Wednesday, January 31, 2024

lily hosanna

Enwyd fy wyres yn Lily Hosanna.

Lily - "Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu." (Luc 12:27)
Hosanna - Molwch Dduw

Enwau hyfryd!

Tuesday, January 30, 2024

rhefeddol

Mae fy wyres newydd yn edrych yn union fel un o fy mabis, yn enwedig fel ei mam, (wrth gwrs.) Ces i fy merch 30 mlynedd yn ôl, a rŵan, mae hi wedi cael babi bach. 

Monday, January 29, 2024

babi newydd



Cafodd fy merch yn Japan ei babi ddoe, merch fach annwyl dros ben! Gyda chymorth ei gŵr, ei chwaer a dwy fydwraig, aeth popeth yn iawn. Dim ond rhyw ddeg awr a gymerodd o'r dechrau i'r diwedd. Mae'n anhygoel gweld bywyd newydd a greodd Duw.

Saturday, January 27, 2024

nodyn personol

Dw i'n archebu ar lein o Walmart bob wythnos, ar wahân i fwyd ffres. Bydda i'n mynd i'r siop yn berson am yr olaf. Yn aml iawn bydda i'n gweld gweithwyr Walmart yn gwneud siopa wrth lusgo troli enfawr ar gyfer y cwsmeriaid. Roedd nodyn cyfarch, gyda fy nwyddau, gan Christopher a wnaeth siopa drosta i. (Am y tro cyntaf i mi weld nodyn felly.) Dyma fo!

Friday, January 26, 2024

blwch post newydd

Torrodd ein blwch post ni un diwrnod. Roedd o a'r polyn yn gorwedd ar y ddaear! Daeth gyda'r tŷ pan brynon ni o chwarter canrif yn ôl wedi'r cwbl. Dyma ofyn i Marcus, ein dyn-o-bob-tasg ni i osod blwch a pholyn newydd. Fe wnaeth y gwaith yn anhygoel o gyflym. 

Wednesday, January 24, 2024

neges i "gen z"

Yn ôl arolwg diweddar gan Brifysgol Harvard, mae 51 y cant o Gen Z, sef Americanwyr rhwng 18 a 24 oed yn credu dylai Israel derfynu fel gwlad, a dylai'r tir ei roi i'r Palestiniaid er mwyn datys y broblem rhwng y dwy bobl. Mae'r genhedlaeth hon yn dilyn y mwyafrif, wir ai peidio yn anwybyddu ffeithiau a hanes. Rhaid cofio geiriau Duw wrth Abraham, "bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio."

Tuesday, January 23, 2024

peiriannau golchi/sychu


Anfonwyd ôl gerbyd gyda pheiriannau golchi/sychu at yr ardal a ddifrodwyd gan y daeargryn diweddar yn Japan. Defnyddir dŵr afon wedi'i ffiltro ar gyfer y peiriannau golchi! Mae'n gymorth enfawr i'r bobl sydd yn dal i ddioddef. Tref fach gorllewin i Kyoto sydd yn gwneud y gwaith hanfodol. Rhaid i'r ôl gerbyd deithio bron i 300 milltir.

Monday, January 22, 2024

160 doleri

Wedi mynd yn ôl i Tokyo, penderfynodd fy merch weld meddyg wrth ei chyflwr barhau. Mae'n bosib bod ganddi beswch asthma, a chafodd feddyginiaeth.160 doleri oedd cyfanswm y gost, gan gynnwys prawf gwaed a phelydr-x, heb aswiriant. Methodd fy merch credu'r swm, a gofyn i'r derbynnydd a oedd yn iawn. Yn America, byddai wedi costio cwpl o filoedd o ddoleri GYDAG aswiriant! Mae rhywbeth o'i le gyda'r system feddygol yn y wlad yma.

Saturday, January 20, 2024

tywydd mwyn

Mae tywydd gaeafol llym yn parhau, yn Oklahoma ac yn Japan. Cafodd fy merch hynaf annwyd ofnadwy; dydy'r tywydd ddim yn helpu wrth gwrs. Cafodd hi a'i gŵr gwahodd i fynd i Okinawa, ynys ddeheuol Japan, fodd bynnag, ac maen nhw'n treulio wythnos braf mewn tywydd mwyn. Gobeithio y bydd hi'n gwella.

Thursday, January 18, 2024

gor-wyres

Ymwelodd fy merch feichiog â'i nain yn ei chartref henoed. Roedd fy mam wrth ei bodd yn "cyfarfod" ei gor-wyres. Bydd ond tair wythnos tan y dyddiad geni disgwyliedig.

