Monday, August 31, 2015

sudd ffres

Crwydrodd fy merch a'i gŵr ar ochr Ffrengig yr ynys a chael hoe fach mewn café y bore 'ma. Gwerthir sudd ffrwythau/llysiau ffres a baratoir ar y cownter. Dyma hi'n archebu gwydr o sudd moron efo ffrwythau. (Roedd yn ddrud braidd - 6.) Mae gan y wlad honno gyfradd gyfnewid syml rhwng ewro a doler, sef 1:1. 

Sunday, August 30, 2015

ynys st. martin

Mae fy merch hynaf a'i gŵr ar eu gwyliau ar Ynys St. Martin yng Ngharibïaidd. (Pasiodd y corwynt sydd gan yr un enw â'i chwaer cyn iddyn nhw gyrraedd.) Mae hi'n gyrru lluniau drwy'r ffôn symudol o bryd i'w gilydd. Does dim llu o dwristiaid ac mae nhw'n medru ymlacio. Peth unigryw a diddorol ydy'r ffaith bod y wlad honno'n cael ei rhannu'n ddau - Iseldiraidd a Ffrengig. Mae'r bobl yn siarad Saesneg ar un ochr a Ffrangeg ar y lleill. Does dim ffin glir ac felly mae pawb yn mynd a dod fel mynnon nhw. 
llun: y ffin

Saturday, August 29, 2015

i marseille

Prynodd E-lyfr arall efo MP3 gan Sylvie Lainé, sef Voyage à Marseille. Y tro hwn, un stori hir, ddoniol ydy hi - stori am gwpl hŷn o Loegr sydd yn teithio o Lundain i Marseille ar eu gwyliau mewn car. Does dim trosedd, digwyddiadau hyll, dim byd annymunol ond cipolwg ar y diwylliant, pobl, bwyd, lleoedd Ffrengig a adroddir yn Ffrangeg syml i ddysgwyr. Defnyddir yr amserau eraill heblaw presennol mewn modd naturiol fel byddwch chi'n eu deall yn dda. Mae deialogau doniol a achoswyd gan gamynganiad y gŵr nad ydy ei safon Ffrangeg cystal â'i wraig. Rhaid bod Sylvie yn gyfarwydd â hynny gan ei bod hi'n dysgu Ffrangeg i estron. Rhoddais bum seren ar dudalen Amazon.


Friday, August 28, 2015

booben druan

Un sensitif ydy ci fy merch hynaf. Reuben ydy ei enw o ond mae pawb yn ei alw fo'n Booben bellach. Mae o'n hoffi bywyd digyffro wrth ymyl ei fam (fy merch,) ac mae'n well ganddo gwmpeini oedolion synhwyrol yn hytrach na phlant swnllyd a chŵn eraill go egnïol. Dw i'n amau ydy o'n ystyried ei hun yn berson. Un peth mae o'n casáu ei weld, neu ofni ei weld ydy cês dillad. Mae o'n gwybod yn dda beth mae hwnnw'n ei olygi - bydd ei rieni, sef fy merch a'i gŵr yn mynd ar siwrnai; bydd o'n cael ei anfon i gartref arall nes iddyn nhw ddod yn ôl. Dw i'n siŵr mai tragwyddoldeb ydy hynny i Booben. Yn anffodus (iddo) maen nhw'n mynd ar siwrnai arall. Roedd fy merch wrthi'n paratoi'r cês dillad ddoe a gweld Booben druan ar y llawr fel hyn.

Thursday, August 27, 2015

te i weision

Dw i'n mwynhau Barry's tea bob dydd. Roedd y bag te'n edrych yn ddigon da ar ôl cael ei ddefnyddio unwaith fel gwnes i de eto efo'r un bag. Er nad oedd o cystal â'r paned cyntaf, doedd o ddim yn rhy ddrwg, efallai llawer gwell na'r te arall. A dyma benderfynu cael ail baned efo'r un bag bob tro. Fe enwais fo'n de i weision oherwydd fy mod i wedi clywed o'r blaen dyna beth oedd gweision mewn plastai ym Mhrydain yn ei yfed ganrif yn ôl. 

Wednesday, August 26, 2015

mop

Ers cael llawr bambŵ flwyddyn yn ôl, roeddwn i'n chwilio am fop sych syml fel un mae fy mam yn ei ddefnyddio yn Japan. Doedd dim ar gael nes ddoe. Fe welais un perffaith yn Walmart, a dyma ei brynu ar unwaith. Mae'r pen bach yn troi i bob cyfeiriad fel gallwch chi lanhau onglau cul. Taflir papur meddal penodol wedi iddo fod yn fudr iawn. (Dw i'n defnyddio'r ochr arall hefyd.) Mae o'n hwylus dros ben! Dw i'n gwirioni arno fo. 

