Saturday, May 31, 2008

neidr!

Fedrwn i ddim coelio fy llygaid. Mi glywes i gynnwrf tu allan a chael cip trwy'r ffenest. Roedd 'na NEIDR ENFAWR ar y canllaw o dan nyth yr adar! Ac roedd mam (dw i'n siwr) y cywion yn ceisio ymosod arni. Doedd gen i ddim dewis ond gwthio hi efo ffon i lawr. (Roedd y gwr oddi cartre.) Mi naeth hi syrthio mewn gwely blodau. Dôn i ddim isio gweld be ddigwyddodd wedyn. Dw i erioed wedi gweld y fath neidr neu gyffwrdd ag un. Rhaid i ni gadw llygad ar y nyth.

Thursday, May 29, 2008

damweiniau!

Mi nes i sgwennu am y nyth o dan ein bondo ni o'r blaen. Lle anaddas i nythu oedd o acos bod tri o ader bach wedi syrthio. Buodd y ddau farw (mi naethon ni eu claddu) ond mae un yn byw er bod o wedi anafu ei goes.

Dan ni'n ei gadw mewn blwch a cheisio ei fwydo. Mae o isio bwyta cymaint! Mae'r plant iau wrthi'n casglu mwydod bob awr. Maen nhw'n bwydo bisgedi ci wedi'u mwydo hefyd.

Mi glywon ni bod 'na rywun sy'n gofalu am ader truan. Dan ni'n mynd â fo yfory achos bod y plant isio ei gadw diwrnod arall. Maen nhw'n mwynhau bod yn fam iddo.

Wednesday, May 28, 2008

totoro


Dyma Totoro wedi'i ddeor. Mi naeth fy merch hwn efo clai. Maen nhw'n fach fach.

Tuesday, May 27, 2008

sash a chrafatiau


Sash i'w ffrog briodas a chrafatiau i saith o ddynion gan gynnwys fy mab ifanca, mi gofynodd fy merch i mi neud a heb batrwm. Ar ôl cwech neu saith awr mi nes i orffen sash rhywsut neu gilydd. Dydy o ddim cystal ag un werthir mewn siop wrth gwrs, ond dyma fo. Fy merch 14 oed sy'n ei wisgo drosta i yn y llun, felly mae o'n llusgo tipyn mwy nag y dylai. Mae'n ymddangos bod sashiau'n ffasiynol ymysg priodferched dyddiau hyn.

Rwan, rhaid i mi ddechrau crafatiau.

Monday, May 26, 2008

penblwydd priodas



Mae'n ddrwg gen i, Corndolly ond mi na i bostio am fwyd eto! Mi es i a'r gwr allan i dyˆ bwyta i ddathlu'n penblwydd priodas ni heno (26 mlynedd.) Mi aethon ni i Chili's yn y dre a chael pysgod efo llysiau a reis. Roedd y gerddoriaeth yn rhy swnllyd ond roedd y bwyd yn dda. Mi gaeth y plant bitsa adre.

Sunday, May 25, 2008

pump - five?

Wrth i mi ddarllen newyddion BBC Wales gynnau bach, mi des i ar draws pennawd rhyfedd iawn :
"Fire crews help pump out flood water from the Hay festival site..."
Mi nes i ddehongli yn fy meddwl bod criw tân wedi helpu PUMP o bobl allan o'r dwr...
Dyna beth sy'n digwydd weithiau pan ddysgwch chi Cymraeg!

Saturday, May 24, 2008

dathlu




Mi nes i swper arbennig i ddathlu'r achlysuron mawr i'r ddau o'r plant. Dim cyri y tro ma ond gyoza, bwyd Tseineaidd sy'n debyg i ravioli a chacen wen efo mefis, ciwis a Cool Whip oedd y saig. Roedd y plant iau'n awyddus i helpu paratoi gyoza. Roedd popeth yn flasus a phawb yn hapus.

Friday, May 23, 2008

seremoni arall



Heno mi naeth fy mab hyna raddio yn yr ysgol uwch (high school.) Cynhaliwyd y seremoni yn stadiwm y brifysgol leol. Y dweud y gwir dyma'r tro cynta i mi weld seremoni raddio mewn ysgol gyhoeddus. Roedd hi braidd yn ddiddorol achos bod hi mor wahanol i'r rhai yn Japan.

