Monday, October 30, 2017

hetiau

Mae'r gŵr yn dal i fwynhau ei ymddeoliad. Mae o'n fodlon iawn o'r ffaith bod ganddo amser i wneud beth mae o eisiau ei wneud. Ei brosiect diweddar oedd - rhoddodd o drefn ar ei hetiau a oedd ar ben gwely sbâr yn anhrefnus. Phrynodd o ddim byd; defnyddiodd bethau amrywiol yn y garej. Cafodd gynifer o "hoffi" ar dudalen Facebook.

Saturday, October 28, 2017

saboth shalom

Crasais Challah i Saboth ddoe am y tro cyntaf. Mae gen i beiriant bara i baratoi toes. Dim ond ei phlethu yn y ffurf oedd angen. Wedi rhoi cymysgedd o wy a dŵr ar y pen, gosodais i hi yn y popty. Ar ôl hanner awr, dyma gael torth braf o Challah! Gweddïais Weddi'r Bara a'i bwyta'n hapus efo'r gŵr. Roedd yn flasus iawn.

Saboth Shalom.

Friday, October 27, 2017

golygfeydd

Mae gan wefan NHK (gorsaf darlledu genedlaethol Japan) fideos byr diddorol. Mae'r fideo hwn yn sôn am y dyn oedrannus sydd yn paentio golygfeydd ar waliau baddondai ers 60 mlynedd. Cafodd ei wahodd i ddangos ei sgil celfyddydol i blant yr ysgol . Roedden nhw’n gyffro i gyd, a dwedodd un ohonyn nhw fyddai fo eisiau fod yn brentis iddo! Dw i'n cofio mwydo mewn bath poeth yn y baddondai ac edrych ar olygfa braf Mynydd Fuji amser maith yn ôl. 

Yn anffodus dydy'r fideo ddim ar gael bellach.

Thursday, October 26, 2017

heddwch?

Clywais fydd yr Is-lywydd Pence yn ymweld ag Israel dros Hanukah. Lwcus iawn! Wrth gwrs nad am wyliau mae o'n mynd, ond er mwyn siarad ag arweinwyr Israel ac Awdurdod Cenedlaethol Palesteinaidd ynglŷn â gwireddu heddwch yn yr ardal. Yn fy nhyb i, does dim pwynt siarad ag Israel ar y pwnc oherwydd mai dyna'r union beth maen nhw eisiau ers iddyn nhw gael eu sefydlu fel gwladwriaeth yn 1948. Rhoddon nhw ddarn o dir i "Balestininaid" er mwyn ennill heddwch tro ar ôl y llall, ond na ddaeth heddwch erioed oherwydd nad heddwch mae'r ochr arall eisiau ond meddiannu'r tir cyfan a dinistrio Israel. Na fydd heddwch nes iddyn nhw newid eu hamcan sylfaenol.

Wednesday, October 25, 2017

ongl wahanol

Wrth gwrs bod popeth yn edrych yn fwy hwyl wyneb i waered! Llun fy ŵyr ydy hwn. Fe wnaeth pob un o fy mhlant yr un peth pan oedden nhw'n fabis. Efallai fy mod i wedi ei wneud hefyd, ynghyd â nifer o bobl eraill dw i'n siŵr. Dan ni wedi stopio eisiau gweld y byd o ongl wahanol wrth i ni fynd yn hŷn.

Tuesday, October 24, 2017

chwiban

Mae gen i ofn cŵn dieithr. Roddwn i'n arfer cario ymbarél efo fi wrth fynd am dro er mwyn ei ddefnyddio fel tarian yn erbyn cŵn rhydd. Mae yna declynnau ar gael i'w rwystro ond dw i byth eisiau eu brifo. Chwiban efallai. Roeddwn i'n rhyw feddwl prynu un. Yna daeth y gŵr o hyd i chwiban a gafodd yn anrheg gan fyfyriwr o Japan flynyddoedd yn ôl a'i anghofio, wrth iddo dacluso ei swyddfa ddyddiau'n ôl. Mae hwn yn berffaith! Mae o'n gwneud sŵn efo sain traw ofnadwy o uchel. Mewn ffurf Anpanman ydy o hyd yn oed. Dw i'n cael cerdded heb ofn bellach. 

