Monday, September 30, 2013

drama radio

Pan oeddwn i'n astudio'r Saesneg flynyddoedd yn ôl yn Tokyo (cyn amser cyfrifiaduron,) roeddwn i'n arfer gwrando ar Radio FEN, sef Far East Network a oedd yn darparu gwasanaeth i Luoedd Arfog America yn y Dwyrain Pell. Roedd o'n ffynhonnell hyfryd i ddysgwyr y Saesneg, a ches i fantais arno fo i'r eithaf. Yn ogystal â'r newyddion, roedd yna amrywiaeth o ddramâu radio. Fy ffefryn oedd Life of Riely, cyfres boblogaeth iawn yn y 40au. Recordiais y rhaglen yn fy recordydd tâp (cyn amser Walkman) a gwrando arni hi ar y trên bob dydd. Mae hi ar gael ar y we. Mae lleisiau annwyl y cymeriadau'n fy atgoffa i o'r dyddiau cynt. Cafodd hi ei throi'n rhaglen deledu hefyd ond dw i'n meddwl bod y fersiwn radio'n llawer mwy doniol.

Saturday, September 28, 2013

glaw sydyn

Cawson ni law wedi dyddiau o dywydd sych. Dechreuodd fwrw glaw'n sydyn iawn tra oeddwn i yn y dref. Clywais y glaw ar do'r archfarchnad. Ces i fy ngwlychu'n llwyr rhwng drws y siop a fy nghar yn y maes parcio. Na chafodd y bwydydd eu gwlychu, diolch i wasanaeth y siop. Maen nhw'n cludo'ch bwydydd at eich ceir; dim ond gyrru nhw wrth y siop sydd angen. Roedd gen i gur pen drwg ddoe oherwydd y sychder, ond dw i'n teimlo'n llawer gwell rŵan, diolch i'r glaw.

Friday, September 27, 2013

hen lyfr

Prynais lyfr ail-law gan Amazon; dim ond $4 oedd o gan gynnwys y tâl post. Pan gyrhaeddodd, gwelais fod o'n dros hanner cant oed. Y broblem ydy bod ganddo arogl llwyd sydd yn gwneud i mi besychu wrth ei ddarllen. Doeddwn i ddim eisiau ei daflu o gan fy mod i eisiau ei ddarllen (casgliad o storiâu byr Eidalaidd yn Saesneg a ysgrifennwyd rhwng  1313 a 1909.) Dyma chwilio am wybodaeth ar y we ynglŷn â sut i gael gwared ar yr arogl. Mae'r llyfr yn torheulo ar y dec ers dyddiau wedi'i daenu gan soda pobi. Mae o'n treulio bob nos mewn bag plastig a llenwid gan hen bapurau newydd. Mae'r arogl wedi lleihau'n sylweddol, ond mae o'n dal i angen y driniaeth.

Thursday, September 26, 2013

glanhawr cyfrinachol

Dw i newydd glywed bod dyn lleol yn Fenis, wedi'i gyfarparu efo pinsiwrn, yn casglu'r cloeon clap ar Bont Accademia yng nghanol nos a'u gwerthu nhw i ffowndri ers dau fis. Mae o'n gwneud hynny er mwyn codi arian i sefydlu canolfan i'r di-waith a'r digartref yn y dref. Mae o eisoes wedi casglu 7 tunnell o fetel (€2.50 am gilogram o bres, € 3 am gilogram o haearn.) Syniad da yn fy nhyb i, ond dydy swyddogion y dref ddim yn hapus oherwydd ei fod o heb ganiatâd swyddogol.

Wednesday, September 25, 2013

dan y bont

Fel sgrifennais o'r blaen, mae yna filoedd o gloeon clap wedi'u clymu yn rheiliau Pont Accademia yn Fenis. Mae rhai'n gorwedd yn rhydd ar y llawr hyd yn oed. Syrthiodd un ohonyn nhw ar wyneb gondolier a oedd yn digwydd hwylio dan y bont ddyddiau'n ôl. Yn ffodus cafodd o ddim ei anafu, ond gallai hynny wedi bod yn ddifrifol. Mae pobl yn dal i glymu'r peth yn y rheiliau er byddan nhw'n cael eu taflu i ffwrdd yn y pen draw. Clywais fod rhai mewnfudwyr yn gwerthu cloeon clap i gyplau ar y bont. 

