Sunday, December 30, 2007

digon o ddeunydd dysgu

Dw i mor hapus bod gen i ddigon o ddeunydd dysgu Cymraeg ar hyn o bryd yn ogystal â Radio Cymru, sef y deg nofel Cymraeg a Chwrs Pellach.

Uned 3 (gorffennaf syml) dw i'n gweithio arni hi rwan. Mi ddylwn i fod wedi meistroli'r pedair berf afreolaidd erbyn hyn. Mi fedra i sgwennu rhywsut ond maen nhw'n dal i fy nrysu pan dw i'n siarad. Felly mae'n gyfle da i mi adolygu yn enwedig efo'r CD.

Mae'r titwtor ar ei gwyliau tan y 7ed o fis Ionawr. Does dim brys arna i ond mae'n rhy hwyl i beidio.

Thursday, December 27, 2007

cymry yn uda

Mae na raglen Radio Cymru ddiddorol yr wythnos ma, sef JPJ yn yr UDA. (Does dim angen "yr" o blaen "UDA", nag oes?) Mae John yn holi rhai Cymry sy'n byw yn UDA gan gynnwys Carwyn Edwards a dysgwyr o Gynghrair Cymreig Arizona.

http://www.bbc.co.uk/radio/aod/mainframe.shtml?http://www.bbc.co.uk/radio/aod/cymru_promo.shtml

Dw i wedi sylwi bod John yn siarad yn araf ac yn glir pan siaradodd o â'r dysgwyr! Ac rôn i'n ddeall yn dda!

Wednesday, December 26, 2007

diwrnod hyfryd

Mi ges i ddiwrnod hyfryd ddoe efo'r teulu yn agor anrhegion, cael cinio Nadolig a gwilio The Nativity.

Dw i'n gyffro i gyd am y naw lyfr. Maen nhw'n edrych yn ddiddorol iawn. Efallai na i ddarllen tipyn o bopeth yr un pryd!

Roedd rhaid i mi ddechrau pobi 7:30 yn y bore ddoe am mod i wedi anghofio gwneud pwdin Nadolig! Mi ges i rysait Cymreig oddi wrth ffrind yn Abertawe dwy flynedd yn ôl. Hen rysait ydy hi (1930.) Roedd y pwdin yn flasus ond mi naeth hi lynu wrth y ddysgl a thorri'n ddau!

Mi neith fy merch a'i dyweddiwr fynd yn ôl heddiw. Dan ni'n edrych ymlaen at eu priodas ym mis Mehefin nesa efallai.

Monday, December 24, 2007

babi bach mewn ystabl

Mi ddes i a'r teulu adre'n ddiogel p'nawn ma wedi treulio amser hyfryd efo fy merch a'i dyweddiwr. Mi ddôn nhw yfory i ddathlu'r Nadolig efo ni.

Mi aethon ni i'r eglwys am wasanaeth Noswyl Nadolig heno. Roedd na gymaint o ganu a drama wreiddiol gan y bobl ifanc yn lle pregethu. Roedd hi'n arbennig o dda. Mi naeth hi wneud i mi feddwl unwaith eto am yr hyn mor anhygoel bod Duw Hollalluog wedi cael ei eni fel babi bach diymadferth mewn ystabl droston ni.

Sunday, December 23, 2007

diwrnod hir

Mi naethon ni gyrraedd y ganolfan siopa heb drafferth ddoe. Pan welon ni fy merch a'i chariad, dyma hi'n dangos ei llaw chwith i ni i gyd. Sgleiniodd ar ei bys modrwy ddiemwnt bach! Gofynodd ei chariad iddi ei briodi echnos. Doedd hyn ddim yn syndod o gwbl achos bod ni wedi gwybod bod nhw isio priodi. Cwestiwn oedd pryd basen nhw'n penderfynu.

Roedd y plant hyn yn awchus iawn i fynd i siopa, ond doedd gen i ddim diddordeb o gwbl. Mi nes i eistedd yn nghadair gyffyrddus a darllen llyfr ges i oddi wrth Dogfael sef O Drelew i Dre-fach gan Marged Lloyd Jones. Hanes Cymry allfudodd i Batagonia ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bumtheg oedd o. Dw i erioed wedi darllen am y hanes yn ddwys ond mae'n ddiddorol iawn. Mi ga i wybod amdano fo trwy'r llyfr, dw i'n siwr.

Roedd y ganolfan yn llawn o bobl ac roedd hi'n cymryd mwy na hanner awr i fynd allan o'r maes parcio. Wedyn, cawson i swper mewn bwyty Mecsicanaidd. Roedd popeth yn flusus iawn.

