Wednesday, September 30, 2020

murlun arall

Dyma furlun newydd arall gan fy merch hynaf. Un bach ydy hwnnw ar gyfer Ginger Pig, tŷ bwyta yn Denver, Colorado. Roedd hi a'i gŵr yn medru cwblhau mewn dyddiau. Roedd y perchennog wrth ei bodd. Gobeithio y bydd y cwsmeriaid yn gwirioni arno fo.

Tuesday, September 29, 2020

boomelang

Es i a'r gŵr i Boomerang i swper. Ces i'w byrgyr o bryd i'w gilydd fel takeout, ond am y tro cyntaf i mi fwyta yn y tŷ bwyta poblogaidd hwnnw. Mae'r waliau'n llawn o luniau hen ddyddiau hiraethus, ac roedd gweinyddes siriol yn gweini'n sionc. Oedd, roedd y byrgyr yn fwy blasus na'r un takeout.

Monday, September 28, 2020

gweddi ar yom kippur

Heddiw, mae Yom Kippur wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad heb fawr o debygrwydd i beth oedd Duw wedi'i olygu. Cafodd weddïau eu hamnewid aberthau gwaed ar ôl dinistrio’r deml yn 70 OC, a heb unrhyw sicrwydd o faddeuant cyflawn. Penderfynwyd byddai dim ond y rhai sydd wedi bod yn “ddigon da” yn cael eu henwau ysgrifennu yn Llyfr y Bywyd. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae Iddewon yn dymuno pob lwc i'w gilydd. 

Darlun perffaith oedd neges Yom Kippur - darlun aberth Meseia a ddelai. Dw i'n gweddïo'r adeg hon yn enwedig y ceith llygaid Israel eu hagor, a byddan nhw'n canfod mai Iesu ydy'u Meseia.

Saturday, September 26, 2020

y diwrnod dychwelyd


"Dyn ni nid yn unig wedi gyrru Duw allan o'n bywyd cyhoeddus, ac wedi galw'r drwg yn dda a'r da yn ddrwg, dyn ni wedi aberthu bywydau dros 60 miliwn o blant yn y groth. Ac mae cwymp America oddi wrth Dduw nid yn unig yn bwrw ymlaen - mae'n cyflymu." Jonathan Cahn, arweinwr y Diwrnod Dychwelyd.

Mae miloedd wedi ymgasglu yn Washington D.C. heddiw, ynghyd â miliynau o bobl dros America a'r byd ar y we, er mwyn i weddïo ac ymbil ar Dduw am ei drugaredd, wrth i ni edifarhau’n pechodau ni a'r pechodau cenedlaethol. Roeddwn i yn yr eglwys leol y bore 'ma gyda'r lleill yn ymuno â'r dyrfa yn Washington D.C. Mae'r gweithgareddau'n parhau.

Friday, September 25, 2020

tad gyda choesau hirion


Penderfynais wrando ar Daddy Long Legs ddyddiau'n ôl. Er fy mod i wedi darllen y nofel honno o'r blaen, roeddwn i anghofio sut byddai'n gorffen. Ffeindiais awdio da ar safle Librivox, a dechrau. Roeddwn i'n bwriadu gwrando un bennod y dydd, ond roedd mor ddiddorol fel gwrandawais fwy nag un yn y diwedd. Cofiais pwy ydy Daddy Long Legs wrth i mi wrando. Dyma ei orffen yn hollol fodlon. Dw i eisiau gwrando nofelau eraill gan Jean Webster rŵan.

Wednesday, September 23, 2020

gyoza ciwb

Coginiais gyoza i'r gŵr ar ei benblwydd. Fel arfer, byddwn i'n defnyddio lapio wonton sgwâr wrth dorri'r pedwar congl er mwyn i gael lapio crwn. Y tro 'ma, fodd bynnag, penderfynais ddefnyddio'r lapio sgwâr fel mae o. Cawson ni gyoza ciwb o ganlyniad. Roedd yn flasus beth bynnag, a heb wastraffu toes.

