Saturday, April 30, 2016

cacen afal gan peiriant bara

Doeddwn i erioed wedi defnyddio'n peiriant bara ni ond i wneud bara burum tan yn ddiweddar. Roeddwn i'n gwybod fod o'n medru gwneud pethau eraill ond doeddwn i ddim eisiau trafferthu. Penderfynais grasu bara zucchini ddyddiau'n ôl fodd bynnag, ac roedd o'n flasus iawn a hynod o syml heb gynhesu'r tŷ yn y tywydd cynnes. Heddiw fe wnes i gacen afal. Mae o'n dda iawn hefyd. Dw i eisiau gwneud jam yn y peiriant gwych y tro nesaf. (Mae o'n medru gwneud llawer o bethau a dweud y gwir!)

Friday, April 29, 2016

y dillad golch enwocaf yn y byd

Postiwyd y dillad golch enwocaf yn y byd unwaith eto, gan BluOscar, yn y nos y tro hwn. Tynnais innau lun ohonyn nhw dair blynedd yn ôl. (Gweler y chwith.) A dweud y gwir, roedden nhw'n chwifio mor urddasol fel na fedrwn i beidio. Rhaid bod y trigolion yno'n ofalus beth i hongian ar y lein gan fod pawb eisiau tynnu lluniau o'u dillad golch! Maen nhw'n eu gadael nhw yn ystod y nos, mae'n amlwg gyda llaw.

Thursday, April 28, 2016

llawdriniaeth cataract

Cafodd y gŵr lawdriniaeth gataract (llygad ar y tro.) Aeth popeth yn dda iawn, ac mae o'n medru gweld yn anhygoel o dda. A dweud y gwir, mae o'n medru gweld llawer gwell nag erioed; roedd ganddo fyopia drwg o'r blaen, ond cafodd lensys mewnol newydd sbon efo presgripsiwn delfrydol ar gais (athro optometreg ydy o.) Rŵan mae o'n medru darllen heb sbectol; dim ond sbectol efo presgripsiwn ysgafn ar gyfer golwg dros y pellter bydd angen. Mae'r dechnoleg wedi datblygu'n anhygoel hefyd. Cymerodd y llawdriniaeth ond deg munud yr un. Mae'n rhyfeddol beth sydd yn bosib gwneud. 

Wednesday, April 27, 2016

wedi storm

Roedd rhybudd storm fawr gan gynnwys tornado neithiwr. Cafodd gêm pêl-droed yr ysgol ei ohirio er bod hi'n heulog drwy'r ddydd. Roedd yn anodd credu y byddai'n bwrw glaw hyd yn oed. Chwap ar ôl i mi fynd i'r gwely, fodd bynnag, cafodd y gŵr neges destun yn rhybuddio am dornado. Dechreuais glywed taranau pell. Yna, ces i fy nychryn gan daran ofnadwy o enfawr. Dechreuodd y storm. Yn ffodus na ddaeth tornado yma. Gwelais ganghennau wedi'u disgyn yma ac acw drwy'r dref ond mae popeth yn ymddangos yn iawn. Disgynnodd y blodau derwen i gyd oherwydd y glaw trwm! Hwrê! (Mae fy iris a rhosod yn iawn!)

Tuesday, April 26, 2016

rhosod

Mae fy "mabi" arall newydd flodeuo - sef y rhosod yng nghefn y tŷ. Wedi cael eu plannu gan berchennog arall, maen nhw'n blodeuo'n ffyddlon bob gwanwyn ynghyd â'r iris a'r lleill. Dw i ddim yn hoffi garddio ac felly dim ond chwynnu gwnaf, ond dw i'n edrych ymlaen at eu gweld nhw bob blwyddyn beth bynnag. 

