Monday, February 29, 2016

diwrnod naid

Dw i ddim yn medru "neidio" yn gorfforol heddiw ond yn fy nghalon. Wedi cael wyth triniaeth geiropracteg ar y cefn, dw i'n teimlo'n llawer gwell. Dw i'n medru gwneud gweithgareddau cyffredin heb boen fel codi pethau oddi ar y llawr, rhoi sanau ar y traed neu disian. Roeddwn i'n cymryd y pethau felly'n ganiataol pythefnos yn ôl. Gyrrodd fy merch hynaf neges testun Bitmoji ddoniol y bore 'ma. Y peth rhyfedd ydy bod y llun yn edrych yn union fel hi.

Sunday, February 28, 2016

gêm gartref

Roedd twrnamaint pêl-droed ymysg yr ysgolion uwchradd yn yr ardal ddydd Sadwrn braf. Chwaraeodd pob ysgol dair gêm 50 munud yr un. Enillodd ein hysgol ni un gêm a cholli'r gweddill. Mae gan fy mab anafiad ar ei droed ond chwaraeodd hanner gêm tair gwaith. Roedd o'n rhedeg nerth ei ben er gwaethaf y poen; roedd rhaid bod ei adrenalin yn llifo'n garw! Aeth y teulu gan gynnwys ei frawd a'i wraig sydd yn byw yn Texas i'w gefnogi.

Friday, February 26, 2016

clustog i reuben

Mae Reuben, ci ffyddlon fy merch hynaf yn mynd yn hen. (Mae o'n wyth oed.) Prynodd fy merch wely cyfforddus iddo oherwydd bod ganddo gymalau poenus. Mae o eisiau clustog pryd bynnag mae o'n gorwedd fel gwelir yn y llun. Truan ohono fo, ond mae o'n lwcus cael byw efo "rhieni" mor garedig.

Thursday, February 25, 2016

saws gwych

Mae pati/beli llysiau angen saws gan eu bod nhw'n tueddu i fod braidd yn sych. Roeddwn i'n defnyddio iogwrt plaen bob amser, ond des i ar draws syniad braf yn ddiweddar - saws afocado. Dim ond afocado stwns efo llefrith (halen os liciwch chi) ydy hwn, ond roedd y saws llawn o fitamin E yn wych i fynd efo pati tatws/zucchini/sardîn.

Tuesday, February 23, 2016

rhy gynnar

Deffrodd y diwrnodau cynnes yn ddiweddar ein tiwlipau truan ni. Roedden nhw'n meddwl bod gwanwyn wedi dyfod, a phenderfynon nhw godi eu pennau oddi ar y blancedi trwchus o'r dail sych. Dw i'n siŵr y cawn oerfel a rhew eto cyn y gwanwyn go iawn. Gobeithio y byddan nhw'n ddiogel.

Monday, February 22, 2016

risen

Ers i mi glywed am y ffilm hon, dw i'n barod i fynd i'r theatr i'w gweld hi, sef Risen. Stori ganwriad Rhufeinig ydy hon. Yn y stori fo a gafodd gorchymyn gan Pilat i ddarganfod corff Iesu a ddiflannodd oddi wrth y bedd. Gwelodd fy merch hynaf hi ddoe a dweud bod hi'n ffilm ardderchog (heb ddatguddio gormod.) Mae hi eisiau ei gweld eto hyd yn oed. Mae'r ffilm yn y theatr leol yn ffodus. A' i efo'r teulu'r penwythnos hwn os bydda i'n gwella erbyn hynny.

Sunday, February 21, 2016

pregeth ar y we

Oherwydd anafiad i'r cefn a ges i'r wythnos diweddaf, es i ddim i'r eglwys y bore 'ma. Bydda i'n gwrando ar wasanaeth boreol Moody Church yn Chicago pryd bynnag rhaid aros cartref. Dr. Erwin Lutzer ydy fy hoff bregethwr. Dewisais bregeth yn yr archif, sef the Signature of God. Roeddwn i'n arfer gwrando ar y radio FM o'r blaen, ond mae'n hwylus iawn cael gweld fideos ar lein y dyddiau hyn. 

