Monday, April 30, 2018

i shtula

Mae gan fy merch hynaf grŵp gwaed A. Mae hi'n hynod o drefnus. Dyma ei chês a baciodd ar gyfer ei siwrnai. Prynodd anrhegion i blant y gymuned fach hefyd - Pocky, Kitkat, siocled a menyn cnau daear gan Reese's (kosher maen nhw i gyd.) Mae hi newydd gychwyn ar y siwrnai hir ddisgwyliedig i Israel heddiw er mwyn creu murlun. Oklahoma City - Dallas - Frankfurt - Tel Aviv, yna i Shtula!

Saturday, April 28, 2018

bwrdd neges

Dyma'r bwrdd neges a gafodd fy mam yn anrheg ben-blwydd. Casglodd fy merch yn Japan luniau o'r teulu efo neges - Baba, tanjoubi omedetou! (Pen-blwydd Hapus, Nain!) Dwedodd fy mab oedd yn dipyn o her i dynnu lluniau o'i babis. Roedd fy mam wrth ei bodd fel dwedais. Mae hi wedi gosod y bwrdd neges ar ddesg, ac edrych arno fo bob dydd.

Friday, April 27, 2018

llety yn jerwsalem

Ar ôl gorffen y murlun yng ngogledd Israel, bydd hi a'i gŵr yn cael gwyliau am ddeg diwrnod yn dathlu ei degfed pen-blwydd priodas. Mae hi newydd fwcio llety (airb&b) yn Tel Aviv a Jerwsalem! Mae'r llety yn Jerwsalem yn agos iawn at Giât Jaffa. Bydd Dinas Dragwyddol yn hynod o brysur y mis nesaf - agor Llysgenhadaeth America, 70ain pen-blwydd Israel yn ôl Calendr Gregorian, Giro d'Italia, taith Jean Pirro, a mwy. Gobeithio na fydd fy merch yn cael ei llethu gan yr holl gyffro!

Thursday, April 26, 2018

mwy o ddyfais

Unwaith eto roedd rhaid i mi ychwanegu dyfais i'r bwydwr adar. Gwelais Blue Jay yn bwyta'r hadau ddoe. Maen nhw'n hynod o gyfrwys; ffeindion nhw fodd. Dyma ludo chopsticks tafladwy ar y top er mwyn atal yr adar mawr rhag cyrraedd yr hadau. Gobeithio y bydd hyn yn gweithio.

Wednesday, April 25, 2018

96 oed

Mae fy mam yn 96 oed heddiw. Ymwelodd ei dwy wyres â hi i ddathlu ei phen-blwydd. Anrheg go arbennig oedd casgliad o luniau'r teulu mewn ffurf bwrdd neges. Roedd hi'n hapus dros ben. Edrychwch ar ei "gwenu miliwn doler." Er bod ganddi osteoporosis, mae hi'n dal yn sionc yn ei meddyliau. Mae hi'n anelu at ei phen-blwydd canmlwyddiant bellach!

Tuesday, April 24, 2018

rhwystr ychwanegol

Llwyddodd Yoni (y wiwer) i ddringo i'r bwydwr adar! Gwelais fo wrthi pedair gwaith y bore 'ma. Bwytaodd yr holl hadau flodau haul mewn munudau. Rhaid ei fod o wedi hyfforddi ei hun, a chryfhau ei gyhyrau! Roedd rhaid i mi ddyfeisio rhwystr ychwanegol. Dyma fo! Gobeithio y bydd o'n gweithio.

Monday, April 23, 2018


Coginiodd Missy, ffrind da i fy merch yn Japan amrywiaeth o seigiau dros fy merch sydd gan amrywiaeth o alergedd bwyd, a gwahodd eu ffrindiau i gael picnic dan goed. Roedd Missy hyd yn oed yn darllen yn helaeth am alergedd bwyd er mwyn paratoi'r bwyd "diogel" ar gyfer fy merch. Roedd fy merch yn cael mwynhau'r holl seigiau heb ofn wrth gymdeithasu gyda'r ffrindiau. Mae'r bwyd yn edrych mor flasus fel bydda i eisiau ei fwyta hefyd.

