Saturday, December 31, 2016

ar ddiwedd y flwyddyn

Digwyddiadau pwysig (personol a chyhoeddus) y flwyddyn hon:

Ionawr - Dechreuodd fy merch ifancaf yn y brifysgol yn nhalaith Missouri.
Chwefror - Ces i anafiad difrifol ar y cefn. 
Mehefin - Cafodd fy ŵyr cyntaf ei eni. 
Awst - Dechreuodd fy merch arall weithio fel tiwtor Saesneg yn Japan.
Tachwedd - Enillodd Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol er gwaethaf pawb a phopeth.

Dw i'n ddiolchgar dros ben i Dduw am ei drugaredd ar America. Edrycha' i ymlaen at y flwyddyn newydd efo llawn obaith.

Friday, December 30, 2016

cam hurt

Wedi methu pob modd i danseilio buddugoliaeth Donald Trump, ar y Rwsiaid mae Obama'n beio am golled yr etholiad yn ddiweddar, a chymerodd gam hurt tuag atyn nhw. Mae o wrthi'n chwalu America ers iddo gychwyn fel yr arlywydd wyth mlynedd yn ôl. Mynegodd pobl America eu barn, a chollodd o. Pe bai o'n gadael yn ddistaw, gallai fo ennill ychydig o barch. Ond dydy o ddim. Cywilydd cenedlaethol ydy o bellach.

Thursday, December 29, 2016

addewid duw

Roedd o'n llechwraidd hyd at yr etholiad diwethaf, ond yn sydyn dangosodd Barak Hussein Obama ei "wir liwiau" gan helpu (neu gynllunio) datganiad y Cenhedloedd Unedig newydd yn erbyn Israel i basio. Doedd neb wedi melltithio Israel a phara'n hir pa mor nerthol oedd o ar y pryd. "Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio." Dydy addewid Duw ddim yn newid. 

Wednesday, December 28, 2016

donut

Y diwrnod olaf yn Norman. Dw i wedi cael gwyliau braf efo'r teulu. Mae'r gwesty'n cynnig brecwast yn rhad ac am ddim. Y bwyd sydd yn fy mhlesio i ydy donut. Prin iawn bydda i'n ei fwyta'n ddiweddar, ond dw i wrth fy modd efo fo'r wythnos hon gan mai Hanukkah ydy hi, ac maen nhw'n bwyta donut yn Israel yn ystod yr ŵyl sydd yn para am wyth noson. Hanukkah Hapus!

Tuesday, December 27, 2016

gwyliau

Dw i ar fy ngwyliau braf yn Norman efo'r teulu ers dydd Sadwrn. Fy merch hynaf sydd yn coginio a dim ond ei helpu dw i'n gwneud. Wnaethon ni ddim byd arbennig ond ymlacio yn ei thŷ a mynd am dro ac yn y blaen. Dw i a'r gŵr yn aros mewn gwesty cyfagos, ac ymuno'r teulu yn ystod y dydd. Braf iawn! Heddiw dan ni'n bwriadu bwyta ramen (nwdls Tseineaidd) mewn siop boblogaidd yn Oklahoma City; yn y prynhawn dan ni'n mynd i Heddlu Norman am daith sydyn a dywysir gan gapten mae fy merch yn nabod yn dda.

Monday, December 26, 2016

seren dafydd

Ces i anrheg Nadolig hyfryd gan fy merch hynaf - crog dlos Seren Dafydd a wnaed o ddarnau rocedi Hamas a ffrwydrwyd yn Israel. Sgrifennais am y dyn sydd yn troi'r pethau erchyll i bethau hardd efo llawn obaith. Mae o'n cyfrannu rhan o'r elw i godi llochesau bom hyd yn oed. Dw i wrth fy modd efo'r anrheg arbennig. 

Sunday, December 25, 2016

nadolig, hanukkah

Diolch i Dduw sydd wedi dod i'r byd i gynnig ei hun fel yr aberth berffaith i gyflawni ei gyfraith er mwyn maddau i bawb fyddai'n credu yn ei enw o, sef Iesu. Hwn ydy Duw a greodd y nefoedd a'r ddaear, a dewis Abraham a'i ddisgynyddion i fod yn ei bobl arbennig ac i fendithio'r byd. Nadolig Llawen a Hanukkah Bendithiol. 

