Tuesday, March 15, 2011

gobaith

Dw i mor falch o'u gweld nhw! Mae'r tiwlipau a gawson ni'n anrheg gan Leanne, yr hogan o Abertawe wedi dangos eu pennau gwyrdd drwy'r dail yn ein gardd flaen. Pan blannais i'r dwsin o'r bylbiau fisoedd yn ôl, doeddwn i ddim yn hollol siŵr a fydden nhw'n goroesi'r gaeaf. Dydy pridd caregog yr ardd ddim yn addas i blannu planhigion chwaith. Cafodd un neu ddau eu diwreiddio gan wiwerod direidus hefyd. Edrycha' i ymlaen at eu gweld nhw'n tyfu o hyn ymlaen.

Saturday, March 12, 2011

diolch

Diolch o galon i bawb a holodd sut mae fy nheulu yn Japan ar ôl y daeargryn. Siaradais i â fy mam a fy merch yn ardal Tokyo neithiwr. Maen nhw'n iawn er bod nhw wedi mynd trwy brofiadau dychrynllyd.

Mae'r sefyllfa ar yr arfordir yn dal i waethygu. Diolch yn fawr i bawb yn y byd sy'n teimlo dros y dioddefwyr ac yn barod i'w cymorth gan gynnwys y tîm o achubwyr Cymru.

Sunday, March 6, 2011

y gêm gyntaf


Mae fy mab ifancaf newydd ymuno â chlwb pêl-droed yn y dref. Roedd ei gêm gyntaf mewn cae gerllaw. Roedd yn ddiwrnod ofnadwy o oer a gwyntog ddoe, ond chwaraeodd yr hogiau i gyd yn ddewr a chael amser da. (1 - 1 oedd y sgôr.)

Tuesday, March 1, 2011

yr ŵyl


Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb yng Nghymru a thu hwnt!

Dw i ar ddechrau crasu Bara Brith a bydda i'n coginio cawl cennin i swper. Gobeithio y cewch chi i gyd ddiwrnod a noson braf.

y llun: cerflun Sequoya o flaen Seminary Hall