Thursday, March 31, 2016

macaroni and cheese

Mae gan fy merch alergedd llefrith er bod hi'n medru bwyta caws heb broblem. Roeddwn i'n arfer paratoi macaroni and cheese gan ddefnyddio llefrith arbennig iddi ond mae o'n llawer drytach na un cyffredin. Dyma ddyfeisio dull gwych i goginio popeth yn yr un caserol. (Y bowlen fach yng nghanol ydy ei un hi.) Roedd fy merch wrth ei bodd yn dweud bod y mac & cheese yn fwy blasus nag arfer.

Wednesday, March 30, 2016

o gymru

Mae busnes tatŵ fy merch hynaf yn ffynnu. Mae hi'n cael archebion gan gwsmeriaid o dramor yn aml. Bob tro daw un o'r Eidal neu Ffrainc neu wledydd "egsotig," mae hi'n dangos y cyfeiriad i mi (yn breifat wrth gwrs.) Ddoe am y tro cyntaf, cafodd archebu gan ferch o Gymru. Dyma awgrymu bydd hi'n ychwanegu nodyn sydd yn dweud, "diolch yn fawr" yn Gymraeg.

Tuesday, March 29, 2016

smwddio

Dw i newydd orffen smwddio tri chrys newydd y gŵr. Cymerodd hanner awr yr un! Mae'n anodd iddo ffeindio crysau sydd yn ei ffitio (ac yn rhesymol wrth gwrs.) Mae o wedi darganfod siop dda yn Tusla, a dyma iddo brynu pedwar. Maen nhw'n grysau hyfryd a rhesymol. Yr unig broblem (i mi) ydy bod nhw i gyd yn gotwm cant y cant. Mae hyn yn golygu bydd angen smwddio ar ôl pob golchi os dw i ddim eisiau eu gyrru nhw at siop olchi dillad. Dw i eisiau coffi rŵan. Dw i'n mynd i olchi un crys ar y tro o hyn ymlaen.

Monday, March 28, 2016

ffatri sychu

Lles y planhigion, y gwallt, y croen; lladd arogl drwg, atal pryfed annymunol a mwy - wedi dysgu defnyddioldeb gwaddodion coffi, dw i wrthi'n eu casglu o gegin yr eglwys a'u sychu nhw (y fi sydd yn paratoi coffi) yn ogystal â'n rhai ni. Dyma fy "ffatri" sychu ar y bwrdd bwyta. Ar ôl iddyn nhw'n hollol sych, Bydda i'n eu cadw nhw mewn cynhwysydd. Dw i'n ailgylchu'r papur hefyd; maen nhw'n wych ar gyfer tacluso platiau budr cyn iddyn nhw'n cael eu golchi.

Sunday, March 27, 2016

y pasg

Yna dywedodd (y troseddwr,) "Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas."
Atebodd yntau, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys."

Nid yw ef yma: y mae wedi ei gyfodi.

Pasg Hapus.

Friday, March 25, 2016

yn annisgwyl

Dw i wedi darganfod cyfres fideo ddiddorol yn Ffrangeg ar You Tube, sef Echappées Belles; mae tri o griw (un ar y tro) yn mynd o gwmpas y byd i gyflwyno gwledydd eraill mewn ffordd bersonol. Maen nhw wedi sicrhau tywyswyr lleol sydd yn helpu'r criw ym mhob gwlad. Mae rhai'n siarad Ffrangeg; fel arall bydd yna voiceover yn Ffrangeg. Gwyliais yr episod am Gymru. Doedd yr un o'r tywyswyr yn siarad Ffrangeg ar wahân i un - pwy groesawodd y Ffrancwr yn Nolgellau a mynd â fo o gwmpas yn siarad Ffrangeg yn hollol rugl ond Bethan Gwanas! Doeddwn i ddim yn gwybod bod hi wedi ennill gradd yn yr iaith honno. Mae ei Ffrangeg yn haws deall na'i Chymraeg efo acen Ddolgellau a dweud y gwir! Gyda llaw roedd pawb arall yn siarad Saesneg yn hytrach na'r Gymraeg.

Thursday, March 24, 2016

y tiwlip cyntaf

Mae'r tiwlip cyntaf newydd flodeuo! Yn anffodus mae'r tywydd wedi troi'n oer yn sydyn efo gwynt cryf. Truan ohono fo. Dw i ddim yn gweld blagur arall; gobeithio bydd mwy'n dod pan fydd hi'n gynnes. Mae'r ffens yn lleihau harddwch siŵr iawn, ond mae o'n llawer gwell na gweld y tiwlipau'n cael eu difetha.