Mae seremoniau graddio yn Japan yn ddifrifol iawn ac dim ond y rhieni neu famau sy'n eu mynychu. Ond swnllyd dros ben ydy'r rhai Americanaidd. Ac mae llawer o ffrindiau heb sôn am berthnasau'n eu mynychu. Maen nhw fel partion mawr.

Beth bynnag, roedd pawb yn hapus ac mi aethon nhw adre mewn ysbryd llawen.

Thursday, May 22, 2008

nippon 4 (dolen yma)

Dyma berfformiad arall gan fyfyrwyr Japaneaidd. Maen nhw'n canu caneuon amine (dyma fo, Asuka!!) Gobeithio gwnewch chi fwynhau.

Wednesday, May 21, 2008

seremoni raddio



Mi naeth fy merch 14 mlwydd oed raddio yn yr ysgol (junior high) neithiwr. Roedd 'na seremoni a drama gan yr holl blant. "Amerikids" oedd enw'r ddrama efo cymaint o ganu. Mi naethon nhw'n dda iawn a phawb mwynhau. Yna, roedd rhaid iddyn nhw gael bisgedi wrth gwrs. Mi ddechreuodd gwyliau'r haf heddiw.

Tuesday, May 20, 2008

mi gaethon ni fraw!

Roedd un o'r moch cwta, Puzzle'n wael yn sydyn neithiwr. Mi naeth fy merch hyn ffonio milfeddyg ond fedrai hi ddim cael apwyntiad tan y bore wedyn. Roedden ni i gyd yn ofni bod Puzzle'n mynd i farw.

Roedd fy merch yn dal i rwbio bol Puzzle am awr. Yna, mi ddechreuodd hi'n edrych yn well ac roedd hi'n hollol iawn erbyn i ni fynd i'r gwely. "Gas in the tummy" oedd yr achos, mae'n debyg. Ond weithiau gallai hynny ladd moch cwta! Cael y chael.

Sunday, May 18, 2008

mynd i muskogee

i brynu ffrogiau ar gyfer y briodas. Mi aeth y merched i gyd i ganolfan siopa yn Muskogee. Mae 'na siop sy'n gwerllu ffrogiau'n rhad iawn. Roedd yn anodd cael hyd i un priodol. O'r diwedd mi nes i ddewis un sy'n cael ei haprofi gan fy merch hyna. Mi brynes i esgidiau, bag llaw a dwy ffrog i'r ddwy fydd yn "flower girls" yn y seremoni. Dim ond $65 naeth popeth yn costio! Bargen fawr!

Roedd yn hwyr a dôn i ddim isio coginio swper ar ôl dwad adre. Felly i Taco Bell aethon ni i brynu swper. Dw i wedi blino ond yn falch mod i'n medru prynu popeth sy'n angen.

Saturday, May 17, 2008

cawod briodas


Mi naeth tua 20 ddwad i dyˆffrind i gael parti bach i fy merch a'i ffianse. Mi brynodd y ffrind gacen ynfawr ar achlysur. Roedd fy merch wrth hi bodd agor nifer o anrhegion.

Yna mi aethon ni i gael swper mewn ty bwyta Eidalaidd, Napoli yn y dre. Roedd y bwyd yn flasus ond braidd yn fras. Mae'r gweinyddion yn dwad o'r Eidal, ac roedd un ohonyn nhw'n byw yng Nghaerdydd am flwyddyn yn gweithio mewn ty bwyta yno! (Mi sylwodd o grys Bluebirds oedd fy ngwr yn gwisgo.)

Mi gaethon ni goffi yn ein ty wedyn. Yna aeth rhieni ffianse fy merch adra. Bydd rhaid iddyn nhw yrru dros bedair awr. Ac aeth y plant hyn i weld Prince Caspian yn y sinema.

Dirwnod hir oedd hi. Dw i'n falch bod popeth wedi mynd yn iawn.

Thursday, May 15, 2008

panig!

Mi neith teulu ffianse fy merch yn dwad ddydd Sadwrn i fynd i gawod briodas iddi hi, y rhieni ac un o'r brodyr a'i wraig. Dôn i ddim yn disgwyl achos bod nhw'n byw yn bell. Ond dwad maen nhw.

Dw i wedi bod yn tacluso a glanhau'r wythnos ma. Rôn i'n sgwrio drws y garej a'r canllawiau heddiw. Mi gaethon nhw eu troi'n wyrdd gan y paill. Mae 'na lanast ofnadwy naeth y plant ym mhob man. Well iddyn nhw dacluso! Ac well i fy mab dorri'r lawnt.