Friday, December 23, 2016

cynllun newydd

Mae'n braf croesawi'r plant sydd yn byw'n bell ar adeg y Nadolig, ond wrth i mi dynnu ymlaen, mae hyn yn mynd yn faich braidd yn drwm. Eleni, fodd bynnag, mae gynnon ni gynllun newydd gwych; dan ni'n ymgasglu yn nhŷ fy merch hynaf yn Norman. (Y hi a gynigodd.) Dim cinio nac ystafelloedd i baratoi; dim ond teithio i'w thŷ. Hwrê! Bydda i a'r gŵr, ein mab hynaf a'i deulu yn aros mewn gwesty cyfagos tra bydd y ddau blentyn iau'n aros efo'u chwaer hŷn. Byddwn ni'n cymryd mantais ar y cynifer o dai bwyta a siopau hyfryd yn Norman.

Wednesday, December 21, 2016

enfys

Roedd America'n prysur chwalu ar ôl yr Arlywydd Reagan, ond rŵan mae ganddon ni obaith, er bod Mrs. Obama ddim yn cytuno. Mae Donald Trump wedi rhoi hwb i ysbryd y bobl a'r economi hyd yn oed cyn iddo gychwyn yn swyddogol. Ymddangosodd enfys hardd yn Las Vegas (lle mae Tŵr Trump) y diwrnod cwynodd Mrs. Obama nad oes ganddi obaith. Mae'n well gen i feddwl mai bendith Duw ar y llywodraeth newydd oedd o.

(y llun - tynnwyd gan fy mrawd yng-nghyfraith yn Las Vegas)

Tuesday, December 20, 2016

swyddogol

Mae'n swyddogol rŵan. Donald Trump fydd y 45fed Arlywydd America. Enillodd 304 pleidlais o gymharu â'r 169 a enillwyd gan Hillary Clinton. (Mae angen 270 i ennill.) Er lles y wlad, dylai'r Democratiaid atal eu hymdrech i danseilio dilysrwydd yr etholiad, a dechrau gweithio gyda'r arlywydd newydd. 

Monday, December 19, 2016

yn ofer

Ennill a wnaeth Donald Trump. Dydy'r rhyddfrydwyr ddim eisiau cydnabod y ffaith o hyd, a dal i geisio newid y canlyniad yn ofer - crio, terfysg, rhwystro traffig, ail gyfri'r pleidleisiau, beio ar y Rwsiad, a rŵan rhwystro'r electoral college rhag pleidleisio o blaid Mr. Trump drwy fygwth eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. Mae'n ofer. Bydd Donald Trump yn Arlywydd America Ionawr 20 ymlaen.

Saturday, December 17, 2016

cerdyn post

Cyrhaeddodd cerdyn post arall a bostiwyd gan fy merch yn yr Eidal bedwar mis yn ôl. Y tro 'ma, sgrifennodd hi UDA ar y cyfeiriad, ac felly does gen i ddim syniad pam gymerodd gymaint o amser. Prynodd hi'r cerdyn yma yn Lucca, ac roedd hi'n sôn am ei phrofiad braf o feicio drwy'r dref ac ar y wal o'i chwmpas. Ces i ginio hyfryd ar y piazza hwnnw.

Friday, December 16, 2016

llysgennad i israel

Roeddwn i'n disgwyl clywed yn eiddgar pwy fyddai'r llysgennad i Israel. Dewisodd Mr. Trump "ffrind ffyddlon Israel," sef David Friedman, Iddew Uniongred a thwrnai o fri; mae o'n cefnogi achosion gwiw yn Israel ers blynyddoedd; gelwir yn fwy pybyr na'r prif weinidog Netanyahu. "Dw i'n bwriadu gweithio'n galed er mwyn cryfhau'r cwlwm cadarn rhwng y ddwy wlad, a hyrwyddo heddwch yn y rhanbarth. Edrychaf ymlaen at wneud hyn oddi ar Lysgenhadaeth America yn Jerwsalem, prif ddinas dragwyddol Israel," meddai.