Monday, October 23, 2017

gorffen olion y diwrnod

Dw i newydd orffen y nofel gan Kazuo Ishiguro, sef the Remains of the Day a enillodd Wobr Llenyddiaeth Nobel. Nid stori antur ydy hi, ac felly mae rhai pobl yn ei beirniadu'n "hollol ddiflas," ond i ddarllenwyr sydd yn gwerthfawragi stori sydd yn eich gwneud chi'n meddwl yn ddwfn, mae hon yn nofel dda. Mae ganddi neges gadarnhaol hefyd. Dw i am weld y ffilm rŵan a serennir gan Anthony Hopkins ac Emma Thompson; mae rhyw glip yn edrych yn ffyddlon wrth y nofel.

Saturday, October 21, 2017

hanukia

Mae Menorah hardd ar gyfer Hanuka newydd gyrraedd, o Jerwsalem drwy Amazon! Clywais mai hanukia ydy enw'r canhwyllbren efo 9 cangen, ond gan fod nifer o bobl yn ei galw fo'n Menorah, mae'r enw'n cael ei ddefnyddio'n helaeth. Dw i'n mynd i gynnau canhwyllau bob noson am wyth diwrnod ar gyfer Hanuka yn hytrach nag addurno coeden Nadolig eleni. Traddodiad teulu newydd ydy hwn. (Y fi a benderfynodd!) Mae'r traddodiadau o gwmpas y Nadolig yn seiliedig ar arferion paganaidd beth bynnag, ac roedd Iesu ei hun yn dathlu Hanuka yn Jerwsalem yn ôl y Testament Newydd.

Friday, October 20, 2017

ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn

Cyhoeddon nhw fyddan nhw byth yn cydnabod Israel, yn hytrach maen nhw'n benderfynol o'i dinistrio'n llwyr, a fyddan nhw byth yn diarfogi eu hun. Mae'n amlwg nad gan Hamas ddiddordeb mewn heddwch. Dylen nhw wybod, fodd bynnag, na fydd neb yn llwyddo os bydd o'n ymosod ar Israel. Mae'r Brenin Mawr ar eu hochr.

Thursday, October 19, 2017

pryd mae bywyd yn cychwyn?

Wrth gwrs bod bywyd yn dechrau ar y moment cenhedlu; mae'n hawdd gwybod hynny efo cymorth gwyddoniaeth fodern. Er mwyn gwthio agenda gwleidyddol a masnachol, fodd bynnag, mae'r ffaith yn cael ei wadu ar unrhyw gost. Gwych iawn bod Gwasanaethau Iechyd dan yr Arlywydd Trump newydd gyhoeddi'r elfen graidd - gwasanaethu pob Americanwr, o'r cenhedlu i farwolaeth naturiol. Mae rhai pobl yn gwylltio'n barod, dw i'n sicr.

Wednesday, October 18, 2017

cwestion

Beth ddylwn i goginio i swper? - cwestion dw i'n ei wynebu bob yn ail ddiwrnod. Wrth i mi fynd drwy fy nghasgliad o ryseitiau, gwelais hwn: Shakshuka. Wrth gwrs! Dw i heb ei wneud am sbel. Rhaid haneri'r cynhwysion fodd bynnag gan nad fydd y saig yn blasu'n dda'r diwrnod wedyn. Hoffwn i'w fwyta efo reis yn hytrach na bara gwastad. Dyma'r rysáit. Gobeithio ca' i fwyta yn y tŷ bwyta hwnnw un diwrnod.

Tuesday, October 17, 2017

cinio bach ar y dec

Gollyngodd y tymheredd yn sydyn fel does dim pryfed annifyr tu allan. Roedd braidd yn oer pan es i am dro'r bore 'ma, ond mae hi wedi cynhesu yn ystod y dydd. Penderfynais fwyta cinio bach (tost efo caws, moron a seleri) ar y dec cefn. Roedd yn braf. Roedd yr awyr yn las las. Roedd popeth yn disgleirio yn yr haul. Distaw iawn oedd hi ar wahân i ambell i aderyn neu ddau. Gwelais yellow jacket yn prysur flasu'r diferyn o'r mêl ar fy mhlât.

