Wednesday, May 31, 2017

nid hummus yn unig

Er mwyn boicotio Israel yn drylwyr -
yn gyntaf, taflwch allan y cyfrifiaduron, ffonau symudol, teclyn gemau cyfrifiadur; peidiwch â gweld fideo ar alw; peidiwch â phrynu cynnyrch o dramor; peidiwch â defnyddio nifer o  feddygaeth hanfodol... oherwydd bod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n cael eu dyfeisio, cynhyrchi neu gynllunio un ffordd neu'r llall gan wyddonwyr, cwmnïau neu lywodraeth Israel. Mae'r rhestr yn para'n hir. Wir, mae'n hynod o anodd boicotio Israel os byddwch chi eisiau ei wneud yn gydwybodol.

Tuesday, May 30, 2017

jane ar silff

Roeddwn i wrthi'n rhoi trefn ar gwpwrdd dillad a dod ar draws y paentiad a baentiodd fy merch hynaf yn 2002 (pan oedd hi'n 18 oed) - portread o Jane Austen. Roeddwn i'n arfer gwirioni ar ei nofelau ar yr adeg honno, a rhoddodd fy merch y paentiad yn anrheg Nadolig i mi. Wedi colli angerdd drostyn nhw (er fy mod i'n dal i'w hoffi,) cafodd y paentiad druan ei anghofio hyd yma. Ardderchog ydy o beth bynnag ac roedd fy merch yn gweithio'n galed drosta i. Dyma ail-osod Jane ar silff.

Monday, May 29, 2017

memorial day

Diolch i'r dewr a roddodd eu bywydau i roi rhyddid i ni. 

Saturday, May 27, 2017

hoopoe

Wedi profiad cyffrous a gafodd hi ar ddechrau ei phythefnos yn Efrog Newydd, mae bywyd fy merch a'i gŵr wedi setlo. Mae yna siopau o bob math gerllaw, ac mae hi'n mwynhau cerdded o gwmpas efo'r ci. (Mae ei gŵr yn sâl yn anffodus.) Cafodd hi ysbrydoliaeth gelfyddydol gan Afal Mawr a'r cyfarfod efo Lior Raz fel dechreuodd baentiad sydd yn cynnwys aderyn cenedlaethol Israel, sef Hoopoe.

Friday, May 26, 2017

breuddwyd merch

Ymwelodd yr Arlywydd Trump a Mrs.Trump â merch sydd yn dioddef o ganser yn Israel tra oedden nhw yno ond 27 awr. Breuddwyd y ferch oedd cyfarfod Mr. Trump, a chafodd o ei wireddu. Byddai hyn wedi fod yn newyddion mawr pe bai arlywydd arall wedi ymweld â hi, ond anwybyddodd y prif gyfryngau hyn i gyd; dim syndod.

Thursday, May 25, 2017

cyfarfod doron

Aeth fy merch a'i gŵr i Efrog Newydd i warchod ci eu ffrind am bythefnos. Maen nhw'n cael mynd o gwmpas y ddinas hefyd. Pwy wnaethon nhw gyfarfod ar stryd yn Manhattan ond Lior Raz, cynhyrchydd a phrif gymeriad Fauda, rhaglen boblogaidd Israelaidd! Y fo ydy ei hoff actor! Mae hi gyffro i gyd a sgrifennodd hi lyfr ata i'n disgrifio'r hanes. Mae Lior wedi gweld celf fy merch o'r blaen gan gynnwys ei bortread a baentiodd hi, a'i hoffi; penderfynwyd byddai ei phaentiad o samurai yn cael ei anfon at ei dŷ yn Israel. Cafodd fy merch ei tharo yn yr holl hanes, pa mor gwrtais a diymhongar ydy Lior er ei fod o'n ddyn amlwg tra ei bod hi'n neb.

Wednesday, May 24, 2017

gŵyl jerwsalem

Er bod Jerwsalem wedi bod yn brif ddinas Israel ers i'r Brenin Dafydd ei gorchfygu 3,000 mlynedd yn ôl, adunwyd Jerwsalem 50 mlynedd yn ôl ar ôl y Rhyfel Chwe Diwrnod yn yr hanes modern. Mae hi'n aros yn brif ddinas Israel am byth a bythoedd.