Monday, April 25, 2016

marathon arall

Cynhaliwyd marathon arall yn ogystal â Marathon Llundain ddoe, sef Marathon Oklahoma City. Er bod y nifer o'r rhedwyr yn llawer llai na Marathon Llundain (tua 25,000,) daeth redwyr o dros 40 talaith a rhai o dramor. Cynhaliwyd y marathon cyntaf yn 2001 er gof ar y 168 o bobl a gafodd eu lladd yn y derfysgaeth yn 1995, ac er mwyn uno'r byd yn obaith. Roedd yna sawl categori ar wahân i farathon llawn. Cymerodd gŵr fy merch hynaf ran yn y ras gyfnewid efo pedwar ffrind eraill. (Y fo rhedodd y rhan hirach, sef 7 milltir.) Gan fod dau ohonyn nhw wedi cerdded, na throdd y tîm y record, ond cafodd pawb fedal yn wobr. 

Sunday, April 24, 2016

iris

Roeddwn i'n disgwyl am y blodau ers dyddiau. Dyma nhw, ein iris cyntaf y tymor! Maen nhw fel fy mhlant oherwydd dw i'n gofalu amdanyn nhw'n chwynnu'r gwely blodau bob yn ail ddydd. Mae yna lawer mwy ohonyn nhw eleni.

Saturday, April 23, 2016

babi newydd

Cafodd ffrind orau fy merch fabi neithiwr, pythefnos yn gynt na'r disgwyl - hogan fach ddel a oedd yn pwyso chwe phwys. Mae fy merch a'r ffrind wedi bod yn ffrindiau gorau ers i ni symud yma 19 mlynedd yn ôl. Priododd y ffrind y llynedd a dyma hi yn fam ifanc yn barod.

Friday, April 22, 2016

myffins efo menyn afal

Mae'r menyn afal yn yr oergell yn rhy felys bwyta ar dost, ac felly penderfynais grasu myffins efo fo. Dyma chwilio ar y we a ffeindio rysáit gwych - efo ceirch a heb fraster. Defnyddiais hadau lin yn lle wyau; hanner o siwgr; dim ond pinsiad o halen. Roedd y myffins yn hynod o flasus; galwodd y gŵr nhw'n fyffins gorau dw i erioed wedi'u crasu. :)

Thursday, April 21, 2016

lle mae hwn

Dw i'n edrych ymlaen at ddydd Iau'n ddiweddar oherwydd bod BluOscar wedi dechrau postio bob wythnos "lle mae hwn yn Fenis." Mae o'n postio lluniau o bethau fel pen ffynnon, ddrws, cerflun, ayyb mewn llecyn anhysbys, a gofyn i'w ddarllenwyr ddweud lle maen nhw. Mae'n anodd bob tro ond mae yna  Ffrances sydd yn nabod Fenis fel cefn ei llaw, ac y hi sydd yn llwyddo fel arfer. 

Wednesday, April 20, 2016

pesach

Mae Pesach ar y trothwy. Gwyliais fideo diddorol ar y pwnc - beth allwn ni fod wedi gweld pe bai'r Ymadawiad wedi digwydd y dyddiau hyn. Roedd popeth yn symud mor gyflym fel bod rhaid i mi atal y fideo sawl tro i ddarllen y negeseuon ar y sgrin. 

Tuesday, April 19, 2016

llo

Mae fy merch yn mwynhau ei bywyd yn y brifysgol yn Missouri. Mae hi'n ymweld â'r gwartheg ar y campws o bryd i'w gilydd i anwesu'r lloi. Roedd hi'n fwy na'u hanwesu nhw'r tro hwn; rhoddodd hi ei llaw yng ngheg llo! Gyrrodd hi fideo. Roedd ei llaw yn ei geg am hanner munud! Gofynnais a oedd o'n cnoi ei llaw. Nac oedd; roedd o'n ei sugno, ac roedd ei dafod yn wlyb a lledraidd, meddai. Yna, dechreuodd o ar wallt a chrys merch eraill! 

