Friday, August 31, 2018

bod yn iach

Roeddwn i'n teimlo'n rhy sâl ysgrifennu'r blog ddoe. Dw i'n llawer gwell heddiw er nad oedd gen i gyfle i ddefnyddio'r cymysgedd garlleg a mêl; doedd o ddim yn barod mewn amser. Mae o yn yr oergell bellach i fod yn barod am y tro nesaf fodd bynnag. Yn ei le, cymerais nifer o feddyginiaeth gartref - olew cnau coco (i olchi'r geg,) finegr seidr afal, lemon, garlleg, sinsir, nionyn gwyrdd, cawl cyw iâr, olew naturiol (i'r corf) ac yn y blaen. Mae'n braf bod yn iach. Ydach chi'n anghofio pa mor hyfryd ydy bod yn iach nes mynd yn sâl.

Wednesday, August 29, 2018

annwyd

Daliodd y gŵr yr annwyd a oedd gan ei ŵyr, a dod â'r firws adref. Rŵan dechreuais beswch. Dyma baratoi cymysgedd cryf a fy helpu yn y gorffennol - garlleg a mêl amrwd. Rhaid aros am ryw ddeuddydd iddo aeddfedu. Yn y cyfamser, dw i'n bwriadu gwneud pob meddyginiaeth gartref i guro'r annwyd.

Tuesday, August 28, 2018

tymor newydd

Mae tymor newydd College of the Ozarks newydd gychwyn - y flwyddyn olaf i fy merch a'r ail flwyddyn i fy mab. Bydd y myfyrwyr yn astudio'n galed tra bod nhw'n gweithio ar y campws am 15 awr yr wythnos ac oriau yn ystod y gwyliau er mwyn talu am y cost yr addysg. Nad oes cyfle i ddiogi yn y brifysgol honno. Mae ganddi lysenw hollol addas - Hard Work U.

Monday, August 27, 2018

lleuad sturgeon

Lleuad Sturgeon oedd hi! Yn ôl the Old Farmer's Almanac a thraddodiadau Indiaid America, cewch chi ddal y pysgod o'r enw Sturgeon yn hawdd yn ystod y lleuad lawn honno. Efallai mai dyma pam roedd y gŵr a'r mab yn medru dal cymaint o bysgod (er mai pysgod gwahanol a ddalion nhw.) Yn ôl y ffrind a aeth efo nhw, roedd y pysgod yn newynog oherwydd bod neb yn pysgota yn y llyn hwnnw, ac felly roedden nhw'n barod i gael eu dal! 

Saturday, August 25, 2018

pysgod ffres

Aeth y gŵr a'n mab ifancaf i bysgota efo ffrind at lyn preifat ger Llyn Ten Killer. Cawson nhw ddiwrnod braf yno a dal lawer o bysgod, diolch i'r ffrind sydd yn hynod o fedrus. Fe wnaeth fillet ohonyn nhw hyd yn oed fel nad oedd angen arna i'w cyffwrdd nhw. I'r popty felly aethon nhw'n syth i fod yn swper blasus.

Friday, August 24, 2018

coler oer

Edrychwch ar filwyr IDF yn cael rhyddhad rhag y gwres llethol tra maen nhw'n gweithio'n ffyddlon! Daeth y fideo hwn gan Ari Fuld wên ar fy wyneb. Penderfynais a'r gŵr noddi un milwr wythnosau'n ôl. Dw i ddim yn gwybod pa un, ond mae'n amlwg ei fod o'n mwynhau ei goler oer. Mae yna gyfle o hyd i gyfrannu at yr achos.

Thursday, August 23, 2018

hoe fach haeddiannol

"Dw i'n gyfarwydd â delio â siarcod bob dydd; roedd yn hwyl dros ben chwarae gyda dolffiniaid o'r diwedd." - Nikki Haley

Wednesday, August 22, 2018

cyri ffacbys

Tra bod y teulu i ffwrdd, dw i'n profi ryseitiau newydd a welais yn ddiweddar. Hwn ydy un ohonyn nhw, sef cyri ffacbys. Roedd yn flasus. Ychwanegais lawer mwy o arlleg na ofynnwyd, tua hanner pen. Dw i'n hoff iawn o arlleg! Dyma'r gweddill o'r cynhwysion: nionyn, sinsir, powdr cyri, halen, pupur, past tomato, dŵr. 

