Thursday, October 31, 2019

caru israel

Dw i'n dal i wrando ar bregeth gan Pastor Paul o Gapel Galfaria bob bore, a chael fy mendithio gan ei fewnwelediad drwy'r Ysbryd Glân. Yn ei bregeth heddiw cyhoeddodd ei gariad diffuant tuag at Israel unwaith eto; dylai pob Cristion garu Israel; fedrith ddim deall pam fod rhai sydd yn caru Duw ddim yn caru Israel. Symbol undod ag Israel ydy'r menorah tu ôl iddo fo. Cytuno'n llwyr!

Wednesday, October 30, 2019

seigiau gwahanol

Dw i bron yn sicr bod gen i anoddefiad FODMAP, wedi dilyn y diet arbennig am sbel. Dw i'n ceisio fy ngorau i osgoi'r bwyd sydd yn achosi problemau, a hefyd gwneud yn siŵr fy mod i'n cael digon o faetholion. Rhaid paratoi seigiau gwahanol yn aml felly. Dyma'r swper neithiwr:
Y gŵr (nad oes ganddo unrhyw alergedd bwyd): spaghetti cyw iâr gyda phowdwr nionyn a garlleg 
Fi: tofu ac wy wedi'u sgramblo

Tuesday, October 29, 2019

y gêm olaf

Ces i wahoddiad arall gan Gymdeithas Dewi Sant Japan i weld y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd ddydd Sadwrn:

Annwyl pawb,

Mae'n anodd gyrru'r gwahoddiad hwn; dw i'n sicr eich bod chi'n dal i ddolurio ers dydd Sul diwethaf. Nad y cyflawniad gwaethaf bydd gorffen yn y trydydd mewn twrnamaint anhygoel fodd bynnag. Ymunwch ni yn yr un dafarn yn Akasaka, a ffarwelio â Warren Gatland hefyd. Fe gawn ni ragor o ganeuon a chyfle i gefnogi'n hogiau ni, am y tro olaf.

(Cyfieithwyd gan Emma Reese o Saesneg i'r Gymraeg.)

Monday, October 28, 2019

yn ôl at "persuasion"

Wedi gorffen gwrando ar lyfr clywedol Jane Ayre, roeddwn i'n chwilio am un newydd, ond methais. Mae yna gannoedd ar gael dw i'n gwybod ond mae'n anodd ffeindio un dw i'n ei hoffi. Dyma fi, yn ôl at Jane Austen, Persuasion i fod yn fanwl. Fy hoff stori Austen ydy hi. Mae yna nifer o ddarllenwyr, ond Karen Savage ydy'r gorau yn fy nhyb i. Helen Taylor a ddarllenodd Enchanted April ydy fy hoff ddarllenw; dydy hi ddim wedi darllen Jane Austen eto yn anffodus.

Saturday, October 26, 2019

moka

Dw i wedi ail ddarganfod fy moka yn ddiweddar. Mae'n dipyn o drafferth paratoi coffi ynddo fo (a'i lanhau) a dweud a gwir, ond mae'n wrth ei chweil er mwyn mwynhau paned o goffi gwych. Bydda i'n ychwanegu llwyaid o hufen heb lefrith sydd yn taro'r deuddeg.

Friday, October 25, 2019

llwyddiant ysgubol

Cafodd Israel y nifer mwyaf o dwristiaid erioed eleni, diolch heb os, i weithgareddau didostur BDS rhyngwladol. Well iddyn nhw sylweddoli po fwyaf maen nhw'n ymosod ar Israel, y mwyaf cefnogol bydd y Cristnogion iddi hi. Llofruddiais ddeiseb yn ddiweddar, a derbyn y magnet hwn, sydd ar fy nghar bellach.

Thursday, October 24, 2019

cyn codi

Dw i'n deffro yn gynnar yn naturiol heb gymorth cloc larwm y dyddiau hyn. Er mwyn cael mantais ar yr effaith heneiddio hon, penderfynais wrando ar emyn ar fy ffôn yn y gwely cyn codi. Mor Fawr Wyt Ti ydy fy ffefryn ar hyn o bryd. Mae'n fodd braf i dreulio peth amser cyn wynebu'r diwrnod.