Tuesday, September 24, 2013

llestr pridd efo caead

Santa Maria Maddalena - un o fy hoff eglwysi yn Fenis ydy hi. Mae hi'n fy atgoffa i o lestr pridd efo caead. Pasiais yr eglwys fach hon sawl tro gan ei bod hi'n sefyll agos at y ffordd sydd yn cysylltu'r orsaf trên a'r ardaloedd dwyreiniol. Tannwyd y llun hyfryd hwn gan BluOscar ar doriad gwawr. Mae o'n cerdded o gwmpas y dref ar ddydd Sadwrn cyn i'r twristiaid lenwi'r llwybrau.

Monday, September 23, 2013

crock pot

Dw i ddim yn rhy hoff o goginio ac mae'n anodd penderfynu beth ddylwn i baratoi i swper. Mae'n anos fyth yn ystod yr haf gan fy mod i ddim yn gwneud casseroles yn y popty er mwyn peidio codi tymheredd y gegin. (Mae gen i ryseitiau amrywiol am hynny.) Ces i Crock Pot yn anrheg am Nadolig; dydy o ddim yn gwresogi'r ystafell yn gymharol ond dw i heb ei ddefnyddio'n aml am ryw reswm neu beidio hyd yma. Heddiw dw i'n mynd i baratoi casserole tatws a selsig ynddo fo. Bydd yn cymryd pum awr i orffen; dechreua' i mewn hanner awr cyn mynd i swyddfa'r gŵr.

Sunday, September 22, 2013

cyrraedd fenis

Mae ffrind i mi newydd gyrraedd Fenis efo ei chyfnitherod. (Genfigennus iawn dw i!)  Dwedodd ei gŵr eu bod nhw'n cael amser hyfryd yn Ewrop. Rhufain ydy eu cyrchfan nesa ac olaf. Dw i'n edrych ymlaen at glywed am ei hanes pan ddaw hi adref.

Saturday, September 21, 2013

diwrnod brafiaf

Cawson ni wythnosau poeth a sych dilynwyd gan ddiwrnod neu ddau o law. Heddiw mae'n braf efo awel ysgafn glaear am y tro cyntaf ers misoedd. Mae'r awyr yn las las heb gymylau. Redodd y mab ifancaf ras arall ger Tulsa y bore 'ma yn y tywydd mor braf. Aeth y teulu efo fo tra oeddwn i'n siopa a gwneud neges yn lleol. Mae gen i dipyn o amser i fi fy hun cyn crasu pastai pwmpen i'r gŵr (ei ffefryn ydy hi.) Dan ni'n mynd i fwyta allan heno i ddathlu ei benblwydd, tŷ bwyta Mecsicanaidd dw i'n meddwl.

Friday, September 20, 2013

aderyn cân

Mae hi'n cael ei galw'n aderyn cân. Yukari Miyake ydy ei henw hi. Peth annisgwyl amdani hi ydy'r ffaith bod hi'n aelod o Luoedd Amddiffyn Morwrol Japan. Mae un o'i chaneuon, sef a Prayer ar ben y siart ers tair wythnos. Yn y clip yma, mae hi'n canu Time to Say Good-bye, cân Eidalaidd enwog, yn Eidaleg. Mae hi'n trilio "r" yn fedrus iawn!

Thursday, September 19, 2013

lleuad fedi

Mae hi'n cael ei galw'n "lleuad hardd yng nghanol yr hydref" yn Japaneg ac mae'r bobl yn mynd allan i'w mwynhau bob blwyddyn. Mae hi'n noson glir rŵan yn Japan; des o hyd i gynifer o luniau ohoni hi ar y we. Tynnwyd y llun hwn oriau'n ôl yn Kobe lle roeddwn i'n byw am flynyddoedd.

Wednesday, September 18, 2013

bath troed

Dw i'n mwynhau "bath troed" beunyddiol dyddiau hyn (heb gegolch glas!) Mae gen i "ryseitiau" amrywiol - halen, croen lemon, finegr, soda pobi, olew persawrus, ayyb. Ar ôl dod adref yn y prynhawn, tua 4:30 o'r gloch, bydda i'n llenwi twb bach efo dŵr claear (gan ei bod hi'n dal i boeth) a chymysgu rhai "cynhwysion" o fy newis a mwydo fy nhraed yn ddiolchgar am ryw chwarter awr wrth ddarllen llyfr. Braf iawn!