Tuesday, September 22, 2020

henoed swyddogol

Penblwydd y gŵr oedd hi ddoe. Trodd yn 65 oed, henoed swyddogol, a hithau'n Ddiwrnod Parchu Oedrannus yn Japan digwydd bod. Fe wnaeth ei hoff bethau i ddathlu, sef rhedeg 5 cilomedr gyda'i ffrind yn y bore, mynd i gae saethu i ymarfer ei sgil yn y prynhawn, ayyb. Coginiais ei hoff fwyd, sef grits, wyau a selsigen i ginio; gyoza a chacen fach i swper.

Monday, September 21, 2020

fideo dawns llew

Dyma fideo arall a wnaeth fy merch hynaf am ei murlun diweddaraf yn Indiana. Mae'r dyluniad ar seiliedig ar Kabuki. Yn y stori honno, bydd merch swil yn troi'n llew ffyrnig gyda mwng gwyn, ac yn dawnsio'n egnïol. Dwedodd fod y bobl leol yn gwirioni ar y murlun, ac roedd llinell hir i dynnu lluniau o'i flaen o.

Saturday, September 19, 2020

rosh hashanah

 Mae utgorn Rosh Hashanah yn ein hatgoffa ni o ail ddyfodiad Iesu.


Deffro, di sydd yn cysgu,

a chod oddi wrth y meirw,

ac fe dywynna Crist arnat

Effesiaid 5:14


Pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, 

bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef...

1 Thesaloniaid 4:16


 “Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan.” 

Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu!

Datguddiad 22:20

Friday, September 18, 2020

beibl drwy zoom

Wrth i nifer o weithgareddau gael eu cynnal drwy Zoom yn ddiweddar, cafodd y gŵr ei wahodd i roi gwers fer i FCO (Fellowship of Christian Optometrists) yng Ngholeg Optometreg Kentucky ddoe. Ar ôl paratoi am ddyddiau, siaradodd ar galon dda. Aeth popeth yn wych. Roedd y grŵp ffyddlon yn hynod o ddiolchgar.

Thursday, September 17, 2020

mwgwd arall

Cawson ni fwgwd Trump arall yn rhad ac am ddim gan y siop swyddogol ar lein. Dyma ei wisgo wrth siopa yn Walmart gyda'r gŵr. Cawson ni nifer o ganmoliaeth. Gofynnodd dyn lle prynon ni'r mygydau; mae o eisiau un hefyd!

Tuesday, September 15, 2020

bath mewn sudd tomato

Roedd Reuben, ci fy merch hynaf wrth ei fodd i weld ei feistres eto wedi iddi ddod adref o Indiana. (Roedd o'n aros gyda mam ei gŵr hi.) Dyma hi'n mynd â fo i'r cae cyfagos yn y cyfnos; welodd o gysgod anifail a mynd ato'n syth wrth feddwl mai cath oedd. (Mae o'n hoffi chwarae gyda chathod.) Cafodd o sioc ei fywyd fodd bynnag; drewgi, nid cath oedd. Roedd rhaid iddo gael bath mewn sudd tomato wedyn. Profwyd fod y driniaeth yn hynod o effeithiol.

Monday, September 14, 2020

mwgwd swyddogol

Mae mwgwd Trump a archebodd y gŵr drwy'r wefan swyddogol newydd gyrraedd. Gwnaed yn America ydy o, a gweddu'i het i'r dim. Mae'r gŵr yn awyddus ei wisgo yn Walmart yr wythnos 'ma.

Saturday, September 12, 2020

gorffen y murlun

Gorffennodd fy merch y murlun. Mae'n wych dros ben. Gobeithio y bydd yn sirioli’r ardal a bendithio’r trigolion. Mae fy merch yn hynod o ddiolchgar iddyn nhw, yn enwedig y pedwar dynes o Japan a baratôdd pecynnau cinio ddwywaith sydd yn llawn o'i hoff fwyd Japanaidd. 