Saturday, April 21, 2018

hydrangea

Mae'r gŵr newydd blannu hydrangea, ei ffefryn. Y broblem fawr yn y tir yn Oklahoma ydy bod yna lawn o gerrig; Rhaid bod mwy ohonyn nhw na phridd. (Roedd yn ofnadwy o galed palu beddau i'n hanifeiliaid anwes ni.) Gobeithio bydd y blodau'n blodeuo’r flwyddyn nesaf. 

Friday, April 20, 2018

arwydd newydd

Wedi pen-blwydd Israel, y peth nesaf cyffroes (ar wahân i siwrnai fy merch i Israel i greu murlun) bydd agor Llysgenhadaeth America yn Jerwsalem y 14ed Mai. Postiodd Hananya'r llun hwn - arwydd newydd! Mae Guatemala a Honduras yn dilyn America. Clywais fod Rwmania'n barod. Pwy sydd nesaf? 

Thursday, April 19, 2018

ffyddlondeb Duw

Mae Israel sydd yn dri mil oed yn dathlu ei 70ain phen-blwydd. Hanes Israel ydy ffyddlondeb Duw. Gwireddwyd gair Duw pan gafodd Israel ei geni fel gwladwriaeth yn 1948. Casglodd o'i bobl o bob cwr o'r byd yn ôl ei addewid. Mae hi'n ffynnu yn gyflym ac yn anhygoel o doreithiog ers hynny. Pen-blwydd hapus, a phob bendith i Israel! Bydded iddi hi ddod i adnabod gwir ffynhonnell y fendith. 

Wednesday, April 18, 2018

mewn un dydd


A glywodd rhywun am y fath beth?
A welodd rhywun rywbeth tebyg?
A ddaw gwlad i fod mewn un dydd?
A enir cenedl ar unwaith?
Eseia 66:8

Ar ôl cael eu gyrru i ffwrdd o'u gwlad ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, cafodd yr Iddewon hi yn ôl yn 1917 drwy Ddatganiad Balfour, yna daeth Israel i fod mewn un dydd yn llythrennol.

Fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser—
daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball.
Yn wir nid oeda; disgwyl amdani,
oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.
Habacuc 2:3

Tuesday, April 17, 2018

tipyn o dristwch

Roedd garage sale yn Ysgol Optometreg hefyd. Gwelais eitemau cyfarwydd ymysg pentwr o bethau yn y cyntedd. Rhois i nhw i'r ysgol y llynedd iddyn nhw gael eu gwerthu i godi pres. Roedd y rhan fwyaf o'r pethau ar y bwrdd hwn wedi dod o fy nghartref. Gwnes i'r hosan mawr flynyddoedd yn ôl yn Japan. Cafodd fy merch hynaf sioc i weld y llun, ond mae hi'n deall bod rhaid gwneud. Gobeithio bod nhw wedi ffeindio cartref newydd.

Monday, April 16, 2018

oer eto

Mae'n oer eto! Gollyngodd y tymheredd i 27F/-2.8C yn ystod y nos. Fel arfer mae blodau derwen ar eu hanterth erbyn hyn yn taflu eu paill gwyrdd ym mhob man, ond maen nhw'n crynu yn yr oerfel anarferol. Mae llawer o ddinasoedd yn cael eira trwm hyd yn oed. Lle mae cynhesu byd eang?