Saturday, February 20, 2016

poinsettia

Cafodd fy merch gan ei bos ar ôl tymor y Nadolig poinsettia mewn pot a oedd yn y swyddfa. Roedd o'n edrych yn drist oherwydd na roddodd neb ddŵr i'r planhigyn druan. Dyma ddechrau gofalu amdano fo - ei ddyfrio fo pan oedd angen; mynd â fo lle'r oedd heulwen (dim gormod.) Dw i newydd sylwi fod ganddo ddail newydd! Gobeithio ei fod o'n hapus.

Thursday, February 18, 2016

swper

Y swper ddoe: omled efo tatws; reis brown efo ffacbys; brocoli. Gwyliais sawl fideo Youtube i ddewis y rysáit gorau ar gyfer omled efo tatws, a'i newid ychydig (i symleiddio'r dull.) Roedd y canlyniad yn wych. Rysáit Marco Bianchi oedd y reis. Mae'n hynod o hawdd a maethlon ac yn mynd yn dda efo unrhyw saig. Yn anffodus, roedd rhaid defnyddio tyrmerig yn lle saffrwn oherwydd bod saffrwn yn ofnadwy o ddrud yn America. 

Wednesday, February 17, 2016

mesur newydd

Bydd rhaid bwcio a chael pas er mwyn ymweld ag un o'r trefi hardd yn yr Eidal yr haf ymlaen, sef Cinque Terre. Fel nifer mawr o lefydd poblogaidd yn y byd, mae'r dref yn dioddef  o ormod o dwristiaid esgeulus. Dim ond 1.5 miliwn y flwyddyn bydd yn cael mynd yno o gymharu â 2.5 miliwn a ymwelodd y llynedd. Gobeithio wir bydd y mesur yn cael gwared ar y twristiaid digywilydd a gadael rhai cyfrifol i gefnogi economi'r dref. 

Tuesday, February 16, 2016

fideos chris

Des i ar draws cyfres o fideos diddorol ynglŷn magu cyhyrau, colli pwysau a bwyta'n iach gan hogyn o'r Swistir. Dw i ddim yn bwriadu gwneud yr ymarfer corff caled, ond er mwyn ymarfer gwrando Ffrangeg dw i'n gwylio ei fideos. Fel Alberto o Italianoautomatico, mae Chris yn hogyn gweithgar efo amcan clir, ac mae o'n gwneud llawer o synnwyr. Mae ei Ffrangeg yn haws deall na'r lleill, a dw i'n hapus fy mod i'n medru deall beth mae o'n ei ddweud ar y cyfan. Er mwyn ei ddeall mwy, dw i'n gwrando arno fo nifer o weithiau. Rhannais ei gyngor efo fy mab ddyddiau'n ôl; dwedodd fod modd sit-ups Chris yn gweithio'n dda!

Monday, February 15, 2016

bwyta croissant

Yn sydyn roedd eisiau bwyta croissant arna i. Y broblem ydy does dim pobydd sydd yn gwerthu rhai blasus sydd yn debyg i un a ges i yn Cafè Poggi yn Fenis. Prynais un beth bynnag a cheisio ei wella cymaint â phosib. Rhois gryn dipyn o jam bricyll tu mewn ac allan ohono fo, a'i gynhesu yn y ficrodon am 15 eiliad. Doedd o ddim yn berffaith ond ddim yn rhy ddrwg pan ges i fo efo paned o café au lait (yn hytrach na cappuccino.) Os cawn i gyfle erioed i fynd yn ôl i Fenis ryw ddiwrnod, Cafè Poggi byddai'r lle cyntaf i ymweld â fo, siŵr iawn.

Sunday, February 14, 2016

gwers sydyn

Symudodd fy merch ifancaf i dalaith Missouri i fynd i'r brifysgol ryw fis yn ôl. Mae hi'n gwneud yn dda wrth iddi astudio, gweithio yn y gegin, gwneud ffrindiau newydd. Yr unig beth mae hi'n cael trafferth efo fo ydy mathemateg. Diolch i'r dechnoleg fodern, mae hi'n dal i gael cymorth gan ei thad. Cafodd "wers" sydyn ddyddiau'n ôl drwy Skype.