Monday, April 18, 2016

enw

"Beth wyt ti eisiau i dy ŵyr dy alw di?" ofynnodd fy mab hynaf. Dewisodd ei fam yng-nghyfraith Mimi. Mae o a'i wraig yn disgwyl eu babi cyntaf ym mis Mehefin. Dw i ddim eisiau Baba (Japaneg) oherwydd fod o'n swnio fel "hen wraig." Nain (Cymraeg); Nonna (Eidaleg); Mamie (Ffrangeg); Oma (Almaeneg) A dweud y gwir, mae Oma yn swnio'n debyg i air Japaneg sydd yn golygu mam fawr neu fam brenin. Dw i'n licio hwn! Ond dwedodd fy merch hynaf ei fod o'n swnio fel enw arweinydd clan rhyfedd. "Dylet ti ddewis Mama (fy enw i'r plant) a dylai'r babi alw ei fam Mommy. Mae Reuben yn dy alw di'n Mama yn barod," meddai. Ei chi ydy Reuben!

Saturday, April 16, 2016

popeth yn wyrdd

Mae blodau derwen ar eu hanterth rŵan. Mae gynnon ni sawl coeden derwen o gwmpas y tŷ. Bob blwyddyn maen nhw'n taflu'r paill gwyrdd ym mhob man yn lliwio'r waliau, y grisiau tu allan, y canllawiau, y driveway yn wyrdd. Feiddia' i ddim mynd am dro nes i'r blodau ddisgyn oherwydd yr alergedd. Pan ddylwn i dwtio'r iard am amser byr, dw i'n gwisgo mwgwd a het. 

Friday, April 15, 2016

cerdyn arbennig

Mae penblwydd fy mam ar y trothwy. Bydd hi'n 94 oed. Er nad ydy hi'n medru cerdded heb boen yn ddiweddar, mae hi'n dda iawn gan ystyried ei hoedran. Mae'n anodd credu bod hi mor hen pan siaradith ar y ffôn. Ces i syniad gwych ar gyfer cerdyn penblwydd. Gobeithio bydd o ei phlesio hi. Dw i'n bwriadu gyrru tusw o flodau yn anrheg iddi eleni.

Thursday, April 14, 2016

diogelwch

Roedd rhaid i mi godi fy mab yn yr ysgol y bore 'ma i fynd â fo i ganolfan gerllaw. Ces i fy synnu o'r newydd i wynebu cynifer o weithdrefn cyn i mi gael ei weld o ar fynedfa'r ysgol. Pan oeddwn i'n hogan ddeg oed, ces i ganiatâd gan yr athro'n hawdd i fynd adref ar fy mhen fy hun pan ddwedais wrtho fo fy mod i'n teimlo'n sâl. Roeddwn i'n cymudo ar y trên hyd yn oed. Mae'r amser wedi newid a dw i'n deall y rheswm. 

Wednesday, April 13, 2016

lili'r dyffryn

Roedd ein Lili'r Dyffryn ni dan haen drwchus o ddail ers yr hydref diwethaf. Pan ddaeth yr amser iddyn nhw ddeffro, roedd yr haen rhy drwchus fel na oedden nhw'n medru mynd drwodd. Roeddwn i'n sylwi beth oedd yn digwydd ddyddiau'n ôl, a dyma fynd ati eu hachub. Pan godais y dail trwm, ffeindiais gynifer o egin bregus bron â mygu! Ceisiais achub cymaint â phosib. Maen nhw'n tyfu ers hynny a dechreuodd ddwyn blodau hardd.

Tuesday, April 12, 2016

parchment paper

Dydy o ddim yn glynu o gwbl! Roedd yn anhygoel o hawdd paratoi bariau granola wrth ddefnyddio parchment paper yn lle papur cwyr. Doeddwn i ddim yn gwybod y gwahaniaeth a dweud y gwir. Glynodd y papur cwyr at y granola'n ofnadwy pan wnes i bedwar dwsin o fariau mawr o'r blaen. Bydda i'n hapus talu pedair gwaith am y papur arbennig hwnnw o hyn ymlaen.