Ar ôl cyrraedd fflat fy merch, roedd yn hir iawn nes i mi a'r merched fynd i'r gwely. Roedd rhaid i ni glywed y malylion pan ofynodd o iddi hi ei briodi. Mi aeth y gwr a'r bechgyn i dy^ dyweddiwr fy merch.

Friday, December 21, 2007

cig byfflo

Mi ges i a'r gwr ein gwahoddiad i fwyta mewn bwyty gan y dynion Japaneaidd neithiwr. Bwyty cig byfflo ydy o ac mae'n eitha enwog yn y dre. Prin bod ni'n cael mynd yno achos fod o'n uwch na'n cyllideb ni.

Roedd y bwyty bron yn llawn. Mi gaethnon ni fwrdd clyd yn ymyl y lle tân. Mi ges i stecen fach, salad, ffa, rhôl a hanner pastai afal a mwyaren. Roedd popeth yn flasus iawn.

------

Na i a'r teulu fynd i ymweld â'm merch hyna dros y Sul. Mae hi'n byw yn ninas fawr tua 300 o filltiroedd i ffwrdd. Dan ni'n mynd i wneud y gwaith siopa Nadolig mewn canolfan siopa yno p'nawn Sadrwn. Mi awn ni i eglwys fy merch bore wedyn. Dan ni ddim yn siwr beth i'w neud p'nawn Sul. Mi ddown ni adre p'nawn Noswyl Nadolig.

Thursday, December 20, 2007

uned 1 yn ol

Mi ges i Unel 1 yn ôl o'r diwedd wedi i'r tiwtor ei farcio. Mae Uned 1 braidd yn hawdd ond dw i isio gwneud yn siwr mod i wedi dysgu'n iawn. Wedi'r cwbl, dw i wedi dysgu ar ben fy hun. Mi nes i'r holl gwestiynau i fynd efo Bywyd Blodwen Jones ar ddamwain. Roedd 'na 13 o dudalennau.

Roedd bron popeth yn iawn ond dôn i ddim yn gwybod bod gan 'dwyn' fôn afreolaidd - dyg. Felly dim 'dwynwyd' ond 'dygwyd.'

Mi nes i orffen Uned 2 a'i yrru fo at y tiwtor yr wythnos diwetha. Rwan, mae gen i Uned 3 (y gorffennol syml.) Rhaid i mi atal fy hun rhag gwneud gormod. Mae'r tiwtor ar ei gwyliau tan y 7ed o fis Ionawr. Dw i'n bwriadu gweneud gwaith siarad y tro ma yn lle gwaith sgwennu paragraff. Na i yrru tâp caset ati hi.

Mae'n wych bod gen i diwtor!

Wednesday, December 19, 2007

gwesteion i ginio

Mi ddaeth ddau ddyn o'r cwmni yn Japan i wneud y gwaith ymchwilio efo fy ngwr yr wythnos ma. Mi naethon ni eu gwahodd nhw i gael cinio bach efo ni heddiw. Coginies i gyri (eto.) Roedden nhw'n hapus gan eu bod nhw wedi bwyta gormod o gig a bara ers iddyn nhw gyrraedd. Roedden nhw'n ysu am reis plaen. (Mae'r rhan fwya o'r bobl yn Japan yn bwyta reis plaen bob dydd.)

Dw i'n teimlo braidd yn nerfus pan dw i'n coginio dros bobl Japaneaidd oedrannus achos dw i ddim yn coginio bwyd Japaneaidd yn ddilys. O wel, mi nes i fy ngorau.

Tuesday, December 18, 2007

y ddraig goch ar fy nghar i


Mi nes i dderbyn sticer bymper oddi wrth Corndolly ddoe. Dyma fy nghar i! Mi es i i Wal-Mart ynddo fo p'nawn ma.

Sunday, December 16, 2007

radio cymru

Dw i'n hoffi gwrando ar Radio Cymru bob dydd er mod i ddim yn deall popeth. Weithiau dw i ddim yn deall dim byd ar wahan i rai geiriau yma ac acw. Mae'n dibynnu ar raglenni. Dw i'n deall newyddion mwy na rhaglenni eraill. Dyma'r rhestr raglenni dw i'n gwrado arnyn nhw:

Post Cyntaf
Taro'r Post
Bwrw Golwg
Dal i Gredu
Oedfa'r Bore
Clasuron
Beti a'i Phobol
Manylu
Papur a Phaned
John ac Alun

Fy hoff gyflwynydd ydy Dyfan Tudur. Dw i wrth fy modd yn gwrando ar ei Gymraeg. Ac mae 'na ohefydd dw i'n chlywed o dro i dro. O, mae ei hacen ogleddol mor ddeniadol. Dw i isio siarad yn union fel hi. Dw i'n meddwl mai Carol Owen ydy'r enw, ond dw i ddim yn hollol sicr. Roedd yn gofyn i hogan fach pam oedd hi'n hoffi stori genedigaeth Iesu ym Mwrw Golwg.