Saturday, February 13, 2016

y canlyniad

Roedd y peli ffacbys yn hynod o flasus (er fy mod i'n dweud hyn fy hun.) Roedden nhw'n grensiog tu allan a meddal tu mewn. Cymysgais nionyn, garlleg, persli, tomato sych, hadau llin, olew olewydd, halen, pupur, tyrmerig a blawd cyflawn efo cymysgwr llaw. Blawd oedd y gyfrinach i wneud y toes yn ddigon sych i mi eu rholio nhw'n beli. Crasais i nhw yn y popty am ryw 15 munud ar 400F/200C.

Friday, February 12, 2016

peli ffacbys

Dw i'n mynd i goginio peli ffacbys i swper heno. Fe wnes i byrgyr ffacbys sawl tro, ond y tro hwn, dw i'n bwriadu eu gwneud yn beli. Mae cynifer o ryseitiau ar Youtube (dim ond rhai yn Eidaleg dw i'n eu gweld) ac mae pawb yn defnyddio cynhwysion a dulliau dipyn yn wahanol. Ceisia' i gyfuno'r syniadau da i greu fy rysáit i. Gawn ni weld.

Thursday, February 11, 2016

cael gwared ar arogl drwg

Gan fy mod i'n defnyddio ffacbys yn aml yn ddiweddar, penderfynais goginio rhai sych  a'u cadw nhw yn y rhewgell. Aeth popeth yn iawn oni bai am yr arogl; roedd y tŷ yn drewi'n arw. Yna, welais fideo digwydd bod gan ddynes Eidalaidd sydd yn rhoi cyngor ynglŷn â sut i gael gwared ar unrhyw arogl drwg yn y tŷ drwy ddefnyddio pethau naturiol. I'r dim! Doeddwn i ddim eisiau defnyddio lemon (rhy ddrud,) a dyma fwyta Halos (tanjerîn) ar y bwrdd ar frys; taflu'r croen ac ychydig o clove cyflawn mewn  sosban o ddŵr, a gadael iddo ferwi am funudau. Goresgynnodd y cymysgedd yr arogl ffacbys yn llwyddiannus.

Wednesday, February 10, 2016

cinio spaghetti

Roedd cinio spaghetti yn yr ysgol uwchradd neithiwr er mwyn i'r tîm pêl-droed godi pres. Es i ynghyd â'r teulu (dim ond dau bellach) a ffrindiau i'w gefnogi. Roedd yr hogiau a'r athrawon yn prysur goginio a gweinyddu nifer mawr o gwsmeriaid. Doedd dim pwdin oni bai am y rhai ar arwerthiant, a hwythau wedi'u paratoi gan y rhieni! (Mi wnes i bastai.) Gobeithio bod y tîm wedi ennill digon i brynu crysau newydd.

Tuesday, February 9, 2016

peth newydd (i mi)

Mae Elisabetta'n eu defnyddio nhw yn aml yn lle wyau. Mae ganddyn nhw bob math o faetholion fel Omega-3, protein a ffibr. Hadau llin dw i'n sôn amdanyn nhw. Yr hyn sydd fy nenu mwy na'u maetholion ydy'r ffaith bod nhw'n medru cymryd lle wyau ac olew. Prynais fag ohonyn nhw wedi'u malu am y tro cyntaf heddiw. Bydda i'n dal i ddefnyddio wyau i wneud quiche, ond byddan nhw'n hwylus mewn cacennau a bisgedi.

Monday, February 8, 2016

modd gwahanol

Dysgais sut i hwylio te gan y ffrind o Tsieina. Yn aml iawn yn Tsieina byddan nhw'n rhoi dail te mewn cwpan yn uniongyrchol heb ddefnyddio tebot . Mae'n fodd hwylus dros ben. (Wrth gwrs dylai'r dail yn gyflawn.) Wedi munudau, dim ond codi'r dail o'r cwpan efo fforc ayyb sydd angen. Dw i'n dal i wirioni ar y te hwnnw (Gunpowder) a ges i ganddi hi.

Sunday, February 7, 2016

super bowl

Diwrnod mawr i lawer o Americanwyr ydy hi heddiw - diwrnod Super Bowl, sef pencampwriaeth gynghrair genedlaethol bêl-droed Americanaidd. Does gen i ddim diddordeb o gwbl ond mae fy nwy ferch yn mynd i bartïon i weld y gêm mewn trefi gwahanol. Gyrrodd fy merch hynaf lun o'r bwyd mae hi'n ei baratoi - yakitori. Bydd ei ffrind yn ei rostio ar y gril yn yr iard cefn ynghyd â chig arall. Mae'r ddwy yn mynd i gymdeithasu yn hytrach na gweld y gêm, a dweud y gwir.