Tuesday, September 17, 2013

modd i ddysgu

Un o'r argymhelliad mae Alberto yn ei roi o ran dysgu unrhyw iaith arall ydy cyfuno eich diddordebau efo'r dysgu; hynny ydy darllen am eich diddordebau yn yr iaith/ieithoedd o'ch dewis. Yna, cewch chi ddysgu ieithoedd a hel gwybodaeth ar yr un pryd. Dim ots os oes llawer o eiriau newydd achos byddwch chi'n awyddus i'w dysgu nhw er mwyn gwybod beth mae'r llyfr neu'r erthygl yn ei ddweud. Cytuno'n llwyr. Wrth gwrs rhaid dysgu pethau sylfaenol gyntaf, ond ar ôl cyrraedd y lefel canolradd, does dim modd gwell na hynny. 

Monday, September 16, 2013

ffrindiau am oes

Yn gysylltiedig â Diwrnod i'r Henoed yn Japan, mae yna erthygl am ddwy wraig sydd yn 100 a 99 oed. Mae un o'r ddwy'n byw yn yr un lle ers ei geni. Pan symudodd y llall yno, aethon nhw'n ffrindiau'n syth. Trwy'r rhyfel, enedigaeth eu plant a mwy, maen nhw'n cadw'r cyfeillgarwch hyd at heddiw a dal i fwynhau cwmni ei gilydd.

Sunday, September 15, 2013

prynhawn sul

Sut dach chi'n treulio prynhawn dydd Sul - ymlacio, mynd allan efo ffrindiau, gweithio, gwneud gwaith cartref ayyb? Gwaith tŷ (a dysgu Eidaleg) i mi fel arfer, ond heddiw rhaid gweithio i'r gŵr wrth iddo marcio papurau ymchwilio'r myfyrwyr. Mae'n eithaf diflas ond bydd  o'n gorfod gweithio drwy'r nos oni bai fy mod i'n ei helpu. Bydda i'n cael fy nhalu wrth gwrs, felly fedra i ddim cwyno. 

Saturday, September 14, 2013

ateb

Hwrê! Sgrifennais sylw ar flog Alberto, a chael ateb. (A dweud y gwir, mae o'n ateb pob sylw!) Roeddwn i eisiau diolch iddo am ei wasanaeth gwerthfawr i'r rhai sydd yn dysgu Eidaleg, a dweud wrtho fo fy mod i'n edmygu ei egwyddor a'r hyn mae o wedi ei gyflawni. Mae o newydd ddechrau mynd i'r brifysgol a sefyll arholiad, ac wedyn fe wnaeth uwchlwytho post newydd. Dw i'n gwybod rŵan sut dach chi'n ei ddweud, "ces i dorri fy ngwallt" yn Eidaleg, diolch i Alberto.

Friday, September 13, 2013

mwy am alberto

Dw i'n dal i wylio'r fideo a darllen blog Alberto. Hogyn anhygoel a phrin ydy o. Mae ganddo egwyddor gadarn ac mae o'n ymdrech i wella ei fywyd a helpu'r bobl eraill drwy'r dydd heb frolio ei gamp. Does dim llawer o bobl ifanc, yn hytrach, pobl yn gyffredinol fel Alberto. Dw i'n llawn edmygedd a medru dysgu mwy na'r Eidaleg drwy ei wersi.

Thursday, September 12, 2013

diolch i alberto

Des ar draws clip gan Alberto o Brescia ar You Tube. Creodd gyfres o glipiau a dal i greu ynghyd gwefan er mwyn helpu dysgwyr Eidaleg drwy roi cyfleoedd iddyn nhw wrando ar Eidaleg naturiol a siaradir yn gymharol araf. Mae o'n rhoi cynghorion, yn Eidaleg, ar sut i ddysgu ei famiaith hefyd. Hyn ydy peth perffaith i mi ac i lawer o ddysgwyr eraill dw i'n siŵr gan ei bod hi'n anodd dod hyd i ddeunydd sydd ddim yn rhy anodd na rhy syml. Wrth gwrs bod yna gynifer o bobl yn siarad am eu diddordebau ar You Tube, ond yr hyn sydd yn fy nharo ydy pa mor ymroddedig ydy o i helpu dysgwyr, yn rhad ac yn ddim hefyd. Mae o hyd yn oed yn siarad am ddatblygu eich potensial a gwella'ch bywydau, yn Eidaleg. Pam mae hyn fy synnu? Oherwydd mai ond 18 oed ydy'r hogyn hwn! Dysgu ieithoedd eraill hefyd mae o, ac felly mae o'n medru rhoi cynghorion o safbwynt dysgwr. Dw i ddim yn gwybod sut mae o'n gwneud popeth a mynd i'r ysgol ar un pryd. Diolch, fodd bynnag, i Alberto!
You Tube
y wefan

