Saturday, June 29, 2019

ongl wahanol

Unwaith eto trechodd y wiwer y rhwystr newydd! Neidiodd hi drwy'r chopsticks heb gyffwrdd dim, a glanio ar y bwydwr adar yn ystwyth. Bydd y gŵr yn dyfeisio peth newydd, ond yn y cyfamser, roedd rhaid i mi wneud rhywbeth. Yn ôl at yr hen arwyddion etholiad. Weloch chi'r ongl wahanol?

Friday, June 28, 2019

granola

Fe wnes i grasu granola eto. Doeddwn i ddim yn ei wneud am sbel, ond ail ddechreuais yn ddiweddar. Mae'n llawer rhatach a mwy blasus na'r rhai mewn siopau, heb sôn am fod yn iachach. (Diog roeddwn i!) Syml iawn ydy'r cynhwysion: ceirch, cnau, olew cnau coco, mêl neu surop masarn a chnau coco sych. 

Thursday, June 27, 2019

swper!

Dw i'n mynd yn gyfarwydd â pharatoi falafel gyda'r mowld a wnaed yn Israel. Crasais i nhw yn y popty'r tro 'ma. Dyma'r swper neithiwr - falafel gyda hummus, saws afocado, nionyn coch wedi'i biclo a bara pita (i gyd cartref.)

Wednesday, June 26, 2019

unwaith yn rhagor

Mae'r frwydr yn dal i barhau. Fedra i ddim credu pa mor benderfynol ac ystwyth ydy'r gwiwerod yma. Trechon nhw'r hen arwyddion etholiad hefyd. Yn ddiweddar, gosododd y gŵr nifer o fachau o gwmpas llawr y bwydwr adar. (Roedd o'n edrych fel phalanx Macedoniaidd!) Neidiodd Yoni drosto fo'n hawdd fel athletwr Olympaidd, fodd bynnag, a chyrraedd y bwydwr. Dyma'r rhwystr newydd. Defnyddiwyd chopsticks tafladwy.

Tuesday, June 25, 2019

paid ag ofni

Cafodd fy merch neges gas gyntaf ynglŷn â'i chefnogaeth dros Israel. Oddi wrth un o'i chwsmeriaid oedd hi. Dwedodd ei bod hi'n edifaru iddi brynu celf fy merch; na fyddai hi fod wedi ei phrynu tasai hi'n gwybod bod fy merch yn cefnogi gwlad fel Israel. Ateb fy merch oedd: os dych chi ddim eisiau i mi baentio yn Israel, dylech chi beidio â fy nilyn; dw i'n mynd i wneud mwy!

Murlun fy merch a baentiodd yn Israel o'r enw "Paid ag ofni; galwaf ar dy enw"

Monday, June 24, 2019

sw moch cwta

Er mwyn dathlu ei phen-blwydd, aeth fy ail ferch a'i chwaer i "sw" moch cwta yn Tokyo. Cewch chi anwesu'r anifeiliaid bach hynny ar eich glin yno. Mae fy merch yn gwirioni ar foch cwta. Roedd hi'n arfer cadw dwsin ohonyn nhw. Falch iawn ei bod hi'n cael amser gwych ar ei phen-blwydd.

Saturday, June 22, 2019

fideos pregeth

Dw i newydd ddarganfod fideos pregeth gan Paul LeBoutillier o Gapel Calfaria yn Oregon. Mae o'n palu Gair Duw fesul pennod yn ddwfn, ac agor llygaid y gwrandawyr. Mae o'n hynod o ddoniol hefyd. Gwych gweld menorah ynghyd â chroes tu ôl iddo fo. Mae gen i arfer newydd bellach. Dw i'n gwrando ar ei bregeth ar ôl darllen un bennod bob bore.

Friday, June 21, 2019

cariad chwaer

Gyrrodd fy merch hynaf anrheg fach at ei chwaer yn Japan er mwyn codi ei chalon. Mae fy drydedd ferch wrthi'n gweithio yng nghegin siop te yn Tokyo, ac mae'n anodd weithiau. Wedi clywed ei hanes, roedd fy merch hynaf eisiau gwneud ei chwaer chwerthin, ac felly bant â hithau a gyrru "pen sloth." Mae o'n wir ddoniol ac mae ei chwaer wrth ei bodd. 