Saturday, December 15, 2007

miss p i swper

Mi gaethon ni Miss P, tiwtor Ffrangeg fy merch i swper heno. Cenades yn Ffrainc am 38 mlynedd oedd hi. Roedd hi'n gweithio ger Paris yn bennaf ac mae hi newydd ymddeol. Roedd yn hwyl clywed ei hanes. Pan oedd hi'n dysgu Ffrangeg yn Ffrainc cyn cychwyn gwaith yr Efengyl, roedd hi'n ceisio dysgu'r ynganiad yn ofalus. Mae hi'n swnio'n ardderchog (dw i'n meddwl.) Dydy hi ddim yn nabod neb sy'n siarad Ffrangeg yn y dre ma. Felly mae hi'n siarad yr iaith ar Skype.

Mae'r tywydd wedi bod yn arw. 25F(-5C) ydy hi rwan. Gobeithio na ddoith storm iâ.

Friday, December 14, 2007

sgwennu cymru yn japaneg

Mae 'na dair ffordd wahanol i sgwennu yn Japaneg. Un mwya anodd ydy defnyddio 'kanji' - llythrennau Tseineaidd. Mae gan pob llythyren ystyr. Fel arfer maen nhw'n sgwennu ウェールズ ar ôl 'Wales' gan ddefnyddio 'katakana' - un o'r ddwy ffyrdd haws. Dw i wedi gweld bod rhai pobl yn ceisio sgwennu 'Cymru' yn 'kanji'.

神夢里 - bro lle mae duwiau yn breuddwydio ynddi

Mae gen i syniad gwell:

冠 - coron

Mae hon yn gryno ac dw i'n hoffi ystyr y llythyren. Dw i'n siwr bod neb arall wedi'i defnyddio hi am Gymru.

Thursday, December 13, 2007

y tywysog charles

Mi nes i glywed y Tywysog Charles yn darllen ei neges Nadolig yn Gymraeg. Ddim yn ddrwg! Ond hoffwn i fod wedi clywed yr holl neges. Well gen i beidio dadlau ydy hi'n iawn iddo brynu ty yng Nghymru neu beidio. Ond chwarae teg iddo; rhaid i mi gymerydwyo fod o wedi gwneud ymdrechu dysgu Cymraeg.

Tuesday, December 11, 2007

llanerchymedd

Roedd Llanerchymedd, pentre bach yn Ynys Môn yn y newyddion yn ddiweddar. Er roedd o'n eitha trist, naeth o fy atgoffa i mod i wedi ceisio yngannu'r enw drosodd a throsodd o'r blaen er mwyn ymarfer y tri catsain Gymraeg, sef ll, r, ch.

Monday, December 10, 2007

sgwrs efo simon

Mi ges i lawer o hwyl adrodd fy siwrnau yng Nghymru ac dw i'n teimlo tipyn yn drust mod i wedi gorffen. Ond mae 'na amser i bopeth dan y nef.

Siarades i Gymraeg a Japaneg ar Skype bore ma. Mi ges i sgwrs fach efo Simon Agar, y dyn ieithoedd.

http://www.omniglot.com/

Roedd o'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol haf yn Llanbed tra ô'n i yn un ym Mangor ym mis Mehefin. Mae ei Japaneg yn dda er fod o'n gwadu. Dw i ddim yn gwybod sut mae un yn medru dysgu nifer o ieithoedd ar un pryd. Does dim lle ar ôl yn fy mhen i ddysgu ieithoedd eraill!

Gofynes i ba iaith ydy'i ffefryn.
"Cymraeg"
Da iawn, Simon! ^_^

Sunday, December 9, 2007

atgofion o gymru 27


Mi aeth popeth yn iawn ar y siwrnau adre. Dôn i ddim yn gwybod am y trafferth enfawr yn Heathrow oni bai bod Dogfael wedi rhoi gwybod i mi wedyn.

Mi ges i fynd i Gymru am y tro cynta erioed. Profiad arfennig oedd y siwrnau. Mi nes i gyfarfod llawer o bobl glên. Roedd y mynyddoedd a chymoedd yn braf, ond mae'r bobl fel na sy'n fwya cofiadwy i mi.

Gobeithio ca i fynd eto. Yn y cyfamser, dw i'n dal i ddysgu Cymraeg. Ac dw i'n mwynhau!

Saturday, December 8, 2007

atgofion o gymru 26

Mi nes i ddal y trên o Gaerdydd bore wedyn. Y cynllun oedd mynd i Orsaf Paddington a dal y Tiwb. Basai rhaid i mi newid eto yng Ngorsaf Green Park cyn cyrraedd Heathrow.