Wednesday, March 23, 2016

carreg filltir

Mae fy merch yn Japan newydd orffen y flwyddyn gyntaf fel athrawes Saesneg yn yr ysgol feithrin. Dechreuodd hi weithio ym mis Ebrill y llynedd, ac roedd hi'n gweithio'n ofnadwy o galed bob dydd nes iddi fod yn sâl yn aml. Cyrhaeddodd hi'r lynau'n llwyddiannus, diolch i Dduw ffyddlon, a chafodd hi lawer o ddiolch gan y plant, eu rhieni a'i bos. Mae hi ar wyliau yn Ne Korea yn ymweld â'i ffrindiau annwyl yno. Mae blwyddyn newydd yr ysgolion a'r prifysgolion yn cychwyn ym mis Ebrill yn Japan. Bydd ganddi lai o gyfrifoldeb bellach, ac felly gobeithio na fydd rhaid iddi orweithio bob amser o hyn ymlaen. 

Tuesday, March 22, 2016

hanami

Mae'r coed ceirios yn llawn blodau yn Oklahoma. Er gwaetha'r gwynt cryf, fe wnaeth fy merch hynaf baratoi cinio bach i'w fwyta efo'i theulu dan eu coeden o flaen y tŷ fel mae hi'n gwneud bob blwyddyn. Yn ôl y rhagolygon, mae'r blodau wedi cyrraedd eu hanterth yn Tokyo erbyn hyn hefyd.

Monday, March 21, 2016

ffens

Roedd y gŵr wrthi'n gwneud ffens dros ein tiwlipau ni'r wythnos diwethaf. Mae'r ddyfais yn lleihau harddwch y blodau, ond dan ni ddim eisiau cymryd siawns eleni. Gobeithio byddan nhw'n blodeuo'n braf yn ddiogel.

Sunday, March 20, 2016

coeden geirios

Dw i'n byw yn y tŷ yma ers 16 mlynedd, ond doeddwn i erioed yn gwybod bod yna goeden geirios yn y gymdogaeth. Prin fy mod i'n mynd am dro ym mis Mawrth oherwydd yr alergedd; es i, fodd bynnag, un diwrnod gwlyb yn gobeithio byddai'r glaw'n cadw'r paill i lawr. Fedrwn i ddim yn credu fy llygaid - safai coeden geirios fach mewn cae esgeulusedig yn arddangos ei blodau pinc cain. Mae'n debyg bod neb yn sylwi arni hi, coeden druan. Bydda i'n ei hedmygu hi bob gwanwyn o hyn ymlaen.

Friday, March 18, 2016

siop lyfrau

Aeth fy merch ynghyd â'i ffrindiau i Arkansas yn croesi'r ffin. Yr amcan oedd ymweld â siop lyfrau ail-law, siop elusen a chael cinio mewn siop frechdannau caws wedi'u grilio yno. (Maen nhw i gyd yn boblogaidd.) Roedd y brechdan yn hynod o flasus (ces damaid sydd ar ôl.) Prynodd hi gopi o Hunchback of Notre-Dame. Mae'n brin iawn gweld siop ar y stryd efo cynifer o lyfrau dyddiau hyn. Gan ei bod hi'n hoff iawn o ddarllen a sgrifennu, cafodd hi amser gwych.

Thursday, March 17, 2016

bwyd sydd yn rhoi pwer

Mae'r ffliw gan fy mab ifancaf. Yn ffodus mae o'n llawer gwell erbyn hyn. Wedi clywed ei fod o'n dal i deimlo'n wan iawn, dyma ffrio dau wy, a'u rhoi iddo ynghyd â moron a chnau almon - brecwast pwerus mae Chris o Camp Transformation Physique yn ei gael bob dydd. Mae fy mab yn dweud ei fod o'n teimlo'n gryfach bellach!

Wednesday, March 16, 2016

cynnyrch hyfryd

Daeth y teulu'n ôl ddoe wedi ymweld â fy merch ifancaf yn y brifysgol yn Missouri. Arhoson nhw yn y gwesty enwog ar y campws a chawson nhw eu synnu pa mor hyfryd ydy'r gwasanaeth. Y gwesty gorau mae o erioed wedi aros ynddo, yn ôl y gŵr. Mae'r myfyrwyr yno'n gweithio'n galed ym mhob man ar y campws, y gwesty, y tŷ bwyta, y gegin, y fferm, y lladd-dy, y felin, y siop, y ffatri; mae rhai'n godro'r gwartheg am dri o'r gloch bob bore hyd yn oed. Hyn i gyd yn ogystal â'r astudio maen nhw'n ei wneud wrth gwrs. Mae'r myfyrwyr yn cynhyrchu bron pob dim, ac mae'r cynnyrch yn enwog am eu hansawdd uchel yn yr ardal. Ces i flas o'r byrbryd a ddaeth y teulu'n ôl. Mae o'n anhygoel o flasus!

