Monday, June 30, 2008

garej yn tokyo


Does 'na ddim digon o le yn Tokyo, ond mae 'na gymaint o geir yno beth bynnag. Dyma sut maen nhw wedi datrys problem parcio.

Sunday, June 29, 2008

cwrs y rhosyn gwyllt

Mi ges i amserlen Cwrs Cymraeg Madog neithiwr. Cyffroes! Mi fydd hi'n wythnos lawn iawn. Mi neith y dosbarth cynta ddechrau am 8:30, a neith yr un ola orffen am 3:30. Mi fydd 'na weithdai amrywiol, dawns werin, canu, cwis, ffilm Cymraeg, Eisteddfod fach hyd yn oed.

Mae 'na tua deg ohonon ni yn fy nosbarth i (lefel 6.)  Mark Stonelake o Abertawe ydy'r tiwtor. Ella bod Peggi'n ei nabod o. Mi fydd yn bosib cael symud i lefel arall ar ôl dechrau.

Maen nhw'n darparu'r holl brydau o fwyd. Gobeithio byddan nhw cystal â'r rhai yn ffreutur Prifysgol Bangor. (Rôn i'n gwirioni ar yr iogwrt o Gymru.)

Dim ond tair wythnos i heddiw na i fynd.

Naci, pythefnos! Bobl bach!

Saturday, June 28, 2008

crwydro yn tokyo



Mae'r gwr a'r mab yn mwynhau eu hun yn Japan. Mi naethon nhw dreulio diwrnod efo fy mam, a mynd i siopa (i brynu pethau naethon ni ofyn iddyn nhw!)

Ddoe, mi aeth ffrind Japaneaidd â nhw i Harajuku, lle poblogaidd ymysg y bobl ifanc. Be naethon nhw yno? Mynd i siop bêl-droed, wrth gwrs!

Gan fod y ddau oddi cartre, does 'na ddim digon o ddillad i olchi bob dydd. Anhygoel.

Friday, June 27, 2008

skype

Mae Skype'n ddefnyddiol iawn fel mae llawer ohonoch chi'n gwybod. Dw i'n cael siarad Cymraeg â fy ffrindiau ar Skype bob wythnos. Fasai gen i ddim unryw gyfle i gael sgwrs Cymraeg o gwbl onibai amdano fo achos bod 'na neb yn siarad yr iaith lle dw i'n byw.

Y bore ma mi ges i brofiad pleserus yn siarad Cymraeg â dysgwr o Loegr. Un o'r blogwyr, Jonathan o Gymro'r Canolbarth ydy o.

Mae 'na lawer o ddysgwyr sy ddim yn cael digon o gyfleoedd i siarad Cymraeg, dw i'n siwr. Mi fydd hi'n syniad gwych i drefnu rhywbeth gan gymryd mantais ar y teclyn cyfoes ma.

Thursday, June 26, 2008

stafell fach


Mi fasai hi'n rhy ddrud i'r gwr a'r mab aros mewn gwesty am ddwy wythnos. Felly maen nhw'n aros mewn hostel ieuenctid yn Yokohama. Bach bach bach ydy eu stafell nhw. Dim ond pedwar mat "tatami" i gyd ynddi hi. (6 x 3 troedfedd ydy un mat.) Ac stafell dwbl ydy hi! Mae eu pennau a'u traed yn cyffwrdd y waliau pan orweddith i gysgu!

Ond yn ôl y gwr a'r mab, mae popeth yn lan ac mae'r parchennog yn gyfeillgar. Mae 'na stafell golchi yn yr adeilad a nifer mawr o siopau ym mhob man. Yn anad dim mae gynnyn nhw gysylltuad rhyngrwyd cyflym iawn. Dw i'n siwr cân nhw amser da yn Japan beth bynnag. Mi fydd gan y mab rhywbeth diddorol i adrodd yn facebook o leia.

Wednesday, June 25, 2008

japan


Mi aeth y gwr a'r mab hyna i Japan ddoe, ac mi glywes i fod nhw wedi cyrraedd yn ddiogel. Dan ni'n aros efo fy mam yn Tokyo fel arfer, ond mae hi wedi torri ei phenelin yn ddiweddar. Felly maen nhw'n aros mewn llety er bod hi wedi gwella bron.
Mi gaethon nhw bryd o fwyd cynta yn Japan, ffefryn fy mab, sef "gyôza" a "râmen."

Tuesday, June 24, 2008

mwy o luniau





Dyma fwy o luniau'r briodas yn ôl dymuniad rhai o'r ffrindiau. Mi naeth y cwpl gynnwys traddodiad Japaneaidd yn yfed gwyn (te y tro hwn) mewn arddull arbennig.

Monday, June 23, 2008

priodas!







Roedd pawb wedi blino'n lan ond mi aeth popeth yn iawn. Seremoni hyfryd oedd hi. Yna, roedd 'na dderbyniad syml a dawns i'w ddilyn. Ac mae'r cwpl newydd hapus wedi mynd ar eu mis mêl. Gan y teulu tynnwyd y lluniau ma. Rhaid aros am y rhai gan y ffotograffydd. (Edrychwch ar y sash a'r crafatiau!)