Tuesday, August 21, 2018

yn y gwaed

Mae fy ngŵr a'n mab ifancaf yn ymweld â'n mab hynaf a'i deulu rŵan. Maen nhw'n gofalu am y ddau fabi tra bod eu mam yn dadbacio'r blychau yn y tŷ newydd. Mae ein hŵyr trefnus wrth ei fodd yn chwarae gyda'i daid sydd hefyd yn hynod o drefnus. Dyma nhw'n gosod blociau yn ôl y lliwiau.

Monday, August 20, 2018

tŷ newydd

Mae fy mab hynaf newydd brynu tŷ newydd sbon, a symud efo'i deulu. Mae yna bedair ystafell wely, ac mae ei fabis yn prysur archwilio pob congl. Un o'u ffefryn ydy'r twb bath mawr. Dyma nhw'n cymryd mantais arno fo i'r eithaf.

Saturday, August 18, 2018

newydd orffen



Gorffennodd fy merch ei murlun er gwaethaf llifogydd a phopeth. Y teitl ydy "Bydd bywyd yn gorchfygu marwolaeth." Gobeithio y bydd o'n rhoi gobaith ac ysbrydoliaeth i'r bobl sydd yn ei weld.

Friday, August 17, 2018

diarhebion

Mae Llyfr Diarhebion yn y Beibl yn fwy perthnasol byth yn ddiweddar. Mae o'n taro deuddeg yn y gymdeithas lle mae'r bobl ar y chwith yn mynd yn wallgof fwyfwy. Dyma un:

Nid yw'r ynfyd yn ymhyfrydu mewn deall, dim ond mewn mynegi ei feddwl ei hun. 18:2

Thursday, August 16, 2018

gadael yr almaen

Wedi treulio tair wythnos hapus yn gwirfoddoli, cymdeithasu, ymweld â llefydd hardd, mae fy merch newydd adael yr Almaen, ac mae hi ar ei ffordd adref yn Japan. Un o'i hoff wledydd ydy'r Almaen bellach. Dw i'n hynod o falch bod hi wedi aros yn yr ardaloedd diogel, a heb ddod ar draws perygl.

Wednesday, August 15, 2018

falafel

Coginiais falafel yn y popty heb ddefnyddio gormod o olew. Dechreuais gyda ffa sych wedi'u mwydo mewn dŵr am ddiwrnod cyfan. Dylwn i fod wedi defnyddio hanner bag ohonyn nhw. Roedden nhw'n ormod i'r teclyn cymysgu. Wedi ceisio am hanner awr, llwyddais i wneud past. Aeth popeth yn dda o hynny ymlaen. Cawson ni falafel hynod o flasus.

Tuesday, August 14, 2018

ride along yn massachusetts

Dydy siwrnai fy merch ddim yn gyflawn heb Ride Along - cyfle i bobl gyffredin i fynd o gwmpas efo'r heddlu ar eu patrôl. A dyna a wnaeth hi neithiwr. Aeth o gwmpas efo Heddlu Lynn ar ôl gorffen ei gwaith am ddiwrnod ar ei murlun. Dw i'n hollol sicr mai hi ydy'r unig artist yno sydd gan gymaint o barch a chariad tuag at yr heddlu i wneud hyn.

Monday, August 13, 2018

llifogydd

Roedd llifogydd ofnadwy yn Boston lle mae fy merch yn paentio ei murlun. Cyrhaeddodd lefel y dŵr hyd at y cluniau. Ymunodd hi a'i gŵr â'r gwaith achub yn yr eglwys gyfagos. Gorfodwyd y murluniau stopio pan oedd y glaw'n drwm. Roedd hi'n medru bwrw ymlaen tipyn mwy serch hynny.

Saturday, August 11, 2018

pen-blwydd nyth wag

Pen-blwydd Nyth Wag ydy hi heddiw. Yr union flwyddyn yn ôl gadawodd fy mhlentyn ifancaf adref er mwyn mynychu prifysgol yn Missouri. Roedd yn cymryd rhyw wythnos i mi ddod yn gyfarwydd ar y cyfnod distaw, wedi magu chwe phlentyn. Mae arferion newydd wedi datblygu, fodd bynnag, a dw i'n mwynhau'r bywyd newydd. Croesawu'r plant adref o bryd i'w gilydd ydy un ohonyn nhw; mae'r ddau blentyn ifancaf adref rŵan yn ymlacio cyn cychwyn y tymor newydd yn y brifysgol.

