Sunday, January 31, 2016

cig eidion yr wythnos

Mae fy nghoginio'n newid ers dod ar draws fideos Elisabetta e rhai Marco Bianchi yn ddiweddar. Roeddwn i'n ceisio bwyta'n iach o'r blaen, ond rŵan dw i'n cael hwyl profi ryseitiau llysieuol newydd hynod o flasus. Na fyddai ots gen i beidio bwyta cig o gwbl (dw i'n dal i hoffi pysgod weithiau,) ond bydda i'n defnyddio cig eidion unwaith yr wythnos ar gyfer y gŵr. Hwn oedd cig eidion yr wythnos diwethaf sef beef enchilada. Fe wnes i salad cwscws gwenith cyflawn i fynd efo'r saig.

Saturday, January 30, 2016

cinio i anrhydeddu

Roedd cinio arbennig i anrhydeddu'r rhai sydd wedi derbyn gwobrau am eu gwasanaethau ardderchog ymysg heddlu a thân dynion Norman. Roedd fy merch hynaf un ohonyn nhw wedi cael ei dewis fel Gwirfoddolwr y Flwyddyn. A dweud y gwir mae hi'n cyfrannu at yr heddlu efo ei holl egni a chalon heb dderbyn tâl ers blynyddoedd, a dw i'n hapus gweld bod hi wedi cael ei chydnabod yn swyddogol. Wrth gwrs bod hi'n gwneud yr holl bethau oherwydd bod hi wrth ei bodd yn eu gwneud nhw. Y peth gorau ar yr achlysur oedd cyfle i wisgo ffrog ffansi, a sgwrsio efo'i ffrindiau, meddai.

Friday, January 29, 2016

bath llefrith

Mae'n anodd cynhesu fy hun mewn cawod ar noson oer, ond prin fy mod i'n cael bath go iawn gan fy mod i mor brysur gyda'r hwyr fel arfer. Neithiwr, fodd bynnag roedd eisiau cael bath poeth arna i'n arw, ac felly a bu. Mae gen i "rysáit" ar gyfer bath prin - cwpaned o finegr gwyn a llond llaw o geirch mewn hosan neu deits (rhai i daflu i ffwrdd.) Mae finegr yn lladd y bacteria ac mae ceirch yn gwneud eich croen yn anhygoel o lyfn. Bydd y dŵr yn troi'n wyn wrth i chi wasgu'r ceirch - bath llefrith llysieuol!

Thursday, January 28, 2016

myffin pwmpen

Myffin pwmpen ydy'r rhain. Defnyddiais flawd cyflawn a siwgr brown. Mae ychydig o geirch a sinamon ar eu pen. Maen nhw'n hynod o flasus er nad rysáit Elisabetta neu Marco ydy hon. Ces i ddau ddwsin a rhoi'r hanner yn y rhewgell. Bydd llwyaid o iogwrt plaen a mêl yn mynd yn dda fel topping yn lle menyn neu hufen.

Wednesday, January 27, 2016

hoshiana

Dw i newydd ddod o hyd i ganeuon bendigedig Joshua Aaron, Americanwr o wreiddiau Iddewig. Mae o'n canu yn Saesneg a Hebraeg. Ffilmiwyd nifer o'i fideos yn Israel yn dangos y golygfeydd wrth iddo ganu. Mae fy merch hynaf yn mynnu ei fod o'n edrych yn union fel Paul. Gofynnais, "pa Paul?" "Yr apostol," meddai! Hon ydy fy ffefryn, sef Hoshiana. Gyrrodd y darn hwn wefr lawr fy nghefn:
No other name by which we are saved but the Name of the Lord.... Yeshua

Tuesday, January 26, 2016

rysáit arall

Roedd yn llwyddiannus y tro hwn - rysáit arall gan Elisabetta, sef tortine alle patate ripieni (patis tatws wedi'u llenwi.) Maen nhw'n debyg i croquette wedi eu ffrio ar y badell neu bobi yn y popty. Defnyddiais nionyn a chêl yn hytrach na madarch a phigoglys. Ychwanegais ddarnau bach o benwaig mewn tun a thamaid o gig moch hefyd. Roedden nhw'n hynod o flasus ac roedd y teulu'n hapus iawn.