Tuesday, August 25, 2015

corn, pistol a chwip

Darllenais ddarn o nofel T.Llew, sef Ymysg Lladron ar y we. Fe wnaeth cip ar y Goets Fawr fy atgoffa i o nofel wych arall a ddarllenais yn ystafell Marteg yn Llanberis flynyddoedd yn ôl . Allan o argraff mae Corn, Pistol a Chwip ers tipyn, ac felly roeddwn i'n hapus dros ben gweld copi ar silff llyfrgell y dref ar y pryd. Cododd chwant sydyn arna i ddoe ddarllen y nofel lawn gyffro unwaith eto. Wedi chwiliad ar y we, des o hyd i gopi ail-law yn Siop Lyfrau'r Hen Bost ym Mlaenau Ffestiniog, a dyma ei archebu drwy Abebooks. Bydd o'n cyrraedd Tachwedd 15 yn ôl y cwmni! Gobeithio bydd y llong yn hwylio'n gyflymach na hynny.

Monday, August 24, 2015

peth rhyfedd

Penderfynais gymryd mantais ar y tymheredd is y bore 'ma a mynd am dro yn y gymdogaeth yn hytrach na mynd yn hwyrach. Dyma weld peth rhyfedd - roedd yn edrych fel rhosyn wedi'i ffosileiddio, ond na! Madarch brown enfawr ydy o! Mae o'n tyfu ar foncyff coeden yn ymyl cae cyfagos. (Mae hi'n bwrw glaw'n eithaf aml yn yr haf 'ma.) Beth fyddai Marcovaldo yn ei ddweud, tybed? 

Sunday, August 23, 2015

ymweliad sydyn

Tra oeddwn i wrthi'n paratoi coffi yng nghegin yr eglwys y bore 'ma, daeth y gŵr ata i'n dweud bod yna geirw ym maes parcio. Dyma frysio at y drws gwydr. Dyma nhw! Teulu o bump neu chwech a oedd yn sefyll yn syllu arnon ni (dw i'n meddwl.) Tynnais lun yn sydyn, yna dechreuodd babi'r teulu redeg tuag at y cae cyfagos dilynwyd gan y gweddill. Roeddwn i'n poeni amdanyn nhw oherwydd bod yna stryd rhwng y maes parcio a'r cae. Yn ffodus na ddaeth car a dyma nhw'n croesi'r stryd yn ddiogel. Gobeithio bod nhw'n cadw draw o dai. Yn anad dim gobeithio na fyddan nhw'n croesi ffyrdd prysur.

Saturday, August 22, 2015

acen brin

Cafodd fy merch sgwrs efo ffrind da o Loegr drwy Skype y bore 'ma. Fel arfer mae hi'n siarad yn ei hystafell ond yn y gegin roedd hi y tro hwn. Roedden nhw'n cael amser braf wrth fy merch yn dangos ein cegin ni i'w ffrind. (Doeddwn i ddim yn gwrando arnyn nhw'n astud wrth gwrs.) Fe wnes i bot o de i ni i gyd a dechrau sipian cyn y sgwrs, a dyma fy merch yn dangos y tebot i'w ffrind, a chael canmoliaeth ganddi hi. Mae'n rhyfeddol clywed acen Seisnig yn fy nghegin.

Friday, August 21, 2015

model

Cafodd fy merch sgwrs sydyn efo ffrind ysgol dros baned, a synnu'n clywed y byddai'r ffrind yn mynd i Japan cyn hir. Bydd y ffrind yn cychwyn mewn prifysgol flwyddyn nesaf ac mae hi'n gweithio fel model ffasiwn yn y cyfamser. Does ryfedd oherwydd mai hogan hardd, dal a thenau ydy hi. Mae hi'n dawnsio bale clasurol yn ogystal â rhedeg cross country. Bydd hi'n gweithio yn Japan am ddau neu dri mis. Dysgodd fy merch ymadrodd Japaneg pwysig iddi, sef, "lle mae'r tŷ bach?"