Saturday, February 6, 2016

blwyddyn o hoe

Bydd fy merch arall yn graddio yn y brifysgol leol ym mis Mai. Hoffai hi astudio ymhellach, ond penderfynodd hi gael blwyddyn o "hoe" cyn hynny. Bydd hi'n aros efo teulu yn Ne Ffrainc a dysgu Saesneg i'w hogyn bach saith oed  yn ystod yr haf; yna bydd hi'n gweithio fel tiwtor Saesneg yn Japan am ddeg mis. Dw i'n gyffro i gyd cymaint â hithau! Gan nad ydw i'n medru mynd i Ewrop eleni, dw i'n teimlo fel pe byddwn i'n cael gweld Ffrainc drwy lygaid fy merch.

Friday, February 5, 2016

rhosyn saron

Mae olew persawrus o Israel newydd gyrraedd, dim yn uniongyrchol, a dweud y gwir, ond drwy gwmni o America. Cynhyrchwyd yn Israel, mae ganddo arogl rhosyn hyfryd. Prynais fo i ddefnyddio fel persawr, ond mae'n ymddangos bod rhai pobl yn ei ddefnyddio i eneinio'r sâl yn ôl y Beibl, neu fel defod. Dw i ddim yn credu mewn defodau ond fydda i byth eisiau bod yn amharchus, ac felly penderfynais i weddïo dros bobl Israel pryd bynnag byddwn i'n rhoi diferyn o'r olew ar fy arddwrn.

Thursday, February 4, 2016

adolygiad

Gofynnodd y cwmni yn Llundain i mi sgrifennu adolygiad ar y myg a brynais. Gan fy mod i'n fodlon dros ben efo'r myg, sgrifennais yn hapus. (Ches i ddim gwobr am y gwaith cofiwch.) Yr unig broblem oedd bod yr holl lysenwau gan gynnwys un defnyddir gan fy ngŵr i fy ngalw i yn cael eu defnyddio gan y lleill yn barod fel rhaid meddwl un unigryw. Dyma ddewis y llysenw defnyddir gan fy merch hynaf, sef Mamaly. Cafodd ei dderbyn!

Wednesday, February 3, 2016

caserol brocoli a ffacbys

Llwyddiant arall! Fe wnes i gaserol efo tofu, brocoli a ffa yn ôl rysáit Marco Bianchi. Dim ond hadau sesame, halen ac olew olewydd a ddefnyddir fel cyfwyd, ond roedd yn saig hynod o flasus. Defnyddiais y tun o ffacbys yn y cwpwrdd cegin ddoe ar ddamwain, ac felly rhaid defnyddio ffa pinto. Dwedodd Marco am ferwi'r brocoli am 7 munud, ond penderfynais ond tywallt dŵr poeth arnyn nhw rhag ofn iddyn nhw fynd yn rhy feddal yn y popty. Roedden nhw'n berffaith.

Tuesday, February 2, 2016

pancake siocled

Dw i'n ceisio perffeithio pancake siocled gan ddefnyddio cynhwysion iach wedi cael syniad gan fideo Elisabetta. Dywedir bod siocled yn gwneud lles i chi - newyddion braf! Dyma fy fersiwn:
Flawd cyflawn
Flawd ffacbys
Siwgr brown
Powdr coco
Powdr pobi
Llefrith cnau coco
Olew olewydd
Darnau o almon
Mêl fel topping

Dylwn i brofi sawl tro cyn cael rysáit perffaith; gwaith caled!

Monday, February 1, 2016

y murlun

Dan ni'n cael hoe fach rhag oerfel ac mae'n llosgwr logiau ni'n oer a distaw. Cymerodd fy merch hynaf fantais ar y tywydd a phaentio mwy ar y murlun dros y penwythnos. Roedd hi'n gweithio ar y ddau blismon ar feic. Maen nhw'n edrych yn wych! Y cam nesaf bydd paentio'r beics sydd ddim yn ei hoff wrthrych.