Saturday, September 29, 2018

blas

Roeddwn i heb fedru clywed y blas ers dau fis. Does dim achos amlwg ar wahân i heneiddio. Os felly, does dim triniaeth! Roeddwn i'n arbrofi nifer o feddyginiaethau cartref - sinsir, olew cnau coco, olew mintys, sinamon, soda pobi, ayyb a gymysgwyd â llawer o weddïau'r teulu. Mae'n ddiflas iawn methu clywed y blas. Yna, mae rhai blas wedi dod yn ôl ers deuddydd, diolch i'r Arglwydd! Roeddwn i'n hapus dros ben medru clywed pa mor wael ydy'r gwin coch a ges i!

Friday, September 28, 2018

gweddi

Pethau mae'r Arglwydd yn eu casáu - geiriau a chloriannau twyllodrus, tyst celwyddog
Pethau mae'r Arglwydd yn eu caru - y rhai sy'n gweithredu'n gywir, pwysau cywir

Pob bendith a thangnefedd gan yr Arglwydd i'r Barnwr Kavanaugh a'i deulu.

Thursday, September 27, 2018

tywydd nodweddiadol yn oklahoma

Gostyngodd y tymheredd fel carreg. Roeddwn i'n gwisgo dillad hafaidd echdoe; roedd angen arna i siaced, het a sgarff i fynd am dro'r bore 'ma. Mae fy mysedd yn oer yn teipio'r pwt hwn. Mae cawl tatws a brocoli yn swnio'n hynod o ddymunol. Dw i'n siŵr bod y gŵr yn cytuno â fi.

Wednesday, September 26, 2018

cyfarwyddwr newydd

Cafodd fy merch gyfle i fod yn gyfarwyddwr am y tro cyntaf fel rhan o'r cwrs yn y brifysgol. Dewisodd hi olygfa fer o nofel enwog Jane Austen, sef Emma, a gydag wyth o "actorion," roedden nhw'n ymarfer yn galed. Perfformiwyd y ddrama nos Sul yn llwyddiannus o flaen y dosbarth. Dwedodd hi ei bod hi mor nerfus pan gyflwynodd y ddrama fel roedd hi'n crynu'n ofnadwy, efallai mwy nerfus na'r actorion!

Tuesday, September 25, 2018

ystafell hobi

Mae gynnon ni doiled yn y garej a oedd yn arfer lletya moch cwta fy merch. Wedi iddyn nhw farw flynyddoedd yn ôl, caewyd y drws heb neb i'w ddefnyddio. Yn ddiweddar glanhaodd y gŵr a throi'r ystafell fach yn ei lecyn cyfleus a chyfforddus i lanhau ei gynnau. Mae o'n treulio awr neu ddwy yno bob wythnos yn mwynhau ei hobi wrth wrando ar YouTube.

Monday, September 24, 2018

golau newydd

Daeth Kurt, ein handy-man i osod golau newydd i'r nenfwd yn y gegin. Fflwroleuol oedd yr hen un a oedd yn methu'r rhan fwyaf o'r amser. Ces i fy synnu dros ben i wybod pa mor wahanol ydy LED. Mae'r gwahaniaeth fel rhwng y cyfrifiaduron yn yr 80au a'r rhai cyfredol. Dw i'n gwybod rŵan ein bod ni'n arfer byw mewn hanner tywyllwch heb sylweddoli! Mae'r LDE yn defnyddio llawer llai o drydan, medden nhw.

Saturday, September 22, 2018

hwyl mewn rali

Mae'r Arlywydd Trump wrthi'n teithio i gynnal rali ar ôl y llall dros America er mwyn cefnogi'r ymgeiswyr Gweriniaethol. Roedd yn Las Vegas nos Iau lle mae brawd y gŵr a'i deulu'n byw. Ceidwadwyr pybyr ydyn nhw hefyd. A dyma fy chwaer yng-nghyfraith sydd yn dod o'r Philippines yn mynychu'r rali'n eiddgar. (Roedd ei gŵr yn gorfod gweithio.) Dwedodd iddi gael profiad anhygoel o hwyl gyda llond le o gyd cefnogwyr yr Arlywydd Trump. 

Friday, September 21, 2018

penpen-blwydd y gŵr

Pen-blwydd y gŵr ydy hi heddiw yn 63 oed. Ceith o'n ei galw'n henoed mewn dwy flynedd tasai fo'n byw yn Japan oherwydd bod pawb sydd dros 65 oed yn henoed yn swyddogol yno! Gwnes i gacen geirch efo banana, afal, cnau a datysen. Dim cacen ydy hi a dweud y gwir oherwydd nad ydy hi'n ddigon melys. Dim ots. Dydy'r gŵr ddim yn hoffi melysion beth bynnag. Bydda i'n coginio gyoza, ei hoff fwyd i swper.