Thursday, December 15, 2016

nadolig llawen

Mae'n well gan y byd ddweud "Gwyliau Hapus" yn lle "Nadolig Llawen" yn ddiweddar. Mae Sweden yn gwahardd goleuadau Nadolig er mwyn peidio â gwylltio'r Mwslemiaid. Yn America, fodd bynnag, fe gawn ni ddweud "Nadolig Llawen" eto, meddai Mr. Trump. Hwrê!

Wednesday, December 14, 2016

llysgenhadaeth america yn jerwsalem

Mae tîm trosglwyddo Donald Trump wrthi'n chwilio'n barod am safle priodol ar gyfer llysgenhadaeth America yn Jerwsalem. Symud y llysgenhadaeth o Tel Aviv i Jerwsalem oedd un o'r addewidion pwysicaf a wnaed ganddo fo yn ystod yr ymgyrch. Pwysig iawn ydy hyn i'r Cristnogion yn America sydd yn ei gefnogi hefyd. Dw i'n hynod o falch bod Mr. Trump yn bwrw ymlaen efo'i addewid. Disgwylir cwynion ffyrnig o bob man, rhai ymosodol, ond dim ots. Prif ddinas dragwyddol Israel ydy Jerwsalem.

Tuesday, December 13, 2016

ar ei ffordd

"Mae Osnat newydd anfon eich modrwy," meddai Etsy y bore 'ma! Hwrê! Ces i sgwrs neu ddau sydyn (ar y we) efo dynes glên y siop honno yn Israel ar ôl gosod fy archeb. Roedd hi'n hapus clywed fy mod i eisiau gwisgo'r fodrwy fel modrwy briodas. Dw innau'n hapus fy mod i wedi ffeindio ei siop. Edrycha' i ymlaen!

Monday, December 12, 2016

myffin afocado/banana

Bydda i'n bwyta afocado mewn salad neu chili o bryd i'w gilydd, ond roeddwn i eisiau ei ddefnyddio fo fel cynhwysyn ar gyfer myffin. Dyma googlo a ffeindio nifer o ryseitiau (mae gan bobl eraill yr un syniad mae'n amlwg,) a cheisio dyfeisio rysáit sydd yn fy siwtio i. Fe wnes i stwnsio hanner afocado ac un fanana; ychwanegu llefrith, dau wy, siwgr, blawd (ceirch, cyflawn,) powdr pobi, halen, cnau; crasu yn y popty am ryw 20 munud ar 375F/190C gradd. Fedrwn i ddim blasu'r afocado ond y fanana. Flasus iawn a heb fenyn nac olew.

Saturday, December 10, 2016

modrwy

Ces i $90 yn anrheg fy mhenblwydd gan ddau o fy mhlant y mis diwethaf. Anfonais hanner ohono fo i helpu dioddefwyr y tanau gwyllt yn Israel, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w brynu efo'r gweddill o'r pres tan yn ddiweddar. Ces i syniad gwych! Modrwy briodas newydd a wnaed yn Israel yn lle fy un i sydd yn rhy fach i fy mys modrwy bellach. Mae yna nifer o ddewisiadau ar y we, ond dewisais un drwy Etsy. Bydd dynes y siop yn ysgythru "Shema Israel" (Clywch Israel) yn Hebraeg ar y fodrwy. Dw i'n gyffro i gyd!

Friday, December 9, 2016

dewis sydd yn eu gwilltio

Cafodd un o Oklahoma ei ddewis ar gyfer y cabinet newydd, sef  y Twrnai Cyffredinol Scotto Pruitt fel pennaeth Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd. Mae'r dewis yn gwylltio'r rhyddfrydwyr unwaith yn rhagor oherwydd ei farn ar y theori newid hinsawdd, ei gefnogaeth i'r diwydiant glo a mwy. A dweud y gwir, mae pob dewis gan Mr. Trump ynghyd â'i bolisïau i gyd yn gwylltio'r rhyddfrydwyr. Maen nhw, ar y llaw arall, yn llawenhau'r mwyafrif distaw sydd yn niferus iawn. (Gweler y lliw coch ar y map.)