Rôn i'n edrych ar fap Prydain yn y trên llawn. "I live here," meddai'r dyn eisteddodd yn fy ymyl wrth bointio ar Gaerfyrddin. "Dach chi'n siarad Cymraeg?" gofynes i. Ydy! Cymro Cymraeg o Sir Caerfyrddin!! Prynodd o gar Heddlu Los Angeles ar y we a mynd i'w nôl yn Llundain. Ac roedd ei ferch yn dysgu Japaneg yn Japan! Roedd yn gwybod tipyn o eiriau Japaneg ac yn gofyn i mi gwestiynau. Mi nes i ddysgu Japaneg drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cynta erioed!

Wrth i ni nesau at Orsaf Redding, dwedodd o bod 'na fws uniongyrchol o Redding i Heathrow. Basai fo'n llawer cyfleus na fy nghynllun gwreiddiol. Penderfynes i ddal y bws. Roedd rhaid i mi gasglu popeth, ddweud "diolch yn fawr" wrtho a gadael y trên ar frys. Doedd gen i ddim amser i ofyn ei enw!

Friday, December 7, 2007

atgofion o gymru 25


Rôn i'n cerdded yn 'Sofia Garden' cyn mynd i Fochyn Du i gyfarfod ffrind rhyngrwyd arall. Roedd 'na lawer o flodau braf yma ac acw gan gynnwys 'hydrangea.' Maen nhw'n blodeuo'n llu yn Japan yn ystod tymor y glaw ym mis Mehefin.

Pan gyrhaeddes i'r dafarn am chwech o'r gloch, roedd y lle'n llawn dop. Doedd 'na ddim lle i sefyll hyd yn oed. Ar ôl aros am hanner awr heb weld y ffrind, mi nes i adael heb fwyd na diod. Prynes i swper mewn siop fach ger fy llety a'i fwyta yn fy stafell. Clywes i wedyn fod o a'i wraig yn dwad i'r dafarn yn llawer hwyrach na fi.

Thursday, December 6, 2007

atgofion o gymru 24


Daeth Arfon yn ei gar i'm casglu o'r orsaf. Mae o a'i deulu'n byw mewn ty teras twt yn y faestref. Mi nes i gyfarfod ei wraig ac eu merch fach arall. Dysgwraig ydy gwraig Arfon, ond mae hi'n hollol rugl bellach. Mae'r merched yn mynd i'r ysgol Gymraeg a dim ond Cymraeg maen nhw'n siarad yn y ty. BENDIGEDIG!! Naeth hi baratoi cinio blasus iawn.

Aeth yr holl deulu â fi i siop lyfrau Cymraeg tua milltir i ffwrdd ar ôl cinio. Peidioedd y glaw am sbel, felly pederfynon ni gerdded. Dymunol iawn oedd y siwrnau fer. Mi brynes i "Y Ffordd Beryglus" gan T.Llew Jones.

Roedd pawb mor gyfeillgar ac yn siarad Cymraeg drwy'r amser. Mi ges i amser anhygoel o dda. Gweddiodd Arfon yn Gymraeg drosta i a dros fy nheulu cyn i mi fynd.

Wednesday, December 5, 2007

atgofion o gymru 23


Fedrwn i ddim cwyno bod y llety'n ofnadwy. Dim ond £13 y nos oedd o. Roedd rhywun yn chwarae cerddoriaeth swnllyd drwy'r nos tan chwech yn y bore wedyn. Rôn i'n ddiogel a ches i ddigon o ddwr poeth am gawod o leia.

Glaw glaw a mwy o law bore trannoeth. Rôn i'n gobeithio mynd i Sain Ffagan ond nes i roi gorau i'r syniad ar ôl colli'r bws cynnar. Yn lle, es i i siopa am anrhegion i'r teulu nes i mi ymweld ag Arfon a'i deulu.

Mi ges i hyd i siop Bluebirds. Roedd y rhan fwya o'r pethau ar sêl. Prynes i grysau (£10 yr un) i'r gwr a'r mab hyna sy'n hoffi pêl-droed. Mi ddylwn i fod wedi prynu rhywbeth i mi fy hun hefyd!

Tuesday, December 4, 2007

atgofion o gymru 22

Diolches i i fy Arglwydd Iesu! Mi aeth dyn hynaws yn ei olwg â fi i tu mewn. Rôn i'n eistedd yn yr eglwys efo gollyndod enfawr ond teimlo tipyn yn annifyr am fod rhaid pawb wedi clywed swn uchel fy ymbarel ar y drws haearn!

Daeth Arfon ata i chwap ar ôl yr Oedfa. Mi nes i ddweud wrtho fo beth oedd wedi digwydd ac yn y blaen wrth yfed te mewn stafell arall yn yr islawr. Clywes i bod rhaid iddyn nhw gloi'r drws tra fod nhw'n cynnal oedfeuon rhag fandaliaeth. Roedd o'n glên iawn union fel ei negesau e-bost, ac yn siarad yn araf ac yn glir â'i acen Gogleddol hyfryd. Mi nes i gyfarfod pobl eraill yr eglwys hefyd.

