Thursday, February 29, 2024

cyflwr

Dyma gyflwr y grwpiau a geisiodd dinistrio pobl Israel hyd yma. (Diolch i Hanannya am y rhestr.) Dylai pawb gofio adewid Duw a roddwyd i Abraham a'i ddisgynyddion:

"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio."

Tuesday, February 27, 2024

miliwn o gefnogwyr


Ymgasglodd miliwn o bobl Brasil i ddangos cefnogaeth i'r Iddewon ac Israel, yn erbyn datganiad diweddar y Prif Weinidog Lula.

"Dyn ni'n dod atat ti yn enw Arglwydd y Lluoedd, Duw byddin Israel, yr wyt ti wedi ei herio."

Monday, February 26, 2024

croeso i oklahoma


Daeth Hannanya Naphtali, Iddew Meseianaidd, i Tulsa, Oklahoma heddiw er mwyn siarad mewn cynulleidfa eglwys dros Israel. (Nad enwyd yr eglwys am resymau diogelwch, dw i'n sicr.) Gosododd rhai eu dwylo arno fo'n gweddïo drosto a dros Israel. Cafodd gymaint o gefnogaeth ganddyn nhw fel ei fod o'n teimlo'n ddwfn dros ben. Croeso mawr i Oklahoma, Hannanya.

Saturday, February 24, 2024

shrinkflation neu fidenflation



Mae maint bwyd a nwyddau mewn siopau yn crebachu yn ddiweddar. Ces i a'r gŵr bitsa o Sam & Ella's neithiwr, a gweld yn glir ei fod o'n llai nag o'r blaen. Roedd pitsa bach yn arfer bod yn ddigon i ni, gyda dwy dafell i'r diwrnod nesaf. Gorffennon ni'r cyfan gwbl ddoe! Y cwmnïau sydd ar fai, yn ôl Mr. Biden, ac maen nhw'n cymryd mantais ar eu cwsmeriaid. 

Friday, February 23, 2024

dau beth rhyfedd

Dw i'n cael fy nrysu gan ddau beth rhyfedd yn ddiweddar.
1: Mae gwledydd rhyngwladol yn dweud wrth wlad annibynnol beth ddylai hi wneud.
2: Mae terfysgwyr yn cael eu trin fel partner yn trafod amodau ar gyfer rhyddhau gwystlon.

Mae'r byd yn prysur fynd yn fwy gwallgof byth bob dydd heb os.

Tuesday, February 20, 2024

technoleg ar hap

"Dan ni'n ôl yn America. Yma, mae'r seddi toiled yn oer ond y tai yn gynnes." Dyna beth ddwedodd fy merch ar dudalen Facebook! Mae hi'n wir. Dydy pobl Japan ddim yn defnyddio systemau effeithiol i gynhesu eu tai am ryw reswm, er bod ganddyn nhw dechnoleg flaenaf mewn meysydd eraill (gan gynnwys seddi toiled anhygoel.) 

Saturday, February 17, 2024

swydd fwyaf poblogaidd


Ces i sioc i wybod beth ydy'r swydd fwyaf poblogaidd ymysg y disgyblion cynradd yn Japan ers pedair blynedd ddiweddaraf - Youtubers! Mae'n ymddangos bod gwneud fideos byr a'u cyhoeddi ar Youtube mor boblogaidd ymysg plant hyd yn oed. Mae nifer ohonyn nhw eisiau gweithio fel Youtubers yn broffesiynol yn y dyfodol. 

Thursday, February 15, 2024

yn ôl i america

Daeth fy merch hynaf a’i gŵr adref yn Oklahoma City yn ddiogel neithiwr. Treulion nhw dau fis a hanner yn Japan. Collodd hi 3 phwys, a chollodd ei gŵr 10 dim ond trwy orfod cerdded o gwmpas, a defnyddio grisiau ar orsafoedd trên! Roedden nhw'n bwyta cymaint a mynnon nhw hyd yn oed.

Tuesday, February 13, 2024

olwg wahanol y murlun

Wedi treulio dros ddau fis yn Japan yn cyflawni nifer o bethau sylweddol, mae fy merch hynaf a'i gŵr ar adael am adref. Dyma olwg wahanol ei murlun diweddaraf. O dan reilffordd brysur mewn tref boblogaidd, mae o'n tynnu sylw nifer o bobl.

Monday, February 12, 2024

cynllwyn masnachwr

Wrth i Ddydd Valentine nesáu, mae prisiau blodau, balwnau, ayyb yn codi'n hurt. Mae brawd y gŵr yn hoffi rhoi anrhegion cariadus i'w wraig annwyl yn gydwybodol ar bob achlysur. Ceisiodd drechi'r gad drwy wneud y gwaith siopa'r wythnos diwethaf, ond roedd y prisiau wedi codi'n barod yn anffodus. Dw i'n falch nad ydw i na'r gŵr yn credu yn Nydd Valentine.

Friday, February 9, 2024

murlun newydd

Dyma furlun newydd fy merch yn Tokyo. Gweithiodd hi a'i gŵr yn galed drwy eira a gwynt am ddyddiau. Mae'n wych dros ben. Gobeithio y bydd o'n bendith i'r ardal.

Wednesday, February 7, 2024

prif weinidog ariannin


Chwap ar ôl cyrraedd Israel, cyhoeddodd Javier Milei, prif weinidog newydd Ariannin fyddai fo'n symud y llysgenhadaeth i Jerwsalem. Aeth yn syth at Wal Orllewinol i weddïo. Ysgrifennodd yn y llyfr ymweliad: "Gofynnaf am ddoethineb, dewrder, a chryfder i fod yn llestr teilwng i waith y Creawdwr." Bendith Duw Israel arno fo! 

Tuesday, February 6, 2024

eira yn tokyo

Cafodd Tokyo eira, tua dwy fodfedd, fel dyddiau fy mhlentyndod. Ces i fy magu ym maestrefi Tokyo, a dw i'n cofio chwarae mewn eira gyda ffrindiau, adeiladu iglw bach gyda fy mrawd, a chael te tu mewn. Mae eira sylweddol yn brin yno yn ddiweddar fodd bynnag. Roedd yn brofiad arbennig i fy merched.

Monday, February 5, 2024

wal ffin

Wal hiliol a adeiladwyd gan Israel? Na. Y wal ffin rhwng Gaza a'r Aifft a adeiladodd yr olaf ydy o, er mwyn cadw pobl Gaza allan o'r Aifft. Mae'n amlwg ei fod o'n effeithiol oherwydd bod neb yn medru ffoi i'r Aifft o Gaza. Diolch i Hananya Naftali am y llun.

Saturday, February 3, 2024

bisgedi


Pobais fisgedi am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Llawn o brotein, hollol naturiol, heb ychwanegu siwgr oedden nhw. Cymerodd tipyn o amser gan fod y toes braidd yn galed. Barn y gŵr - dylen nhw fod yn felysach. Bydda i'n cadw at fisgedi o Walmart.

Friday, February 2, 2024

murlun yn tokyo

Mae fy merch hynaf wrthi'n creu ei murlun cyntaf yn Japan, mewn un o'r trefi ffasiynol yn Tokyo. Cafodd ei sioc i wybod bod yn hollol ddiogel gadael ei phethau wrth ochr y wal, a does neb yn chwistrellu cyffuriau neu greu llanast o gwmpas! Y broblem fawr oedd ffeindio paent ar gyfer waliau gan nad ydy pobl Japan yn paentio tai neu ddodrefn fel hobi.