Thursday, December 31, 2009

ers talwm

Dw i'n teimlo'n euog braidd heb sgrifennu ers wythnos. Dw i ddim wedi colli diddordeb yn fy mlog. Naddo wir. Diffyg pynciau sy ar fai fel arfer. Does dim llawer yn mynd ymlaen wedi i ni ddathlu'r Nadolig. Un peth dw i'n ddiolchgar amdano ydy fy mod i wedi dechrau gwella o'r diwedd. Roedd gen i annwyd ofnadwy oedd yn para ers pum wythnos.

Y llyfr dw i'n darllen ar hyn o bryd ydy Rhys Lewis gan Daniel Owen. Prynes i hwn flynyddoedd yn ôl ond heb ei orffen. Mae o'n ddigon difyr a hefyd dw i'n cael ymarfer darllen yr iaith ffurfiol. Mae gen i ddau lyfr gan T.Rowland Hughes i'w darllen ar ôl hwn.

Mae'r eira wedi mynd bron ond does wybod pryd dechreuith fwrw eto. Yn Hawaii mae'r gŵr ar hyn o bryd yn ymweld ei rieni (a mwynhau'r haul heb os!)

Thursday, December 24, 2009

storm eira

Mae hi'n dod tuag aton ni. Eisoes mae'r tymheredd yn disgyn fel cerrig mewn dŵr ac mae yna haen wen ar y toeon dros y ffordd. Cafodd yr ardal Oklahoma City eira drwm yn barod. Dydy neb yn cael mynd ar y traffyrdd. Mae'r ferch hynaf a'i gŵr i fod yma yfory ond fedran nhw ddim dod nes i'r tywydd wella. Rhaid gohirio cinio Nadolig. Gobeithio y cân nhw ddod dros y Sul.

Wednesday, December 23, 2009

bydda i'n prysur goginio

Dyma ramadeg Cymraeg dw i newydd ddysgu, diolch i "Cysill," gwasanaeth Prifysgol Bangor. Sgrifennes i, "bydda i'n brysur coginio" a dwedon nhw fod "bydda i'n prysur goginio" sy'n iawn.

Yn ogystal â chywiro camsillafu, maen nhw'n cywiro camgymeriadau gramadegol hefyd. Wrth gwrs nad ydyn nhw'n gywir bob tro wrth reswm, a bydda i'n pwyso'r botwm "anwybyddu" yn aml hefyd. Eto i gyd, teclyn hwylus dros ben ydy o.

Monday, December 21, 2009

mac newydd


Mae MAC newydd gynnon ni o'r diwedd. Roedden ni wedi bod yn defnyddio'n hen liniadur wedi i'n prif gyfrifiadur gael ei ddinistrio gan fellten fisoedd yn ôl. A dweud y gwir, roedd o'n eithaf hen hefyd (2002) er fod o'n gweithio'n ffyddlon. Felly mae'n hen bryd i ni gael un newydd beth bynnag.

MAC Mini sydd gynnon ni, ac mae o'n "mini" go iawn. Fedra i ddim credu fod o'n medru gwneud llawer mwy na'r hen MAC mawr. Wedi dweud hynny, mae gynnon ni gysylltiad rhyngrwyd araf. Felly fedrwn ni ddim disgwyl gormod. 

Efallai mai iMAC sy'n fwy poblogaidd, ond mae o'n rhy ddrud i ni. Dw i'n hollol fodlon gyda'r Mini hwn.

Saturday, December 19, 2009

diwrnod mawr


Graddiodd fy ail ferch yn y brifysgol leol heddiw ynghyd â'r cannoedd o fyfyrwyr eraill. Roedd y neuadd dan ei sang. Ces i weld y seremoni'r tro hwn. 

Fedrwn i ddim peidio sylwi ar wahaniaeth yn yr awyrgylch. Fyddai neb yn beiddio yngan gair mewn seremonïau graddio (ac mewn unrhyw seremoni) yn Japan. Byddai pawb mor ddistaw â llygoden ac yn ddifrifol, ond yn America, byddai'r teuluoedd a'r ffrindiau'n cymeradwyo a chwibanu'n uchel hyd yn oed. 

Mae fy merch eisiau gweithio fel athrawes yn Japan ac yn chwilio am swydd ar hyn o bryd.

