Saturday, July 30, 2016

cawr dewr

Dw i'n gwirioni ar y fideo doniol hwn! Mae o'n disgrifio agwedd yr Ewropeaid (a llawer o bobl eraill dros y byd) tuag at Israel i'r dim. Truan o'r cawr dewr! Mae o'n cael ei gyhuddo yn lle cefnogaeth a diolch gan yr union bobl mae o'n ceisio eu hamddiffyn. Dylid cefnogi Israel cyn i'r diwedd trist ddigwydd fel yn y fideo. (Roedd gan y cawr wyneb trist.)

Friday, July 29, 2016

crochenydd

Dyma Batya, crochenydd a nyrs yn Itamar yng ngogledd Samaria, Israel. Yn wreiddiol o America, mae hi a'i theulu yn byw yn y dref fach honno efo'r mil eraill. Mae hi'n cael ysbrydoliaeth gan yr amgylchoedd wrth greu ei chrochenwaith hardd. Er bod yr Iddewon yno'n cael eu hymosod gan y Palestiniaid yn aml, maen nhw'n benderfynol o fyw ar dir eu tadau er mwyn cryfhau presenoldeb Iddewig ym mhob cwr o Israel. Lev Haolam sydd yn prynu ei chrochenwaith dros y cwsmeriaid rhyngwladol. Gobeithio y bydda i'n derbyn un o'i gwaith mewn pecyn un diwrnod.

Thursday, July 28, 2016

le marche

Postiodd fy merch y llun yma o Loreto. Mae hi'n dal i fwynhau ymweld â Marche efo ei ffrindiau lleol. Symudodd hi i dŷ ffrind sydd yn hoff iawn o foch cwta yn Ancona. Maen nhw'n cael amser braf chwarae efo'i hanifeiliaid anwes. Cafodd hi ginio efo ffrind arall a'i rhieni sydd ddim yn siarad Saesneg. Dwedodd hi ei bod hi'n braf "gorfod" siarad Eidaleg efo nhw. (Dydy hi ddim yn medru ei siarad hi'n dda.) Braf wir, roeddwn i'n bob amser mynnu siarad Eidaleg efo'r Eidalwyr sydd yn medru Saesneg pan oeddwn i yno.

Wednesday, July 27, 2016

bambŵ

Dim ond ychydig o fambŵ a blannodd gŵr fy merch hynaf yn eu gardd. Maen nhw'n tyfu'n wyllt dros flynyddoedd ac yn llenwi'r ardd yn gyfan gwbl bellach yn ymestyn i'r ardd nesaf drwy'r ffens. Maen nhw'n braf gweld coedwig fambŵ yn y ffilm, Totoro, ond ddim i'r cwpl sydd gan ardd fach. O'r diwedd penderfynodd fy mab yng-nghyfraith dorri rhai ohonyn nhw.

Tuesday, July 26, 2016

ar y traeth

Mae fy merch yn mwynhau ei gwyliau yn yr Eidal efo'r un teulu roedd hi'n aros efo nhw tair blynedd yn ôl. Gaeaf yr oedd. Mae'r ardal yn edrych yn hollol wahanol yn yr haf - mae'r caeau blodau haul, gwinllannoedd a llwyni olewydd yn disgleirio yn yr haul llachar. Mae gan y bobl ddwy awr o hoe yn ystod y dydd. Gan fod y teulu'n byw agos at y môr, mae'r rhieni'n ymlacio ar y traeth wrth gael cinio.

Sunday, July 24, 2016

paratoi at y gaeaf

Mae'r tymheredd yn cadw o gwmpas 99F/37C bob dydd. Mae'n amser i baratoi at y gaeaf! Rentodd y gŵr beiriant, a dyma fo a'n mab ifancaf ni wrthi'n hollti am oriau'r coed mae o wedi casglu. Bydd rhaid gweithio mwy heddiw. Yna, byddwn ni'n barod am y gaeaf. Roedd y gŵr a'r mab hynaf yn arfer hollti coed efo bwyelli flynyddoedd yn ôl!

