Saturday, February 28, 2015

eira

Cychwynnodd fy ail ferch ei siwrnai i Japan am dri o'r gloch y bore 'ma yn yr eira ynghyd ei chwaer a brawd sydd eisiau mynd i'r maes awyr efo hi; eu tad a gyrrodd i Tulsa. Gwelais ar y we fod yr awyren wedi gadael heb oedi er gwaethaf yr eira. Bydd hi'n newid awyrennau yn Chicago a Toronto cyn cyrraedd Narita. Mae'n dal i fwrw eira. Cafodd y sioe gerdd ei chanslo unwaith eto neithiwr. Y pethau eraill sydd wedi cael eu canslo heddiw ac yfory: twrnamaint pêl-droed yr ysgolion; swper/sioe i godi pres i'r tîm pêl-droed yr ysgol; y gwasanaeth boreol ein heglwys ni.

Friday, February 27, 2015

sioe gerdd

Lucky Stiff oedd teitl y sioe gerdd a berfformiwyd gan grŵp theatr yr ysgol uwchradd leol neithiwr. Cafodd fy merch arall ran fach ac felly es i a'r gweddill o'r teulu i weld y sioe. Fe wnaeth pawb yn ardderchog ar y cyfan yn enwedig y ddau brif gymeriad sydd yn medru canu'n hyfryd. Roedden nhw'n diddanu'r gynulleidfa am awr a hanner. Chwaraeodd fy merch pedwar cymeriad; lleian Eidalaidd oedd un ohonyn nhw. Roedd hi'n ymarfer siarad efo acen Eidalaidd am wythnosau. Fe wnaeth hi'n dda iawn wir ar y llwyfan. Cafodd y soie ei chanslo dwy noson yr wythnos hon oherwydd yr eira. Heno bydd y noson olaf.

Thursday, February 26, 2015

cyrch

Nid dim ond amharu'r busnes cyfreithlon, rhwystr enfawr i'r cerddwyr ydy'r gwerthwyr anghyfreithlon yn Fenis. Fe wnaeth yr heddlu mewn dillad plaen gyrch ar hanner dwsin ohonyn nhw ar Bont Scalzi a'u harestion nhw ac atafaelu'r nwyddau. Gobeithio dalian nhw wneud mwy drwy'r ddinas. Does dim pwynt iddyn nhw fynd i'r llefydd drwg-enwog mewn ffurfwisg yr heddlu er mwyn dal troseddwyr. Mae yna rai sydd yn gweithio fel lookout, a dim ond aros maen nhw efo'u nwyddau mewn llwybr cul nes i'r heddlu fynd; yna, agoran nhw eu "siopau" unwaith eto. Tystiais i olygfa un tro.

Wednesday, February 25, 2015

gorffennais!

Prynais Accelerated Learning French fisoedd yn ôl wedi ymddiddori yn y stori ddiddorol. (Mae'r bennod gyntaf ar gael ar You Tube.) Dw i newydd gyrraedd y bennod olaf, sef 12 a chael gwybod cyfrinach y pecyn dirgel a daethpwyd o Lundain i Baris gan Philip, Sais ifanc. Roedd yn stori hynod o ddiddorol sydd yn fy ysgogi i eisiau gwrando arni hi tra oeddwn i'n dysgu geiriau newydd a'r gramadeg syml mewn modd naturiol. Fedra i ddim dweud fy mod i'n medru "siarad" Ffrangeg eto, ond dw i'n deall llawer mwy nag o'r blaen; dydy hi ddim yn swnio'n hollol ddieithr a ryfedd bellach. Dw i'n falch iawn bod y tapiau a fy hen Walkman wedi para tan y diwedd!

Tuesday, February 24, 2015

bara banana

Crasodd fy merch fara banana i'r teulu. Mae hi'n hen law bellach wedi crasu dros 15 o dorthau yn Honduras wrth gymryd mantais ar y bananas rhad yno. Dw i newydd gael tafell flasus efo paned o goffi o Honduras. Yfory bydd hi'n coginio bulgogi, bwyd Coreeg nodweddiadol eto.

Monday, February 23, 2015

siwrnau arall

Daeth fy merch adref ond ryw ddeg diwrnod yn ôl, ond heddiw tynnodd hi ei chês allan oddi ar y cwpwrdd dillad mawr ei dad a dechrau pacio i fynd i Japan. Mae hi wedi sicrhau swydd fel athrawes Saesneg i blant bach yn ardal Tokyo. Bydd hi'n gweithio am flwyddyn, yna mae hi'n gobeithio dod o hyd i swydd fwy parhaol. Mae hi'n llawn cyffro i fynd yn ôl i Japan, ac mae ei chwiorydd yn hapus hefyd oherwydd byddan nhw'n cael aros efo hi pan ân nhw yno. Efallai bod fy mam yn hapusach na nhw fel bydd hi'n medru ei gweld hi'n aml.

