Thursday, June 30, 2016

dysgu i gasáu

"Dw i'n dysgu fy mhlant i garu, ond ti'n dysgu dy blant i gasáu," dwedodd mam y ferch a gafodd ei llofruddio ddoe wrth fam y llofrudd. Cafodd Hallel 13 oed ei thrywanu i farwolaeth yn ei gwely tra oedd hi'n cysgu yn ei chartref ger Hebron, Israel gan fachgen Arabaidd 17 oed a dorrodd i mewn i'w thŷ. Cafodd o ei saethu gan swyddog gwarchod a marw. Marw fel merthyr gan lofruddio'r Iddewon oedd amcan ei fywyd. Gwireddwyd ei freuddwyd yn rhannol; llofruddio Iddewes ddiniwed wnaeth, ond marw fel llofrudd, dim merthyr. (y llun - Israel National News)

Wednesday, June 29, 2016

o dan y bondo

Ces i sioc i weld nyth fawr wasp o dan y bondo ger y drws blaen. Mae wasps yn hoffi codi nyth yno bob blwyddyn gan fyddai'r lle'n eu cysgodi nhw rhag gwynt a glaw. Doeddwn i ddim eisiau chwistrellu'r fam a oedd wrthi'n gofalu am ei nyth, ac felly pan welais i mohoni hi, dyma chwistrellu'r nyth efo chwistrell nerthol. Ces i sioc arall! Dim nyth wasp oedd hi ond mud dauber. Chwalodd y nyth wedi'i gwnaed efo mwd, a gwasgaru ym mhob man! Roedd rhaid i mi lanhau popeth cyn i'r fam druan ddod yn ôl. Gwelais i hi nes ymlaen ac roedd hi'n chwilio am ei nyth. Mae'n ddrwg gen i. Gobeithio y codith hi un arall rhywle arall.

Tuesday, June 28, 2016

pwy wir

Yr ieuenctid Palesteinaidd truan "sydd yn cael eu gorthrymu" wrthi'n taflu cerrig at yr Iddewon a'r twristiaid ar Temple Mount yn Jerwsalem. Maen nhw'n ymddwyn felly'n gyson ac yn enwedig yn ystod tymor Ramadan. Cafodd cynifer o bobl eu hanafu gan gynnwys plant bach ac oedrannus, hyd yn oed rhai Palestiniaid. (Cawson nhw eu helpu gan filwyr Isarel.) Pwy sydd yn gorthrymu a phwy sydd yn cael eu gorthrymu?

Monday, June 27, 2016

harddu llochesi bom

Mae yna gannoedd o lochesi bom yn Israel o gwmpas y tai, ysgolion, ysbytai, cartrefi henoed a pharciau, ayyb yn ardaloedd peryglus er mwyn amddiffyn y trigolion rhag rocedi Hamas. Dw i'n edmygu'r  Israeliaid sydd yn harddu llochesi bom hyd yn oed ynghyd â muriau diogelwch er gwaetha'r sefyllfa erchyll. (y llun gan Jane o Jerwsalem)

Sunday, June 26, 2016

murlun arall

Hwn ydy'r murlun hardd a baentiwyd ar y wal sydd yn gwahanu Israel a Gaza, ar ochr Israel wrth gwrs. Aeth Jane o Jerwsalem at y ffin yn ddiweddar a gweld nifer o bethau gan gynnwys y murlun hwn. Gwelodd hi gannoedd o loriau'n gadael am Gaza er mwyn mynd â chyflenwadau at y trigolion yno. Mae 600 o loriau'n mynd bob dydd. Un o'r pethau na fydd y prif gyfryngau byth yn ei adrodd. (y llun gan Jane)

Saturday, June 25, 2016

gorffen y murlun

Mae fy merch hynaf newydd orffen y murlun ym maes awyr Newark. Cymerodd gyhyd oherwydd bod y cwsmer wedi newid ei feddyliau sawl tro; cafodd hi orchymyn i dywyllu'r holl liw, yna i ysgafnhau popeth unwaith eto. Aeth i Newark eto yn ddiweddar i gwblhau'r gwaith. O'r diwedd mae'r cwsmer yn fodlon, ond mae fy merch yn anhapus oherwydd nid ei dull hi ydy'r dyluniad. Dwedodd hi fyddai hi byth yn derbyn gwaith os na cheith ddarlunio fel mynnith hi.

