Tuesday, July 31, 2018

gofalu am geffylau

Mae fy merch yn dal i fwynhau gwirfoddoli, a phrofi diwylliant gwahanol yn yr Almaen. Mae hi'n aros efo teulu hynod o glên sydd yn mynd â hi o gwmpas yn aml. Falch o weld bod popeth yn dwt ac yn lan fel yn Japan; does dim canlyniad globaleiddio yn yr ardal honno. Un o'i gwaith ydy gofalu am y ceffylau ar y fferm - eu brwsio nhw, mynd â nhw allan o'r stabl, a glanhau'r stabl hefyd!

Monday, July 30, 2018

coler oer

Mae milwyr IDF yn cŵl, ond fedran nhw ddim aros yn cŵl yn eu helmedau a festiau trwm pan fydd y tymheredd yn codi'n 100F/38C. Er mwyn helpu'r hogiau a genod sydd wrthi'n amddiffyn eu pobl a'u tir rhag ymosodiadau ffyrnig a di-baid y gelynion bob dydd, mae ymgyrch i ddarparu Coler Oer iddyn nhw. Dw i newydd noddi un milwr. Gobeithio y bydd nifer o bobl yn eu cefnogi nhw.

Saturday, July 28, 2018

y golau lleiaf

Camais allan o'r tŷ mewn hanner tywyllwch y bore 'ma yn gobeithio gweld y lleuad lawn. Roedd coed tal yn rhwystro fy ngolwg. Ar ôl cerdded hanner munud - dyma hi! - enfawr ac yn oren. Sefais a'i gweld; y golau lleiaf i reoli'r nos. Digwyddodd y diffyg ar y lleuad yn ystod y dydd ddoe yma, ond roedd fy merch sydd yn yr Almaen yn cael cyfle i'w weld. (y llun a dynnwyd gan fy merch)

Friday, July 27, 2018

gŵyl gwrw a cherddoriaeth

Tra bod hi'n gwirfoddoli ar y fferm yn yr Almaen, mae fy merch yn mwynhau diwylliant gwahanol ymysg pobl gyfeillgar. Wedi gweld gêm pêl-droed yn y gymuned, ymunodd hi'r ŵyl gwrw a cherddoriaeth gyda'r teulu fferm. Cafodd hi ei synnu gweld y bobl yn yfed jwg ar ôl jwg o gwrw ewynnog heb feddwi.

Thursday, July 26, 2018

ciwcymbr ffres

Ces i ryw ddwsin o giwcymbr gan ffrind. Maen nhw'n anhygoel o ffres a blasus, yn hollol wahanol i rai mewn siopau. Wedi rhoi sawl i'r cymydog, fe wnes salad i swper. Cynhwysion: ciwcymbr, tomatos ceirios, nionyn coch, artisiog, gwygbys, sardîn, afocado, caws feta, persli, efo olew olewydd, finegr seidr afal, halen, pupur

Wednesday, July 25, 2018

yn yr almaen


Mae fy merch arall newydd gyrraedd yr Almaen. Bydd hi'n gwirfoddoli mewn fferm i dwristiaid am dair wythnos. Roedd hi eisiau gwneud peth hollol wahanol dros wyliau'r haf i'w gwaith yn Japan, sef dysgu Saesneg i blant. Go wahanol ydy hyn wir. Wedi dysgu rhyw frawddegau Almaeneg yn yr awyren, aeth yn syth i'r fferm i wirfoddoli, a mwynhau'r natur a diwylliant gwahanol. Bydd yn brofiad hyfryd heb os.

Tuesday, July 24, 2018

saig newydd

Nid llysieuwr na fegan dw i, ond dw i'n hoff iawn o'u ryseitiau, ac yn mwynhau gweld y fideo o'r math. Mae fy nghoginio'n adlewyrchu fy niddordeb newydd yn ddiweddar. Truan o'r gŵr sydd braidd yn hoffi cig; mae o'n gorfod bwyta ffa bob dydd bron. Dyma saig newydd - zucchini wedi'i stwffio efo tiwna, heb ffa yn yr achos hwn. (Dw i'n hoffi pysgod.) Roedd yn flasus!