Thursday, December 8, 2016

bendithiaf y rhai sy'n dy fenditio

Mae Mr. Trump yn cefnogi Israel cant y cant, yn annhebyg i'r llywodraeth gyfredol America. Dyma gasgliad o'i farn ynglŷn y pwnc. Mae o fel awyr ffres yn y byd gwleidyddiaeth. Cawn ni berthynas gwirioneddol o gryf efo'r unig wlad ddemocratig yn Nwyrain Canol dan y llywodraeth newydd. Cawn sicrhau bendith Duw ar America drwy fendithio Israel.

Wednesday, December 7, 2016

pearl harbor a gobaith

Mae arna i gywilydd fel un o Japan o lywodraeth Japan yr adeg honno am yr hyn a wnaeth yn erbyn America 75 mlynedd yn ôl. Dw i'n ddiolchgar felly fy mod i'n cael byw yn America efo'r teulu, yn ddiogel a hapus ers dros chwarter canrif. Edrycha' i ymlaen at weld y genedl fawr hon a oedd yn prysur waethygu'n ddiweddar yn cael ei mawredd yn ôl dan yr arweinydd newydd, ac yn fod yn fendith i'r gweddill o'r byd.

Tuesday, December 6, 2016

llythyr nadolig

Mae amser i anfon llythyr Nadolig at y teulu a ffrindiau wedi dod. Y gŵr sydd yn sgrifennu fersiwn Saesneg, a fi sydd yn sgrifennu'n Japaneg. Roedden ni'n arfer argraffu llun mawr ohono ni ar y llythyr, ond wrth i'r plant daenu dros y byd, mae'n anodd cadw'r traddodiad. A dyma'r canlyniad. Bydd rhaid ychwanegu mwy o luniau yn y dyfodol. 

Monday, December 5, 2016

na

Dw i ddim yn gwybod yn ddigon er mwyn mynegi fy marn ynghyn â chanlyniad y refferendwm yn yr Eidal. Un peth dw i'n sicr, fodd bynnag, ydy bod o'n ganlyniad da dros bobl yr Eidal, oherwydd bod Barak Hussein Obama wedi bod yn cefnogi'n daer yr ochr "Ie." Rhaid canmol Mr. Renzi am gadw at ei air ac ymddiswyddo ar unwaith heb ofyn am ailgyfrif.

Saturday, December 3, 2016

galwad ffôn

Dydy beirniadaeth y rhyddfrydwyr ddim yn poeni Donald Trump; mae o'n bwrw ymlaen ar ei egwyddor. Galwodd Prif Weinidog Taiwan Mr. Trump ddoe i'w longyfarch ar ei fuddugoliaeth. Atebodd. A dyma iddo greu hanes - siaradodd Arlywydd America a Phrif Weinidog Taiwan am y tro cyntaf ers 1979 pan drodd America gysylltiad â Taiwan er mwyn plesio Tsieina. Mae Tsieina'n gandryll. Dydy Mr. Trump ddim yn poeni.

Friday, December 2, 2016

brodio

Mae gen i farclod glas tywyll syml. Ces i syniad i frodio arni hi, a dyma brynu edau brodwaith gwyn, a dechrau gweithio. Y canlyniad - Seren Dafydd ynghyd â gair Hebraeg dani hi sydd yn dweud hatikvah - y gobaith.

Thursday, December 1, 2016

dal ati

Dyma'r tri rhifyn diweddarach o Decision gan Gymdeithas Billy Graham. Fel gwelwch chi, maen nhw i gyd am yr etholiad arlywyddol diwethaf. Wrth eu pori nhw, fedra i ddim peidio â chofio pa mor galed roeddwn ni a'r Cristnogion eraill yn America a gwledydd eraill wedi gweddïo dros yr etholiad hwnnw. A dweud y gwir, dw i erioed wedi gweddïo o galon dros etholiad o'r blaen. Drwy drugaredd atebodd Duw ein gweddi a rhoi i ni Donald Trump yn Arlywydd America yn hytrach na Hillary Clinton. Dydy'r frwydr ddim wedi drosodd fodd bynnag fel gwelir y cynnwrf dros America. Dylen ni ddal ati.