Saturday, April 14, 2018

5k

Cynhaliwyd ras 5K gan Goleg Optometreg y bore 'ma. Roedd yn ofnadwy o wyntog ac oer, ond rhedodd rhyw 20 o fyfyrwyr, fy ngŵr a'i ffrind yn ddewr. Fe wnaeth y ddau ddyn oedrannus yn dda iawn, diolch i'r hyfforddiant - maen nhw'n rhedeg teirgwaith yr wythnos efo'i gilydd ers yr haf diwethaf drwy gydol y gaeaf hyd yn oed. 

Friday, April 13, 2018

rhuban ar y proffil

Er mwyn dathlu 70ain pen-blwydd Israel, mae One for Israel yn annog ei ddilynwyr i ychwanegu'r rhuban hwn ar eu proffiliau Face Book. Dyma fi! Bydd yr ŵyl yn cychwyn nos Fercher a phara tan nos Iau eleni. (Mae hi'n newid bob blwyddyn.) Arbennig ydy rhif 70 yn y Beibl. Un o'r pethau mawr a fydd yn digwydd eleni ydy agoriad Llysgenhadaeth America yn Jerwsalem. Dw i'n siŵr y bydd mwy i'w ddilyn.

Thursday, April 12, 2018

dyfais

Doeddwn i ddim eisiau cadw fy llygaid ar y bwydwr adar drwy'r amser er mwyn ei amddiffyn rhag blue jay. Dyma ddyfeisio rhwystr yn eu herbyn gan ddefnyddio hambwrdd plastig a thun bwyd gwag ar ben y plât. Daeth cardinal ar yr unwaith i fwyta'r hadau, ond dydy'r adar bach eraill ddim yn ei hoffi. Dyma ychwanegu polyn tenau ar y plât iddyn nhw gael sefyll arno fo cyn mynd i mewn. Gobeithio y byddan nhw'n deall y system! O leiaf dw i heb weld blue jay yn ddiweddar.

Wednesday, April 11, 2018

siwrnai arbennig

Bydd fy merch a'i gŵr yn dathlu eu degfed pen-blwydd priodas yn gynnar - y mis nesa ac yn Israel! Maen nhw newydd brynu tocynnau awyren a bwcio gwesty yn Tel Aviv a Jerwsalem! Bydd ei gŵr yn ymuno â hi ar ôl iddi a'r criw o'r artistiaid orffen y murluniau. Bydd y gweddill yn gadael Israel ond aros bydd fy merch a'i gŵr am y siwrnai arbennig. Mae hi'n gyffro i gyd, a finnau hefyd!

Tuesday, April 10, 2018

blawd gwygbys

Wrth i fy merch yn Japan geisio ymdopi alergedd i gynifer o fwydydd, prynais flawd gwygbys i weld sut mae o. Mae ganddo flas fel blawd soi ac sydd yn llawn o brotein braf. Heddiw, coginiais ryw fath o grempog drosta i gan ychwanegu blawd cyflawn, (does gen i ddim alergedd) powdr pobi, a heb siwgr. Ffriais fo ar gaws, a dyma dost caws blasus!

Monday, April 9, 2018

gwesteion digroeso

Falch o weld pa mor boblogaidd mae'r dec cefn wedi bod i'r adar gwyllt. Gwelir rhai hynod o brin hefyd. Cardinal ydy fy ffefryn. Weithiau maen nhw'n dod cyn i mi gau'r drws, a dechrau bwyta'r hadau'n swil. Dechreuais weld yn ddiweddar, fodd bynnag, Bluejay sydd yn fwli mawr i'r adar eraill. Ceisia' i'w dychryn i ffwrdd pryd bynnag bydda i'n eu gweld, ond maen nhw'n slei bach! Maen nhw'n aros ar y canghennau cyfagos i chwilio am gyfle i ddisgyn ar yr hadau. Gosodais arwydd, ond mae o'n gwbl aneffeithiol wrth gwrs, yr union fel arwydd parth dim gynnau.