Thursday, September 20, 2018

gwau ar dun

Cychwynnais wau sgarff heb ddefnyddio nodwyddau. Dim ond tun coffi gwag a rhyw ffyn sydd angen. Mae gen i lawn edmygedd tuag at bwy bynnag a ddyfeisiodd y dechneg. Mae'n syml, hawdd a hwyl. Fel arfer bydda i'n gwau wrth wrando ar awdio, Gardd Ddirgel ar hyn o bryd.

Wednesday, September 19, 2018

yom kippur 2

Mae popeth a ysgrifennwyd yn yr Hen Destament ynglŷn â Yom Kippur yn dynodi Iesu, wrth ragarwyddo sut byddai o'n achub ni. Fe wnaeth.

"Symudaf ymaith anwiredd y tir hwn mewn un diwrnod." Sechareia 3:9

Tuesday, September 18, 2018

yom kippur

Yn ystod yr ŵyl fwyaf sanct Iddewig hon, wrth iddyn nhw ofyn i Dduw Israel am faddeuant, dw i'n gweddïo y bydd yr Iddewon yn Israel ac yn y gweddill y byd yn dod i adnabod Yeshua yr Iddew sydd yn medru maddau iddyn nhw'n gyfan gwbl drwy ei waed a dywalltwyd fel yr aberth eithaf.

Monday, September 17, 2018

dw i eisiau cyfiawnder

Cafodd Ari Flud ei drywanu i farwolaeth yn Israel ddoe. Tad i bedwar o blant a ffrind mawr i Jane o Jerwsalem oedd o. Roedd o'n gweithio'n ddygn dros Israel. Cafodd ei lofruddio gan fachgen Palestinaidd 17 oed mewn canolfan siopa. Cynhaliwyd angladd neithiwr a fynychwyd gan filoedd o bobl. Yn y cyfamser aethpwyd y bachgen a gafodd ei saethu (ond heb farw) i'r ysbyty Israelaidd i gael triniaeth! Mae troseddau tebyg gan y Palestiniaid yn digwydd yn rhy aml; mae gormod o Israeliaid ddiniwed wedi cael eu lladd. Mae bai ar yr arweinwyr Palestiniaid sydd yn annog eu pobl i ladd yr Iddewon drwy wobrwyo'r troseddwyr gyda thaliadau mawr.

Saturday, September 15, 2018

mae pat yn ôl

Wedi misoedd o ddistawrwydd, mae Pat Condell yn ôl o'r diwedd. Roeddwn i'n ofni bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd iddo. Falch o weld ei fod o'n dal ati fynegi ei farn heb flewyn ar dafod, heb ofn, a heb betruso am eiliad yn mynd i'r afael â'r pynciau llosg. Gyda llaw, mae ymddygiad y bobl ar y chwith mor debyg rhwng y DU ac UDA fel gallai fo fod wedi sôn am UDA.

Friday, September 14, 2018

fy ffefryn newydd

Dim ond 16 oed ydy o, ond mae Eitan yn gogydd anhygoel o dda, ac mae o'n creu fideos o uwch safon. Ar ben hynny, mae ganddo bersonoliaeth hynod o hoffus fel mae'n bleserus ei weld o. Dw i'n siŵr y bydd o'n gogydd o fri un diwrnod.

Thursday, September 13, 2018

darganfyddiad

Dw i'n cael hi'n ofnadwy o anodd agor potel foddion gyda chaead diogel oherwydd problem y llaw. Roeddwn i'n arfer cadw fy moddion mewn bag ziplock. Dw i newydd ddysgu drwy YouTube bod y caead yn cael ei droi wyneb i waered fel y cewch chi ei agor yn hawdd! Mae rhigol bwrpasol ar ben y caead.

Wednesday, September 12, 2018

bwyd diogel

Mae gan fy merch yn Japan alergedd bwyd difrifol. Dylai hi osgoi llefrith, soi, blawd, wyau, cnau, a llawer o ffrwythau; dylai hi fod yn hynod o greadigol i baratoi ei saig. Trefnodd ei ffrind da barti penblwydd iddi'r wythnos diwethaf wrth baratoi gwledd hyfryd gan ddefnyddio cynhwysion "diogel." Dyma gacen a hufen iâ a wnaeth. Dim ond llefrith coco a sinamon sydd yn yr hufen iâ.