Thursday, August 20, 2015

te o iwerddon

Archebais Barry's Tea drwy Amazon ddyddiau'n ôl yn meddwl y byddai'n cael ei anfon o ryw storfa yn America. Dwedodd Amazaon y byddai'n cyrraedd ar ôl Medi 1. Ces i fy synnu'n bleserus (eto) felly pan welais becyn lliwgar a anfonwyd uniongyrchol gan y cwmni yn Cork. Dyma baratoi panad ar unwaith ar gyfer fy nwy ferch a fi fy hun. Roedd y te cryf yn hynod o braf. Mae'r ddau flwch yn cynnwys 160 o de; rhaid para am fis o leiaf 

Wednesday, August 19, 2015

newid

Ces i fy synnu'n bleserus pan gamais allan o'r drws blaen y bore 'ma. Clywais awyr oeraidd. Roedd yn bwrw glaw neithiwr ac mae'n dal yn lawog. Gostyngodd y tymheredd o 96F/36C i 66F/18C dros nos. Mae'n gynnes yn y tŷ o'i gymharu, a dyma agor y ffenestri a'r drws blaen i gael awyr ffres, oeraidd. Dw i'n mwynhau'r digwyddiad prin iawn hwn ym mis Awst.

Tuesday, August 18, 2015

cerdyn post o ffrainc

Cafodd fy merch gerdyn post gan ffrind yn Ffrainc. Ffrances ydy'r ffrind a dysgon nhw Gymraeg yn yr un dosbarth ym Mhrifysgol Abertawe. Aethon nhw i'r Gogledd ar eu gwyliau efo'i gilydd hefyd. Mae'r ffrind yn ôl i Ffrainc yn ystod yr haf yn gweithio nes dod yn ôl i Abertawe am y tymor newydd. Mae hi'n byw yn Annecy, tref hardd a gelwir "Fenis yn Ffrainc" oherwydd y camlesi sydd yn croesi'r dref. A dweud y gwir, Annecy ydy'r dref dw i'n gobeithio ymweld â hi ers tipyn, ac felly roeddwn i gyffro i gyd pan welais y cerdyn post, efallai llawer mwy na fy merch!

Monday, August 17, 2015

dawnsio

Bydd yna ddawnsio yn y parti ar ôl priodas fy mab hynaf y mis nesaf. Dw i i fod i ddawnsio efo fo yn y ddawns fab a mam ond yr unig fath dw i'n medru ei wneud ydy bale clasurol a dawnsio llinell. A dyma benderfynwyd y bydden ni'n dawnsio llinell gyda'i hoff  alaw ac annog i'r lleill i ymuno â ni wedyn. Fe wnaethon ni ymarfer tipyn bach yr wythnos diwethaf ac mae popeth yn ei le. Bydd rhaid i mi ddawnsio llinell mewn ffrog ffansi! Dw i'n mynd i wisgo esgidiau cyfforddus o leiaf.

Saturday, August 15, 2015

skype efo mam

Mae fy merch yn Japan yn ymweld â'i nain dros benwythnos. Bydda i'n siarad efo fy mam ar y ffôn fel arfer oherwydd nad ydy hi'n defnyddio'r dechnoleg fodern. Neithiwr, fodd bynnag, roedden ni'n medru siarad ar Skype gan gymryd mantais ar ffôn smart a Mac Book fy merch. Roedd fy mam wrth ei bodd yn medru gweld ni i gyd yn ogystal â siarad efo ni. Roedd hi'n swnio'n dda iawn er gwaethaf ei hoedran (93) ac yn dweud yn gyffrous fyddai ei hwyres yn mynd i dorri ei gwallt a phaentio ei hewinedd.
Llun: fy mam

Friday, August 14, 2015

pecyn gofal

Cafodd fy merch "becyn gofal" gan un o'r ffrindiau da yn Abertawe ddoe. Hogan glên o Wiltshire ydy hi. Gyrrodd hi de Yorkshire Gold a siocled Cadbury at ei ffrind sydd yn dioddef o ddiffyg te a siocled go iawn yn yr anialwch. Roedd fy merch yn hapus dros ben a dyma hi'n cael panad braf ar yr unwaith. Roedd rhaid i'r siocled druan aros yn yr oergell am sbel fodd bynnag gan ei bod hi wedi toddi yng ngwres llethol Oklahoma.

Thursday, August 13, 2015

diwrnod cyntaf

Dechreuodd blwyddyn newydd yr ysgolion heddiw. Roedd gan fy mab ifancaf gwmni ei chwiorydd bob blwyddyn, ond am y tro cyntaf mae o ar ei ben ei hun. Mae fy merch ifancaf yn gweithio nes mynd i'r brifysgol yn Nhalaith Missouri ym mis Ionawr. Mae ei chwaer newydd gael swydd ran amser yn Ysgol Optometreg a bydd hi'n parhau nes graddio ym mis Mai. Roedd yn haf pleserus er gwaetha'r tywydd ac er es i ddim ar fy ngwyliau.

