Saturday, April 29, 2023

swper blasus

Gan nad ydy bwydlen y ffreutur yn edrych yn dda'r wythnos 'ma, es i a'r gŵr at ein hoff tŷ bwyta ni yn y dref, sef Katfish Kitchen. Archebodd y gŵr catfish am y tro cyntaf ers misoedd. Ces i stecen hamburger fel arfer. Roedd popeth yn dda, fel gwelier o blat gwag y gŵr. Mae'r map yn y siop yn dangos o le mae'r cwsmeriaid yn dod. Maen nhw'n dod o bedwar ban byd yn llythrennol (gan gynnwys Israel.)

Friday, April 28, 2023

llysiau cyfleus


Casglais ddail dant y llew a phlantain yn yr iard gefn i ginio sydyn. Defnyddiais i nhw yn lle pigoglys mewn omled. Golchais i nhw'n dda iawn wrth gwrs. Maen nhw'n faethlon a rhad ac am ddim. 

Wednesday, April 26, 2023

75 oed

Er gwaethaf pawb a phopeth, mae Israel yn byw, ar y tir a roddwyd gan Dduw. Na fydd Ei ffyddlondeb byth yn darfod. Mae O'n cadw ei air.

Penblwydd hapus i Israel!

Tuesday, April 25, 2023

101 oed

Trodd fy mam yn Japan yn 101 oed heddiw. Ymwelodd fy nwy ferch â hi i ddathlu. Yn anffodus, dim ond am ddeg munud drwy bared plastig roedden nhw'n cael ei gweld hi oherwydd bod y cyfyngiadau yn ei chartref henoed yn dal yn llym. O leiaf, roedd hi'n hapus gweld ei hwyresau a derbyn cerdyn arbennig gyda lluniau'r teulu.

Monday, April 24, 2023

dant y llew

Dw i'n darganfod mwyfwy manteision iechyd sydd gan ddant y llew. Dw i wedi gwneud te ac eli gyda'r blodau, a salad gyda'r dail. Maen nhw'n hollol naturiol a rhad ac am ddim wrth gwrs, ond y broblem ydy does dim rhai da yn fy iard i. Maen nhw'n fach ac yn tyfu yn isel ar y prudd. Dw i ddim eisiau casglu tu allan yr iard cefn (am reswm amlwg.) Byddwn i eisiau dant y llew fel rhai a welais yn Fenis! (Gweler y llun.)

Saturday, April 22, 2023

yr iris cyntaf

Blodeuodd ein iris cyntaf ni. Roeddwn i'n disgwyl y moment hwn am ddyddiau. Ceith o ddilyn gan nifer o'r eraill cyn hir. Mae'r planhigion yn yr iard yn ymddangos yn fwy nerthol nag arfer. Efallai mai'r gwrtaith a roddodd y gŵr yn gwneud y tro.

Wednesday, April 19, 2023

darlunio wrth wrando

Ers diwedd tymor cnau gwyllt, dw i'n darlunio pan fyddwn i'n gwrando ar awdio amrywiol. Bydda i'n ceisio asio fy hoff adnodau Saesneg a darluniau. Dyma un Gymraeg ar gyfer yr adnod a bosties ddoe.

Tuesday, April 18, 2023

adnod


"Dywedodd wrthyf, “Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth."
 2 Corinthiaid 12:9

Monday, April 17, 2023

hen sioe gomedi radio


Cofiais yn sydyn am yr hen sioe gomedi radio o'r enw Life of Riley roeddwn i'n arfer gwrando arni hi pan oeddwn i'n dysgu Saesneg yn Japan. Darlledwyd gan Rwydwaith y Dwyrain Pell, gwasanaeth radio milwrol yr Unol Daleithiau. Roeddwn i'n arfer ei recordio ar fy recordydd tâp casét trwm, a byddwn i'n gwrando arni drosodd a throsodd ym mhobman hyd yn oed ar y trên. (Roedd hi cyn oes Walkman.) Dwi'n meddwl mai hyn oedd yr allwedd i mi ddysgu Saesneg yn dda! Mae hi ar gael o hyd, y penodau cyfan! Gwrandawais ar un ohonyn nhw. Roedd hi’n ddoniol dros ben gyda’r cymeriadau cyfarwydd, a hen jôcs Americanaidd da.

Saturday, April 15, 2023

sut i ddal cath ddrwg

Cribiniodd y gŵr yr iard flaen, a gosod yr holl ddail yma fel y byddan nhw'n troi'n domwellt yn naturiol. Un broblem ydy bod cath y cymydog yn meddwl ein bod ni wedi creu toiled gwych iddi. Dw i eisiau taflu dŵr ati os gwela' i hi ar waith! (Awgrymwyd gan ei pherchennog pan aeth y gŵr i gwyno.) Dw i heb lwyddo eto gan ei fydd hi'n dianc ar sŵn agor y drws.