Friday, June 24, 2016

mae o'n dod yn fuan

Mae gan Joshua Aaron gân newydd sbon! Ar alaw enwog Hawaiian, rhoddodd o eiriau Hebraeg a Saesneg. Hu Yavo Bekarov (Mae o'n dod yn fuan) ydw'r enw. Mae o'n canu'n hyfryd wrth (ac ar) Fôr Galilea. Dw i'n ceisio dysgu canu'n Hebraeg. 

Thursday, June 23, 2016

diwrnod cyntaf yn ffrainc

Cyn gynted ag y bod hi'n cyrraedd y dref fach yn Ffrainc, cafodd fy merch ei thaflu i mewn gweithgareddau hwyl. Roedd yn noson ŵyl gerddoriaeth dros Ffrainc digwydd bod, ac roedd y trigolion yn bwyta efo'i gilydd tu allan ac yna dawnsio tan yn hwyr. Dwedodd fy merch fod hi'n cysgu fel cerrig y noson honno wedi ymlâdd yn llwyr. Mae hi i fod i goginio swper heno, a bydd hi'n cychwyn dysgu Saesneg i'r hogyn yfory.

Wednesday, June 22, 2016

pecyn arbennig

Dw i newydd archebu pecyn gan Lev Haolam. Dw i ddim yn gwybod beth fydd ynddo fo'n union, hynny ydy, llenwir y pecyn efo cynnyrch lleol (pethau fel gwin, olew olewydd, te, coffi, ffrwythau sych, siocled, cynnyrch harddwch, crefftau, ayyb) a wnaed gan yr Iddewon dewr sydd yn symud i fyw yn Jwdea/Samaria yn Israel. Maen nhw'n wynebu terfysgaeth feunyddiol tra bod y byd yn eu condemnio'n anghyfiawn a cheisio eu cosbi efo BDS. Dw i'n hapus i gael cyfle i ddangos fy nghefnogaeth dros Israel.

Tuesday, June 21, 2016

ar y trên

Cyrhaeddodd fy merch Ffrainc yn ddiogel. Roedd hi'n medru gweld ei chwaer hŷn am ddeg munud ym maes awyr Dallas hyd yn oed. (Roedd ei chwaer ar ei ffordd i Newark.) Fe wnes i gamgymeriad a meddwl bod Cymru'n chwarae erbyn Rwsia heddiw, ond cyfarfod rhai o'r cefnogwyr wnaeth hi, ar y trên o faes awyr Toulouse i Carcassonne! Llongyfarchodd hi nhw am y fuddugoliaeth, yn Saesneg yn anffodus gan mai Cymry di-Gymraeg oedden nhw. Roedd hi'n anghofio tynnu llun.

Monday, June 20, 2016

dechrau'r siwrnau

Mae fy merch newydd adael am Ffrainc wedi gadael Pooh yng ngofal ei brawd. Dw i'n hapus iawn drosti hi; mae hi'n medru teithio a chael profiadau newydd. Mae'r teulu yn Ffrainc yn disgwyl amdani hi'n awyddus. Edrycha' i ymlaen at ddarllen ei blog a gweld lluniau ar Facebook. 

Sunday, June 19, 2016

toulouse

Mae fy merch wrthi'n pacio ei chês rŵan. Bydd hi'n gadael am Ffrainc yfory i aros efo teulu yno am ddau fis yn dysgu Saesneg i'r bachgen saith oed, a chael profiad i fyw yn Ffrainc. Cyrhaeddith hi faes awyr Toulouse brynhawn dydd Mawrth. Anogais i hi i gyfarch y Cymry os gwelith hi rai o'r cefnogwyr yno.

Saturday, June 18, 2016

babi newydd

Cafodd fy ŵyr cyntaf ei eni yn oriau mân y bore 'ma. Arafodd popeth wedi i wraig fy mab fynd i'r ysbyty neithiwr, ac roedd ganddi amser i gysgu hyd yn oed. Yna, daeth neges destun gan fy mab am 2:40 yn y bore yn dweud bod ei dŵr hi wedi torri. Cafodd y babi ei eni'n ddiogel dim ond hanner awr wedyn. Pwysodd 7 pwys a 14 owns. Edrycha' i ymlaen at weld mwy o luniau.