Tuesday, January 16, 2024

mae o'n ein nabod ni

Efallai nad ydy Llyfr Numeri yn y Beibl yn cael eu darllen yn aml. Ond ces i fy synnu'n darganfod bod yna nifer o bethau diddorol wrth ei ddarllen eto. Yn y bennod un, cewch chi weld bod Duw'n penodi 12 dyn a fyddai'n helpu Moses. Mae o'n eu galw nhw gyda'u henwau nhw, ynghyd ag enwau eu tadau. Mae Duw yn fy nabod i, eich nabod chi. Mae o'n ein galw ni gyda'n henwau i ni.

Monday, January 15, 2024

goruwch pob deall

"Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu." - Philipiaid 4:6,7

Daeth yr adnodau hyn ata i ddyddiau'n ôl pan oeddwn i'n wynebu her. Yna, clywais iddyn nhw gael eu darllen ar lein. Yna, darllenodd gwraig y gweinidog yr un adnoddau yn y gwasanaeth boreol ddoe. Mae'n amlwg bod y Duw eisiau gwneud yn siŵr fy mod i'n clywed ei neges! Yn wir i'w addewid, ces i ei dangnefedd sydd goruwch pob deall.

Saturday, January 13, 2024

o gaza


Mae Yair Pinto yn gohebu'n feunyddiol o Gaza. Fel un o aelodau'r IDF, mae o'n gwybod yn iawn beth sydd yn digwydd yno. Fel nifer mawr o'r aelodau, mae o wedi gadael ei deulu ifanc er mwyn brwydro yn Erbyn y drygionus. Iddew sydd yn credu yn Feseia Iddewig ydy o, ac mae o'n gofyn i Gristnogion am weddïo dros Israel a thangnefedd i Jerwsalem. 

Friday, January 12, 2024

mwy effeithiol

Weithiau gall lluniau ddangos ffeithiau'n llawer mwy effeithiol na geiriau.

Wednesday, January 10, 2024

gwlad apartheid


Ydy Israel gwlad apartheid? Clywch hanes dynes Arabaidd sydd yn byw yno. Gonest a dewr mae hi. 

Tuesday, January 9, 2024

colli trydan

Collodd y gymdogaeth drydan y bore 'ma pan fod pawb yn prysur baratoi gadael am waith/ysgol. Cymerodd dros ddwy awr cyn cael trydan yn ôl. Roeddwn i a'r gŵr yn cadw'n gynnes fodd bynnag, diolch i'r stof llosgi coed, ond rhaid bron i bawb yn dioddef oerfel. Roeddwn i'n ddiolchgar wrth y criw a drwsiodd y gwifren yn y glaw rhewllyd. 

Monday, January 8, 2024

enfys

Mae enfys yn brin yn Israel, oherwydd nad ydy hi'n bwrw glaw'n aml. Ac felly, mae'n syndod clywed bod nifer mawr o enfys yn cael eu gweld o gwmpas y gyflafan 7 Hydref. Mae'n fel pe bai Duw yn dweud, "fel dw i wedi cadw fy nghyfamod â Noa, bydda i'n cadw fy nghyfamod ag Abraham, Issac ac Israel.” Mae ffyddlondeb Duw yn parhau am byth.

Saturday, January 6, 2024

maen melin mawr

Pan ddwedodd Iesu, "byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r môr â maen melin mawr ynghrog am ei wddf," roedd o'n sôn am y maen enfawr drwm fel un yn y llun. Mae yna gynifer o bobl yn y byd sydd yn haeddu'r maen wrth achosi cwymp i blant.

Friday, January 5, 2024

urija bayer


Mae'r rhyfel rhwng y da a'r drwg yn parhau yn ac o gwmpas Israel. Roedd Urija Bayer yn un o dros 450 o aelodau'r IDF a roddodd ei fywyd i amddiffyn pobl Israel. Nid oedd yn Iddew, ond o darddiad Almaenig. Doedd o ddim rhaid iddo ymuno â'r IDF, ond ymuno a wnaeth oherwydd ei gariad dros Israel drwy gariad y Meseia Iddewig. Tystiolaeth anhygoel oedd ei fywyd. Mae o gydag Iesu Grist rŵan yn y tangnefedd tragywyddol.

Wednesday, January 3, 2024

gweithredwch!


Wedi daeargrynfeydd trychinebus yn Japan, mae bron i 1,000 o bobl mewn rhai ardaloedd yn cael eu hynysu oherwydd bod y ffyrdd wedi'u dinistrio. Beth am yrru hofrenyddion i gludo cyflenwadau brys? Mae'r staff lleol yn dweud bod nhw'n cael eu llethu wrth geisio gofalu am y bobl yn y llochesau. Ond mae'r mil yn dioddef yn yr oerfel erchyll bob munud. Mae angen gweithredu ar yr unwaith heb aros.

Monday, January 1, 2024

blwyddyn newydd

Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd,
ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Y maent yn newydd bob bore,
a mawr yw dy ffyddlondeb. 
Galarnad 3:22, 23