Thursday, April 13, 2023

tymor annymunol


Mae tymor annymunol wedi hen gychwyn, sef tymor alergedd gwanwyn. Mae blodau derw ar eu hanterth bellach. "Afiach" ydy'r ansawdd aer heddiw yn ôl y rhagolygon! Penderfynais beidio â cherdded tu allan. Roeddwn i'n methu cerdded tu allan yn y gwanwyn dros flynyddoedd a dweud y gwir, ond ers i mi ddechrau defnyddio olew caster yn y trwyn, dw i heb deimlo effaith yr alergedd. Rhaid i mi fod yn ofalus, fodd bynnag, a cherdded tu mewn tra bod yr aer yn "afiach."

Wednesday, April 12, 2023

te dant y llew

Dw i newydd glywed byddai blodau Dant y Llew'n gwneud te sydd gan lawer o fanteision maethol. Dyma gasglu llond powlen yn fy iard, eu golchi'n dda, a'u mwydo mewn dŵr poeth. Mae gan y te melyn hwn flas ysgafn. 

Tuesday, April 11, 2023

dogwood

Braf cerdded yn y gymdogaeth bore cynnar tra bod yr heulwen yn dyner. Mae blodau dogwood yn eu hanterth. Uwchben y blodau gwyn disglair, safodd y gweddill o leuad lawn fis Ebrill yn dawel.

Monday, April 10, 2023

bedyddio

Cafodd Rod ei fedyddio ar ôl y gwasanaeth ddoe. Roedd yn fendigedig clywed ei dystiolaeth cyn iddo gael ei drochi yn y dŵr. Yn ystod ei frwydro yn Afghanistan fel milwyr, collodd ei ffydd yn llwyr. Drwy drugaredd Duw, fodd bynnag, daeth yn ôl at Iesu. Hallelwia! Llawenhaodd yr holl eglwys gyda fo.

Sunday, April 9, 2023

y mae wedi ei gyfodi


Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai.


Saturday, April 8, 2023

marchnad ffermwyr

Mae'r farchnad ffermwyr leol newydd gychwyn y tymor. A dyma fynd i weld beth sydd ganddyn nhw. Roedd tipyn o gwsmeriaid yn mwynhau siopa a siarad â'r gwerthwyr. Mae'n rhy gynnar ar gyfer llysiau a ffrwythau. Prynais dorth o fara surdoes a photel fach o fêl lleol gyda chrwybr. Wedyn, cerddais o gwmpas y farchnad er mwyn cymryd mantais ar y bore braf.

Friday, April 7, 2023

gwasanaeth passover


Mae hanes Passover a'i holl fanylion yn cyfeirio at Iesu fel Oen Duw. Trueni bod hyn yn cael ei gysgodi gan Ddydd Gwener y Groglith, os nad ydy o'n cael ei anwybyddu’n llwyr gan yr Eglwys. Dylai pob Cristion ddysgu amdano fo. Gwych i weld bod Pastor Gary wedi cynnal gwasanaeth arbennig Nos Mercher.

Wednesday, April 5, 2023

gwyrth ffefryn Duw


"Yna byddant yn cymryd peth o'r gwaed a'i daenu ar ddau bost a chapan drws y tai lle y bwyteir hwy." Exodus 12:7

 "Pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chwi." 
Exodus 12:13

Pesach hapus. 

Tuesday, April 4, 2023

lili'r dyffryn

Mae gwanwyn yn bwrw ymlaen gyda nerth. Dw i newydd ddarganfod bod ein lili'r dyffryn ni wedi ymddangos eu hunan drwy'r dail sych yn yr iard. (Roedden nhw'n cysgu'n braf dan y blanced.) Mae'n anhygoel bod ganddyn nhw gymaint o nerth i fynd drwy haenau trwchus o dail. 

Monday, April 3, 2023

croeso cynnes

Wedi treulio wythnos wych yn Okinawa, aeth fy nwy ferch adref yn Tokyo. Yna, cawson nhw groeso cynnes gan flodau ceirios. Maen nhw ar eu hanterth. Does dim digon o air i ddisgrifio eu harddwch.

Saturday, April 1, 2023

tŷ adar

Bydd cymydog yn codi tŷ adar bob gwanwyn. Un o'r arwyddion gwanwyn ydy o, yn fy marn i. Roedd o, fodd bynnag, ar ogwydd pan ymddangosodd eleni. Wedi diwrnodau o wyntoedd cryfion, aeth ar ongl beryglus! Mae adar wedi nythu tu mewn yn barod. Gobeithio bod eu babis yn iawn.