Tuesday, May 23, 2017

gadael israel

Mewn llai na 30 awr o ymweliad, cyflawnodd yr Arlywydd Trump gymaint. Mae'r perthynas rhwng America ac Israel yn gryfach byth bellach. Pan oedd o flaen y wal, ymbilodd ar Dduw am ddoethineb. Bydded i Dduw ateb y weddi honno. Dioch i'r swyddogion diogelwch a oedd wrthi'n ddygn drwy'r amser. Ei ymweliad nesaf - Rhufain.

Monday, May 22, 2017

arlywydd o flaen y wal

Wedi traddodi araith wych a nerthol i nifer o arweinwyr Arabaidd yn Saudi Arabia, cyrhaeddodd yr Arlywydd Trump Israel heddiw. Mae'r croeso yn anhygoel o gynnes a chyfeillgar, yn enwedig gan y prif weinidog Netanyahua a'i wraig. Mr. Trump ydy Arlywydd America cyntaf a aeth at y Wal Orllewinol yn swyddogol. "Does dim gair i fynegi'r profiad a ges i (o flaen y Wal); gadawodd argraff arna i fyddai'n para am byth," meddai yn nhŷ prif weinidog Israel. 

Saturday, May 20, 2017

seremoni raddio arall

Graddiodd fy mab ifancaf ynghyd â 276 eraill o'r ysgol uwchradd neithiwr. Roedd o'n astudio, chwarae pêl-droed a rhedeg cross country yn galed am bedwar blynedd. Mae o eisiau astudio peirianneg yn y brifysgol, a bydd o'n gweithio'n rhan amser yn ystod yr haf. Cynhaliwyd y seremoni dan do oherwydd y tywydd, y tro cyntaf ers 80au. Daeth fy merch hynaf a'i gŵr ar gyfer yr achlysur. 

Friday, May 19, 2017

tornado bron

"Ewch i'r lloches rŵan."  Cafodd y gŵr y rhybudd hwn ar ei ffôn neithiwr drwy app tornado. Roedd hi'n hollol ddistaw tu allan eto ond dyma nôl y bag parod sydd yn cynnwys pasbortau'r teulu er mwyn mynd i'r islawr os yn wir dôi tornado i'r dref. Roedd yn hwyr ac roeddwn i'n gysglyd fel gorweddais ar y gwely, ond neidiodd allan ohono fo wrth glywed y daran frawychus cyntaf. Roeddwn i'n aros efo'r teulu wrth y drws i'r islawr yn clywed y gwyntoedd a'r taranau. Yn ffodus pasiodd y storm yn gyflym, ac aethon ni i'r gwely'n ddiolchgar.

Thursday, May 18, 2017

yn ôl at y brifysgol

Wedi treulio pythefnos yn ymlacio adref, aeth fy merch ifancaf yn ôl at y brifysgol yn Missouri y bore 'ma. Cafodd waith yn y theatr ar y campws yn ystod yr haf, a bydd hi'n dechrau ddydd Sadwrn. Bydd y gwaith yn talu am y costau byw am flwyddyn. Yn anffodus na fydd hi'n medru gweld seremoni raddio ei brawd yfory. Fe ddaw hi'n ôl eto fis Tachwedd. 

Wednesday, May 17, 2017

jane a denmarc

Mae'r gweinidog tramor o Ddenmarc yn ymweld ag Israel ar hyn o bryd. Mae o newydd siarad ag Arlywydd Israel yn Jerwsalem. Cafodd Jane ei gwahodd i gynhadledd i'r wasg yng nghartref swyddogol yr Arlywydd fel un o'r wasg. (Mae ganddi deitheb wasg!) Roedd hi'n medru ei gyfarfod a'i groesawu (yn y Ddaneg) i Israel hyd yn oed. Dw i'n ddiolchgar i Ddenmarc am Jane a'i theulu.