Monday, July 23, 2018

lip sync newydd

Mae Her Lip Sync yn dal i fod yn boblogaidd ymysg Heddlu America. Mae Swyddfa Siryf Sir Cleaveland, OKC newydd gyhoeddi eu un nhw. Fy merch a olygodd. yn anffodus, nid hi a ffilmiodd. Ac felly dydy safon y ffilm ddim cystal, ond dyna fo! Fe wnaeth hi ei gorau glas, ac mae o'n llawer llawer gwell na'r un gwreiddiol. Mae seren y fideo, sef Siryf Gibson (y canwr gyda het cowboi) yn disgleirio.

Saturday, July 21, 2018

lliwiau

Artist goruchaf ydy ein Duw. Creodd liwiau anhygoel o brydferth. 

Friday, July 20, 2018

gwres eithoaol

Mae rhybudd gwres eithoaol ar ddwyrain Oklahoma gan gynnwys fy sir o hanner dydd ymlaen tan naw o'r gloch heno. Rhagwelir mai 104F/40C gradd bydd y tymheredd uchaf. Gobeithio bod y bobl sydd yn gweithio tu allan yn fod yn ofalus. Dw i'n mynd am dro dwywaith y dydd yn ddiweddar, bore cynnar ac ystod y dydd, ond well i mi beidio â mynd allan prynhawn 'ma.

Thursday, July 19, 2018

ymarfer yn erbyn ymosodwr arfog

Cynhaliwyd ymarfer yn erbyn ymosodwr arfog mewn ysgol yn Norman, Oklahoma ddoe, gyda SWAT, parafeddygon, dynion tân a gwirfoddolwyr lleol. Roedden nhw'n actio yn ôl senario lle mae'r ymosodwr yn cymryd rhai pobl yn wystlon. Roedd fy merch yn wrth ei bodd yn chwarae'r rhan brif wystlon. (Mae rhai gwystlon yn edrych yn hapus!) Dwedodd mai mor rymus ydy SWAT fel nad oes ymosodwyr lawer o obaith.

Wednesday, July 18, 2018

llwyddiant ysgubol


Mae'n ymddangos bod y bobl ar y chwith eisiau i'r Arlywydd Trump fod wedi condemnio'r Arlywydd Putin yn y cyfarfod diwethaf, a chychwyn rhyfel fawr arall. Yn lle hynny, fe wnaeth yr Arlywydd Trump wneud ffrind ohono fo! Ofnir y bydd hynny'n cyfrannu at heddwch rhyngwladol; am siom (i'r bobl ar y chwith.) Roedd ei siwrnai i Ewrop yn llwyddiant ysgubol. Does dim angen edrych ar y manylion, a dweud y gwir. Dim ond gweld ymateb y bobl ar y chwith yn ddigon - maen nhw'n gwylltio'n gandryll.

Tuesday, July 17, 2018

blodau

Ein Tad caredig, rwyt ti'n addurno caeau gyda blodau hardd.

Monday, July 16, 2018

i bobl ffrainc

Llongyfarchiadau mawr i bobl Ffrainc am y fuddugoliaeth! Dw i'n eu ffafrio nhw oherwydd y ffrindiau sydd gen i (drwy fy merch) yn Pezens. Trist gweld fodd bynnag yr hyn a ddigwyddodd ar strydoedd mewn dinasoedd mawr yn dilyn y dathliadau. Achlysur dathlu, nid trais ac anrheithio siopau ydy hyn.

