn nhw ydy hwn, sef, "dysgu Ffrangeg yn eich cwsg." Tra nad ydw i'n credu bod hyn yn bosib, dw i'n gwerthfawrogi'r awdio hwn sydd yn gadael i mi ymarfer siarad wrth gerdded neu olchi'r llestri heb edrych ar destun. Os oes angen, mae'r testun ar gael ar ei fideo You Tube eraill. 

Friday, September 11, 2015

9.11

"Gall ymosodiadau terfysgol ysgwyd sylfeini'n adeiladau mwyaf ni, ond na allan nhw gyffwrdd sylfaen America. Maen nhw'n chwalu dur, ond na allan nhw dolcio dur o benderfynoldeb America."  George W. Bush, Cyn Arlywydd yr Unol Daleithiau




Thursday, September 10, 2015

rali

Es i ynghyd â'r teulu at rali ddoe i ddangos ein cefnogaeth i'r heddlu lleol. Mae'n beryglus bod yn heddweision dyddiau hyn yn enwedig yn America. Cafodd nifer ohonyn nhw eu llofruddio gan grŵp sydd yn ymroddedig i lofruddio unrhyw heddlu. Mae pwysau anhygoel arnyn nhw wrth iddyn nhw beryglu eu bywydau bob dydd heb gael eu diolch. Ar ôl clywed hanner dwsin o annerch byr a gweddi dros yr heddlu yn enw Iesu Grist, es i â'r teulu o gwmpas yn ysgwyd llaw'r swyddogion a diolch iddyn nhw. 

Wednesday, September 9, 2015

rysáit newydd

Mae'n anodd coginio yn yr haf oherwydd y gwres. Dw i ddim yn paratoi caserolau a stiw sydd yn rhan fawr o fy nghoginio i. O ganlyniad, dw i'n coginio'r un peth bob wythnos. Penderfynais chwilio am ryseitiau newydd ar y we - pethau syml a hawdd (pwysig iawn) i wneud. Des o hyd i un gwych, sef goulash efo bresych yn hytrach na efo pasta. Roedd yn flasus a hynod o syml, hyd yn oed maethlon ac isel yn fraster. Doeddwn i ddim yn siŵr fyddai finegr seidr afal yn gweithio, ond fel mae'n digwydd, roedd yn braf. Roedd yn haws oherwydd fy mod i'n defnyddio pecyn o fresych wedi 'i dorri.

Tuesday, September 8, 2015

ail ddechrau e-bost

Dw i'n cyfnewid negesau e-bost efo fy merch hynaf bron bob dydd ac eithrio penwythnosau ers blynyddoedd. Un o'r pethau pleserus yn ystod y dydd ydy hyn. Byddwn ni'n adrodd ein hanes ni a rhoi sylwadau at ein gilydd. Yn aml dw i'n mwynhau i ni fynegi'n barnau ni ar bynciau llosg heb flewyn ar dafod. Cawson ni hoe fach yr wythnos diwethaf tra oedd hi ar ei gwyliau (ar wahân i ambell i SMS.) Ces i neges e-bost ganddi hi efo llawn o newyddion y bore 'ma am y tro cyntaf ers dyddiau, a dyma ei hateb yn awyddus.

Monday, September 7, 2015

y gyfraith

"Hwn ydy'r gyfraith," meddan nhw. Cyfreithlon oedd caethwasiaeth. Cyfreithlon oedd llofruddio'r Iddewon. Cyfreithlon oedd nifer o bethau erchyll, a dal i fod.

"Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg," meddai'r Arglwydd y Lluoedd.
"Gwae'r rhai a wnânt ddeddfau anghyfiawn," meddai'r Brenin y Brenhinoedd.