Saturday, April 7, 2018

gorffen y cwrs

Dw i newydd orffen y cwrs daearyddiaeth Feiblaidd ar lein. Roedd 14 gwers, a ches i 77% ar gyfartaledd yn y cwis. Dylai'r bobl sydd eisiau ennill y radd ysgrifennu traethawd terfynol, ond gan fy mod i'n wneud y cwrs "ar gyfer boddhad personol" fel maen nhw'n dweud, penderfynais beidio â'i ysgrifennu. Dysgais gymaint o bethau newydd a gwerthfawr. Dw i'n medru gweld "yr Hen Destament" o safbwynt daearyddiaeth ac ar y cyd â hanes y byd. Cafodd fy llygaid eu hagor. Roedd yn her fawr i fy hen ymennydd hefyd! 

Friday, April 6, 2018

lliwiau newydd


Mae fy merch newydd newid cynllun lliwiau'r murlun ar gyfer y wal yn Israel. Rŵan mae'r ceffylau'n fwy amlwg o bellter. Mae hi'n gobeithio y bydd BDS yn ysgrifennu am y prosiect a'i gosod hi ar eu rhestr du. Pam? - fel bydd y bobl heb glywed amdani hi hyd yma yn dod i nabod hi! Mae hi eisiau ysgrifennu adnod ber yn Hebraeg ar y llun er mwyn calonogi'r bobl yn y gymuned sydd yn byw mor agos at y gelynion.

Thursday, April 5, 2018

cawl llysieuol

Mae'r oerfel wedi dychwelyd. Dyma goginio cawl trwchus llysieuol llawn o brotein - quinoa, ffa pinto, gwygbys, tofu, yn ogystal â thatws, nionyn, brocoli, blodfresych, brwynau Brwsel, ffa gwyrdd, ŷd, llefrith a chaws. Stwnsiais bopeth ond ffa gwyrdd ac ŷd fel na welir y gweddill o'r cynhwysion. Mae'n berffaith ar gyfer noson oer.

Wednesday, April 4, 2018

anrheg

Gofynnodd fy merch beth fyddwn i'n ei eisiau'n anrheg. Bydd hi a'r criw o artistiaid yn Israel rhwng 1 a 10 Mai. Byddan nhw'n cael cyfle i ymweld â Jerwsalem hefyd. Mae'n rhy anhygoel fel na fedra i enwi dim. Sgarff, mwclis, cwpan coffi, mêl, ffrwythau sych neu efallai Prophecy - mae'n anodd ond hyfryd.

Tuesday, April 3, 2018

trechu casineb drwy gelf

Mae artists4israel newydd gyhoeddi byddai'n mynd â saith artist rhyngwladol i Israel er mwyn creu murluniau ar y wal rhwng Israel a Lebanon. Un ohonyn nhw ydy fy merch, ac mae hi'n cynrychioli Japan (oherwydd bod ei mam yn dod o'r wlad honno!) Clywais fod y bobl yn Shtula, cymuned fach amaethyddol bod y wal yn eu hamddiffyn rhag Hezbollah, wrth eu boddau a pharatoi diwrnod diolchgarwch ar gyfer yr artistiaid.

Monday, April 2, 2018

baruch hashem

Mae pobl yn gweddïo, canu a dawnsio er mwyn addoli Duw. Ddoe yn Eglwys Antioch yn Norman addolodd fy merch Ef drwy baentio (ar gyfer y ddau wasanaeth.) Wedi i'r criw canu weddïo drosti hi cyn iddi gychwyn, paentiodd hi tra bod nhw'n canu. Mae llinellau piws yn cynrychioli gwaed y Passover - piws, nid coch oherwydd mai brenin ydw'r oen. Y geiriau Hebraeg aur (Baruch HaShem) sydd yn golygu bydded yr Enw ei fendithio, neu ddiolch i Dduw.

Sunday, April 1, 2018

bedd wag

Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd... Cawsant y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd... ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu... dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt yn dweud “pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw? Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi." https://thenewself.wordpress.com/who-moved-the-stone/