Monday, January 25, 2016

trên drwy'r dref

Roedd rhwydwaith o reilffordd yn arfer cysylltu o gwmpas rhai trefi yn Oklahoma, Arkansas a thu hwnt. Roedd gorsaf trên yn y dref yma hyd yn oed nes dros 70 mlynedd yn ôl. Dim ond darn o draciau trên sydd ar ôl bellach. Yn ddiweddar dysgodd fy mab yn y dosbarth am hanes y trên, a dyma googlo e ffeindio rhyw ffeithiau. Byddai'n gyfleus iawn mynd i faes awyr Tulsa pe bai'r trên yn dal i fodoli.

Saturday, January 23, 2016

methiant

Dw i wedi bod yn coginio seigiau newydd ar ôl ryseitiau Elisabetta e Marco Bianchi yn ddiweddar. Maen nhw'n wych a dw i a'r teulu wrth ein bod. Neithiwr fodd bynnag, doedd y cawl ddim yn dda a dweud y gwir, nid ar y rysáit roedd y bai ond ar y bwmpen. Sgwash mesen oedd o yn hytrach na phwmpen. (Does dim pwmpenni blasus ar gael yma.) Er bod y cynhwysion yn hynod o iach fel ffacbys a haidd, rhoddodd y sgwash flas od. Mae llond powlen fawr o sbarion; bydda i'n bwyta tamaid bob dydd.

Friday, January 22, 2016

ateb

Sgrifennais sylw ar dudalen Facebook Marco Bianchi am y gacen a wnes ac atodi'r llun is. Fe wnaeth o roi "hoffi" ac ateb yn glên iawn!  "Diolch o galon. Dw i'n hapus iawn dy fod ti'n ei hoffi hi (y gacen.) Cwtsh," meddai. 

Thursday, January 21, 2016

melaccio

Fe wnes i gacen afal yn ôl rysáit arall Marco Bianchi. Enwodd o hi'n Melaccio. Mae hi'n gacen lawn o afalau, cnau a rhesins heb wy na menyn. Nid fegan dw i, ond dw i wrth fy modd efo ryseitiau iach Marco. Wedi gweld y fideo rysáit sawl tro a newid gram i gwpan, dyma brofi'r gacen hon - mae'n wych! Fe osodais y popty ar 180C/350F yn lle 200C/392F ar ôl gweld cacen Marco braidd yn ddu ar y wyneb. Y tro nesaf, bydda i'n dechrau efo'r cynhwysion sych yn hytrach na'r afalau oherwydd bydd yn cymryd amser i falu'r cnau ayyb tra'r darnau o afalau'n prysur feddalu mewn siwgr. 

Wednesday, January 20, 2016

gwestai arbennig i oklahoma

Oes, mae ganddo nam, siŵr iawn. Ond mae'r egwyddor ganddo; mae o'n siarad yn blaen ar y nifer o bynciau dros y bobl sydd yn cael eu hanwybyddu gan y prif gyfryngau; mae o'n gwybod gwerth yr heddlu sydd yn gweithio'n ddygn heb gael eu diolch; mae o'n gwybod pwysigrwydd Second Amendment; mae o'n rhoi gobaith i America sydd yn dioddef ers blynyddoedd. Daeth Donald Trump i Tulsa heddiw i roi araith i'w gefnogwyr. Croeso cynnes i Mr. Trump gan Fel y Moroedd.

Tuesday, January 19, 2016

sbwriel yn y goedwig

Aeth dau ieuenctid i'r goedwig gerllaw i gasglu sbwriel ddoe. Daethon nhw'n ôl wedi rhyw awr efo llond bag du o duniau ayyb ynglŷn â bwced (llenwon nhw o efo sbwriel) a darn o blastig. Dim ond crafu'r wyneb ydy hyn a dweud y gwir. Mae rhannau o'r goedwig wedi troi'n domen sbwriel sydd yn cynnwys oergelloedd, peiriannau golchi, môr o duniau, ac yn y blaen.