Saturday, July 23, 2016

rhufain

Mae fy merch arall newydd gyrraedd yr Eidal. Awr a hanner wedi gadael maes awyr Tokyo, roedd rhaid i'r awyren droi'n ôl oherwydd problem injan. Ail-gychwynnodd pawb ar awyren arall ar ôl 8 awr, stopio yn Istanbwl a chyrraedd yn Rhufain yn ddiogel. Rhaid ei bod hi wedi cyrraedd tŷ ei ffrind yn Marche erbyn hyn. Mae hi ar ei gwyliau am dair wythnos yn treulio amser efo ei ffrindiau Eidalaidd, a hefyd teithio efo'i chwaer o gwmpas yr Eidal a Ffrainc. 

Friday, July 22, 2016

dewis gorau

Dw i ddim yn cytuno â fo cant y cant, ond dw i'n credu mai Trump ydy'r dewis gorau i America sydd yn prysur chwalu o dan y llywodraeth bresennol. Fel dwedodd y diweddar Arlywydd Reagan, "os oes rhywun yn cytuno â chi 80 y cant, cynghreiriad ydy o."

Thursday, July 21, 2016

blas o ffrainc

Mae fy merch yn dal i fwynhau ei bywyd yn Ffrainc. Mae hi'n hoffi'r gymuned glòs yn y dref fach. Mae yna westai neu ddau at fwrdd y teulu bron pob nos, ac mae swper yn para dros ddwy awr tan yn hwyr. Maen nhw'n bwyta allan yn aml hefyd. Cafodd fy merch gyfle i flasu'r bwyd poblogaidd Ffrengig, sef escargots. Dim ond un bwytaodd hi; dwedodd ei fod o braidd yn dda! Cafodd pawb arall bowlen fawr fel entrée!

Wednesday, July 20, 2016

amrywiaeth mewn pwysau

"Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau, y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr Arglwydd."

Mae'r byd yn llawn ohono fo. Dim ond enghraifft fach ydy hon.

Tuesday, July 19, 2016

gwarchodwr

Mae fy ŵyr warchodwr newydd! Du a gwyn ac yn fawr a meddal ydy o. Gobeithio na fydd o'n rhoi ofn ar fy ŵyr sydd wedi troi'n fis oed ddoe. Dathlodd fy mab a'i wraig y diwrnod efo'u teulu yn Texas. Eu babi oedd yr unig un na chafodd bwyta'r gacen siocled.

Monday, July 18, 2016

hyd yn oed solomon

"Nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain." Mae'r geiriau'n dod i mi pan fydda i'n cerdded yn y goedwig bob bore. Mae'n anhygoel bod y blodau hardd felly'n tyfu mewn meysydd. Gwelais ewig a dwy gwningen heddiw. 

Saturday, July 16, 2016

teclyn newydd (i mi)

Dw i'n gwirioni ar y teclyn bach hwn a brynais yn ddiweddar. Ar gyfer gwrando ar yr ieithoedd dw i'n eu dysgu prynais i fo, yn hytrach na siarad ar y ffôn. (Dw i ddim yn ffonio'n aml.) Does angen cludo fy iPhone efo cordyn clustffonau clymog yn fy mhoced tra byddai'n golchi llestri. Mae o'n ysgafn, cyfforddus a hawdd ei ddefnyddio (hyd yn oed i mi.)

Friday, July 15, 2016

dyma hi

Dyma hi - dim ond boncyff coeden ydy "hi." O bellter, mae'n edrych union fel dynes Indiaid efo gwisg draddodiadol. Bydda i'n ei chyfarch bob bore beth bynnag. Cawson ni storm rymus neithiwr. Roedd hi'n dal i fwrw glaw'n ysbeidiol y bore 'ma.

Thursday, July 14, 2016

dynes lonydd

Ces i fy syfrdanu pan welais i "hi" am y tro cyntaf tra oeddwn i'n mynd am dro. Roedd hi'n edrych fel dynes Indiaid efo dillad traddodiadol yn sefyll yn llonydd ymysg y coed ac yn sbïo arna i. Postia' i lun arall yfory sydd yn datgelu pwy ydy hi.

