Saturday, September 30, 2023

Gall pobl anghofio Duw, ond na fydd Duw byth yn anghofio Ei bobl.

Er gwaethaf canrifoedd o anffyddlondeb pobl Israel, na fydd cyfamod Duw a'i ddewis byth yn newid. Aeth pobl Israel yn ôl at eu tir a roddodd Duw i Abraham, wedi dwy fil o flynyddoedd. Dal yn Ei bobl maen nhw, ac mae'r Eglwys wedi cael ei himpio drwy ffydd yn Israel. Mae ffyddlondeb Duw'n para am byth. Dyma erthygl ardderchog gan Aviel Schneider.

Friday, September 29, 2023

y lleuad harddaf

Ces i gip ar y lleuad lawn y bore 'ma. Mae'r coed yn yr iard gefn yn fy rhwystro gweld lleuad yn aml, ond llwyddais edmygu'r lleuad lachar rhwng y dail. Y lleuad harddaf yn y flwyddyn ydy hi, yn ôl diwylliant Japaneaidd.

y lleuad lawn yn Tokyo neithiwr - Lywodraeth Fetropolitan Tokyo

Wednesday, September 27, 2023

bendith Duw ar fy mam

Ymwelodd fy mrawd â'n mam ni yn ei chartref henoed yn Tokyo ddoe. Mae hi'n anghofio pethau mwyfwy. Dwedodd hi wrtho, fodd bynnag, ei bod hi'n cael hwyl bob dydd (gofal ardderchog, bwyd maethlon, gweithgareddau diddorol, ffrindiau.) Efallai mai bendith Duw ydy cyflwr ei meddwl. Mae hi wedi byw bywyd caled. Drwy ddileu ei chof poenus, efallai Ei fod O'n galluogi iddi fwynhau ei bywyd presennol.

Tuesday, September 26, 2023

gwell na eli nos

"Does neb yn gwybod eli nos effeithiol?" gofynnodd fy merch hynaf ar dudalen Facebook y bore 'ma. (Bydd hi'n troi'n 40 oed cyn hir.) Roedd crychau cynyddol ar fy wyneb yn arfer fy mhoeni o'r blaen, ond dim bellach. Y modd gorau i mi ydy peidio â syllu ar ddrych! 

Monday, September 25, 2023

gronyn


Des i ar draws Gronyn gan John Pritchard wrth ddarllen erthygl BBC Cymru Byw (am ei ymddeoliad ac atal sgrifennu!) Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod o wedi ysgrifennu erthygl bob wythnos dros 20 mlynedd. Mi wnes ei gyfarfod, ei ddiweddar wraig Falmai a'u mab yn eu cartref yn Llanberis flynyddoedd yn ôl. Roedden nhw'n hynod o glên wrtha' i. Dechreuais ddarllen un bob dydd bron, o'r diweddaraf. Hyfryd gweld gwirionedd Duw drwy eiriau cryno John.

Saturday, September 23, 2023

gwneud iawn

Mi fydda i'n coginio gyoza, hoff fwyd y gŵr ar gyfer ei benblwydd bob blwyddyn. Eleni, fodd bynnag, prynais gyoza parod. Yn anfoddus prynais un fegan, sydd ddim cystal, trwy gamgymeriad. Bwytaodd y gŵr yn siriol, chwarae teg iddo, ond roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy. Aethon ni i Napoli's neithiwr felly, er mwyn gwneud iawn am y siom. Roedd popeth yn flasus gan gynnwys tiramisu, hoff bwdin y gŵr. 

Friday, September 22, 2023

68 oed

Roedd hi'n benblwydd y gŵr yn 68 oed ddoe. Er mwyn i ddathlu, y peth cyntaf a wnaeth oedd rhedeg. Roedd o'n gobeithio rhedeg milltir dan 8 munud ar y penblwydd hwnnw, ac yn hyfforddi'n benodol (ar wahân i'w ymarfer corf arferol) i gyrraedd y nod. Roedd dan gymaint o bwysau a greodd ei hun, ond llwyddodd - 7:45.

Monday, September 18, 2023

mae o'n gwybod

Yna daeth gair yr Arglwydd at Eseia a dweud, “Dos, dywed wrth Heseceia, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau. - Eseiaa 38:4,5

Mae Duw'n clywed ein gweddïau, a gweld ein dagrau.