Tuesday, May 16, 2017

glaswellt yr haf

Pryd bynnag bydda i'n cerdded ar hyd y llecyn hwnnw, fedra i ddim peidio â chofio'r diwrnod yn y gaeaf flynyddoedd yn ôl pan adeiladodd fy mhlant iglw efo hogyn o'r Almaen, ac â meddwl am yr haiku enwog gan Bashou Matsuo am laswellt yr haf ac uchelgais y milwyr a frwydrodd arno fo.

Monday, May 15, 2017

o flaen y wal

Mae David Friedman, llysgennad America i Israel newydd gyrraedd y wlad honno efo ei deulu. Y lle cyntaf aeth cyn gwneud dim byd arall oedd y wal orllewinol yn Jerwsalem. Yna gweddïodd efo llyfr gweddi yn ei law. Pob bendith. Gobeithio y bydd o'n gweithio yn Llysgenhadaeth America yn Jerwsalem cyn hir.

Saturday, May 13, 2017

mynydd fuji

Cafodd fy merched yn Japan gyfle i fynd i gyffiniau Mynydd Fuji. Mae o mor dal fel cewch chi ei weld lle bynnag ydych chi, ac mae o'n anhygoel o fawreddog a hardd. Does ryfedd bod o'n cael ei edmygu bob amser. Dyma hwiangerdd enwog amdano fo:
ei ben uwch y cymylau
mae o'n edrych i lawr yr holl fynyddoedd
ac yn clywed y taranau isod.
y gorau yw Mynydd Fuji.

Friday, May 12, 2017

llen aur

Tra oeddwn i'n mynychu digwyddiad neithiwr, newidiodd yr awyr yn rhyfedd. Roedd llen enfawr o law tuag at y gorllewin yn disgleirio'n aur efo mellt yma ac acw. Dw i'n siŵr bod yna dornado neu ddau rhywle. Aeth adref ar frys cyn cael fy nal gan y storm. Fe ddaeth hanner awr wedyn, cenllysg a phob dim. Mae'n dawel heddiw.

Thursday, May 11, 2017

cerddoriaeth a gwleidyddiaeth

Pêl-droed, a rŵan Eurovision. Mae grŵp o bobl yn gofyn i'r gynulleidfa am roi "0" i Imri Ziv o Israel a fydd yn canu yn y cynderfynol heno er mwyn dangos eu gwrthwynebiad yn erbyn Isarel. Dylen nhw ddim defnyddio chwaraeon a cherddoriaeth er mwyn gwthio eu hagendâu gwleidyddol. Gobeithio bod gan y gynulleidfa synnwyr cyffredin. Pob hwyl i Imri Ziv.

Wednesday, May 10, 2017

bendithio israel drwy jerwsalem jane

Ers iddi symud i Israel flynyddoedd yn ôl wedi gwerthu ei heiddo personol i gyd yn Denmarc, mae Jane o Jerwsalem wrthi'n ddygn i fod yn llais dros Israel ac yn fendith i'r bobl. Cafodd hi ddamwain draffig ofnadwy'r llynedd sydd yn effeithio'n arw o hyd. Ac eto mae hi'n dal ati ac mae gan ei thudalen Facebook dros 100,000 o ddilynwyr bellach. Yn anffodus, nad ydy pawb yn ei chefnogi'n ariannol. Mae hi angen $1,700 y mis i fwrw ymlaen yn Jerwsalem. Dyma gyfle i fendithio Israel drwyddi hi.

Tuesday, May 9, 2017

bwrw ymlaen efo gwen

Derbyniodd Le Pen y canlyniad efo gwen a thipyn bach o ddagrau yn ddewr heb feio neb arall, wrth gysuro a chodi calonnau ei chefnogwyr ffyddlon. A dweud y gwir, fe wnaeth hi'n dda iawn yn croesi i farnau'r prif gyfryngau. Enillodd hi 34% o'r bleidlais yn cymharu â ffigur y tro diwethaf, sef 18%. Ei phlaid ydy'r wrthblaid fwyaf bellach. Mae hi'n bwriadu ei hailwampio a dal ati. Gobeithio y bydd hi'n ennill yn 2022.