Tuesday, March 15, 2016

p. audax

Mae gan fy merch hynaf "anifail anwes" newydd, sef Phidippus audax, sef pry cop mawr a elwir daring jumping spider. Mae o'n medru neidio'n anhygoel o bell, ac mae ganddo wyneb doniol sydd yn edrych fel Dr. Sues! Mae o'n mynd a dod yn ôl ei fympwy, ac mae o'n hoffi aros ar law fy merch. Mae hi'n ei alw fo'n bry cop SWAT gan fod o'n fawr ac yn gryf. Dydy ei chi ddim yn gwybod beth i wneud efo'r P. audax hwnnw.

Monday, March 14, 2016

cyri thai

Mae fy merch wrthi'n ymarfer coginio bwyd Japaneaidd oherwydd bydd hi eisiau coginio i'r teulu yn Ffrainc bydd hi'n aros efo nhw yn yr haf. Dw innau ddim yn coginio fawr o fwyd Japaneaidd ac felly does fawr o amrywiaeth - cyri, gyoza, mabodofu. Er nad hollol Japaneaidd ydyn nhw'n wreiddiol, maen nhw'n boblogaidd yn Japan beth bynnag. Fe goginiodd hi gyri Thai neithiwr (ddim yn hollol Japaneaidd chwaith!) Roedd yn syml ond hynod o flasus. Dw i'n siŵr bydd y teulu yn Ffrainc wrth ei fodd.

Sunday, March 13, 2016

moka

Fe wnes i goffi efo Moka newydd gyrraedd! Wnaed yn yr Eidal,  daeth o efo cyfarwyddiadau mewn wyth iaith gan gynnwys Japaneg. Dw i'n hen gyfarwydd â sut i'w ddefnyddio gan fy mod i wedi gwylio cynifer o fideos yn barod! Wedi ei olchi a'i drin, dyma wneud fy mhaned cyntaf. Roedd yn brofiad cyffroes gweld yr hylif brown dod allan o'r twll ar ben y pig. Mwynheais baned cryf, arbennig o dda.

Saturday, March 12, 2016

cacen afal

Fe wnes i grasu cacen afal ac iogwrt. Mae yna nifer o fideos sydd yn dangos dulliau hawdd. Y tro hwn roeddwn i'n gwylio fideos Ffrangeg. Defnyddir iogwrt mewn cwpan bach, ac mae'r cwpan yn cael ei ddefnyddio i fesur y cynhwysion eraill fel blawd, siwgr ac olew. Newidiais i nhw ychydig i droi'r gacen yn iachach. Roedd y canlyniad yn hynod o wych, yn berffaith i fwyta efo paned o de. Roedd yn gyfle braf i wrando ar y Ffrangeg ar yr un pryd wrth gwrs.

Friday, March 11, 2016

tiwlipau

Doedd dim barrug hwyr wedi'r cwbl. Collon ni ddau (dw i'n amau mai ar ryw wiwerod mae'r bai) ond mae'r gweddill o'n tiwlipau ni'n tyfu'n braf, ar wahân i un truan sydd yn edrych braidd yn sâl. Gobeithio y bydd o'n gwella. Dwedodd y gŵr fydd o'n codi ffens o'u cwmpas eleni i'w cadw nhw'n ddiogel. 

Thursday, March 10, 2016

dim pryfed

Mae hi wedi bod braidd yn braf y dyddiau hyn, ychydig gwlyb ond ddim yn oer neu boeth. Y peth hyfryd ydy nad oes pryfed o gwmpas eto. Cymerodd fy merch mantais ar y tywydd prin a darllen ar y dec cefn nes machlud yr haul. Wedi gweld y llun hwn ar Facebook, dwedodd brawd y gŵr, "does dim pryfed o gwbl yma yn Las Vegas; mae'n rhy sych." Dw i'n gwybod eu bod nhw i gyd wedi symud i Oklahoma!

Wednesday, March 9, 2016

y murlun

Mae fy merch newydd orffen ei murlun. Cychwynnodd hi fis Hydref a dal ati pryd bynnag oedd y tywydd yn ei chaniatáu. Mae'r murlun gwych hwn yn adlewyrchu ei chariad tuag at Heddlu Norman a'r heddlu dros y wlad. Gobeithio bydd o'n codi eu hysbryd yn yr amser caled maen nhw'n ei wynebu bob dydd.