Fydd dim rhaid i mi baratoi pryd o fwyd yn ffodus. Mi nawn ni fwyta allan. Ond dw i'n siwr na i eu gwahodd nhw'n ty ni.

Wednesday, May 14, 2008

cerdded allan





O'r diwedd! Mae blodau'r derwen wedi disgyn i gyd, ac mae lefel y paill yn isel heddiw ar ôl rhagolygon y tywydd. Mi es i am dro am y tro cynta ers tri mis. Roedd y dail mor wyrdd wedi cael eu golchi gan y glaw p'nawn ma. Roedd gan bopeth olwg newydd i mi er mod i'n cerdded yr un ffyrdd ger fy nhy. Weles i neb. Mi glywes i gân adar. Mi glywes i arogl glaw. Bendith.

llun cynta: afalau bach bach

Tuesday, May 13, 2008

aderyn coch


Yn aml iawn mi fydda i'n cael fy neffro gan canu aderyn yn y bore. Cardinal ydy o. Mi fydd o'n galw'i gymar yn llais perseiniol.

Mi nes i glywed un arall p'nawn ma. Roedd o'n clwydo ar linell drydan yn yr ardd gefn. Dot goch drawiadol ymysg dail gwyrdd oedd o. Mi yfaeles i yn fy nghymera a thynnu lluniau wrth feddwl am fy mlog. Dydy'r llun ma ddim cystal ag un gan Peggi ond dyma fo beth bynnag.

Monday, May 12, 2008

pregeth ddydd mamau

Es i ddim i'r eglwys ddoe achos mod i ddim yn teimlo'n dda. Mi nes i wrando ar wasanaeth ar y radio. Roedd y Parch Irwin Lutzer yn pregethu fel arfer. Mamau oedd y pwnc wrth gwrs.

Yn ystod ei bregeth mi naeth o ddweud hanesyn am fam achubodd ei babi gan rapio ei chôt o'i gwmpas mewn storm eira. Buodd hi farw ond mi gaeth o'i achub oherwydd ei fam. Pwy oedd y babi ond David Lloyd George!

Mi ges i sioc pan ddwedodd o'n gynta, "In Wales, there was a mother...." Falch mod i wedi cael gwrando ar bregeth ma.

Sunday, May 11, 2008

pen wythnos


Mae un o'r myfyrwragedd Japaneaidd yn aros efo ni am ddwy noson achos bod nhw i gyd i fod i adael llety y brifysgol neithiwr ond mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n hedfan i Japan ddydd Llun. Felly roedd rhaid iddyn nhw cael hyd i lety dros dro.

Ac mi aeth dau fyfyriwr i dreilio p'nawn Sul efo ni. Mi gaethon ni bitsa a chawl Japaneaidd (past ffa soya, tohu ayyb.) Maen nhw wrthi'n chwarae Play Station ar hyn o bryd.

Mi fydd y dre'n eitha tawel am dri mis wedi i'r myfyrwyr fynd ar wyliau.

Saturday, May 10, 2008

cesair!



Mi ddechreuodd fwrw cesair yn sydyn heddiw. Roedd yn swnio fel tasai cerrig yn taro ein to ni. Yna stopiodd yn gwta ar ôl pum munud. Roedd fy mhlant wrth eu bodd ac isio cadw dau darn yn y rhewgell.

Friday, May 9, 2008

fideo calcwlws

Mi naeth fy mab a'i ffrind fideo calcwlws. Fo ydy'r hogyn wedi'i ddrysu. Mi naeth ei ffrind bopeth arall gan gynnwys canu. Eu hathrawon go iawn ydy'r ddau yn y fideo. Dw i ddim yn dallt calcwlws ond mae'r fideo'n ddigon difyr.

Thursday, May 8, 2008

gwastraff bwyd

Mae bwyd gwerth miloedd o bunoedd yn cael ei wastraffu bob blwyddyn ym Mhrydain ar ôl y newyddion diweddara. Mae hyn yn wir yn unryw wlad orllewinol.