Monday, May 8, 2017

galaru

Ddewison nhw mo Ffrainc. Am siom. Siom yn union fel y diwrnod enillodd Obama (a dwywaith hyd yn oed.) Ond enillodd Mr. Trump wedi i America ddioddef am wyth mlynedd. Mae gan Dduw gynllun perffaith. Fo a fydd yn ennill yn y diwedd. Duw sydd gan y gair olaf. 

Saturday, May 6, 2017

seremoni raddio

Cynhaliwyd seremoni raddio yn Ysgol Optometreg yn y brifysgol leol neithiwr. Camodd 28 o ddoctoriaid newydd y cam cyntaf i ddechrau eu gyrfaoedd. A hwn oedd y tro olaf i fy ngŵr i anfon doctoriaid newydd i'r gymuned. Gofynnwyd sawl tro ydy o'n drist; ei ateb bob tro oedd, "tipyn bach, rhyw un y cant." Mae o'n edrych ymlaen at y cyfnod nesaf ers misoedd.

Friday, May 5, 2017

adnewyddu pasbort

Yr amser i adnewyddu fy mhasbort. Mae bron yn ddeg mlynedd ers i mi hedfan i Houston i wneud yr un peth. Na fydd rhaid i mi fynd yno'r tro hwn, ond i Dallas sydd yn agosach. Ac eto bydd yn cymryd dros bum awr mewn car un ffordd. (Rhaid mynd yn bersonol.) Dyma ffonio'r staff i wneud apwyntiad chwap ar ôl yr amser dechrau. Dwedodd y ddynes mai fi ydy'r cyntaf, ac na fydd eu gwefan yn barod eto tan yfory! Dim ond eisiau gwneud yn siŵr, dw i!

Thursday, May 4, 2017

angen gweddi

Diwrnod Gweddi Genedlaethol ydy hi heddiw. Mae angen gweddi mwy byth arnon ni. Rhoddodd Duw drugaredd ar America a rhoi i ni Mr. Trump, ac eto dydy'r frwydr ddim wedi gorffen; mae hi'n dal yn ffyrnig. Does dim amser i fod yn ddiofal; rhaid dal ati weddïo. Diolch i'r Arlywydd Trump sydd yn cymryd y diwrnod hwn yn ddifrifol.

Wednesday, May 3, 2017

dewiswch ffrainc

Mae ganddi wendidau. Un o'r gwaethaf ydy ei bod hi'n trin yr Iddewon yn Ffrainc yr un fodd â'r bobl o'r gwledydd eraill yn Nwyrain Canol (er mwyn peidio dangos ffafriaeth efallai.) Ac eto, y hi ydy'r unig ddewis call os bydd Ffrainc eisiau dal yn wladwriaeth sofran a democrataidd. Bydd ei buddugoliaeth yn fuddugoliaeth wledydd rhydd eraill yn y byd gan gynnwys Israel. "Dewiswch Ffrainc" ydy arwyddair newydd Marine Le Pen. Gobeithio y bydd y Ffrancwyr yn dewis Ffrainc ddydd Sul.

Tuesday, May 2, 2017

mae hi'n 69 oed

Pen-blwydd hapus i Israel! Mae'n 69 mlynedd ers iddi fod yn wladwriaeth unwaith eto ar ôl cael ei gwasgaru i bob cwr o'r byd dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Anhygoel i'r eithaf ydy hanes modern Israel. Daeth pobl Israel yn ôl at y tir a roddodd Duw i Abraham, yn union fel addawodd Ef. Pob bendith i Israel. Cofiwch beth ddwedodd Duw wrth Abraham - bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio....

Monday, May 1, 2017

yom hazikaron

Yom Hazikaron, sef Diwrnod Cofio ydy hi yn Israel. Cofir 23,477 o filwyr a gafodd eu lladd dros eu gwlad ynghyd â 2,576 o bobl a gafodd eu llofruddio gan derfysgwyr.

Mae'r Arglwydd ein Duw gyda ni i'n cynorthwyo ac i ymladd ein brwydrau.
2 Cronicl 32:8