Daeth o ag un o’i ferched ifanc â fi i fy llety yn Roath yn ei gar wedi fy ngwahodd i’w dyˆ am ginio y dirwrnod wedyn.

Monday, December 3, 2007

atgofion o gymru 21


Rôn i i fod i fynd i Oedfa'r Nos yn Ebeneser yn Heol Siarl i gyfarfod Arfon Jones. Dw i wedi bod yn cysylltu â fo ers dechrau dysgu Cymraeg. Swyddog GIG (Gobaith i Gymru) a golygydd Beibl.net ydy Arfon.

Roedd yn edrych yn hawdd iawn cael hyd i'r eglwys ar ôl y map. Ond fedrwn i ddim. Doedd 'na ddim arwyddion stryd. Roedd fy map yn dda i ddim, ac roedd yn ymddangos bod y bobl leol yn anymwybodol o enwau stryd. Rôn i ar goll yn llwyr.

Ar ôl crwydro o gwmpas y ddinas wrth gofyn i nifer o bobl am y cyfeiriad, gweles i ddyn efo gwasgod felen. (Dim heddwas oedd o ond roedd pawb efo gwasgod felen yn edrych fel tasai fo'n medru'ch helpu!) Siwr iawn, roedd o'n nabod y stryd! Angel arall rhaid fod wedi!

Roedd 'na ddwy eglwys yn Heol Siarl, un Pabyddol a'r llall heb arwydd. Mi es i at un heb arwydd. Roedd y drws dan glo. Cnocies i. Dim ateb. Roedd bron i mi roi'r gorau a mynd i fy llety yn Roath. Ond mi nes i gofio'r geiriau, "Curwch a bydd y drws yn cael ei agor." Dechreues i guro'r drws efo fy ymbarel. Yna, agorodd y drws!

Sunday, December 2, 2007

atgofion o gymru 20

Bydd hi'n cymryd pedair awr i Gaerdydd a fydd 'na ddim amser i fynd i'r ty bach, meddai garrwr y bws. Mi nes i benderfynu mynd i Gaerfyrddin a dal y trên yno er basai hi'n costio llawer mwy. Aeth y bws yn gyflym iawn yn y glaw. Stopiodd y bws mewn dre fach yn sydyn. Yna, aeth y gyrrwr i'r ty bach cyhoeddus ar frys! Dana annheg!

Mi ddaeth nifer o bobl ifanc i mewn i lenwi'r bws pan gyrhaeddon ni Llanbedr Pont Steffan. Mi ges i sgwrs bach ag un o'r merched gyfeillgar a bywiog. Roedden nhw'n dwad o Awstria ac yn mynd i Gaerdydd ar ôl treiluo sawl wythnosau yn Llanbed.

Mi nes i ddal y trên a chyrraedd Caerdydd yn ddiogel tua chwech o'r gloch. Peidiodd y glaw erbyn hyn.

Saturday, December 1, 2007

atgofion o gymru 19


Roedd yn tro cynta i mi fynd i wasanaeth Anglicanaidd. Rôn i braidd yn syn bod 'na ddim llawer o wahaniaeth rhyngddo fo a'n un ni yn Oklahoma (Evangelical Free Church.) Un peth rôn i'n sylwi oedd bod nhw wedi sefyll yn gydamserol i ganu pob emyn.

Dôn i ddim yn deall y bregeth (yn Gymraeg) yn dda ond roedd hi'n hyfryd cael addoli Duw efo'r bobl na. Mae 'na gymaint o ieithoedd yn y byd. Ac eto mae'r holl Gristnogion yn credu ac yn addoli'r un Duw.

Mi naeth Dogfael fy nghyflwyno i lawer o bobl yno. Roedd pawb yn glên iawn siarad â fi.

Mi ges i amser braf yn Aberystwyth er gwaetha'r glaw. Yna, cerddes i at yr orsaf i ddal y bws i Gaerdydd.

Friday, November 30, 2007

gwales.com

"Cludiant post awyr am ddim ar bob archeb dramor gwerth dros £40" Mi nes i dderbyn cynnig arbennig o dda gan Gwales.com ddoe ac archebu naw o lyfrau. Dyma'r rhestr:

Wythnos yng Nghymru Fydd gan Eslwyn F. Elis (nofel wreiddiol)
Ofnadwy Nos gan T. Llew Jones
Cyfrinach y Lludw gan T. Llew Jones
Ffair Gaeaf a Storiau Eraill gan Kate Roberts
Blwyddyn gyda Iesu gan Meirion Morris
Un Diwrnod yn yr Eisteddfod gan Robin Llywelyn
Pum Awdur Cyfoes gan Menna Baines
Catrin Jones yn Unig gan Meleri Wyn James
Syth o'r Nyth gan Janet Aethwy, Llio Silyn

Mi nes i arbed dros £20 yng ghludiant ac roedd hanner o'r llyfrau ma ar sêl!