Thursday, June 20, 2019

eglwysi efengylaidd yn ffrainc

Ces fy siom ar yr ochr orau i glywed bod eglwysi efengylaidd wrthi'n cynyddu yn Ffrainc (a hefyd yn Sbaen.) Mae'n wych gweld mwy a mwy o bobl yn Ffrainc yn dod at Iesu Grist. Mae popeth yn edrych yn gyfarwydd dros ben yn y gwasanaeth hwnnw er bod yr iaith yn wahanol nag ydw i'n gyfarwydd yn fy eglwys. Un peth arall sylweddol - mae'r bobl yn edrych yn hapus.

Wednesday, June 19, 2019

sut i ddefnyddio hen arwyddion etholiad

Mae'r frwydr yn parhau. Mae'r gwiwerod yn benderfynol o gyrraedd y bwydydd adar. Wedi goresgyn rhwystr ar ôl y llall maen nhw! Roeddwn i yn y garej y bore 'ma er mwyn darganfod deunydd i greu rhwystr newydd. Dyma fo! Gawn ni weld a fydd ein cyngreswr ni o Oklahoma'n rhoi cymorth i ni. 

Tuesday, June 18, 2019

strategaeth newydd

Mae'r pedwar babi wedi tyfu'n sylweddol erbyn hyn. (Dw i'n sôn am Gardinal.) Maen nhw'n dod at y bwydwr heb eu tad bellach. Gobeithio ei fod o'n cael hoe fach nes iddo gael y grŵp nesaf i ofalu amdanyn nhw. Trechodd y gwiwerod y rhwystr eto. Roedd rhaid i fy ngŵr ddyfeisio strategaeth newydd fel gwelir.

Monday, June 17, 2019

fideo morinoen

Dyma glip ar siop goffi Morinoen yn Tokyo lle mae fy merch yn gweithio ynddi. Fe wnaeth y gohefydd waith da o ddisgrifio beth fwytaodd. Mae'r fideo dipyn yn hen ond dydy'r fwydlen ddim wedi newid. Fy merch sydd yn paratoi'r rhain bellach.

Saturday, June 15, 2019

tebot, ail bennod

Dw i'n gwirioni ar fy nhebot newydd o Japan. Dydy o ddim yn colli diferyn o de wrth i mi dywallt. Mae hidlydd rhwyll cyfleus tu mewn hefyd. Dw i'n hoffi'r lliw (porffor dwfn) hynod o Japaneaidd. Mae'n bleserus hwylio te gyda hwn bob dydd.

Friday, June 14, 2019

rhaid ennill

Mae'r gwiwerod yn benderfynol dros ben! Llwyddon nhw gyrraedd yr hadau er gwaethaf fy ymdrechiadau amrywiol. Prynodd y gŵr ddysgl benodol i rwystro gwiwerod. Roedd rhaid blocio'r ddwy ochr hefyd. Dan ni'n mynd i ennill y frwydr!

Thursday, June 13, 2019

diwrnod braf

Mae'n ddiwrnod hynod o braf heddiw. Wedi mynd ynghyd â'r gŵr at geiropractydd y bore 'ma, penderfynais gerdded yn y dref tra ei fod o'n gwneud neges. Roedd yn hyfryd! Ddim yn boeth, dim gwynt, dim paill, dim terfysg, dim byd annifyr. Cymerodd y gŵr amser hirach na'r disgwyl ac roeddwn i'n cerdded yn llawer mwy nag arfer. Dw i wedi blino'n braf.

Tuesday, June 11, 2019

hapus, hapus, hapus

Dw i newydd orffen llyfr gan Phil Robertson, sef "Happy, Happy, Happy." Wedi byw bywyd gwyllt, anhapus, daeth ar draws Iesu Grist pan oedd o'n 28 oed. Newidiodd ei fywyd yn gyfan gwbl. Drwy weithio'n galed gyda dyfalbarhad, a bob amser gadw ei olwg ar Iesu Grist, llwyddodd i fod yn filiwnydd yn y byd hela hwyaid. Ysgrifennwyd mewn modd syml, doniol, diffuant a heb ofn; rhaid dweud mai un o'r llyfrau gorau a ddarllenais erioed ydy o. Dw i'n argymell y llyfr hwn i bawb.