Sunday, February 22, 2015

yr heddlu mewn marathon

Doedden nhw ddim yn sefyll ar ochr y ffyrdd y tro hwn. Rhedeg roedden nhw ynghyd â phawb arall. Cynhaliwyd Marathon Tokyo heddiw. Does ryfedd bod yna awyr tyn cyn ac ystod y ras ymysg bygythiad y terfysgwyr diweddarach. Aeth popeth yn iawn heb ddigwyddiad i ollyngdod pawb. Efallai mai presenoldeb yr heddlu a oedd yn rhedeg yn helpu. Rhedodd mwy na 60 ohonyn nhw mewn pâr, deg cilomedr yr un. Mae rhaid iddyn nhw fedru rhedeg 5 cilomedr mewn llai na 16 munud er mwyn i fod yn gymwys.

Saturday, February 21, 2015

tostiwr newydd (arall!)

Torrodd ein tostiwr eto. Arna i mae'r bai'r tro hwn; ceisiais wneud tost a chaws wrth osod y tostiwr ar ei ochr yn ôl syniad rhywun ar y we. (Peidiwch â gwneud hyn!) Yna methodd y lifer ac roedd rhaid ei wthio fo i lawr nes i'r bara gael ei dostio. Doeddwn i ddim eisiau prynu tostiwr arall eto, ac felly roeddwn i'n arfer ymarfer rhifau Ffrangeg tra oeddwn i'n aros, ond roedd cyfrif hyd at 70 neu mwy weithiau. Ces i ddigon; dyma brynu un heddiw. Mae o'n smart iawn a thostio bara'n llawer cyflymach. 

Friday, February 20, 2015

shared talk

Ces i neges gan reolwr gwefan ieithyddol SharedTalk neithiwr; "roeddech chi'n ddistaw am amser hir. Collwch chi'ch aelodaeth oni bai dewch chi aton ni'n amlach." Ces i siom ar ôl y llall efo gwefannau tebyg a dweud y gwir; mae'n anodd dod o hyd i bobl sydd yn sgrifennu'n ffyddlon. Es i at y wefan beth bynnag rhag ofn. Well i mi beidio â llosgi'r bont tu ôl i mi. Mae yna fwy o bobl sydd yn ffitio fy nhyb i, hynny ydy Eidalwyr sydd yn dysgu Japaneg. Mae rhai'n dysgu Ffrangeg yn ogystal; mae'r un enw â fy merch gan un ferch; mae gan llall wraidd Daneg. Gyrrais neges sydyn at ddau. Dw i heb glywed gan neb (dim syndod.) Dim ots. Ces i ymarfer sgrifennu Eidaleg. Bydda i'n sgrifennu mwy heddiw rhag ofn.

Thursday, February 19, 2015

coffi o honduras

Des o hyd i goffi o Honduras yn y siop a'i brynu am y tro cyntaf wrth gofio fy merch yn byw yno am dri mis. Efallai bod y coffi'n dod o'r cae roedd hi'n cynaeafu ynddo! Ond na. Dwedodd hi mai cae penodol oedd o. Mae'r coffi'n dda iawn beth bynnag - ysgafn a phleserus heb fod yn asid. 

Tuesday, February 17, 2015

gêm

Er bod y plant yn brysur efo gwaith cartref a'r pethau eraill bob dydd, maen nhw'n hoffi chwarae gêm syml efo'i gilydd weithiau. Roedd yn ddiwrnod perffaith i wneud hynny efo'u chwaer hyn ddoe gan fod yr ysgol ar gau oherwydd yr eira. Gêm hollol wreiddiol oedd o; rhaid darlunio lluniau mewn tri munud yn ôl y pynciau a osodwyd - er enghraifft:
yr anafiadau mwyaf poenus
y cefnogwr pêl-droed mwyaf truenus
y gorchwyl mwyaf peryglus
a mwy
Yna, fe wnaethon nhw feirniadu ei gilydd a gofyn i mi a'u tad i roi ein barnau ni. Cawson ni hwyl.