Wednesday, September 11, 2013

12 mlynedd

Mae hi'n 12 mlynedd ers y diwrnod erchyll yn Efrog Newydd. Wrth weld y lluniau, dw i'n sylweddoli o newydd pa mor ysgeler oedd y trosedd. Mae'r teuluoedd y mae eu hanwyliaid wedi cael eu lladd yn dal i ddioddef o'u colled. Ddylen ni ddim anghofio. Dylen ni ddal yn wyliadwrus. Mae dihirod yn aros am gyfleoedd eraill.

Tuesday, September 10, 2013

tablau lluosi

Mae gan bob plentyn amser caled wrth geisio cofio'r tablau lluosi. Gan fod fy mhlant wedi mynd i'r ysgol yn America, maen nhw wedi eu dysgu efo'r modd Americanaidd sydd mwy neu lai'n debyg i'r gwledydd gorllewinol. Dw i ddim yn gwybod am y gwledydd eraill dwyreiniol, ond yn Japan mae yna fodd llawer haws er bod chi'n ymdrechu wrth gwrs. Mae fel tasech chi'n canu cân wrth ddweud y tablau. Mae'n anodd eu hanghofio wedyn. Penderfynais sgrifennu'r pwt hwn wedi gweld You Tube sydd yn dysgu'r tablau lluosi drwy ddefnyddio'r bysedd.

Monday, September 9, 2013

paid edrych rŵan

Des ar draws nofel fer sydd yn seiliedig yn Fenis gan Daphne du Maurier, awdures Rebecca. Don't Look Now ydy'r teitl. Mae'n amlwg bod Maurier yn nabod Fenis yn dda. Disgrifiodd y dref fel un sydd yn gyfarwydd â'r llwybrau cymhleth. Aeth y prif gymeriad at yr Heddlu ger Eglwys Lorenzo lle mae gan Brunetti swyddfa ynddo fo hyd yn oed. Roeddwn i'n gwerthfawrogi'r elfen honno. OND -  mae'n stori ofnadwy o ddychrynllyd! Byddwn i byth yn dilyn hogan fach ar lwybrau cyrion Fenis gyda'r hwyr!

Sunday, September 8, 2013

gwydr o murano

Ces i gyfle i ddefnyddio'r anrheg o Fenis a dderbyniais gan yr ysgol Eidaleg. Es i dŷ bwyta Tseiniaidd a dyma hongian fy mag llaw gan y bachyn efo gwydr hardd o Murano. (Dydw i ddim yn bwyta allan yn aml!) Mae'n bleser i mi weld y peth bach arbennig sydd yn fy atgoffa i o Fenis. 

Saturday, September 7, 2013

amlieithydd

Mae yna rai sydd yn medru siarad nifer o ieithoedd. Wrth gwrs bod nhw'n gyffredin yng ngwledydd bach yn Ewrop ond wedi fy ngeni a fy magu yn Japan ac yn byw yn America lle mae'r rhan fwyaf o'r bobl yn uniaith, dw i bob amser yn cael fy synnu'n gweld amlieithydd. Mae'r hogyn ifanc hwn yn Efrog Newydd yn medru dros 20 o ieithoedd gan gynnwys rhai lleiafrif yn Affrica. Dydy o ddim yn rhugl (eto) yn Japaneg, ond mae o'n swnio'n anhygoel o dda, peth prin ymysg Americanwyr. Gobeithio bydd yn dal ati a dechrau dysgu Cymraeg ryw dro.

Friday, September 6, 2013

cywilydd

Sbwriel a daflir ym mhob man ydy un o'r problemau niferus yn Fenis fel nifer mawr o ddinasoedd eraill (ar wahân i Japan sydd yn anhygoel o lan.) Pan oeddwn i yno, ces i dorri fy nghalon wrth weld cymaint o sbwriel yn llenwi un o'r llefydd harddaf yn y byd. Yn ddiweddar aeth rhai gwirfoddolwyr i fan ofnadwy o fudur i gasglu sbwriel (yn ôl y math hyd yn oed) a llenwi dros ddwsin o fagiau du. "Cywilydd" ydy gair mae'r genhedlaeth bresennol wedi anghofio.