Monday, June 10, 2019

yn ôl i america


Daeth fy merch hynaf yn ôl i America wedi treulio pythefnos bendigedig yn Israel. Dwedodd hi ei bod hi wedi dysgu cymaint o bethau newydd am Israel a'r ardaloedd o gwmpas, a chyfarfod nifer o bobl annwyl. Does dim dwywaith y bydd y profiadau'n cael effaith gwerthfawr ar ei phaentiadau yn y dyfodol. Ymwelodd pawb â Shtula, cymuned fach lle'r oedd fy merch paentio murlun ar y wal ffin y llynedd. Dyma hi'n adrodd hanes ei murlun at ei grŵp.

Saturday, June 8, 2019

tad prysur

Mae Cardinal gwrywaidd sydd yn dod aton ni wrthi'n bwydo ei fabis hŷn. Doeddwn i ddim yn gwybod tan yn ddiweddar mai tad sydd yn eu bwydo nhw, ac mai mam yn eistedd ar eu nyth. Yn aml iawn mae o'n bwydo dau fabi ar yr un pryd sydd yn newynog bob amser; unwaith gwelais ddau arall gyda golwg wahanol. Mae o'n gofalu am bedwar o leiaf felly! Dw i'n hapus darparu rhai hadau iddyn nhw bob bydd.

Friday, June 7, 2019

i'r gogledd

Ar ôl treulio diwrnod llawn yn Jerwsalem eto, aeth fy merch a'i grŵp i'r Gogledd wrth basio Môr Galilea, a chyrraedd Kfar Blum, cymuned fach dwy filltir i Uwchdir Golan. Caethon nhw ginio tu allan, mewn natur braf. Dwedodd fy merch fod yna niferoedd o ddysglau bach a llenwodd y bwrdd, gan gynnwys pysgodyn ffres fel hwn (efallai mai o Fôr Galilea!)

Wednesday, June 5, 2019

gweithio'n galed

Mae fy mab ifancaf wrthi'n gweithio mewn gwersyll Cristnogol yn Nhalaith Missouri yn ystod yr haf eto. Cynnal a chadw ydy ei waith. Yn ogystal â thorri'r lawnt, casglu sbwriel, gwneud y gwaith trwsio, dylai fo drwsio toiledau wedi'u rhwystro o bryd i'w gilydd. Mae o'n arbenigwr erbyn hyn! Croesawir 1,000 o wersyllwyr yr wythnos 'ma.

Tuesday, June 4, 2019

croesi'r ffin eto

Wedi treulio tri diwrnod yng Ngwlad Iorddonen, mae fy merch a'i grŵp yn dod yn ôl i Israel heddiw. Cwrddon nhw â rhai gwleidyddion, mynychu darlith a mynd i siopa. Daeth twymyn siopa ar y merched i gyd, a phrynodd fy merch ffrog hardd (a drud!) Er cafodd brofiad gwerthfawr yno, mae hi'n awyddus i ddychwelyd at Israel.

Monday, June 3, 2019

yng ngwlad iorddonen

Mae fy merch yng Ngwlad Iorddonen ynghyd â'i grŵp ar hyn o bryd. Ymwelon nhw â gwersyll ffoaduriaid Syria ddoe. Dwedodd hi fod pawb yn hynod o siriol. Dyma hi'n dangos iddyn nhw sut i greu craen drwy origami; roedd y merched ifanc wrth eu bodd.

Saturday, June 1, 2019

bedd yoni

Ymwelodd fy merch hynaf a'i grŵp yn Israel â bedd Yoni Netanyahu, arwr Entebbe. Teimlodd hi mor ddwfn yn ei chalon fel penderfynodd hi greu murlun mawr ohono fo. Syniad hyfryd. Gobeithio wir y ceith gyfle i'w wneud. 

Wedi gorffwys am Saboth, aethon nhw i Wlad Iorddonen heddiw.