Sunday, January 17, 2016

ateb gan elisabetta

Sgrifennais sylw am y rysáit cawl ffacbys at Elisabertta ar ei thudalen Facebook, a chael ateb! Roedd hi'n hapus fy mod i'n hoffi'r cawl. Wrth gwrs bod cyfathrebu drwy Facebook yn hollol gyffredin, ond rhywsut neu'i gilydd, mae hyn yn teimlo'n beth arbennig. Dw i'n dal i brofi ei ryseitiau iach, pancake efo afalau wedi eu tafellu er enghraifft.

Saturday, January 16, 2016

nadolig yn hwyr

Mae fy mab hynaf a'i wraig efo ni dros benwythnos. Dyma'r tro cyntaf i ni eu gweld nhw ar ôl y briodas oherwydd bod nhw wedi mynd i Japan a Taiwan dros y Nadolig. Agoron ni anrhegion Nadolig yn hwyr. Ces i sgarff rwd (y lliw), siocled amrywiol, a llyfr am Giuseppe Garibaldi. (Roedd popeth ar restr Eleven Pipers.) Dan ni'n treulio'r diwrnod yn hamddenol. Bydda i'n paratoi cyri cyw iâr i swper.

Friday, January 15, 2016

cawl ffacbys

Yn ddiweddar mae hwn yn edrych fel blog coginio! Dyma bost arall ar fwyd - Coginiais gawl ffacbys y tro 'ma yn ôl rysáit arall Elisabetta efo barlys, pentwr o lysiau gwyrdd. Dim ond halen, pupur ac olew olewydd a ddefnyddiwyd i roi blas arno fo, ond roedd o'n hynod o flasus. Byddai fo fod wedi mwy blasus byth pe bai porcini sych ar gael. Mae'n anodd ffeindio rhywbeth egsotig felly yn y dref hon.

Thursday, January 14, 2016

pati tofu

Ces i syniad gan Elisabetta ar gyfer pati tofu. Dyma'r cynhwysion a ddefnyddiais: tofu, tatws wedi eu gratio, sardîn mewn tun, ceirch sych, wy, olew olewydd, paprika, tyrmerig, teim, halen, pupur. Ffriais y pati ar badell ffrio, ond dylwn i fod wedi'u pobi yn y popty gan fod yna lawer ohonyn nhw. Hefyd bydda i'n defnyddio tatws stwns yn lle tatws wedi eu gratio'r tro nesaf. Roedden nhw'n hynod o flasus beth bynnag.  

Wednesday, January 13, 2016

cawl syml

Des i ar draws rysáit gwych ar gyfer cawl tatws a brocoli. Mae o'n wir syml ac eto hynod o flasus - saig berffaith ar noson oer. Dydy'r rysáit ddim yn defnyddio llefrith, y fantais i fy nheulu oherwydd bod gan un o'r plant alergedd iddo fo. Coginiais y cawl ar y llosgwr logiau sydd wrthi'n cynhesu'r tŷ.

Tuesday, January 12, 2016

byrgyr ffa, fersiwn arall

Coginiais fyrgyr ffa i swper eto. Y tro hwn, newidiais y cynhwysion tipyn bach a chael canlyniad gwych - yn lle ceirch sych, roeddwn i'n defnyddio rhai wedi'u mwydo mewn ychydig o ddŵr poeth; Ychwanegais ffa gwyrdd meddal a digon o dyrmerig (ffefryn Elisabetta) hefyd. Roedd y byrgyr yn hynod o braf.

Monday, January 11, 2016

pelenni gwn

Cawson ni de'n anrheg gan ffrind o Tsieina. Clywais amdano fo o'r blaen ond yfes i erioed y te hwn, sef gunpowder. Mae'r dail te'n cael eu rholio ac yn edrych fel pelenni gwn. Wedi cael eu mwydo mewn dŵr poeth, bydd llond llwy te ohonyn nhw'n agor yn llenwi'r tebot. Am arogl! Mae'n debyg i de jasmin, ond does dim blodau ond y dail. Arogl y dail ydy o. Cewch chi ddefnyddio'r un dail am sawl tro, a dydy'r paned olaf ddim yn ddrwg o gwbl.