Friday, June 17, 2016

cynnyrch ffres

Cafodd fy merch amrywiaeth o gynnyrch ffres gan y cyn athrawes biano y bore 'ma - mafon, mwyar duon, ffa gwyrdd, afalau, eirin gwlanog a rhosod cochion. Ces i neges testun tra roeddwn i mewn siop gan fy merch; gofynnodd hi i mi brynu hufen iâ i fynd efo'r mafon a mwyar duon. Dyma brynu hufen iâ fanila heb lactos fel pwdin. (Mae ganddi alergedd.) Bydd hi'n coginio gyoza i ymarfer am y tro olaf. Cawn ni swper gwych.

Thursday, June 16, 2016

skype

Mae'r prifysgolion ar wyliau ers wythnosau. Da bod gan fy merch ifancaf yn Missouri amser i baentio, darllen, sgrifennu a choginio o'r diwedd oherwydd bod hi'n gweithio ond un diwrnod yr wythnos bellach. Mae hi eisiau gweithio mwy ond mae'n amlwg bod hi'n anodd cael hyd i waith dros dro yn ystod yr haf. Mae'r ddau blentyn adref yn siarad â hi drwy Skype yn aml. Maen nhw'n gwylio gemau pêl-droed efo'i gilydd hyd yn oed. Roedden ni'n gwylio Sense and Sensibility prynhawn 'ma. Mae'n rhyfeddol clywed ei llais yn y tŷ fel pe bai hi adref.

Wednesday, June 15, 2016

bath i coco

Mae'n boeth a chlos heddiw, diwrnod perffaith i roi bath i Coco, ein mochyn cwta ni. Dyma fy mhlant wrthi'n ei lanhau a'i sychu. Mae o'n lân braf bellach. Mae fy merch yn ceisio gwneud cymaint o ddyletswydd o gwmpas y tŷ â phosib cyn gadael am Ffrainc yr wythnos nesaf.

Tuesday, June 14, 2016

fersiwn arall

Gwelais efo fy merch bennod gyntaf Sense & Sensibility (fersiwn 2008.) Efo unrhyw ffilm yn seiliedig ar nofelau Jane Austen, mae gen i a fy merched farn eitha' cryf. Penderfynon ni nad ydy'r ddau actor yn ddewis da i'r cymeriadau, sef Dominic Cooper a Charity Wakefied. Mae pawb arall yn iawn, yn enwedig Hattie Morahan. (Dw i a'r teulu yn erbyn Emma Thompson oherwydd bod hi'n rhy hen i fod yn Elinor.) Mae'n well gen i gerddoriaeth fersiwn 1995, ond mae'r bwthyn a bryniau Devon yn y fersiwn hwn yn hynod o braf. Edrycha' i ymlaen at y ddwy bennod eraill.

Monday, June 13, 2016

shalom-chan

Mae'r Japaneaid yn hoff iawn o fasgotiaid; mae gan bron pob swyddfa gyhoeddus, cwmni, ysgol, mudiad ayyb fasgot ei hun. Yn aml iawn mae o'n fasgot byw, hynny ydy, mae rhywun yn gwisgo fel anifail, blodyn neu bethau eraill. (gwaith caled rhaid bod!) Mae Llysgenhadaeth Israel gan un annwyl sydd wedi cael ei ddewis mewn cystadleuaeth gyhoeddus. Shalom-chan ydy ei henw hi, ac mae ganddi hi swydd bwysig fel llysgennad ewyllys da. Mae hi'n mynd o gwmpas Japan ac ymuno'r nifer o ddigwyddiadau fel hyn.

Saturday, June 11, 2016

hwrê!

Llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru! Gan fod fy mab yn sefyll arholiad ACT drwy'r bore, fedrwn i ddim gweld y gêm nes iddo orffen, ond darllenais ar y we o dro i dro sut roedd y gêm. (Gwelais gefnogwyr Cymru tu allan y stadiwm yn torri'n dathlu pan sgoriodd Bale.) Daeth fy mab adref bum munud cyn diwedd y gêm, ac felly gwelon ni'r diwedd hapus.