Monday, April 11, 2016

tiwlipau truan

Dw i'n ofni fy mod i wedi lladd y tiwlipau gan roi gormod o goffi iddyn nhw. Does dim golwg ar flodau ar wahân i un cyntaf. Cododd y gŵr "gawell" dros wely'r blodau er mwyn eu hamddiffyn rhag fandaliaeth, ond doedd dim angen. Ceisio rhoi maetholion iddyn nhw, a'u hamddiffyn rhag y gwiwerod roeddwn i. Dysgais wers chwerw (ddim chwarae ar eiriau.) Gobeithio y dônt y flwyddyn nesaf.

Sunday, April 10, 2016

wedi gorffen

Gorffennodd fy merch ei murlun. Roedd yn anodd iddi baentio'n ddiweddar oherwydd y gwyntoedd cryfion, ond dyma fo! Mae'r perchennog wrth ei fodd, a chafodd hi lawer o gymeradwyaeth gan y bobl a oedd yn gyrru heibio. Gobeithio bydd y murlun yn dwyn mwy o fusnes i'r siop.

Saturday, April 9, 2016

ras 5k

Cynhaliwyd ras 5K a drefnwyd gan Ysgol Optometreg y bore 'ma. Rhedodd y gŵr a'r mab ifancaf ynghyd â rhyw 30 eraill. Yn anffodus mae'r nifer o redwyr yn lleihau ers i'r ras golli'r cefnogwr cefnog lleol, ond cafodd pawb amser gwych yn y tywydd braf. Enillodd fy mab y fedal. (Dim ond dau arall oedd yn ei gategori.) Fe wnaeth y gŵr yn dda iawn gan ystyried ei oedran! Addawodd o ei fyfyrwyr ymlaen llaw i roi un pwynt yn fonws os curan nhw fo, ac felly roedden nhw'n ymarfer yn galed er gwaethaf eu baich astudio trwm. Pump a'i guro gan gynnwys enillwr y ras ac un fyfyrwraig.

Friday, April 8, 2016

crempog sydyn

Dw i wrth fy modd yn gwylio fideos coginio yn Eidaleg a Ffrangeg (byth yn Saesneg) er mwyn gwneud dau beth yr un tro. Mae fideos efo'r teitl "une journée dans mon assiette" yn boblogaidd iawn rŵan; mae yna nifer ohonyn nhw gan lawer o bobl. Maen nhw'n dangos beth maen nhw'n ei fwyta i frecwast, cinio a swper. Dw i'n dewis ryseitiau iachus a gyflwynir gan bobl efo acen bleserus, a'u profi'n aml. Daeth chwant crempog arna i'n sydyn wedi gweld merch Ffrengig yn paratoi rhai. Dyma nhw.

Thursday, April 7, 2016

rhwystredigaeth

Dw i'n cofio'n iawn y domen o waith papur, yr ymweliad â'r heddlu, yr ysbyty, y cyfweliad yn llysgenhadaeth America, ayyb roedd rhaid i mi eu gwneud yn Japan i ennill y cerdyn gwyrdd amser maith yn ôl. Yn ddiweddar, cafodd cais gan gwpl o Honduras ei wrthod i ddod i fynychu priodas eu mab sydd yn priodi Americanes. Wrth gwrs mai polisi'r wlad hon ydy hwn, a rhaid ei barchu. Y nhw sydd yn penderfynu wedi'r cwbl. Y peth sydd yn fy ngwylltio ydy tra bod yn ofnadwy o galed i gael caniatâd cyfreithiol i ddod i mewn yn yr Unol Daleithiau, mae'n hawdd dros ben i ddod yn anghyfreithlon. Dim ond croesi'r ffin bydd yn angen, a chewch chi groeso a'r budd-daliadau a dalir i gyd gan drethdalwyr America. Fedr y border patrols ddim yn eu stopio oherwydd bod nhw wedi cael gorchymyn i beidio â'u rhwystro.