Tuesday, March 8, 2016

kimono

Mae gan Swydd Nerima, sef y swydd mae fy ail ferch yn byw ynddi yn Tokyo wasanaethau gwych i'r trigolion. Mae yna gampfa a redir gan y swydd ger ei fflat; cewch chi ddefnyddio popeth yno am 100 Yen (tua 60 ceiniog) am sesiwn. Mae fy merch yn mynd i ddosbarth Japaneg a ddysgir gan wirfoddolwyr am yr un pris. Yn ddiweddar aeth efo ei ffrind o Tsieina i brofi gwisgo kimono a chael te traddodiadol (yn rhad ac am ddim.) Roedd y merched wrth eu bodd mewn kimono hardd.

Monday, March 7, 2016

cappuccino

Archebais Moka ddoe! Yn y cyfamser, mi wnes i cappuccino efo dull syml gan ysgwyd llefrith cynnes mewn potel yn egnïol. Dim ond mymryn o bowdr coco ar ben y coffi (paratowyd gyda'r dull drip) sydd angen i baratoi cappuccino braf. Edrycha' i ymlaen at wneud paned efo Moka.

Sunday, March 6, 2016

coffi amrywiol

Dw i'n meddwl am brynu Moka. Dyfeisiwyd gan Eidalwr yn 1933, mae o'n declyn anhygoel i wneud coffi cryf er ei fod o'n syml. Tra oeddwn i'n meddwl pryd byddai'r amser gorau i'w brynu gan ystyried pwyntiau Amazon ayyb, gwelais fideo gan Elisabetta sydd yn dweud ei bod hi'n hoff iawn o'i coffee maker Americanaidd. Efallai bydda i'n licio fy Moka cymaint ag y mae hi'n hoffi ei un hi.

Saturday, March 5, 2016

rocedi i rosod

Mae o'n creu rhosod, ategolion a chanwyllbrennau metelig cain o weddillion y rocedi a saethwyd gan Hamas tuag at y trigolion yn Israel. Athro/gof ydy Yaron Bob yn Israel.  Mae o eisiau troi'r offeryn marwol hwnnw yn bethau hardd, a gadael i'r byd wybod nad Israel eisiau rhyfeloedd ond dyfodol disglair. Byddwn i'n dweud mai'r ailgylchu eithaf ydy hyn! Pob bendith iddo fo a'i rosod.

Friday, March 4, 2016

doctor who a kazakhstan

Mae fy merch ifancaf yn mynd i'r brifysgol yn Missouri ers dau fis. Mae hi wedi bod yn ffrindiau da efo'r hogan o Kazakhstan sydd yn rhannu'r ystafell efo hi. Mae fy merch yn hoff iawn o gyfres Doctor Who, a phan welodd ei ffrind episod am y tro cyntaf efo hi, syrthiodd y ffrind mewn cariad efo'r rhaglen. Maen nhw'n gwylio rhagor efo'i gilydd ers hynny. Mae dau DVD newydd gyrraedd o Amazon a archebwyd ganddi hi.

Thursday, March 3, 2016

gŵyl ferched

Gŵyl Ferched ydy hi heddiw yn Japan. Roedd bron i mi anghofio tynnu'r doliau truan allan o'r blwch. Dylwn i fod wedi gwneud y gwaith wythnos yn ôl. Dywedir yn Japan os byddwch chi'n anghofio tynnu'r doliau allan ddydd yr ŵyl, byddan nhw'n crio yn y blychau. Trwch blewyn! Mae'r hen ddoliau annwyl sydd gan yr un oedran â mi, yn dal mewn cyflwr gwych. Dw i'n bwriadu eu gadael nhw allan o'r blwch am ddyddiau (er bod hyn yn erbyn yr arferiad.)

Wednesday, March 2, 2016

methiant arall

Mae'r teulu'n edrych ymlaen at Ddydd Gŵyl Dewi bob blwyddyn oherwydd y cinio! Eleni, fodd bynnag, methais yn anffodus. Anghofiais brynu bacwn ar gyfer y cawl cennin; y canlyniad oedd cawl braidd yn wan heb fawr o flas. Doedd y patis ffa du ddim yn dda i ddweud y lleiaf! Rhois ormod o flawd yn y cymysgedd. (Dydy patis ffa ddim yn hollol Gymreig dw i'n gwybod!) Yr unig lwyddiant oedd Bara Brith. Aeth fy merch â thafell at ei ffrind a astudiodd yn Abertawe efo hi'r llynedd.

Tuesday, March 1, 2016

mae rhywbeth arall ar wahân i super tuesday oggi



             Dydd Gŵyl Dewi Sant Hapus!