Thursday, June 19, 2008

hwyl am y tro

Dan ni'n mynd i briodas fy merch yfory. Mi fydd y seremoni ddydd Sadwrn yn Norman. Mi nawn ni aros yno am ddwy noson achos bod hi'n gryn dipyn o daith mewn car. Dw i wedi gwneud popeth ofynodd hi i mi ond dw i wrthi'n helpu fy ngwr i gyfieithu ei ddarlith trwy'r dydd. Mi orffenes i'r dudalen i gyd ond mae angen eu twtio a chaboli.

Cha i ddim sgwennu fy mlog nes i mi ddwad adre. Felly hwyl am y tro.

Tuesday, June 17, 2008

cyfieithiad a pheiriant golchi

Mae fy ngwr yn mynd i roi darlith ar optometreg mewn pythfnos yn Japan ac yn Japaneg hefyd. Mi naeth rhywun waith cyfieithu'n barod ond mae fy ngwr wedi gofyn i mi gywiro gwallau. Ac mae 'na lawer iawn ohonyn nhw! Mae 'na gant o dudalennau i gyd, ac dw i wedi gorffen 57 ohonyn nhw bellach. Dim ond 43 sydd ar ôl... Ac dw i ddim yn gyfarwydd â'r eirfa feddygol o gwbl.

Yna mae'n peiriant golchi ail-law wedi torri i lawr y bore ma. Mi nes i brynu un newydd yn Lowe's yn y p'nawn ond neith o ddim gyrraedd tan nos Iau. Ac mae 'na saith ohonon ni yn y teulu. Mi fydd rhaid i mi fynd â'r dillad i olchdy yfory. Ac mi nawn i fynd i'r briodas ddydd Gwener.

Monday, June 16, 2008

botwm ymlaen

Diolch i'r botwm ymlaen ar Radio Cymru, dw i wedi mwynhau Hywel a Nia bron bob dydd y dyddiau hyn. Dw i wrth fy modd efo eu sgyrsiau ond sgen i ddim cymaint o ddiddordeb yn rhan fwya o'r gerddoriaeth fel arfer.

Dw i heb sylwi ar y botwm ma o'r blaen oni bai am Linda. Mi naeth hi dynnu fy sylw, ac dw i wedi bod yn cymryd mantais arno fo. Gan wasgu'r botwm, mi fedra i wrando ar y sgyrsiau yr unig. Mi fasai'n dda tasai 'na fotwm ynôl hefyd.

Saturday, June 14, 2008

brysur!


Mi fydd hi'n briodas fy merch wythnos i heddiw. Dw i wedi gorffen gwnio mwy o bethau. Rwan, rhaid i fy merch hyn arall weithio ar ein gwallt ni. (Merch trin gwallt rhan amser ydy hi.) Mi neith hi dorri fy ngwallt a gwallt fy mab ifanca yfory.

Mae hi wedi gwneud gwallt fy merched ifanca i weld pa fath o arddull bydd yn addas iddyn nhw. Mi fydd hi'n brysur iawn cyn y seremoni achos neith hi wallt ei dwy chwaer iau a gwallt y briodferch heb sôn am ei gwallt hi ei hun. O leia fydd ddim rhaid iddi hi wneud fy un i.

Friday, June 13, 2008

hwre i fy het!

Rôn i'n sefyll mewn ciw hir wrth ddesg wasanaeth gwsmeriaid yn Wal-Mart bore ma. Yna mi glywes i'n sydyn, "Did you go to Wales?" oddi wrth y dyn tu ôl i mi. Mi naeth o ofyn oherwydd y Ddraig Goch ar fy het. Mi ddwedodd o fod o wedi ymweld â Chymru deg mlynedd yn ôl. Mi aeth o i'r Alban hefyd ond Cymru oedd ei ffefryn. Mi ddechreues i ddweud mod i wedi bod ym Mangor, ond mi aeth fy nhro i fynd at y ddesg ac roedd rhaid i mi ddweud hwyl iddo fo.

Dyma'r tro cynta i mi gyfarfod yn y dre ma efo rhywun sy'n nabod Cymru. Mi naeth fy het y tric. Mi na i ddal i'w gwisgo hi!

Thursday, June 12, 2008

babi bach

Roedd 'na fabi newydd bach bach yn y lloches yn y dre heddiw. Dim ond dwy wythnos oed ydy o. Ac fi gaeth y swydd i'w warchod. Mi naeth y plant, eu mamau ac y gweithiwyr i gyd gerdded i'r llefrgell gerllaw i wneud crafftiau. Rôn i'n ei ddal o tra ei fam yn helpu ei hogan fach i wneud crafft yno. Roedd o'n cysgu'n ddistaw ac yn fodlon yn fy nghôl trwy'r amser. Roedd o mor annwyl a del. Ella ga i ddal un bach arall ryw ddiwrnod ar ôl fy merch wedi priodi.