Sunday, September 6, 2015

newydd da o wlad bell

Mae'n braf cael neges am y tro cyntaf ers amser. A dweud y gwir, y fi a fethodd sgrifennu'n gyson; doedd fawr i ddweud ar y pryd, ond digwyddodd nifer o bethau yn fy mywyd yn ystod yr wyth mis, a dyma sgrifennu e-bost yr wythnos diwethaf at Ida, fy nghyn diwtor Eidaleg. Ces i ateb clên iawn ganddi hi. Mae hi'n dysgu Eidaleg ym Mharis ers y llynedd, a newydd gofrestru ar gwrs i ennill cymhwyster i ddysgu Eidaleg yn Ffrainc yn swyddogol. Mae hi'n medru Ffrangeg hefyd. "Fel dŵr oer i lwnc sychedig" oedd y neges.

Saturday, September 5, 2015

diwrnod i'r brenin

Aeth y teulu i amgueddfa Titanic yn Branson heddiw wedi clywed bod yr amgueddfa honno'n well na un yn Iwerddon (mynd yno wnaeth fy nwy ferch.) Bydd yn cymryd tua phedair awr un ffordd, a byddan nhw'n dod adref yn hwyr heno. Fe orffennais i ddyletswyddau amrywiol yn y bore. Ar ôl dod yn ôl o'r dref, dyma gael cinio syml a phaned o de wrth wylio rhan o'r ffilm, the Legend of 1900 yn Ffrangeg. Na fydd rhaid i mi baratoi swper i'r teulu heddiw; bydda i'n bwyta beth bynnag ar gael a phryd bynnag bydd eisiau arna i. Diwrnod i'r brenin ydy hi heddiw. 

Friday, September 4, 2015

y ras gyntaf

Cynhaliwyd y ras gartref cross country gyntaf a fynychwyd gan nifer o'r ysgolion yn yr ardal. Roedd sawl ras yn ôl oedran y rhedwyr. Rhedodd fy mab ifancaf ras 4 cilomedr efo'r tîm a chael canlyniad personol gwych - rhyw hanner munud llai na'r ras ddiwethaf flwyddyn yn ôl. Roedd yn dal yn boeth am saith o'r gloch pan ddechreuodd y ras olaf, ond rhedodd pawb yn galed; mae bob amser yn braf eu gweld nhw.

Thursday, September 3, 2015

hwrê!

Llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru! Roedd yn wych! Da iawn, Bale! Aeth cefnogwyr Cyprus braidd yn ddistaw wedi iddo sgorio! Braf clywed Hen Wlad a ganwyd gan gefnogwyr Cymru. Hwrê!

Wednesday, September 2, 2015

wyt ti wedi ysgrifennu llythyr?

Cwestiwn a ofynnwyd gan wefan Gweiddi ydy hwn. "Do" ydy fy ateb. Dw i'n sgrifennu at fy mam yn Japan ers symud i fyw yn America dros chwarter canrif yn ôl. Bydda i'n sgrifennu dwywaith neu dair bob mis yn amgáu lluniau o'r teulu'n aml. Nad oes ganddi hi gyfrifiadur, ac felly mae hi'n edrych ymlaen yn fawr at fy llythyrau. Bydda i'n sgrifennu efo llaw oherwydd bod hyn yn gyflymach na theipio Japaneg. Dw i wedi hen sylweddoli fy mod i'n anghofio llawer o Kanji (llythrennau Tsieineaidd.) Rhaid i mi ddefnyddio geiriadur yn aml. Peth da i fy ymennydd hefyd.

Tuesday, September 1, 2015

edrych yn cŵl

Cynhelir y ras cross country gyntaf ddydd Iau. Mae'r tîm wrthi'n rhedeg bob prynhawn boed heulwen neu law. Byddan nhw'n rhedeg yn y dref fel arfer a dod yn ôl yr amser mynd adref. Bydd yna geir a bysiau'n gyrru o gwmpas yr ysgol wrth reswm. Wedi rhedeg pum milltir dan yr haul poeth un diwrnod, roedd pawb yn barod i ddisgyn, a dyma'r rheolwr yn dweud wrth fy mab, "rhaid i ni edrych yn cŵl o flaen pawb." Dyna a wnaeth fy mab er ei fod o'n sgrechian yn y galon am drugaredd!