Wednesday, July 13, 2016

hank you

Roedd fy merch a'i gŵr yn ymweld â ni'r penwythnos diwethaf (iddi fynd at y deintydd lleol.) Pryd bynnag byddai fy mhlant hyn yn aros yma, byddan nhw'n tueddu i adael peth neu ddau bersonol. Pan es i'r ystafell roedd y cwpl yn aros ynddi hi, dyma ffeindio charger ffôn ar y llawr. Gyrrais neges testun at fy mab yng-nghyfraith i ofyn a ydy o ei un o. Ydy. Sgrifennais, "I can nail it tomorrow" gan deipio "n" yn lle "m" ar ddamwain. Atebodd ar unwaith, "hank you."

Tuesday, July 12, 2016

rujum

Dw i'n gwirioni ar y shaker halen a phupur a oedd yn y pecyn o Israel. Crëwyd gan Hadas Sattler mewn ffurf Rujum (cerrig milltir hynafol,) mae o'n edrych fel R2D2 bychan. Gan fod ganddo dyllau mawr ar gyfer halen a phupur bras, (dan ni'n defnyddio rhai mân) penderfynais ei ddefnyddio ar gyfer coginio yn hytrach na ar y bwrdd. Mae o'n gweithio'n berffaith. Dw i'n cael pleser ei deimlo fo pob tro bydda i'n ei ddal o yn fy llaw.

Monday, July 11, 2016

tour de france

Mae fy merch yn Andorra efo'r teulu Ffrengig yn mwynhau eu gwyliau am ddyddiau. Aethon nhw yno i weld Tour de France yn bennaf. Dewison nhw lecyn braf wrth ymyl yr heol am ddeg o'r gloch ac roedden nhw'n ymlacio a chwarae cardiau ayyb ar flanced nes i'r beicwyr ddod, am bedwar o'r gloch. Gofynnais i ydy hi'n medru gweld y ddau Gymro, ond yn anffodus aeth pawb heibio'n rhy gyflym iddi wybod pwy oedd pwy. Profiad arbennig beth bynnag.

Sunday, July 10, 2016

ateb

Anfonais neges sydyn a thri llun ddoe at Lev Haolam i ddweud pa mor fodlon ydyw i efo'r pecyn. Ces i ateb y bore 'ma (ar ôl Saboth); maen nhw'n hapus ei fod o'n fy mhlesio a fy mod i ynghyd y teulu'n cefnogi Israel cant y cant.

Saturday, July 9, 2016

pecyn o israel

Mae o yma! Mae pecyn o Israel newydd gyrraedd! Agorais i fo'n awyddus a chymryd allan yr eitemau wedi'u lapio'n ddiogel. Cynhyrchwyd popeth gan yr Israeliaid lleol sydd yn gweithio'n galed i gynhyrchu cynnyrch a nwyddau o ansawdd uchel:

Potel o olew olewydd (Hebron)
Dates (Dyffryn Jordan)
Granola siocled banana (Ucheldir Golan)
Tywel cegin (ardal Binyamin)
Shakers halen a phupur (Anialwch Jwdea)
Tlws crog arian (Samaria)

Dw i'n gwirioni ar y tlws crog, calon efo ffurf tir Israel yn y canol. Mae'r date a granola yn arbennig o dda. Dw i erioed wedi bwyta date mor flasus yn fy mywyd. Hwn ydy ffordd wych i frwydro yn erbyn BDS a chefnogi Israel.

Friday, July 8, 2016

dim esgus

Does dim esgus dros derfysgaeth a thrais. Dywedir yn aml, fodd bynnag, bod gormes yn gorfodi'r bobl i fod yn derfysgwyr a throseddwyr treisgar. Pe bai'r ddamcaniaeth yn wir, byddai'r Iddewon yn derfysgwyr a throseddwyr mwyaf erchyll yn y byd.