Monday, October 16, 2017

dim cywilydd

Does ganddi gywilydd o gwbl. Nid dim ond beio pawb arall am ei methiant, fe wnaeth Hillary Clinton hi ei hun yn gyff gwawd yn gyhoeddus gan feirniadu Brexit yn hallt. Trueni bydd Prifysgol Abertawe angen newid enw Ysgol Gyfraith unwaith eto pan geith Hillary ei gyrru at garchar am ei throseddau amrywiol yn y dyfodol agos. Gollyngdod i mi glywed, fodd bynnag, bod yna rhai sydd gan synnwyr cyffredin yn Abertawe yn protestio yn ei herbyn.

Saturday, October 14, 2017

cywilydd

Hi ydy'r lleiaf teilwng o anrhydedd. Hi ydy'r ymgorfforiad eithaf o gamddefnyddio grym gwleidyddol. Mae hi wedi aberthu bywydau'r lleill er mwyn ennill grym a chyfoeth. Mae hi wedi dweud celwydd tro ar ôl tro. Mae hi'n beio pawb arall ond hi ei hun am ei methiant. Dim ond googlo Hilary Clinton's lies sydd yn ddigon i wybod rhan o beth mae hi wedi ei wneud. Mae yna fwy na digon o dystiolaeth i'w gyrru hi at y carchar, ond mae hi'n cael ei hamddiffyn gan y bobl fawr. Trist gweld bod Prifysgol Abertawe wrthi ei bodd yn rhoi gradd anrhydeddus iddi, ac mae BBC Cymru'n falch cyhoeddi bod ganddi linach Gymreig. Mae gen i gywilydd.

Friday, October 13, 2017

ymarfer corff melys

Dw i angen ymarfer corff ar wahân i gerdded beunyddiol, ond mae gen i broblem fach efo fy nghefn a fy nhraed fel na fedra i wneud gormod. Des i ar draws fideo ymarfer corff ysgafn a ddysgir yn Eidaleg. Maen nhw'n galw fo'n ymarfer corff dolce (melys.) Diddorol! Dyma fideo perffaith er mwyn gwneud dau waith ar unwaith. Er bod y symudiadau'n araf, cewch chi deimlo yn eich cyrff ar ôl gorffen! 

Thursday, October 12, 2017

newyddion da

Newyddion gorau a glywais erioed yn ddiweddar! - Cyhoeddwyd byddai'r Unol Daleithiau'n gadael UNESCO. Hwre! Mae gan UNESCO amcan da, ond maen nhw wedi troi'n arf gwleidyddol yn nwylo rhai aelodau bellach. Eu penderfyniad ynglŷn â Hebron (galw beddau Patriarchiaid Israel yn safle treftadaeth Palestiniaid) ydy uchafbwynt eu twpdra diweddaraf. Fe all llywodraeth America wario pres y trethdalwyr ar bethau call rŵan - ar y wal ar y ffiniau deheuol er enghraifft.

Wednesday, October 11, 2017

orymdaith jerwsalem

Aeth mwy na 60,000 o bobl o 80 wlad i Jerwsalem ddydd Mawrth er mwyn cymryd rhan yn Orymdaith Jerwsalem. Aethon nhw i ddangos eu cefnogaeth a chariad tuag at Israel a Jerwsalem unedig. Roedd nifer ohonyn nhw mewn gwisgoedd cenedlaethol a chario baneri eu gwledydd yn tywallt bendith ar bobl Israel. Byddwn i eisiau ymuno â nhw pe byddai gen i draed a chefn digon cryf!

Tuesday, October 10, 2017

dim neges am sbel

"Dyma'r neges olaf am sbel. Na fedra i sgrifennu nes i mi orffen yr holl archebion," dwedodd fy merch hynaf heddiw. Dw i'n cyfnewid negeseuon e-bost efo hi bob dydd ar wahân i benwythnosau. Mae hi'n brysur yr adeg honno bob blwyddyn cyn Halloween efo ei busnes tatŵ dros dro. Eleni mae tatŵ Conor Mcgregor yn gwerthu'n wallgof, ac mae hi'n cael hi'n anodd argraffu a danfon pentwr o archebion wedi i'r papur ar gyfer tatŵ a wnaed yn Florida'n cyrraedd yn hwyr oherwydd Corwynt Irma. Mae yna bobl eraill yn gwerthu tatŵ tebyg, ond mae ei rhai hi'n llawer gwell. (Dw i'n fod yn hollol wrthrychol!)

