Wednesday, May 19, 2010

ar fin cychwyn am gymru

Os eith popeth yn iawn, cychwynna i am Gymru ddydd Gwener. Bydda i ym Mhorthaethwy, cyffiniau Caernarfon, Llanberis a'r Bala yn aros gyda ffrindiau ac mewn gwely a brecwast. Amcan y daith ydy trio cymryd rhan naturiol yn y pethau bob dydd yn y byd Cymraeg cymaint â bo modd. I'r perwyl hwnnw bydda i'n helpu fy ffrindiau gyda'u gwaith tŷ, mynd ar deithiau cerdded yn ogystal â gwneud y gwaith gwirfoddol yn y cymunedau. Bydda i'n cadw dyddiadur a thynnu lluniau er mwyn cael sgrifennu fy mlog ar ôl dod yn ôl ar 10 Mehefin. Felly, i ffwrdd â fi drwy ludw'r llosgfynydd. Tan y tro nesa, bawb!

Friday, May 14, 2010

seremoni raddio



Mae yna 25 o ddoctoriaid optometreg newydd o heno ymlaen. Roedd un o neuaddau'r brifysgol yn llawn dop gyda eu teuluoedd a ffrindiau. Es i yno hefyd achos mai Phillip, hogyn annwyl oedd yn dysgu Ysgol Sul ein heglwys ni wnaeth raddio. Fo oedd athro ffyddlon fy mab deg oed. Bydd o'n gweithio fel doctor yn y Llynges yn Nhalaith Gogledd Carolina. Bydda i a phawb arall yn ei golli o er bod ni'n hapus am ei lwyddiant.

Monday, May 10, 2010

tymor tornados

Mae tymor tornados wedi cyrraedd yn Oklahoma mae'n ymddangos. Ffoniodd fy merch hynaf yn Norman yn dweud bod hi'n bwriadu mynd allan ond aeth hi'n ôl i'r tŷ wedi cael cip ar yr awyr. Roedd y cymylau'n troi rownd. Yn ffodus gadawodd y tornado lle mae hi'n byw ynddo'n barod, ond mae o'n anelu at y Dwyrain. A dw i'n byw i'r dwyrain o Norman, wrth gwrs. Does dim llosgfynydd yn Oklahoma o leiaf!

Sunday, May 9, 2010

cinio sul y mamau



Aethon ni i dŷ bwyta poblogaidd yn y dref, sef Sam and Ella's. Eu pitsa sy'n cael eu crasu ar faen ydy'r gorau yn Oklahoma (efallau yn UDA!) Maen nhw'n drwchus gyda chymaint o lysiau, cig amrywiol a chaws. Roeddwn i'n llawn ar ôl cael ond dau ddarn. Mae'r perchnogion yn hoff iawn o gywion ieir fel cewch chi weld.

Wednesday, May 5, 2010

mae'r dall yn gweld

Des i ar draws erthygl am Arthur Rees Rowlands ar wefan BBC yn ddiweddar. A dyma ymddiddori ynddo fo a phrynu copi ail-law o'i gofiant sef Mae'r Dall yn Gweld drwy siop ym Mlaenau Ffestiniog.

Cafodd o ei saethu yn ei wyneb gan ddyn gwallgof a cholli ei olwg o ganlyniad pan oedd o'n gweithio fel heddwas hanner can mlynedd yn ôl. Hwn ydy hanes ei ddewrder yn goresgyn y trychineb gyda help y teulu a'r ffrindiau. Prin fy mod i'n medru ei rhoi i lawr ers iddo gyrraedd ddyddiau'n ôl. Dw i newydd ei orffen ac eisiau sgrifennu amdano fo, a hithau'n tynnu at hanner nos.

Ym 1983 y cafodd y llyfr ei argraffu. Dw i ddim yn gwybod na beth ddigwyddodd wedyn nag ydy o'n fyw o hyd. (88 oed bydd o eleni os ydy o'n fyw.) Os ydy o, byddwn i am ddweud fy mod i wedi cael fy nghyffwrdd yn ddwfn gan ei hanes ac am ddymuno'r gorau iddo.