Wednesday, October 23, 2019

fideo fenis

Mae cynifer o fideo a dynnwyd yn Fenis ar gael, ond rhaid dweud mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n ddiflas. Des i ar draws ddau sydd yn hollol wahanol i'r lleill. Tynnwyd ar gondola, ac mae'r cwpl arno fo'n gadael i'r gondolwr siarad fel mynni. Weithiau roddodd hanes adeilad yma ac acw; weithiau roedd yn cwyno am y gormod o dwristiaid, a phrinder tai fforddiadwy. Does dim cerddoriaeth na sgyrsiau swnllyd ond sŵn y dŵr ac amgylchoedd. Roeddwn i'n teimlo fel pe byddwn i ar y gondola (heb adael y cartref!)

Tuesday, October 22, 2019

ruth ym mhedair iaith

Wrth wrando ar gyfres astudiaeth Llyfr Ruth ar y we (yn Saesneg,) penderfynais wrando ar yr un rhan yn yr ieithoedd dw i'n eu deall, sef Cymraeg, Eidaleg a Japaneg. Mae'n wych bod nhw ar gael yn hawdd. Roedd yn hynod o ddiddorol clywed yr un stori yn yr ieithoedd gwahanol.

Monday, October 21, 2019

llun instagram

Mae cwsmeriaid Morinoen (siop te mae fy merch yn gweithio ynddi yn Tokyo) yn postio lluniau'r bwyd at Instagram yn aml. Wrth weld un ohonyn nhw, sylwodd mai hi a baratoist y ddysgl o warabi mochi hwnnw (cacen rhedyn gyda phowdwr te gwyrdd melys.) Roedd y cwsmer yn llawn canmoliaeth, ac roedd fy merch yn hapus dros ben wrth reswm!

Sunday, October 20, 2019

hwrê!

Da iawn! Da iawn, hogia!

Saturday, October 19, 2019

reuben

Mae Reuben, ci fy merch hynaf yn hoff iawn o fy ngŵr, oherwydd ei fod o (y gŵr, nid Reuben) yn mynd â fo (Reuben) am dro bob tro bydd y gŵr yn ymweld ein merch yn Norman. Pan ddwedodd fy merch wrth Reuben ddoe fyddai Papa yn dod, aeth Reuben yn syth i'r drws blaen i chwilio amdano fo. Roedd rhaid i fy merch bwysleisio nid "heddiw" ond "yfory" byddai'n dod!

Friday, October 18, 2019

wafflau

Fe wnes i wafflau heddiw. Dw i'n ceisio dyfeisio'r rysáit bara gorau i mi fwyta heb gael problemau stumog. Pob tro dw i'n ffeindio rhywbeth o'i le. Dw i'n credu bod y rhain yn llawer gwell. Defnyddio haearn waffl oedd yn syniad da, yn lle padell. Bydda i'n eu cadw nhw yn y rhewgell, a bwyta un bob dydd.

Thursday, October 17, 2019

gwahoddiad

Ces i fy ngwahodd unwaith eto gan Gymdeithas Dewi Sant Japan i weld gêm yn yr un tafarn yn Tokyo:

"Cynigiodd y perchennog clên fargen arbennig i'r aelodau - nid dim ond seddau neilltuedig, ond nomihodai cwrw, sef yfed cymaint y mynnwch am bris o 3,000 yen ($28.) Bydd y cynnig yn dechrau 20 munud cyn y gêm, a phara nes y diwedd, neu amser ychwanegol os bydd angen, er mwyn curo'r Ffrainc."

Ewch amdani, hogia!