Mae gwasanaeth Gwales.com yn hannod o dda bob tro. Maen nhw'n pacio popeth yn ofalus a'i ddanfon yr unwaith. Maen nhw'n ateb fy negesau e-bost yn syth hefyd. (Diolch i D Philip Davies!)

Na i edrych ymlaen at ddarllen y llyfrau ma i gyd.

Thursday, November 29, 2007

atgofion o gymru 18


Bore trannoeth roedd yn dda gen i weld tipyn bach o heulwen wan. Pan es i i'r stafell fwyta, roedd 'na fachgen yn ei arddegau'n gweini. Mab yn y teulu rhaid fod.

"Bore da." Fo ddechreuodd siarad Cymraeg â fi!! Rhaid bod ei fam wedi dweud wrtho wneud hyn er mwyn boddhau 'i gwestai. (Roedd o'n siarad Saesneg â'r gwesteion eraill.) Rôn i'n falch iawn.

Mi ges i frecwast da o wy, selsigen, bacwm, tomatos wedi 'u ffrio, tost a llefrith. Yna, gadawes i'r llety a mynd i Eglwys Santes Fair lle oedd Dogfael yn warden ynddi.

(llun: Savanna House)

Wednesday, November 28, 2007

atgofion o gymru 17


Mi gyrhaeddes i Aberystwyth heb drafferth. Roedd fy ysfafell yn Savanna House yn y dre'n gyffyrddus efo gwely dwbwl, ystafell ymolchi, desg, teledu (doedd gen i ddim amser i wilio.) Roedd teulu'n rhedeg y llety. Mi nes i ofyn i'r wraig ydy hi'n siarad Cymraeg. Ond na.

I'r Llyfrgell Genedlaethol es i'n syth achos bod gen i apwyntiad efo Dogfael. Roedd o'n fy nhywys i drwy'r llyfrgell, storfeydd llawn o luniau a'i swyddfa hefyd. Mi fedrwn i gael cipolwg o drysorau'r genedl gan gynnwys llawysgrif wreiddiol Kate Roberts (Traed Mewn Cyffion.) Profiad arbennig oedd hynny.

Trefnodd Dogfael i mi gyfarfod ei ffrindiau, NMD a RO yn y dre. Roedd pawb yn glên iawn siarad â fi yn Gymraeg. Ond am ryw reswm neu'i gilydd, doedd fy ymennydd ddim yn gweithio'n dda ac dôn i ddim yn deall neu siarad Cymraeg o gwbl bron. Rôn i'n teimlo'n ofnadwy achos bod nhw yno i dreilio'u hamser gwerthfawr er mwy i mi gael ymarfar fy Nghymraeg llafar. Mi nes i ymddiheuro a gadael.

Tuesday, November 27, 2007

atgofion o gymru 16


Roedd y trên yn mynd yn araf yn y glaw. Mi glywes i bod ffenestri trenau'r lein ma braidd yn fudr fel arfer ond caethon nhw wedi'u golchu gan y glaw trwm. A mi ges i weld golygfeydd hyfryd gan gynnwys Cystell Harlech, Bae Ceredigion. (Doedd 'na ddim cloddiau uchel ar hyd y reilffyrdd yma.) Rôn i'n syn gweld llu o gartrefi treiler (trailer home?) Dôn i ddim yn disgwyl eu gweld nhw yng Nghymru.

Mi nes i newid trenau yng Ngorsaf Machynlleth. Gorsaf fach a twt oedd hi. Roedd rhywun wedi gosod blodau ym mhobman. Roedd 'na lawer o bobl yn mynd i Birmingham ond doedd dim cymaint i Aberystwyth.

Roedd hi'n dal i lawio ond dôn i ddim yn teimlo'n anesmwyth wedi clywed oddi wrth Aled bod 'na ddim llifogydd ar ffordd eto.

Monday, November 26, 2007

atgofion o gymru 15


Mi adawes i'r llety heb frecwast bore wedyn achos bod rhaid i mi ddal y trên am wyth o'r gloch. Roedd hi'n bwrw'n eitha trwm. Rôn i'n cerdded wrth lusgo'r cês oedd i fod i fod yn "water-proof." Mi brynes i frecwast yn siop Spar a mynd i'r orsaf. Doedd 'na neb yno, dim lle i brynu tocynnau hyd yn oed.