Saturday, September 16, 2023

cartref i tony

Mae Tony, ci roedd fy merch yn gofalu amdano am ddyddiau newydd ffeindio cartref. Clywodd hi gan loches anifail yn dweud mai dynes a'i merch ifanc wedi mynd â fo adref. Mae fy merch eisiau parhau'r gwaith gwirfoddoli hwnnw er bod ei chalon yn torri tipyn bach bob tro.

Wednesday, September 13, 2023

adnod

"Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith
y sawl sydd â'i feddylfryd arnat,
am ei fod yn ymddiried ynot.
Ymddiriedwch yn yr Arglwydd o hyd,
canys craig dragwyddol yw'r Arglwydd Dduw."
Eseia 26:3,4

Dwedir "shalom shalom" yn Hebraeg, nid "heddwch perffaith." 
Heddwch heddwch - mesur dwbl!

Tuesday, September 12, 2023

tony

Mae fy merch hynaf yn maethu ci unwaith eto nes iddo gael ei fabwysiadu. Ci swil ac annwyl ydy Tony, sydd wedi cael ei adael. Dydy o ddim yn cyfarth o gwbl yn ôl fy merch - nodweddiadol o'r brid hwn o Dde Affrica. Hoffai hi ei fabwysiadu hyd yn oed, os nad rhaid iddi deithio mor aml. Gobeithio y bydd o'n ffeindio cartref cariadus.

Monday, September 11, 2023

9 - 11


Cofiwch a bod yn wyliadwrus.

"Peidiwch â gwangalonni nac ofni, na dychryn nac arswydo rhagddynt, oherwydd y mae'r Arglwydd eich Duw yn mynd gyda chwi, i frwydro trosoch yn erbyn eich gelynion, ac i'ch gwaredu." Deuteronomium 20:3-5

Saturday, September 9, 2023

dathlu ar y we

Ymunon ni â'n mab hynaf a'i deulu'n dathlu ei benblwydd, ar y we. (Ychwanegwyd ein mab ifancaf yn y fan a'r lle hefyd.) Pobodd ein merch-yng-nghyfraith "gacen dyllau" siocled. Cannon ni Benblwydd Hapus gyda'n gilydd. Mae'n anodd ymgasglu ar gyfer penblwyddi bellach wrth y plant ar wasgar dros y byd. Dw i'n ddiolchgar am y dechnoleg fodern.

Wednesday, September 6, 2023

ei fabanod

Wrth i mi a'r gŵr bwyta swper yn Katfish Kitchen, gwelon ni hysbysebion busnes lleol ar y bwrdd. Roedd dau glinig optometreg yn eu mysg; roedd y ddau optometrydd yn fyfyrwyr y gŵr. Yn ystod ei yrfa fel athro yn y brifysgol, dysgodd fwy na 750 sydd yn gweithio fel optometryddion yn Oklahoma neu daleithiau eraill bellach. Ei fabanod maen nhw i gyd!

Monday, September 4, 2023

llyfr lliwio

Mae fy merch hynaf newydd ddechrau gwerthu llyfr lliwio cathod drwy Amazon. Mae'n anhygoel gweld y llyfr a greodd hi ar dudalen Amazon. Penny Munchen ydy ei nom de plume. Mae cynifer o lyfrau tebyg ar werth wrth gwrs, ond mae hi'n hyderus mai hwn ydy'r gorau!

Saturday, September 2, 2023

gweddillion

Ces i fy nharo gan yr olwg hon wrth gamu allan y drws blaen bore 'ma - gweddillion y Gor-leuad Las. Roedd hi'n edrych yn fwy nag arfer, ond tipyn bach yn drist ac wedi blino. Efallai ei bod hi wedi cael digon, ac mae hi eisiau llonyddwch. Hwyl fawr tan y tro nesaf.

Friday, September 1, 2023

mis medi

Dim ond cip a ges i o'r Gor-leuad Las ben bore. Mae mis Medi yma fodd bynnag. Mae gynnon ni bedwar penblwydd yn y teulu'r mis hwn - y gŵr, ein mab hynaf a'n dwy ferch ni yn Japan. Roedd yn fis ofnadwy o brysur i mi o'r blaen wrth bobi pedair cacen (yn y gwres) mewn dyddiau. Prin dw i'n cyffwrdd y popty'r dyddiau hyn. Mae cysgod y dail yn dawnsio wrth y ffenestr.