Wednesday, April 6, 2016

ymateb arall

Sgrifennais sylw arall ar dudalen Facebook Elisabetta er mwyn diolch iddi am ei fideos coginio'n iach. Roddwn i'n ceisio coginio cyn iached â phosib o'r blaen, ond dysgais lawer mwy wrth weld ei fideos. Dw i'n defnyddio mwy o ffa a llysiau bellach; mae hadau llin a hadau chia ar y bwrdd bwyta bob amser. Mae'r teulu wedi sylwi'r newid a'i ganmol. Dw i wrth fy modd yn cael ymateb clên ganddi hi'r bore 'ma.

Tuesday, April 5, 2016

nofel newydd

Dw i newydd ddechrau darllen y nofel newydd gan Donna Leon, sef the Waters of Eternal Youth. Mae hi'n sgrifennu un nofel yng nghyfres Commissario Brunetti bob blwyddyn, ac y 25ain ydy hon. Darllenais i nhw i gyd ar wahân i un a oedd yn rhy ddiflas i mi. Er nad ydw i'n cytuno â'r awdures ar nifer o bynciau, dw i'n hoff iawn o Brunetti, ac wrth fy mod yn dilyn ei olion traed wrth iddo gerdded ar lwybrau culion Fenis. Wedi'r cwbl, y fo a sbardunodd fy niddordeb yn y ddinas honno. Yn y nofel gyntaf, roedd Brunetti'n arfer gadael neges at ei wraig ar eu ffôn cartref. Mae'r dechnoleg wedi datblygi ychydig ers hynny! 

Monday, April 4, 2016

maidd

Dw i ddim yn prynu enwyn mwyach er mwyn crasu cacen ayyb. Pan fydd angen, bydda i'n defnyddio maidd iogwrt sydd yn cronni mewn carton. Mae o'n gweithio'n dda iawn. Heb y maidd, mae'r gweddill o'r iogwrt (cyflawn) yn troi'n drwchus braf fel iogwrt Groegiaid. Syniad gwych ydy hwn er fy mod i'n dweud fy hun! 

Sunday, April 3, 2016

bisgedi iachus

Yn sydyn roedd chwant bisgedi arna i, ond doeddwn i ddim eisiau rhai efo blawd/siwgr gwyn a llawer o fenyn. Dyma chwilio am rysáit dda ar y we, ond darodd dim byd deuddeg. Ac felly penderfynais wneud efo fy rysáit i - tipyn o hwn a thipyn o hwnnw. Dyma nhw! Bisgedi holl iachus efo ceirch, blawd cyflawn, siwgr brown, resins, hadau llin, thipyn o fenyn/olew cnau coco. Maen nhw'n debyg i fyffins yn hytrach na bisgedi oherwydd fy mod i wedi ychwanegu llwyaid o lefrith neu ddwy i wneud y toes yn ddigon llaith. Maen nhw'n flasus beth bynnag.

Saturday, April 2, 2016

dewin

Mae gan fy merch hynaf brosiect newydd, sef murlun ar wal garej ffrind iddi. Auto Wizard ydy enw'r siop, ac felly dewin mae hi wrthi'n ei baentio ers deuddydd. Cafodd y perchennog nifer o alwadau ffôn yn barod gan y trigolion sydd yn canmol y murlun. Mae o'n ardderchog yn fy nhyb i hefyd.

Friday, April 1, 2016

asalea

Mae'n hasalea ni at ei anterth rŵan. Mae'n disgleirio yn yr heulwen. Dw i ddim yn hoffi garddio ond roeddwn i'n trio gofalu amdano fo gan dorri canghennau diangen yma ac acw, a rhoi dŵr a choffi o bryd i'w gilydd. Mae'r llwyn yn fwy na'r llynedd, dw i'n meddwl. Braf gweld canlyniad fy ngofal. Roeddwn i ar fyn rhoi rhagor o goffi iddo, ond darllenais ar ddamwain ddylech chi beidio â gwneud hynny tra bod yna flodau. Trwch blewyn!