Wednesday, August 12, 2015

tair iaith

Wrth ddysgu Ffrangeg, dw i'n tueddi i'w chymysgu hi a'r Eidaleg a'r Gymraeg. Mae'r Ffrangeg a'r Eidaleg yn debyg iawn i'w gilydd tra nad ydy'r Gymraeg yn hollol annhebyg. Roeddwn i'n adolygu'r rhifau yn y tair iaith yn ddiweddar; rŵan dylwn i ganolbwyntio ar enwau dyddiau'r wythnos a misoedd.

Ffrangeg     un, deux, trois, quatre, cinq, six, sept, huit, neuf, dix
Eidaleg       uno, due, tre, quattro, cinque, sei, sette, otto, nove, dieci
Cymraeg     un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith, wyth, naw, deg

Tuesday, August 11, 2015

leap year

Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i eisiau gweld y fideo a brynodd fy merch, sef Leap Year. Wedi clywed, fodd bynnag, bod hi a'i chwaer wedi bod yn rhai o'r llefydd yn y ffilm yn Iwerddon, roeddwn i eisiau ei gweld yn sydyn, a dyma ddechrau arni hi neithiwr efo fy merch a'i gorffen gynnau bach. Roedd yn ddiddorol yn annisgwyl. Er gwaethaf cynifer o adolygiadau negyddol gan gynnwys gan y prif actor, mwynheais i'r stori, golygfeydd (er bod nhw wedi cael eu cyweirio yma ac acw) a'r actio'n fawr iawn. 

Monday, August 10, 2015

busnes teulu

Mae gan fy merch hynaf fusnes braidd yn newydd, sef creu a gwerthu tatŵs dros dro ar y we. Wrth ddefnyddio ei dawn gelfyddydol, mae hi'n cynhyrchu tatŵs cain a'u gwerthu nhw yn America yn ogystal â thramor. Ei chwiorydd ydy ei hoff fodelau; daeth hi i fynychu'r briodas dros y penwythnos, a dyma hi'n defnyddio'r cyfle i dynnu lluniau ohonyn nhw efo'i thatŵs ar gyfer ei gwefan. 

Sunday, August 9, 2015

ateb

Sgrifennais e-bost sydyn at Sylvie Lainé yn dweud pa mor hyfryd ydy'r tair stori. (Cymerodd lawer o amser i sgrifennu pwt yn Ffrangeg.) Roeddwn i'n hapus iawn cael ateb clên ganddi hi. Roedd hi'n falch o glywed fy mod i'n hoffi ei straeon a bod nhw'n helpu i mi ddysgu Ffrangeg. Roedd hi'n hapus darllen y sylw cadarnhaol a sgrifennais ar wefan Amazon hefyd. Mae'n braf iawn cael atebion gan awduron.

Saturday, August 8, 2015

priodas

Heddiw ydy'r diwrnod mawr i ffrind fy merch. Mae hi newydd briodi'n hapus. Roedd ganddi freuddwyd i briodi fel tywysoges ers plentyndod, meddai ei mam. Ac felly a fu. Un o'r morynion priodas ydy fy merch ac roedd hi'n ofnadwy o brysur ers iddi ddod adref o Gymru union fel "morwyn" i'w ffrind; cafodd fy merch hynaf ei galw i ddod i saethu fideo; helpais hefyd neithiwr yn paratoi ffrwythau ar gyfer y parti. Rŵan, amser i ddathlu penblwydd fy mab hynaf yn hamddenol. Mae'r gacen newydd orffen.

Friday, August 7, 2015

diwrnod llawn

Diwrnod prysur cyn priodas ferch y ffrind. Rhaid paratoi'r tŷ oherwydd bod fy merch a mab hynaf yn dod heno i fynychu'r seremoni. Mae'r ferch arall wedi mynd i helpu ei ffrind sydd yn priodi. Yn y cyfamser mae'r gŵr a'n mab ifancaf ni'n prysur dorri coeden wedi'i marw yn yr iard gefn. Roedd y gŵr yn gwirio fideo You Tube sydd yn esbonio sut i wneud y job. Cwympodd y goeden i'r cyfeiriad cywir. Hwrê! Rŵan rhaid ei thorri'n ddarnau i losgi yn y llosgwr logiau yn y gaeaf.