Mi ddaeth y trên efo ddau gerbyd ar amser. Mi ges i'r holl gerbyd drosta i fy hun bron. Eisteddes i ar sedd wrth fwrdd a chael fy mrecwast. Yna daeth y tocynnwr. "Bore da. Dw i'n mynd i Aberystwyth," dwedes i cyn iddo gael cyfle i siarad yn Saesneg. Roedd Aled, y tocynnwr yn glên iawn. Mi naeth o ddweud popeth yn Gymraeg yn araf. Gwerthodd o docyn, Day Ranger oedd yn rhatach na'r un cyffredin weles i ar y we. Ar ôl cael tipyn o sgwrs, gofynes i gawn i dynu ei lun. "Wrth gwrs. Dim problem," meddai.

Sunday, November 25, 2007

atgofion o gymru 14

Mi ddalies i'r bws o Fangor i Borthmadog. Roedd hi'n cymryd rhyw ddwy awr. Roedd pawb yn gwybod beth oedd y safle nesa ond fi. Mi ofynes i i'r gyrrwr stopio pan gyrhaeddai Porthmadog. Roedd y golygfeydd yn fendigedig - mynyddoedd gwyrdd a llawer o ddefaid (gwlyb iawn.) Mi ges i gipolwg o ben Castell Caernarfon.

Dal y trên i Aberystwyth bore wedyn oedd y bwriad i fynd i Borthmadog. Felly doedd gen i ddim digon o amser i wneud dim ond cerdded o gwmpans y dre am awr neu ddwy. Mi ges i hyd i siop Spar a phrynu brechdan, oren ag iogwrt. Yna nes i gael picnic ar fainc maes parcio Tesco.

Ar ben y bryn oedd fy llety eto. Roedd y perchennog yn ddymunol er bod hi ddim yn siarad Cymraeg. Geordie oedd hi. Ond roedd 'na drws rhwng fy ystafell a'r un nesa, ac meddrwn i glywed pob gair roedd y teulu'n ddweud wrth ei gilydd drws nesa.

Saturday, November 24, 2007

atgofion o gymru 13


Mi aeth y dosbarth ar wibdaith i garchar Beaumaris. Doedd hi ddim yn bwrw am newid. Mi ges i lifft gan ddwy ddynes oedd yn eu saithdegau yn y dosbarth. Rôn i'n falch o gael fynd ar Bont Menai ac i Ynys Môn. Doedd y carchar ddim yn rhy ddiddorol a dweud y gwir, ond roedden ni'n cael gwrando ar y warden siarad am y carchar yn Gymraeg wrth y dosbarth am hanner awr.

Y peth gorau yn y wibdaith oedd siarad Cymraeg mwy nag erioed â'r ddwy ddynes yn y car. (Roedden nhw'n siarad Saesneg fel arfer efo'i gilydd.) Roedd yn ddifyr iawn gwrando ar eu hanes.

Mi naethon nhw â fi i Orsaf Bangor i mi ddal y bws i Borthmadog, fy nghyrchfan nesa.

(llun: Castell Beaumaris)

Friday, November 23, 2007

cinio thanksgiving

Twrci drwg ydy o wedi'r cwbl. Mi naeth o fethu dadrewi mewn pryd ddoe. Roedd rhaid i ni oherio'r cinio tan heddiw. Bydd fy merch hyna a'i chariad yn dwad p'nawn ma. Felly fydd 'na 14 o bobl yn bwyta'r pryd o bwyd heno.

Gyda llaw, mi nes i bostio Uned 1 Cwrs Pellach at fy nghwtor bore ma. Rôn i wedi hen orffen wythnosau yn ôl oni bai am y papurau ddaeth echdoe o'r diwedd. Roedd Uned 1 braidd yn hawdd ond mi nes i fwynhau gwenud y gwaith. Roedd 'na gwestiynau i fynd efo Bywyd Blodwen Jones. Dw i'n gyfarwydd â'r nofel hon ond roedd 'na ryw ddeg tudalen ac roedd rhaid i mi feddwl i'w hateb. Mi ges i hwyl ac ymarfer sgwennu da iawn.

Thursday, November 22, 2007

atgofion o gymru 12


Mae'r twrci'n dal i fod mewn twb o ddwr i ddadrewi. Felly na i flogio cyn dechrau coginio.

Noson i gymdeithasu, meddai prifdrefnydd yr ysgol haf. Mi es i efo fy ffrindiau i'r Iard Gychod ger y Pier. Ond roedd hi mor swnllyd yn y dafarn. Roedd yn anhosib i glywed dim oni bai mod i'n gweiddi ar berson yn fy ymyl. Roedd pawb arall yn cael amser da, roedd yn ymddangos. Penderfynes i adael ar ben fy hun ar ôl hanner awr. Mi ges i gipolwg o'r Pier. Yna dechreues i fy siwrnau hir yn ôl i'r neuadd.