Monday, February 16, 2015

mae hi adref (am y tro)

Daeth fy ail ferch yn ôl o Honduras yn ddiogel wedi treulio tri mis yno'n dysgu Saesneg i blant fel gwirfoddolwr. Fe wnaeth gyfarfod cynifer o bobl glên yn cael cymaint o fendith a bod yn fendith iddyn nhw ar yr un pryd. Bydd hi adref ond pythefnos serch hynny; bydd hi'n mynd i Japan i weithio fel athrawes Saesneg mewn ysgol am flwyddyn o leiaf. 


Saturday, February 14, 2015

sgwrs ar skype

Ces i a fy nau blentyn sgwrs efo fy merch yn Abertawe heddiw. Fe wnaethon ni "gyfarfod" un o'r merched yn y fflat hefyd sydd yn ffrind da iddi bellach. Roedd yn rhyfeddol clywed rhywun yn siarad efo acen Seisnig wrth ochr fy merch sydd yn siarad efo acen Americanaidd. Mae fy merch yn mwynhau'r dosbarthiadau gwahanol gan gynnwys Cymraeg. Hi ydy'r unig Americanes ymysg y deg myfyriwr o dramor yn y dosbarth Cymraeg. Mae hi'n cael ymarfer siarad ac ymddangos bod hi'n bwrw ymlaen yn braf. 

Friday, February 13, 2015

y "croque monsieur" gorau

Mae yna ryseitiau amrywiol ond hwn ydy'r gorau yn fy marn i oherwydd bod o'n syml a hawdd (yr elfen bwysig i mi.) Mae o'n flasus beth bynnag. Dw i ddim yn defnyddio Camembert; fe wneith unrhyw gaws y tro yn fy nhyb i. Mae Ffrangeg yr hogyn yn hyfryd fel dw i'n mwynhau gwrando arno fo er nad ydw i'n ei ddeall yn llwyr. Dyma Croque Monsieur dw i newydd ei wneud.

Thursday, February 12, 2015

alwys

Mae ffliw'n mynd o gwmpas y dref ac mae nifer o bobl yn sâl. Daliodd fy nwy blentyn y firws ofnadwy ac roedden nhw'n sâl yn hir iawn. Mae fy mab yn dal i heb wella'n llwyr a dweud y gwir. Yn ystod y pythefnos a mwy, roddwn i'n rhoi popeth posib iddyn nhw -  te efo mêl, finegr/lemwn, sinsir; cawl cyw iâr, triniaeth olew, tylino, tryledwr a mwy. Un peth arall oedd alwys wedi'i gymysgu efo sydd afal. Torrais ei "freichiau" sawl tro i wneud y cymysgedd. Wedi'r tymor salwch, mae'n halwys ffyddlon ni'n llai ond yn ffitio ar y silff gul wrth y ffenestr bellach yn torheulo yn yr haul.

Wednesday, February 11, 2015

newyddion o abertawe 4

Wedi gorffen ei thraethawd mawr dau funud yn hwyr, mae fy merch yn medru ymlacio tipyn bach nes un nesaf. Aeth i Hoffi Coffi yn y brifysgol y bore 'ma. Cafodd hi groeso cynnes gan y grŵp. Roedd hi'n hapus sylweddoli bod hi'n medru deall eu Cymraeg mwy nag y disgwyl, diolch i Catchphrase gan BBC roedd hi'n ei ddefnyddio'r llynedd.

Tuesday, February 10, 2015

siwgr "turbinado"

Dw i ddim yn defnyddio siwgr yn fy nghoffi fel arfer ond prynais siwgr turbinado ar ei gyfer am y tro cyntaf heddiw. Mae o'n cael ei brosesu'n llai na'r siwgr eraill naill gwyn neu frown ac felly mae'n iachach, medden nhw. Nid hyn ydy'r rheswm, fodd bynnag i mi ei brynu. Mae o'n fy atgoffa i o'r cappuccino a ges i yn Fenis; roedd yna bacedi o siwgr hwn a gwyn ar y cownter; dewisais y cyntaf bob tro; ychwanegodd felyster cynnil, dim gormod at fy mhaned. Dw i ddim yn gwybod pryd ca' i fynd yno eto; gobeithio ca' i rywdro.

Monday, February 9, 2015

rhestr

Tri pherson (mae yna fwy wrth gwrs) sydd yn dwyn awyr adfywiol yn y byd erchyll presennol:

Barnwraig Jeanine Pirro
Raglaw Gyrnol Dave Grossman
Brenin Abdullah II ibn al-Hussein

Byddwn i eisiau Jeanine Pirro i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Sunday, February 8, 2015

scotland yard

Roedd fy mab ifancaf sâl eisiau chwarae gêm Scotland Yard. Dyma fi a gŵr fy merch hynaf ymuno â fo prynhawn 'ma i'w blesio. Roedden ni wrthi tra fy merch hynaf yn dangos y llefydd enwog yn ogystal â'r ffordd roedd hi'n arfer cerdded arni hi pan oedd hi'n byw yno flynyddoedd yn ôl. Yn anffodus dihangodd y dihirod yn y diwedd ond gobeithio bod gan fy mab druan ychydig o hwyl.