Saturday, July 14, 2018

hynod o hwyl

Un o agweddau'r Arlywydd Trump a enillodd calonnau cynifer o Americanwyr ydy ei onestrwydd. Mae o'n dweud yr hyn sydd yn corddi yng nghalonnau'r bobl gyffredin; roedd eu lleisiau wedi cael eu hanwybyddu gan y prif gyfryngau dros flynyddoedd. Mae o'n galw du'n ddu a gwyn yn wyn yn gyhoeddus heb ofn. Mae hyn yn gwylltio'r bobl ar y chwith bob tro, ac yn llawenhau'r bobl gyffredin. Dw i'n cael hynod o hwyl darllen yr erthyglau am ei ymweliad ym Mhrydain ers dyddiau. 

Friday, July 13, 2018

fideo cerddoriaeth

Mae'n ymddangos bod creu fideo dawnsio, canu'n boblogaidd ymysg Heddlu America dros y wlad yn ddiweddar. Mae adrannau lleol wrthi'n dangos eu staff talentog. Hwn ydy fersiwn Adran Heddlu Norman. Murlun fy merch sydd tu ôl i'r dawnswyr brwd. Cyfeillgar a neis iawn ydy Heddlu America!

Thursday, July 12, 2018

creadur rhyfedd

Wrth i mi gerdded yn y gymdogaeth y bore 'ma, gwelais garreg fach yn symud i fyny'r llethr yn araf. Nid carreg oedd hi fodd bynnag, ond peli tail a oedd yn cael ei wthio gan chwilen tail. Roedd dyna'r tro cyntaf i mi weld peth felly. Creadur rhyfedd! Creadigol iawn ydy'n Duw ni.

Wednesday, July 11, 2018

iachâd

Cymylau llachar, gogoneddus 
Awyr las las
Arwydd Duw
Trugaredd
" Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf."

Tuesday, July 10, 2018

abel

Mae gwiwer arbennig yn dod i'r dec yn ddiweddar. Un swil gyda hanner cynffon. Mae o'n cael ei fwlio gan y lleill sydd yn gryfach. Dw i eisiau ei fwydo fo'n benodol, ond mae'n anodd gan ei fod o mor ofnus. Unwaith gwelais fo'n bwyta'r hadau a osodais drosto fo. Enwais fo'n Abel.

Saturday, July 7, 2018

llyfr

Roeddwn i'n chwilio am lyfr i'w ddarllen, a dyma weld nofel (ar silff lyfrau fy merch) a ddarllenais amser maith yn ôl - Little Lord Fauntleroy. Er bod hi'n nofel i blant, mae'n hynod o ddiddorol fel mae'n anodd stopio darllen am y bachgen bach mor gariadus a hoffus. Roedd yr awdures, Fances Hodgson Burnett yn storïwr o fri, tebyg iawn i T. Llew Jones. Mae'r llyfr yn cynhesu calonnau.

Thursday, July 5, 2018

19 oed

Pen-blwydd fy mab ifancaf ydy hi heddiw. Mae'n 19 oed. Aeth ei dad i weld o ddoe. Mae'r mab yn gweithio ar wersyll Cristnogol yng ngogledd Missouri yn ystod yr haf . Aethon nhw i'r coleg dwy awr i'r de'r bore 'ma lle mae fy merch er mwyn bwyta'r gacen a wnes i, a dathlu ei ben-blwydd gyda'i gilydd. Dyma'r tro cyntaf iddo oddi cartref ar ei ben-blwydd.

Wednesday, July 4, 2018

142 oed

"Mae'n amhosib llywodraethu cenedl yn gyfiawn heb Dduw a'r Beibl."
George Washington

Pen-blwydd Hapus i America! 

Monday, July 2, 2018

anrheg arall

Ces i anrheg arall gan Yoni. Ffeindiais fesen ar fat drws y bore 'ma pan gamais allan i fynd am dro. Mae to ar y drws blaen, ac felly na allai'r fesen fod wedi syrthio oddi ar y goeden a digwydd glanio yno (fy namcaniaeth i!) Dw i'n dal i fwydo'r gwiwerod a'r adar gwyllt bob dydd; efallai bod rhai ohonyn nhw'n ddiolchgar wrtha i.