Thursday, July 7, 2016

cwningen

Cychwynnais gerdded am bump o'r gloch a hanner y bore 'ma. Roedd yn hanner tywyll ac roedd y gwynt yn gynnes ar fy mochau. Sylwais i gath wen yn syllu ar ochr arall y ffordd; roedd hi'n barod i neidio. Cwningen frown fach. Roedd y gwningen heb symud er mwyn cuddio oddi wrtha' i. Gwelodd y gath fi a stopio'r hela am sbel, ond ar ôl i mi ei phasio hi, ail-gychwynnodd. Dyma gerdded tuag at y gwningen nes iddi redeg i ffwrdd. Cymer ofal, fach.

Wednesday, July 6, 2016

ben bore

Dw i'n mwynhau cerdded yn y gymdogaeth ben bore. Cyn hanner awr wedi chwech bydda i'n cychwyn fel arfer. Mae'n olau er bod yr haul heb godi. Mae amrywiol o adar yn prysur wneud eu defod foreol tra bydda i'n cerdded. Does neb allan (ar wahân i ambell i berson efo'i gi) eto. Bydda i'n anelu at y goedwig. Bydda i'n teimlo'n hyfryd wrth weld y coed mawr a blodau gwyllt ac yn anadlu'r awyr ffres. Mae'n anhygoel bydd y ddaear newydd yn filwaith brafiach na hyn i gyd. Gwelais ddwy ewig heddiw. Rhedon nhw i ffwrdd heb wneud sŵn. Wedi cerdded am dri chwater awr, bydda i'n barod i wynebu'r diwrnod.

Tuesday, July 5, 2016

17 mlynedd

Penblwydd fy mhlentyn ifancaf ydy hi heddiw. Mae'n anodd credu bod hi wedi bod yn 17 mlynedd ers iddo gael ei eni. Cafodd ei eni adref fel ei ddwy chwaer, yn fy ystafell wely yn y tŷ presennol i fod yn fanwl. Mae o'n chwe throedfedd a dwy fodfedd o daldra bellach, ac yn mynd i'r brifysgol flwyddyn nesaf. Does ryfedd fy mod i'n mynd yn hen!

Monday, July 4, 2016

gweddi

Penblwydd Hapus i America. Bydded i'w phobl droi'n ôl at y Duw sydd wedi'u bendithio.

Sunday, July 3, 2016

pedwerydd gorffennaf arall

Wrth i'r Unol Daleithiau ddathlu Diwrnod Annibyniaeth, rhaid cofio'r pedwerydd Gorffennaf arall 40 mlynedd yn ôl. Cipiwyd awyren Awyr Ffrainc gan derfysgwyr. Gwnaethon nhw i'r awyren lanio ym maes awyr Entebbe, Uganda. Bygythion nhw i ladd y gwystlon oni bai byddai Israel yn rhyddhau rhai terfysgwyr o'r carchar. Dyfeisiodd Israel gynllun beiddgar - anfonodd bedwar C-130 sydd yn cludo commandos a sawl Mercedes i Uganda i achub y gwystlon. Llwydddd y commandos i achub 102 ar ôl brwydr galed er lladdwyd pedwar ynghyd â Yonatan Netanyahu, arweinydd  y cyrch a brawd Prif Weinidog cyfredol Israel. Cludwyd y 102 adref yn ddiogel at y teuluoedd ecstatig. Dyma fideo ddogfen wych.

Saturday, July 2, 2016

bedd bach

Bu farw Coco, ein mochyn cwta olaf ni'r bore 'ma. Roedd hi'n arwain bywyd hapus am wyth mlynedd wrth gael gofal gwych. Mae'n bob tro trist iawn, fodd bynnag, pan anifail anwes yn marw. Roedd hi yma'r bore 'ma ond dydy hi ddim bellach. Roedd rhaid i mi gyflogi hogyn cyfagos i balu bedd yn yr iard cefn gan fod y gŵr a'n mab ni oddi cartref heddiw. Mae hi'n gorffwys yn ymyl ei brawd.

Friday, July 1, 2016

clywch

Mae o'n dweud pethau anaddas o bryd i'w gilydd, ond gwych ydy Trump yn y bôn. "Ein cynghreiriad cryfaf ni ydy Israel. Dan ni'n eu hamddiffyn nhw cant y cant."