Wednesday, October 16, 2019

fodmap

Des i ar draws FODMAP ar ddamwain ar y we. Roeddwn i'n dioddef o broblemau'r stumog yn ddiweddar. Wedi darllen nifer o erthyglau ar y pwnc, dw i'n amau mai hwn ydy'r tramgwyddwr. Dw i'n teimlo'n well ar ôl osgoi'r bwyd sydd gan FODMAP uchel. Yr unig siom ydy fy mod i'n hoff iawn o ffa, nionod a garlleg - yr eitemau ar ben rhestr y bwyd i'w osgoi. Dechreuodd y symptomau wrth i mi gychwyn eu bwyta llawer mwy nag o'r blaen.

Tuesday, October 15, 2019

tŷ lego

Mae'r gwaith paentio newydd orffen. Doeddwn i ddim yn hoffi'r lliw melyn gyntaf, ond dw i'n mynd yn gyfarwydd â fo'n barod. Fe allech chi ei alw'n dyrmerig, yn hytrach nag ocr. Mae'r plant yn hoffi'r olwg newydd hwnnw. Enwodd un ohonyn nhw fo'n Dŷ Lego!

Monday, October 14, 2019

llwybr y corwynt

Mae'r corwynt nerthol wedi mynd yn gadael mwy na 50 o bobl yn farw. Mae'r teulu'n ddiogel er bod o'n pasio agos iawn i lefydd maen nhw'n byw. Dangosodd fy merch ar y map ei lwybr yn llinell goch a'i fflat a fflat ei nain yn gylchoedd melyn.

Sunday, October 13, 2019

da iawn eto, hogia!

Ces i fy ngwahodd gan Gymdeithas Dewi Sant Japan ddoe i weld y gêm gyda'i haelodau mewn tafarn yn Tokyo!

Saturday, October 12, 2019

corwynt rhif 19

Mae'r corwynt mwyaf nerthol ers 60 mlynedd ar Japan ar hyn o bryd. Dw i mewn cysylltiad cyson gyda fy nwy ferch sydd yn byw yn Tokyo. Mae popeth wedi ei ganslo, ac felly rhaid iddyn nhw aros yn eu fflat. Mae hyn yn dda oherwydd bod ganddyn nhw annwyd ofnadwy. Maen nhw'n barod i fynd i loches os bydd angen. Mae fy mam yn iawn hefyd. Mae hi'n byw mewn fflat hynod o ddiogel a chadarn, efallai llawer mwy diogel na unrhyw loches, yn ôl fy mrawd sydd yn byw yn Yokohama.

Friday, October 11, 2019

yng nghanol yr iard

Roedd rhaid symud y bwydwr adar pan ddaeth y criw paentio. Er bod y gwaith wedi drosodd bron, penderfynais adael iddo fod lle mae o. Mae'n bellach i'r tŷ, ac felly dw i'n methu gweld yr adar yn agos. Ar y llaw arall, dw i'n medru eu gweld nhw oddi wrth y ffenestr uwch sinc y gegin. Mae gweld nhw tra fy mod i'n golchi'r llestri yn dwyn pleser i mi.

Thursday, October 10, 2019

lliw gwahanol

Paentiodd y criw'n tŷ ni. Golchon nhw'r wal gyda power wash, trwsio difrod bach yma ac acw, gorchuddio'r ffenestri gyda phapur, chwistrellu'r paent glas ar y wal, paentio'r siliau ffenestri'n felyn gyda brws. Problem. Mae'r lliw melyn yn wahanol. Roedd yn edrych yn aur yn y catalog, ond ocr tywyll ydy hwn mewn gwirionedd. Prynodd y criw'r paent yn ôl ein gorchymyn ni. Arnon ni mae'r bai. O wel. Ceisiwn fynd yn gyfarwydd ar y lliw.

Wednesday, October 9, 2019

Tuesday, October 8, 2019

yom kippur

Yom Kippur - y diwrnod mwyaf sanctaidd i'r Iddewon. Byddan nhw'n ymprydio a gweddïo am gael eu maddeuant, unwaith y flwyddyn. Mae angen gwaed, fodd bynnag, er mwyn cael maddeuant gan Dduw. Na chân cynnig gwaed anifeiliaid bellach oherwydd nad oes teml yn Jerwsalem bellach. Yr ateb a roddwyd gan Dduw - Iesu a gynigodd ei hun fel yr aberth berffaith, unwaith am byth. Bydda i'n gweddïo yn enwedig yn ystod wythnos Yom Kippur, bydd yr Iddewon yn dod o hyd i'r ateb, sef Meseia Israel.