Monday, October 9, 2017

10 hydref

Cyflawnodd Christopher Columbus siwrnai anhygoel i America 525 mlynedd yn ôl yn lansio cyfnod archwilio a darganfod. Diwrnod Columbus Hapus! - yr Arlywydd Trump

Saturday, October 7, 2017

cyfarfûm â meseia

Mae gan One For Israel ryw 70 o fideo am yr Iddewon a ddaeth i gredu yn Iesu fel eu Meseia. Dechreuais i a'r gŵr wylio un bob nos yn ddiweddar. Mae pob un yn adrodd hanes anhygoel sydd yn cyffwrdd eich calonnau. Roedd bron pawb yn credu mai Pabydd neu Eidalwr oedd Iesu! A chawson nhw eu synnu o wybod mai Iddew oedd, a chafodd y Testament Newydd ei ysgrifennu gan Iddewon am Iddewon. Ar y Cristnogion ffug yn y gorffennol mae'r bai; roedden nhw'n erlid yr Iddewon yn enw Iesu. Dydy cyfamod Duw, fodd bynnag, ddim yn newid er gwaethaf pawb a phopeth. "Caiff Israel i gyd ei hachub."

Friday, October 6, 2017

olion y diwrnod

Cafodd Kazuo Ishiguro o Japan sydd yn ddinesydd o'r DU Wobr Llenyddiaeth Nobel. Dw i erioed wedi darllen ei lyfrau a dweud y gwir; dyma roi cais am fenthyg ei nofel dan sylw, sef the Remains of Day o lyfrgell leol. Does gen i ddim syniad fydda i'n ei hoffi neu beidio. Gawn ni weld. Gyda llaw, mae'n rhyfedd glywed Saesneg gydag acen Seisnig yn dod allan o wyneb cwbl Japaneaidd! Mae Gwobr Heddwch Nobel wedi troi'n arf y Rhyddfrydwyr i ddylanwadu'r cyhoedd bellach; gobeithio nad oedd yr un peth wedi digwydd i Wobr Llenyddiaeth.

Thursday, October 5, 2017

ar y pengliniau neu sefyll

Tra bod rhai pobl yn mynd ar eu pengliniau wrth i'r anthem genedlaethol yn cael ei chwarae, roedd dyn, i'r gwrthwyneb, yn mynnu sefyll ar ei draed pan ddaeth yr Arlywydd Trump a'i wraig i'w weld yn yr ysbyty. Cafodd ei saethu ei droed yn y gyflafan yn Las Vegas, ond dim ots;  "anafiad neu beidio, bydda i'n sefyll i ddangos parch tuag at fy Arlywydd mae o'n ei haeddu," meddai. Da iawn chi, Thomas Gunderson!

Wednesday, October 4, 2017

sioe newydd

Mae'r sioe, Flames of Freedom gan Brifysgol Ozarks newydd gychwyn. Bydd hi'n para tan 16 Tachwedd. Seiliedig ar hanes cyn myfyriwr y brifysgol honno, mae'r sioe'n darlunio ei brofiad a'r bobl o'i gwmpas yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dwedodd fy merch fod hi'n teimlo mor dorcalonnus tra oedd hi'n ymarfer hyd yn oed. (Ches i ddim gair efo hi eto ar ôl y sioe.) Dyma gip ar y sioe. Mae fy merch yn ymddangos sawl tro!

Tuesday, October 3, 2017

modrwy shema

Mae'r fodrwy a archebais newydd gyrraedd! Roedd yn cymryd amser hir, a dechreuais boeni amdani hi tipyn bach wedi clywed am ladrad mewn swyddfa bost yn Israel. Dyma hi o'r diwedd! Gwnaed yn Israel gan ddynes leol, mae gan y fodrwy gain eiriau Hebraeg arni hi - shema Yesrael adonai eloheinu, adonai echad (Gwrando, Israel: y mae'r Arglwydd ein Duw yn un Arglwydd.) Mae hi'n hardd! Prynais un tebyg o'r blaen, ond yn anffodus fe wnes gamgymeriad ac archebu maint anghywir.