Sunday, January 10, 2016

siop de cwningod

Yn ddiweddar aeth fy merch yn Japan i "siop de cwningod" lle dach chi'n cael chwarae efo cwningod tra yfed te. Rhaid dilyn cyfarwyddiadau llym i dreulio amser efo'r cwningod annwyl a dof - rhaid golchi'ch dwylo, rhaid gwisgo ffedog, rhaid rhybuddio'r staff cyn codi o'r sedd, ayyb. Mae fy merch yn hoff iawn o anifeiliaid bychan, felly cafodd hi amser hyfryd un diwrnod. 

Friday, January 8, 2016

e-bost

Roeddwn i mor hapus efo fy nghwpan o Loegr yn ogystal â gwasanaeth hyfryd y cwmni fel anfonais e-bost yn diolch iddyn nhw. A dyma gael ateb cwrtais ganddyn nhw'r bore 'ma. Diolchodd Raymond i mi am sgrifennu atyn nhw ac roedd o'n hapus iawn darllen fy neges. Dwedodd y byddai fo'n ei phasio at y staff eraill. Cynhesodd hyn fy nghalon tra bod paned o de yn y cwpan newydd yn cynhesu fy nghorf hefyd.

Thursday, January 7, 2016

hank the cowdog

Mae cyfres Hank the Cowdog yn boblogaidd iawn. Roedd fy mhlant yn hoff iawn ohoni hi hefyd pan oedden nhw'n ifancach; darllenon nhw'r holl nofelau, rhyw 60 i gyd. Roedd fy mab ifancaf eisiau i mi ddarllen nofel gyntaf y gyfres, sef the Original Adventures, a rhoi copi i mi'n anrheg Nadolig. Roedd yn hynod o ddifyr a dweud y gwir. Mae Hank yn wirion weithiau ond mae'n dweud pethau call hefyd sydd yn eich gwneud chi'n meddwl yn ddwfn. Mae fy mab yn fodlon fy mod i'n mwynhau'r nofel.

Wednesday, January 6, 2016

y cwpan

Daeth Fedex â'r cwpan y bore 'ma! Mae o mewn cyflwr perffaith er ei fod o wedi teithio cyhyd o Lundain i Oklahoma. (Ces i hwyl gweld ei daith drwy'r tracking.) Mae o'n berffaith - digon mawr fel myg ond cain ac ysgafn efo flared lip. Dw i ddim eisiau defnyddio'r cwpanau eraill yn y cwpwrdd ond hwn! 

Monday, January 4, 2016

cam newydd i fy merch

Adawodd fy merch 19 oed adref y bore 'ma i fynychu prifysgol fach yn Nhalaith Missouri, hebryngwyd gan ei thad a'i chwaer hŷn. Mae'r brifysgol Gristnogol yn hunangynhaliol yn gwrthod cymorth llywodraethol, ac mae'r myfyrwyr yn medru talu'r ffi a'r costau byw drwy weithio ar y campws bob dydd ac yn ystod y gwyliau. Hogan o Kazakhstan ydy ei fflat mêt. Mae rhyw 500 o fyfyrwyr newydd wrthi'n ymgartrefu ar y campws heddiw.

Saturday, January 2, 2016

cinio dydd calan

Gŵyl bwysig ydy Dydd Calan yn Japan ac mae'r bobl yn dathlu am dri diwrnod o leiaf yn ciniawa efo'r teuluoedd ar seigiau a baratowyd ymlaen llaw. Roedd fy mam yn arfer coginio amrywiaeth ohonyn nhw am ddyddiau ddiwedd mis Rhagfyr bob blwyddyn. Collodd hi gyfle ers iddi ddechrau byw ar ben ei hun, ond eleni treuliodd fy ail ferch yr ŵyl efo'i nain, a dyma fy mam wrthi'n paratoi pethau arbennig, "am y tro olaf," meddai hi.

Friday, January 1, 2016

blwyddyn newydd

Y mae ef yn llywodraethu â'i nerth am byth,
a'i lygaid yn gwylio dros y cenhedloedd;
na fydded i'r gwrthryfelwyr godi yn ei erbyn!
- Salmau 66:7