Yr hyn fy aflonyddu i ydy gwastraff bwyd gan unigolion yn hytrach na thai bwyta a siopau. Mi ges i fy magu gan fy mam sy wedi mynd trwy'r Ail Rhyfel Byd, ac fedrith hi ddim diodde unrhyw wastraff. Dw i wedi pasio'r arfer i fy mhlant. Felly maen nhw'n cael eu aflonyddu hefyd wrth weld plant eraill daflu bwyd da i'r bin yn yr ysgol. Yn ein ty ni, yr unig bwyd sy'n cael ei daflu ydy un drwg. Hyd yn oed pan nawn ni fwyta allan, mi fydda i'n gwneud yn siwr bod pob disgl yn wag cyn gadael.

Wednesday, May 7, 2008

rhaid i mi brynu ffrog

I wisgo ym mhriodas fy merch hyna ym mis Mehefin. Sgen i ddim ffrogiau o gwbl. Mi es i i'r dre heddiw i chwilio am un addas er bod gas gen i siopa am ddillad. Methes i'n llwyr. Dw i'n byw yng nghefn gwlad Oklahoma wedi'r cwbl. Does 'na ddim canolfan siopa ond Wal-Mart, Lowe's, Reasor's ac ychydig o siopau eraill. Mi fydd rhaid i mi fynd i dre fawr ond faswn i ddim isio mynd i Tulsa. Mae'r dre na'n rhy fawr. Mi faswn i ar goll heb os. Dw i'n meddwl mynd i Muskogee, tre arall sy'n llawer llai na Tulsa ond mwy na'r dre ma. Wel, gawn ni weld.

Tuesday, May 6, 2008

maen nhw'n ddel!



Ydyn! Maen nhw mor annwyl ac wedi tyfu'n barod mewn diwrnod. Sgynny nhw ddim ofn pobl o gwbl. Mae fy mhlant wrth eu bodd eu anwesu. Dydy eu mam ddim yn meindio ac mae hi'n cael gorffwys tra fydd fy mhlant yn gwarchod ei babis.

Monday, May 5, 2008

babis eto!


Mi gaeth un o'r moch cwta dri babi y bore ma. Roedden nhw'n wlyb ar y pryd ond maen nhw'n sych bellach ac yn iach ac annwyl iawn. Mae fy merch hyn sy'n biau nhw yn gwirioni arnyn nhw. Roedd hi'n bwriadu rhoi nhw i ffwrdd mewn wythnosau ond dydy hi ddim yn edrych yn rhy siwr ar ôl gweld pa mor ddel ydyn nhw! Gobeithio medrith hi ffeindio cartrefi da iddyn nhw. Mae pedwar yn ddigon!

Sunday, May 4, 2008

parti bach



Mi naeth ffrindiau roi parti bach p'nawn ma i fy mab hyna a dwy arall bydd yn graddio yn yr ysgol uwch ac yn y brifysgol leol y mis ma. Roedd 'na ugain yn fflat bach y ffrindiau ac mi gaethon ni amser da. Mi es i i'r fflat yn gynt a helpu'r wraig.

Mi ges i gamera digidol yn anrheg Ddiwrnod Mamau neithiwr (wythnos yn gynharach) gan y gwr. Rôn i'n meddwl gofyn iddo brynu un yn ddiweddar, felly dw i wrth fy modd! Dyma rai lluniau.

Saturday, May 3, 2008

monitor cyfrifiadur newydd



Mi naethon ni brynu monitor cyfrifiadur newydd heddiw! Hwre! Mae'r hen fonitor yn naw mlwydd oed ac mae o wedi bod yn actio'n rhyfedd iawn yn ddiweddar. Mae gan yr un newydd sgrin llydan ac mi fedra i edrych ar ddau dudalen ochr wrth ochr. Ella bod pawb arall yn gyfarwydd â sgrin llydan ond mae o mor hyfryd i mi.

Thursday, May 1, 2008

rheithgor

Prin mod i'n defnyddio'r gair ma ond rhaid i mi wneud hyn heddiw. Mi ges i fy ngwysio i'r llys dosbarth i wneud gwasanaeth rheithgor. Mae'r llythyr yn dweud bod gan bob dinesydd ddyletswydd i wasanaethu ar reithgor. Dim dinesydd Unol Daleithiau America dw i ond dinesydd Japan a mewnfudwr cyfreithlon.

Mi ffonies i glerc y llys yn esbonio, a swniodd hi'n ddigon annifyr. 'Na drueni. Mi fasai gwasanaethu ar reithgor yn brofiad unigryw i adrodd yn fy mlog i.