Friday, September 11, 2020

diwrnod gwladgarwr


Gadewch inni ddal yn wyliadwrus. 
Gadewch inni fod yn ddiolchgar

Wednesday, September 9, 2020

cyfweliad teledu

Cafodd fy merch gyfweliad gan orsaf teledu leol ar hanner awr wedi chwech ar gyfer y newyddion boreol. Dyma fo. Ces i wybod nifer o bethau ynghylch y prosiect hwnnw. Bydd yn wych os bydd hyn yn arwain at gyfle iddi fynd i Takaoka, Japan, chwaer-ddinas i Fort Wayne.

Tuesday, September 8, 2020

bwrw ymlaen

Ar ôl storm sydyn a ataliodd y gwaith, ail gychwynnodd fy merch a'i gŵr baentio'r murlun. Does dim golwg y dihirod ond trigolion normal sydd yn dod atyn nhw'n aml i roi geiriau clên. Yn eu mysg oedd rhyw wragedd o Japan sydd yn byw yno ond yn dod o dref gyfagos i'r un a gafodd fy merch ei geni ynddi!

Monday, September 7, 2020

tri phen-blwydd

Mae'r tymor pen-blwydd ar fy nheulu i - Medi 6, 7 ac 8. Roeddwn i'n arfer crasu tair cacen gan wahodd eu ffrindiau i ddathlu pan oedd y plant yn fach. Does dim byd i mi wneud eleni fodd bynnag; mae pawb wedi gadael cartref ac yn byw yn bell - un yn Texas a dwy yn Japan. Dim ond gyrru cardiau a chlywed hanes eu dathliadau a wnes i.

Saturday, September 5, 2020

murlun newydd

Dechreuodd fy merch hynaf ei murlun newydd neithiwr, wedi hedfan o Oklahoma i Indiana yn y prynhawn. Rhaid cychwyn gyda'r hwyr bob tro er mwyn taflu dyluniad ar y wal. Aeth popeth yn iawn er bod rhyw ddihirod wedi hyrddio wyau atyn nhw. Yn ffodus na chafodd y cyfrifiadur na'r dyluniad eu difrodi. 

Friday, September 4, 2020

mwgwd trump

Ces i gyfle i wisgo fy mwgwd Trump am y tro cyntaf o'r diwedd, yn Walmart ddoe. Dw i'n casáu gwisgo unrhyw fwgwd oherwydd bod yn anodd anadlu trwyddo fo. Roeddwn i, fodd bynnag, yn awyddus i wisgo hwn. Pedwar person a ddwedodd wrtha' i, "dw i'n hoffi dy fwgwd" tra bod neb yn rhoi sylwadau negyddol.

Wednesday, September 2, 2020

dawns lew

Bydd fy merch hynaf yn peintio murlun arall yr wythnos nesaf, yn Fort Wayne, Indiana. Kagamijishi (dawns lew,) un o berfformiadau Kabuki enwog ydy'r thema. Mae pwyllgor y prosiect eisiau iddi baentio menyw. Gan ei bod hi'n gwirioni ar Kabuki ar hyn o bryd,  dewisodd y ddawns honno gyda phrif gymeriad benywaidd a fyddai'n troi'n llew. 

Tuesday, September 1, 2020

diwrnod cyntaf

Diwrnod mawr i fy ŵyr oedd hi ddoe. Dechreuodd o mewn ysgol feithrin. Cafodd gyfarwyddiadau manwl am ei becyn cinio gan ei fam yn y bore. (Efallai eu bod nhw'n ormod iddo gofio!) Daeth adref yn hapus ddiwedd y diwrnod er nad oedd o'n cofio beth wnaeth o! Dim ond ei hoff fwyd yn y pecyn a fwytaodd heb gyffwrdd â'r llysiau. "Welais mohonyn nhw," meddai (yn Saesneg wrth gwrs.)