Tuesday, September 11, 2018

clychau gwynt

11 Medi 2001
rhif taith 93
40 o arwyr
Shanksville

Anghofiwn ni byth. 

Monday, September 10, 2018

gŵyl y trwmped

"Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd... Bydd yn ddiwrnod i chwi ganu'r utgyrn..." Numeri 29:1

"... pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef..." I Thesaloniaid 4:16

"... bydd yr utgorn yn seinio, y meirw yn cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid." I Corinthiaid 15:52

Tyrd, Arglwydd Iesu!

Saturday, September 8, 2018

sgil arbennig

Mae gan fy merch hynaf sgil arbennig, sef darganfod bargen, yn enwedig mewn siopau elusen. Yn aml iawn mae hi'n medru ffeindio dillad gyda brand posh ymysg pentwr o hen ddillad. Dyma ei darganfyddiad diweddaraf - ffrog gan Nordstrom y byddai'n costio $229 os prynir yn newydd. Talodd hi ond $7! Bydd hi'n mynd i'w gwisgo mewn parti ddiwedd y mis.

Friday, September 7, 2018

mis prysur

Tymor prysur ydy mis Medi i fy nheulu. Mae yna gynifer o benblwyddi gan gynnwys penblwydd fy mlog - 6, 7, 8, 10, 11 a 21. Roeddwn i'n arfer crasu tair cacen ar yr un diwrnod. (Roedd yn dipyn o her!) Bydd y gŵr yn hedfan yfory i Las Vegas i ddathlu penblwydd ei fam sydd yn byw yno efo ei mab arall.

Thursday, September 6, 2018

sefyll yn erbyn y llif

Tra bod nifer o gwmnïau mawr yn cymryd yr ochr chwith er mwyn dilyn y llif gwleidyddol gywir, mae yna brifysgol fach yn Missouri yn mynd yn ei erbyn a sefyll yn ddewr. Cyhoeddodd College of the Ozarks, lle mae fy nau blentyn yn astudio, fyddai'n cael gwared ar y gwisgoedd athletig sydd gan arwydd Nike; maen nhw eisiau dewis eu gwlad yn hytrach na chwmni. "Os oes gan Nike gywilydd ar America, mae gynnon ni gywilydd ar y cwmni," meddai'r prif athro. 

Wednesday, September 5, 2018

tad efo coesau hirion

Gwelais y nofel hon a adawyd gan fy merch ar ei silff, a dechrau ei darllen - Daddy Long-Legs gan Jean Webster, gor-nith Mark Twain. Roeddwn i heb ei darllen er mai nofel enwog ydy hi. Ac felly doeddwn i ddim yn gwybod yn ffodus pwy ydy Tad efo Coesau Hirion pan gychwynais. (Ces i syniad hanner ffordd drwodd fodd bynnag.) Roedd yn stori annisgwyl o ddiddorol efo'r prif gymeriad hynod o ddeniadol. 

Tuesday, September 4, 2018

diogelu'r to

Mae gynnon ni fwy o law'r haf yma nag arfer. Mae'r coed a'r glaswellt yn tyfu'n nerthol. Torrodd a thrimiodd y criw ein coed ni fisoedd yn ôl, ond roedd rhai canghennau'n cyffwrdd y to'n ddiweddar. O'r diwedd roedd gan y gŵr amser i wneud y gwaith. Aeth i fyny ar y to a'u torri nhw. Mae'r to'n ddiogel bellach.

Monday, September 3, 2018

bwrdd ping-pong hardd

Dyma fwrdd ping-pong hardd a weloch chi erioed. Mae o ym Mharc Kerr yng nghanol Okolahoma City. Gwaith diweddaraf fy merch ydy o. Roedd yn waith ofnadwy o galed oherwydd bod hi'n gorfod eistedd ar ben y bwrdd am oriau i beintio. Gorffennodd hi fodd bynnag, ac mae'r bwrdd yn bywiogi'r parc yn barod. 

Saturday, September 1, 2018

gorffen emma

Gorffennais wrando ar Emma. Gan nad oes Karen Savage, fy ffefryn ar gael, dewisais Moira Fogarty o Ganada. Mae hi'n wych hefyd. Roeddwn i'n medru gwerthfawrogi'r nofel honno mwy ar ôl gweld y fideo eto'n ddiweddar. Mr. Knightley ydy fy hoff gymeriad heb os. 

"Mae un peth bod dyn yn medru ei wneud bob amser, sef ei ddyletswydd." - Mr. George Knightley