Thursday, September 5, 2013

angrheg i'r tywysog bach

Mae cwmni teuluol yn Japan wrth ei fodd i dderbyn llythyr o ddiolch gan y Frenhines Elizabeth. Anfonodd y cwmni dillad isaf i fabanod bedwar crys o gotwm organig yn anrheg at y tywysog newydd-anedig. Cafodd y llythyr yn annisgwyl ac mae'r arlywydd a'r 25 gweithwyr yn hapus dros ben. 

Wednesday, September 4, 2013

fy hoff flog

Mae'n braf bod Oscar wedi ailgychwyn ei flog. Yn aml iawn mae o'n tynnu sylw eu darllenwyr at lefydd a phethau anhysbys ond diddorol a hardd nad ydy'r trigolion hyd yn oed yn ymwybodol ohonyn nhw. Mae'r post heddiw er enghraifft yn dangos gwaith carreg cymhleth a hynod o gain ar adeilad mewn lle prysur. Doeddwn i ddim wedi ei sylwi ond does dim rhaid i mi deimlo'n ddrwg oherwydd bod dynes a oedd yn byw yn Fenis am 27 mlynedd erioed wedi ei sylwi chwaith.

Tuesday, September 3, 2013

mae oscar yn ôl

Mae BluOscar yn cerdded ar lwybrau cyrion Fenis am oriau a thynnu lluniau anhygoel o dda o bob congl boed enwog neu anhysbys. Dw i'n mwynhau ei flog yn fawr iawn ac wedi ymweld â nifer o lefydd a sgrifennodd amdanyn nhw tra oeddwn i yn Fenis. Roedd o ar wyliau'r mis Awst cyfan, ac mae o newydd ddod yn ôl wrth bostio llun hyfryd eto. Rhaid cyfaddef fy mod i wedi colli ei flog beunyddiol am fis. Es at ei flog bob dydd rhag ofn er fy mod i'n gwybod yn iawn ei fod o i ffwrdd. Dw i'n edrych ymlaen at flwyddyn arall o wibdeithiau yn fy hoff dref.

Monday, September 2, 2013

diwrnod i ffwrdd

Mae'r teulu'n cael hwyl wrth lyn hanner awr i ffwrdd ers bore ddoe. Mae'n heglwys ni'n mynd ar siwrnai fach dros benwythnos Labor Day bob blwyddyn ac mae'r teulu'n ymuno â nhw bob tro. Dw i ddim yn rhy hoff o wersylla, felly dw i adref ar ben fy hun. Hoe fach i mi ydy hyn. Mae'n braf yn ystod y dydd ond y broblem ydy mod i'n methu cysgu'n dda yn y nos heb neb arall yn y tŷ. (Does gen i broblem byth mewn llety.) Roeddwn i'n gwylio Pane e Tulipani tan 2 o'r gloch y bore 'ma felly. Deffrais am 7 fodd bynnag. 

Sunday, September 1, 2013

simeon piccolo mewn perygl

Fy hoff eglwys yn Fenis ydy San Simeon Piccolo sydd o flaen yr orsaf trên. Mae San Simeon ar ben y tŵr yn eich cyfarch pan dach chi'n camu allan yr orsaf. (Gweler y llun ar y dde.) Dydy hi ddim yn fach er gwaetha'r enw ac mae ei tho mawr yn fy atgoffa i o helmed heddlu Prydain. Dw i'n teimlo'n agos ati hi oherwydd bod fy llety dafliad carreg i ffwrdd; pasiais o'i blaen hi sawl tro bob dydd. 

Felly ces i sioc i glywed y newyddion heddiw - mae crwydriaid wedi bod yn defnyddio'r pronaos fel eu llety a hyd yn oed eu toiled (!) yn ystod y nos. (Doeddwn i ddim yn gwybod.) Wedi cael digon, gosododd y swyddog ffens metel o gwmpas y pronaos yn ystod y nos. Doedd y crwydriad ddim yn hapus efo'r penderfyniad; dinistrion nhw'r ffens, yna taflon nhw'r sbwriel a oedd yn y biniau cyfagos. Gobeithio y cân nhw eu dal a'u cosbi'n llym; dylen nhw gael eu gorfodi i lanhau'r dref i gyd.