Friday, August 10, 2018

munich

Cafodd fy merch yn yr Almaen brofiad annisgwyl. Wedi gadael ei ffrindiau yn y gorllewin, teithiodd hi ar y trên i ddychwelyd i'r fferm. Oherwydd newid yr amserlen, roedd rhaid iddi gymryd ffordd arall. Daeth y trên â hi i Munich, a phenderfynodd hi fynd ar wibdaith sydyn yno. Ac felly roedd hi'n medru ymweld â dinas enedigol ei thad ar ddamwain.

Thursday, August 9, 2018

dechrau murlun

Dechreuodd fy merch ei murlun gyda help ei gŵr. Mae o'n wir anferth. Does dim rhyfedd bod angen cerbyd lifft. Mae yna 30 o artistiaid yn creu murluniau ar draws y ddinas. Beyond Walls sydd yn noddi'r digwyddiad. Wrth baentio murlun, mae fy merch wedi cyfarfod amryw o bobl gan gynnwys yr artistiaid, yr heddlu lleol, aelodau'r eglwys gyfagos, gweithiwyr adeiladu a hyd yn oed y nifer o bobl ddigartref o gwmpas.

Wednesday, August 8, 2018

yn boston

Mae fy merch hynaf yn Boston y tro hwn i baentio murlun arall ynghyd â grŵp o artistiaid. Bydd o'n furlun mwyaf a greodd hi erioed. Bydd y murluniau eraill yn fawr hefyd fel yr artistiaid i gyd yn gorfod mynychu cwrs i ddysgu sut i drin a gyrru cerbyd lifft cyn cychwyn paentio! 

Tuesday, August 7, 2018

hanes rhyfeddol

Mae fy merch yn dal i fwynhau ei hamser yn Almaen. Aeth i'r eglwys efo ei ffrindiau mewn tref orllewinol. Eglwys efengylaidd digwydd bod, a chanodd hi gân addoli gyfarwydd yn Saesneg ac Almaeneg. Rhan o'i hanes rhyfeddol ydy hyn - daeth fy merch ar draws y cwpl ifanc o'r Almaen hwnnw yn Tokyo fisoedd yn ôl ar ddamwain. Helpodd hi nhw drwy fod yn dywysydd preifat iddyn nhw'r diwrnod cyfan. Gwahoddon nhw hi i'w cartref yn yr Almaen os byddai ganddi gyfle. Dyma hi'n ymweld â nhw a mynd i'r eglwys efo nhw.

Monday, August 6, 2018

crwybr

Cawson ni ddarn o grwybr efo llawn o fêl ynddo gan ffrind sydd yn cadw gwenyn (ynghyd â nifer o anifeiliaid fferm.) Mae gan y mêl flas ysgafn a naturiol. Roeddwn i erioed wedi bwyta peth felly. Dw i'n ddiolchgar i'r gwenyn am yr anrheg arbennig.

Saturday, August 4, 2018

abel yn ôl

Daeth Abel (y wiwer efo hanner cynffon) eto o'r diwedd. Roeddwn i heb ei weld am ddyddiau. Gosodais lwyaid o hadau blodau haul ar ei gyfer o (wrth obeithio nad ydy'r lleill yn eu ffeindio nhw.) Rhedodd i ffwrdd pan agorais y drws, ond dod yn ôl munudau wedyn, a'u bwyta, yn heddwch, heb gael ei fwlio gan y lleill! 

Friday, August 3, 2018

melon dŵr a thomatos

Cawson ni felon dŵr a thomatos gan ffrind sydd yn tyfu llawer o ffrwythau a llysiau. Mae ei felonau dŵr melys yn enwog ymysg ei ffrindiau. Dewison ni un bach fodd bynnag ar gyfer ein teulu bach ni (y gŵr a fi yn unig bellach.) Dw i'n gwirioni ar domatos wedi'u haeddfedu'n naturiol hefyd!

Thursday, August 2, 2018

celf ffa

Roeddwn i'n gwneud yn siŵr nad oedd cerrig ymysg y ffonbys cyn eu golchi nhw. Dyma gael syniad sydyn - Totoro bach. Fedrwn i ddim peidio! Efallai dylwn i'w alw fo'n gelf ffa!

Wednesday, August 1, 2018

mae o'n rhydd!

Mae Tommy Robinson newydd ei rhyddhau! Hwrê! Datganodd y prif farnwr fod Tommy wedi cael ei arestio, ei farnu'n euog, ei ddedfrydu i garchar, ei drin yn y carchar - i gyd yn hollol anghyfreithlon. Carcharor gwleidyddol oedd o. Llongyfarchiadau mawr iddo, i'w deulu ac i'w gefnogwyr drwy'r byd. Cyfiawnder a enillodd.