Tuesday, December 15, 2009

siocled

Pan oeddwn i'n aros gyda Judy yn y Bala, clywes i hi'n dweud pa mor dda oedd siocled Cadbury, llawer mwy blasus na siocled Hershey. A dweud y gwir bod hi'n meddwl bod yr olaf yn ofnadwy a fy annog i drio Cadbury. Roedd ei hysbysiad yn syndod i mi achos mod i'n credu'n siwr bod siocled Hershey'n eithaf da!

Doeddwn i ddim yn sylweddoli tan yn ddiweddar bod siocled Cadbury'n cael ei werthu yn Wal-Mart er un wnaed gan Hershey. Dyma brynu bar bach a'i fwyta (o dipyn i beth)....  Mae Judy'n iawn. Mae o'n fwy blasus na Hershey ond yn ddrytach hefyd. Baswn i'n prynu Cadbury nes ymlaen pe bai o'n rhatach.


Friday, December 11, 2009

y gelyn ar y trên

Fedrwn i ddim rhoi'r llyfr i lawr. Roedd rhaid i mi gael gwybod beth fyddai'n mynd i ddigwydd. Sôn am nofel afaelgar! Dw i newydd orffen un o nofelau T.Llew, sef y Gelyn ar y Trên. 

Stori am antur hogyn gyda diddordeb mewn trenau ydy hi. Roedd rhaid i Guto fynd i weld y Royal Scotsman a fyddai'n pasio trwy ei dref fach am y tro cyntaf erioed boed yr ysgol neu beidio. Ond beth welodd o drwy ei finociwlars yn ogystal â'r injan trên enwog?

Mae'n ddifyr o'r dudalen gyntaf ymlaen ac mae'r stori'n datblygu'n gyflym dros ben. Ces i fy nharo unwaith a rhagor gan ddawn T.Llew. Ond rhaid dweud bod y stori'n gorffen braidd yn drist. Tybed bod ei brofiad chwerw yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn adlewyrchu ynddi hi.

Byswn i'n dweud mai fy ail ffefryn ydy'r nofel 'ma beth bynnag. (Barti Ddu, gyda llaw ydy fy ffefryn cyntaf.)

Wednesday, December 9, 2009

sut i yrru bisgedi at filwyr yn Affganistan?


Mewn pecyn Pringles!

Mae fy merch 16 oed a'i ffrindiau'r ysgol ynghyd rhai disgyblion ar draws America'n paratoi anrhegion Nadolig i'r milwyr yn Affganistan. Un o'r eitemau a gewch chi yrru ydy bisgedi cartref. 

Dyma fy merch yn crasu  ei 'sugar cookies' ar ôl swper ddoe a'u rhoi nhw mewn pecyn Pringles gwag. Y peth anodd oedd eu crasu nhw fel y bydden nhw'n ffitio yn y pecyn. Roedd rhaid asglodi o gwmpas rhai ohonyn nhw.

Gobeithio y gwneith yr anrhegion gan blant yr ysgolion ddwyn tipyn o gysur i'n milwyr ni yn yr anialwch.

Monday, December 7, 2009

coeden nadolig


Dan ni ar ei hôl hi eleni eto. Mae'n coeden Nadolig blastig ni wedi colli ei bôn, felly roedd rhaid dyfeisio. Yn y diwedd gwnaeth cadair y tro. Mae'r goeden yn sefyll yn gadarn o leiaf. Roedd y plant iau wrthi'n ei haddurno heno tra oedd corau ysgol Glan Clwyd yn canu yn y cefndir. Mae yna anrhegion wedi'u lapio'n barod. Byddan nhw o dan y goeden nes ymlaen.

Mae'r tywydd wedi troi'n aeafol yn ddiweddar o'r diwedd a chyneuon ni dân cyntaf yn y llosgwr logiau. Mae'r Nadolig ar y trothwy.

Thursday, December 3, 2009

enw drwg

Roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy wrth ddarllen newyddion ar lein y bore 'ma.

Mae'r chwistrell fôr garped wedi cyrraedd Caergybi sy'n fygythiad i fywyd môr Cymru gyfan. Ac mae o'n wreiddiol o Japan!! Dw i bron â theimlo'n gyfrifol yn bersonol er nad oes yna ddim byd i mi wneud amdano fo.

Gobeithio bydd y Cyngor Cefn Gwlad yn llwyddo i gael gwared arno fo'n fuan.