Thursday, August 6, 2015

parti adar

Mae nifer o adar anarferol yn dod at ein dec cefn yr haf yma. Un math ohonyn nhw'n dod yn llu a chael parti llawen. Mae gan yr adar bychan lais uchel a hyfryd. Prynhawn ddoe ces i sioc bleserus i weld ryw ugain ohonyn nhw'n ymgasglu ar y dec yn canu, torheulo a  sboncio'n siriol am funudau. Roedd yn anodd tynnu lluniau da ohonyn nhw oherwydd nad oeddwn i eisiau eu dychryn.

llun: un o'r adar sydd yn canu

Wednesday, August 5, 2015

y drydedd nofel

Gorffennais ddarllen y drydedd nofel fer (a'r olaf) yn yr E-lyfr gan Sylvie Lainé.  Mae dipyn yn fwy anodd na'r ddwy stori arall ond roeddwn i eisiau darllen nes y diwedd oherwydd bod hi'n hynod o ddiddorol a chyfriniol. Mae'r tair stori i gyd yn dda iawn ar gyfer dysgwyr Ffrangeg sydd wedi dysgu'r pethau safonol. Yr unig nam dw i'n ei ffeindio ydy teitl y drydedd stori. Mae o'n difetha syndod y plot. Os dych chi'n meddwl ei darllen a dydych chi ddim yn gwybod beth mae'r teitl yn golygu, peidiwch â defnyddio geiriadur cyn cychwyn.

Tuesday, August 4, 2015

siarad ar ffôn

Gwelais fideo'n dangos sut i ymarfer ieithoedd estron os nad oes gynnoch chi ffrind i ymarfer efo'ch gilydd - cael sgwrs sydyn efo "ffrind dychmygol" ar ffôn pryd bynnag oes gynnoch chi amser sbâr. Os dach chi'n siarad â'ch hun mewn lle cyhoeddus, bydd pawb yn meddwl eich bod chi'n wallgof, ond bydd yn hollol normal siarad ar ffôn symudol. Swnio'n wych; mae'r hogyn yn gwneud job dda ar y fideo, ond pan geisiais wneud hyn yn Walmart y bore 'ma, roedd yn anodd. Roeddwn i'n ofnadwy o hunanymwybodol fel methais siarad yn naturiol. Efallai yr eith yn haws os gwna' i lawer gwaith.

Monday, August 3, 2015

amser te

Mae fy nwy ferch yn hoffi yfed te ers dychwelyd o'r Prydain. Dyma benderfynu gwneud te go iawn mewn tebot wrth ddefnyddio dŵr poeth a ferwyd yn y tegell trydan newydd. Dim ond bagiau te sydd gen i, ond dydy neb yn berffaith. Cafodd y tebot a rhai o'r cwpanu ar y silff wedi'u casglu llwch eu siawns unwaith eto ers blynyddoedd. Roedd yn hwyl. Dw i'n credu'n siŵr bellach bod y te'n blasu'n well wedi'r cwbl.

Sunday, August 2, 2015

tegell trydan

Dw i heb ddefnyddio tegell i ferwi dŵr ar gyfer te ers blynyddoedd gan fod microdon yn llai trafferthus. Pan oedd fy merch yn byw yn Abertawe, cafodd ei ffrind o Loegr sioc i glywed sut berwodd fy merch ddŵr (fel ei mam.) Mynnodd y ffrind fod y dŵr yn blasu'n ofnadwy pan gafodd ei ferwi mewn microdon oherwydd bod y dŵr yn sugno arogl drwg y peiriant. Prynais degell trydan heddiw o'r diwedd felly yn hytrach na defnyddio tegell plaen, a chael te efo fy merch. Efallai bod y te'n blasu'n well nag arfer. O leiaf bydd ffrind fy merch yn fodlon. (Mae'n cymryd mwy o amser i'r dŵr ferwi oherwydd bod gynnon ni foltedd gwannach.)

Saturday, August 1, 2015

sêl

Bydda i'n siopa yn Reasor's ar ddydd Sadwrn. Mae'n llai na Walmart, a does dim cynifer o gwsmeriaid fel arfer fel bydda i'n cael siopa'n ddigynnwrf. Heddiw fodd bynnag, roedd y maes parcio'n llawn dop ac roedd llawer o gwsmeriaid yn mynd yma ac acw ar yr eiliau. Pan gyrhaeddais at y til, welais giw hir at bob un. Roedd gan bawb troli wedi'i lenwi efo dwsinau o soda. Doeddwn i ddim yn gwybod bod y siop yn cynnal sêl soda heddiw. Gwelais mai fi oedd yr unig gwsmer na phrynodd soda. Does ryfedd bod gan Americanwyr gymaint o broblemau iechyd.