Gŵyl Dewi sy'n cynrychioli mis Mawrth yng Nghymru wrth gwrs, ond ar galendr yr ysgolion America gelwid mis Mawrth yn fis Dr. Suess. Mae plant yr ysgolion yn cael eu hannog i ddarllen yn ystod y mis.
Yn llyfrgell yr ysgol, mae yna le ar y wal i hysbysu digwyddiadau tymhorol. Maxim, y ddynes sy'n gwirfoddoli yno efo fi sy'n newid yr addurniadau bob mis fel arfer. Heddiw helpais i hi i osod ar y wal rhai cymeriadau a grewyd gan Dr. Suess.
I delete all the spam comments left on my blog. If you want to leave any comment, please at least do so in Welsh. I will delete them anyway, but it'll be a bit more pleasant when I read them. Emma Reese
Daeth y tiwniwr piano i diwnio'n piano ni. Roedd yna hanner dwsin o allweddau sy'n swnio'n rhyfedd. Fe wnaeth eu trwsio cystal ag y medrodd, ond y broblem ydy bod y padin ar y morthwylion wedi'u treulio. Bydd yn costio $800 i osod padin newydd! Hen biano ail-law sydd gynnon ni. Talon ni ond $200 bedair blynedd ar ddeg yn ôl. Na, rhaid bodloni efo'r cyflwr ar hyn o bryd; dw i ddim yn siŵr pa hyd mae fy merch yn dal ati chwarae'r piano.
Mae yna ffilm newydd sbon, sef Act of Valor. Brian sy'n ffrind i fy mab hynaf yn actio ynddo, hynny ydy cafodd ran fach fach fel extra. Roedd o eisiau ymuno â SEAL a chael ei hyfforddi am gyfnod. Tra oedd o wrthi, daeth y criw ffilm at yr hyfforddeion i saethu rhai golygfeydd. (Yn anffodus cafodd ei anafu wedyn ac roedd o'n gorfod rhoi'r gorau i'w freuddwyd.) Aeth y gŵr, y mab hynaf a'i ffrind i sinema ddoe i weld y ffilm; roedden nhw wrth eu boddau'n cael cip ar Brian am eiliad. Gyda llaw, dydy'r ffilm ddim yn un o'r goreuon yn eu tyb nhw.
Mae'n ddiddorol a defnyddiol - des i ar draws wefan siop IKEA yn yr Eidal, yn Brescia i fod yn benodol. (Dw i'n dilyn cwrs Eidaleg ar y we a drefnwyd gan gyngor Brescia.) Mae'r gwersi'n seiliedig ar deulu yn Brescia, a heddiw aethon nhw i IKEA i brynu silff. Dyma chwilio am y siop drwy Googl a'i ffeindio. Ces i hwyl darllen am y siop wrth ddysgu geiriau newydd.
Dan ni'n cael gaeaf mwyn iawn yma yn Oklahoma tra mae'n bwrw eira o ddifrif yng ngogledd Japan. Wedi cael dros 1.5 medr o eira yn Aomori, aeth 190 o staff swyddfa'r ddinas i gael gwared â'r eira ar doeau tai henoed ac anabledd. Roedd dynes oedrannus yn byw mewn ofn wrth glywed ei tho'n gwegian o dan bwysau'r eira. A dyma bump yn ei helpu.
Gwyliais i raglen ar fywyd y diweddar Orig Williams, diolch i Linda am y DVD. Wedi darllen ei hunangofiant, sef Cario'r Ddraig, roeddwn i'n awyddus i'w gweld. Braf gweld iddo gario'r Ddraig Goch i'r gornestau'n llythrennol. Roedd lluniau o'r reslwyr cryfion yn dal Tara Bethan yn fabi fach ddel yn ddiddorol!
Des i i wybod am y reslwr ifanc llwyddiannus o Gymru hefyd - Barri Griffiths, y Cymro Cymraeg cyntaf i reslo efo WWE. Dw i ddim yn gweld rhaglenni reslo o gwbl, ond mae'n dda i mi weld pa mor llwyddiannus ydy o.