Saturday, February 7, 2015

newyddion o abertawe 3

Mae fy merch yn Abertawe yn brysur iawn wedi i'r tymor gychwyn yn swyddogol fel nad oes digon o amser ganddi i sgrifennu e-bost ata i'n aml. Mae hi newydd gychwyn y dosbarth Cymraeg yn y brifysgol. Byddwn i eisiau clywed y manylion ond dylwn i aros nes ymlaen. O leiaf dw i'n gwybod bod hi wedi crasu bisgedi peanut butter yn llwyddiannus i rieni i'w fflat mêt a ddaeth i weld eu merch.

Thursday, February 5, 2015

gŵyl nutella

Gŵyl Nutella ydy hi heddiw! Dw i'n hoff iawn ohono fo. Roedd jar o Nutella ar ein bwrdd ni drwy'r amser ers i mi ei ddarganfod drwy wefan Eidalaidd flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddar, fodd bynnag, dw i'n bwyta siocled tywyll wedi'i doddi ar fy mara yn hytrach na Nutella er pa mor hoff ohono fo oherwydd rheswm iechyd. Mae ryseitiau amrywiol wrth ddefnyddio Nutella, ond dw i'n mynnu bod y modd gorau i'w fwyta ydy ei daenu ar dafell o fara plaen.

Wednesday, February 4, 2015

johan eto

Gwrandawais ar Johan o Français Authentique am y tro cyntaf ers misoedd. Doeddwn i ddim yn ei ddeall ac eithrio ychydig o eiriau yma ac acw o'r blaen, ond dw i'n hynod o hapus sylweddoli fy mod i'n medru ei ddeall gryn dipyn y tro 'ma! Mae o'n siarad yn araf ac yn glir yn sicr, a dw i ddim yn deall y bobl sydd yn siarad yn gyflym, ond mae hyn yn golygu fy mod i'n bwrw ymlaen! Fedra i ddim yn siarad eto serch hynny; bydd yn dod ar ei amser. 

Tuesday, February 3, 2015

tocyn gêm pêl-droed

Cafodd fy mab ifancaf anrheg ben-blwydd anhygoel gan ei brawd llynedd, sef siwrnai i Lundain i weld gêm Chelsea efo fo ym mis Mawrth eleni! Wedi hen dderbyn ei basport ac aelodaeth efo'r clwb, roedd o'n barod i brynu tocyn efo'i brawd y moment aeth ar werth, sef 7 o'r gloch yn y bore'r cyntaf Chwefror. 7 a.m. GMT sydd yn golygu 1 a.m. ein hamser ni! Roedden nhw'n brwydro erbyn y wefan ddiffygiol, ac o'r diwedd roedd rhaid iddyn nhw brynu pecyn gwesty sydd yn cynnwys tocyn y gêm. £405 yr un. Arhosoch amdanyn nhw, Lundain. Mae fy hogiau'n dod yn fuan!

Monday, February 2, 2015

caerfaddon

Mynd wnaeth fy merch efo'r Americanwyr eraill i Gaerfaddon ddydd Sadwrn. Er bod yna ychydig o oriau i ymweld â'r ddinas, cafodd hi ddiwrnod hyfryd. Mae dŵr poeth y bath Rhufeinig yn edrych yn braf ond dwedodd hi fod o'n llygredig. Rhaid gosod rhybudd mawr yn Japaneg neu bydd twristiaid Japaneaidd yn cael eu temtio i gael bath ynddo fo!

Sunday, February 1, 2015

$880

Mae'r gŵr newydd gyfrifo cymaint o dreth fydd rhaid i ni dalu oherwydd bod ni wedi dewis peidio ag ymuno ag Obama Care - 880 o ddoleri. Mae'n well gynnonn i dalu am ofal meddygol ein hunan, ac felly doedden ni erioed wedi prynu yswiriant iechyd. Rŵan, fodd bynnag, does gynnon ni ddim dewis ond ymuno ag Obama Care neu dalu'r ddirwy. Penderfynon ni ddewis yr olaf. Enwodd y gŵr y dreth hon, sef Obama Care Stink Tax!