Wednesday, June 11, 2008

dweud ei ddweud

gan ein Dogfael ei hun! Mae 'na sgript ar gael yn y dudalen ma. Ac mi gewch chi wrando arno fo yn y Post Cynta heddiw. Mi neith o ddechrau tua 20 munud o gychwyn y rhaglen.

Tuesday, June 10, 2008

rysait dudley


Mi nes i swper arall yn ôl rysait Dudley - pysgod wedi'u coginio mewn saws tomato efo nionod, garlleg a chroen oren. Roedden nhw'n dda iawn a hollol wahanol i swper dw i'n arfer ei baratoi. Diolch i Linda yrrodd y llyfr ata i.

Roedd y teulu i gyd wrth eu bodd ar wahan i'r ddau ifanca. Ella mod i wedi defnyddio gormod o win! (Gyda llaw, gwin gwyn lleol ydy o.)

Monday, June 9, 2008

y cyw bach a'r nyth

Mi glywon ni oddi wrth ddynes y lloches fod y cyw bach naethon ni roi iddi hi yn ei gofal yn tyfu'n gryf. Mi ddechreuodd o brofi hedfan tipyn hyd yn oed. Mi fydd o'n barod i hedfan i ffwrdd yn fuan.

Mae'r nyth o dan y bondo yn wag bellach. Dw i'n falch bod y gweddill o'r cywion wedi tyfu i fynu heb syrthio.

Sunday, June 8, 2008

penwythnos



Mi ddaeth fy merch hyna adre dros y Sul am y tro ola yn ferch sengl. Roedd 'na bethau roedd rhaid iddi hi drefnu dros y briodas. Ac mi ofynodd hi i mi wneud un peth arall, sef gardys i'r priodfab ei daflu at y dynion ifanc yn y seremoni. Mi wnes i ddefnyddio'r un ffabrig wnes i'r crafatiau a'r sash efo fo.

Roedd gynni hi fwriad pwysig arall, sef mynd â'r ddau fochyn cwta i gartre newydd. Mae ei bos hi a'i deulu isio'r moch cwta ac maen nhw wedi bod yn aros am wythnosau. Mae'r babis yn ddigon hen i adael eu mam bellach.

Roedd 'na ffarwel tipyn trist ymysg y plant er bod nhw'n gwybod bydd y moch cwta'n mynd i gartre da.

Saturday, June 7, 2008

pysgota


Mi aeth ffrind â fy mab ifanca i bysgota bore gynnar heddiw. Hen law ar bysgota ydy'r ffrind sy'n ddeintydd profiadol. Ac mae o'n trin a choginio ei ddalfa ei hun hefyd. (Ac mi gawn ni eu bwyta mewn "Fish Fry" nes ymlaen!)

Mi naethnon nhw ddal tua dau ddwsin o Cat Fish a Buffalo Carp mawr a bach. Mi gaeth fy mab amser bendigedig. Ac dan ni'n edrych ymlaen at gael ein gwahodd i Fish Fry cyn bo hir.

Thursday, June 5, 2008

mynd am dro

Mi es i'n cerdded gyda'r hwyr i osgoi gwres y dydd. Roedd hi'n ofnadwy o wyntog heddiw. Roedd rhaid i mi afael yn fy het. (Gobeithio na ddoith tornado!) Ar ôl cerdded yn gyflym am hanner awr wrth sibrwd Cymraeg, rôn i'n nesau at y ty.

Roedd 'na ddwy ddynes oedd yn gweithio yn eu gardd. Dw i'n eu gweld nhw'n aml yn ddiweddar. Dim ond dweud helo dan ni fel arfer, ond heno mi ddechreuodd un ohonyn nhw siarad efo fi. Maen nhw'n gofalu am y coed bach maen nhw wedi'u plannio, ac yn gobeithio bydd y coed yn rhoi cysgod i'r ty yn yr haf. Roedd yn dda cael sgwrs bach dymunol.

Dw i wedi blino'n braf. Dw i'n siwr na i gysgu'n dda heno.

Tuesday, June 3, 2008

mae totoro wedi tyfu!


Mi naeth fy merch dynnu'r llun ma. Rhaid bod hi wedi bod yn ei fwydo llawer o fes. ^^

Monday, June 2, 2008

hawaii


Mi naeth fy mab hyna fynd i Hawaii am y tro cynta'n ymweld â'i daid a'i nain yr wythnos diwetha. Dim ond pedair noson roedd o yno ond mi gaeth o gyfle i dreulio amser efo nhw a gweld golygfeydd. Mi gaeth o hedfan mewn gleider ond yn anffodus daliodd o annwyd a methu mynd i nofio. Mi aeth o i Waikiki i gerdded ar y traeth a thynnu lluniau.

Sunday, June 1, 2008

diwedd hapus

Mi daeth dynes y lloches i gasglu'r cyw bach ddoe. Mi naeth hi ddweud basai fo'n barod i hedfan i ffwrdd mewn pythefnos. Rôn i'n gwybod bod hyn ydw'r ffordd orau iddo fo ac i ni i gyd, ond fedrwn i ddim peidio teimlo tipyn yn drust dweud ffarwel i'r peth bach.