Friday, June 10, 2016

anrheg sul y mamau

Paentiodd fy merch fy ewinedd traed fel anrheg Sul y Mamau tipyn yn hwyr. Rhoddodd hi bedair haen o hylif coch coch a ddewisais. (Golchais fy nhraed yn dda ymlaen llaw!) Dw i byth yn gwisgo sandalau tu allan yn ddiweddar, ond mae'n braf gweld yr ewinedd lliwgar yn y tŷ. Dw i ddim yn hoffi cael triniaeth broffesiynol a dweud y gwir. Roedd yn bleserus cael gwasanaeth gan fy merch.

Thursday, June 9, 2016

peth gwallgof

Mae yna duedd newydd ym mhob man i feio'r dioddefwyr am gymell y troseddwyr i droseddu erbyn y dioddefwyr. Ar y dioddefwyr diniwed mae'r bai os byddan nhw'n cael eu llofruddio gan derfysgwyr. Ac mae pobl y terfysgwyr yn dathlu dros y gamp, sef y derfysgaeth tra bod un o'r terfysgwyr a anafwyd yn cael ei drin mewn ysbyty yn wlad y dioddefwyr. Gwallgof.

Wednesday, June 8, 2016

hanesyn o las vegas

Tra oedd yr hogia'n ymarfer y seremoni briodas, es i a fy merch hynaf i IKEA a agorodd yn Las Vegas pythefnos yn ôl. Mae fy merch yn gwirioni ar IKEA, ond roedd dyna'r tro cyntaf i mi fynd. Treulion ni oriau yno wrth weld amrywiol o bethau wedi'u trefnu'n deniadol efo prisiau rhesymol. Gwelais sinc dw i'n ei hoffi'n fawr iawn - un mawr efo gwaelod gwastad a draen ar ochr. Prynais i ond ychydig o fwyd, fodd bynnag, sef siocled tywyll, craceri aml-grain, a choffi sydd i gyd yn dda iawn.

Tuesday, June 7, 2016

dynes mewn aur

Ffilm seiliedig ar hanes go iawn ydy hon - am ddynes Iddewig a ddihangodd Awstria i America yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac am bortread ei modryb a baentiwyd gan artist enwog. Gwyliais fideo efo'r teulu neithiwr. Roedd yn hynod o ddiddorol, arswydus, trist, teimladol a chalonogol ar yr un pryd. Mae'r portread hwnnw'n cael ei ddangos yn oriel Neue yn Efrog Newydd.

Monday, June 6, 2016

priodas

Roedd yn achlysur hapus yn Las Vegas. Breuddwyd fy chwaer yng-nghyfraith oedd bod yn ferch briod yn gwisgo ffrog wen, a chafodd ei wireddu. Wedi dioddef yn y priodasau cyntaf, ffeindiodd hi a fy mrawd yng-nghyfraith bartner newydd bendigedig. Cynhaliwyd y seremoni hardd efo eu teuluoedd a ffrindiau agos. Dw i'n hapus iawn drostyn nhw.

Thursday, June 2, 2016

glanhau cadwyni arian

Dw i'n mynd i Las Vegas efo'r teulu i fynychu priodas brawd fy ngŵr. Bydda i'n gwisgo'r tlws crog efo Seren Dafydd arno fo (gemwaith gwydr o Murano) a brynais yn Fenis. Ces i sioc i weld y cadwyni arian wedi eu hocsideiddio, a dyma googlo i ddatrys y broblem. Modd hawdd ac effeithiol ydy hwn - dim ond mwydo'r cadwyni mewn dŵr wedi'i ferwi efo powdr soda a darn o ffoil alwminiwm sydd angen. Mae'r cadwyni'n lân ac yn disgleirio bellach.

Wednesday, June 1, 2016

llys sirol

Ces i brofiad prin heddiw - es i'r llys sirol fel cyfieithydd ar gyfer dynes o Japan sydd ddim yn siarad Saesneg. Roeddwn i'n barod cyn naw o'r gloch efo fy ngŵr fel fy helpwr. Roedd tua dwsin o bobl yn y llys bach. Pan alwodd y barnwr enw'r ddynes, fodd bynnag, ni safodd neb, a gorffennodd yr achos. Ni ddaeth y ddynes; does ryfedd gan fod hi'n byw yn California, ac mae'r swm dan sylw ddim yn werth teithio mor bell i nôl. Roeddwn i'n rhydd i fynd. Balch roeddwn i a dweud y gwir oherwydd bod gen i lawer o bethau i wneud y bore 'ma.