Monday, October 7, 2019

mynd i siopa dorri gwallt

Ces i dorri fy ngwallt yn broffesiynol o'r diwedd, am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Mae'n gas gen i fynd i'r siop; dw i'n torri fy ngallt fy hun fel arfer, ond dechreuais flino ar "fy nghamgymeriadau."  Fe wnaeth y ferch yn y siop jobyn braidd yn dda. Dw i heb benderfynu eto fodd bynnag, fyddwn i'n dychwelyd ati. Gawn ni weld.

Saturday, October 5, 2019

siwgr a sbeis

Aeth y gŵr i Dalaith Indiana er mwyn mynd i aduniad Ysgol Optometreg. Tra oedd yno, cerddodd o gwmpas yn gweld rhai llefydd cyfarwydd lle treuliodd nifer o flynyddoedd fel myfyriwr. Ardal gyfarwydd i mi hefyd oherwydd buon ni yno am bum mlynedd gyda'r plant tra oedd y gŵr yn ceisio ennill gradd ychwanegol. Dyma Sugar and Spice, siop fach ar y campws; roedd y gŵr yn arfer prynu bisged ceirch mawr yn aml rhwng y dosbarthiadau. Roeddwn i a'r plant yn mynychu yno'n rheolaidd flynyddoedd wedyn, a mwynhau'r melysion arbennig.

Friday, October 4, 2019

hannah

Dyma hi - Hannah Szenes. Mae fy merch newydd orffen y murlun, gyda chymorth dau wirfoddolwr. Paentiodd hi lygaid Hannah'n las er mwyn iddyn nhw gynrychioli lliw Israel. Bydded y murlun fendithio ac ysbrydoli pawb sydd yn ei weld. Cafodd hi ei chyfweld gan bapur newydd Iddewig yn Efrog Newydd.

Thursday, October 3, 2019

jane eyre

Des i ar hyd i fersiwn gorau'r ffilm yn seiliedig ar Jane Eyre ar ddamwain. Cyfres deledu ydy hi a dweud a gwir, ac mae hi braidd yn hen heb dechnoleg fodern. Ac eto, doeddwn i erioed wedi gweld yr actorion sydd mwy addas i'r cymeriadau; mae'r actio'n eithriadol hefyd. Yr unig gŵyn sydd gen i ydy hepgorwyd rhai digwyddiadau pwysig yn y stori. Mae'r fersiwn hon yn wych beth bynnag.

Wednesday, October 2, 2019

samurai affricanaidd

Dw i newydd orffen African Samurai, llyfr gan Thomas Lockley sydd yn arbenigwr yn y pwnc - yr hanes am ddyn o Affrica a aeth i Japan fel gwas offeiriad Jeswit yn yr 16eg ganrif; gwasanaethu i Oda Nobugana wedyn, un o'r arglwyddi ffiwdal mwyaf nerthol yn hanes Japan; dyrchafwyd yn samurai. (Doeddwn i erioed wedi clywed amdano fo tra oeddwn i'n byw yn Japan.) Cyflawnodd yr awdur gamp enfawr yn cyflwyno'r hanes anhygoel, ond bron anhysbys, mewn modd darllenadwy dros ben.

Tuesday, October 1, 2019

menywod sydd yn paentio

Mae fy merch newydd ddechrau paentio murlun, ei 18fed, yn San Dieo ymysg Ladies Who Paint. Gan mai ar gyfer menywod ydy'r achlysur, dydy ei gŵr ddim yn medru ei helpu'r tro 'ma. Darparwyd gwirfoddolwyr i'r artistiaid i gyd. Un o Falaysia sydd yn helpu fy merch. Mae hi'n medru Japaneg yn rhugl! Dyma erthygl gan Jerusalem Post am y murlun.