Wrth i mi gerdded heibio i gae bach, gweles i dri bachgen bach yn chwarae pêl-droed. Mi es i atyn nhw a gofyn, "Dach chi'n siarad Cymraeg?" "Tipyn bach," atebodd un ohonyn nhw. Dwedes i, "Dw i'n dwad o America. Mae gen i fachgen bach sy'n saith oed. Mae o'n hoffi chwarae pêl-droed hefyd. Ga i dynnu'ch llun?" Roedden nhw'n sbort fel medrech chi weld uchod. (Ond roedden nhw'n gwisgo crysau anghywir!)

Wednesday, November 21, 2007

thanksgiving day

Gwyl Ddiolchgarwch ydy hi yfory. Dan ni wedi gwahodd pum myfyriwr Japaneaidd i ginio. Mi es i i siopa yn Wal-Mart bore ma a phrynu twrci mawr (19 pwys) a thair pastai (pwmpenni, pecan) ac ati. Dim ond dwy gacen gaws dw i'n mynd i wneud am bwdin.

Mi fydda i'n prynu twrci ffres fel arfer ond doedd dim ar ôl heddiw! Twrci wedi 'i rewi'n solet ydy hwn. Gobeithio bydd o'n dwrci da a chael ei rostio'n iawn yfory.

Mae gen i lawer o bethau i ddiolch i Dduw amdanyn nhw - fy ffrindiau rhyngrwyd, fy mlog, Skype, Dafydd fy angel, ac yn y blaen....

hwre dafydd!!

Dw i newydd sylwi ar neges oddi wrth Dafydd ym Mangor bore ma. Gad i mi ei dangos yma:

Emma, llythyr wedi cyrraedd trwy'r post y bore 'ma. Falch o glywed fy mod wedi creu ffashiwn argraff. Falch o gael helpu rhywyn mewn argyfwng.
Bachgen bach gafodd y wraig 8pwys 10owns fam a'r bychan yn gwneud yn gret.
Os fyddwch chi'n dod drosodd i Fangor eto i wneud y 'Cwrs Pellach' cofiwch alw draw i ddweud helo.
Dafydd. (Y porthor perffaith)

Mor hapus o glywed oddi wrthot ti, Dafydd. Diolch i ti am sgwennu, a llongyfarchiadau ar enedigaeth dy fachgen bach newydd!

Tuesday, November 20, 2007

atgofion o gymru 11

Mi nes i gerdded o gwmpas y dre ar ôl y gwersi os doedd hi ddim yn bwrw'n rhy drwm. Dringes i'r grisiau i fyny at Roman Camp a gweld golygfeydd hyfryd. Mi es i i swyddfa'r post i bostio cardiau. Dwedes i, "Post Awyr, os gwelwch yn dda." Atebodd y dyn yn Gymraeg ar wahan i bris y stampiau. Ond pan brynes i gylchgrawn mewn siop lafrau fach, dwedodd y dyn yna, "You speak Welsh very well" yn Saesneg! O, wel.

Ro'n i'n syn gweld cymaint o bethau Americanaidd yn Morrisons. A mi ges i syndod mawr pan weles i 'Yakuruto' ar silff. Diod Japaneaidd ydy hi. Rôn i'n arfer ei yfed pan ôn i'n blentyn.

Serth iawn oedd y ffyrdd yna ac roedd fy nghoesau'n brifo gyda'r hwyr. Ond roedd yn dda gen i gael gweld y dre wrth gerdded.

Monday, November 19, 2007

atgofion o gymru 10


Wrth i mi gerdded at y drws efo fy hambwrdd, mi nes i sylwi ar ddyn oedd yn eistedd yn y cornel. Edryches i arno ddwywaith. Dogfael? Rôn i wedi glwed ei lun ar ei flog. Ond mae o'n byw yn Aberystwyth. Mi nes i betruso. Oedd bron i mi fynd heb ddweud dim. Erbyn i mi benderfynu siarad â fo, roedd o'n mynd drwy drws blaen y ffreutur. Mi es i ar ei ôl.

Mi naeth Dogfael sgwennu yn fanwl am y digwyddiad yn ei flog fel mae rhai pobol yn cofio.
http://blogdogfael.org/2007/06/26/cyfarfod-gydag-emma-reese/

Dôn i ddim yn disgwyl iddo nabod fy enw a dweud y gwir. Digwyddodd popeth mor sydyn ac annisgwyl. Mi ges i gyfleoedd i siadad â fo a ffrind iddo dros swper a phanad wedyn. Dw i'n ddiolchgar wrthyn nhw am dreilio amser hir iawn siarad â fi yn Gymraeg. Ac doedden nhw byth yn troi i'r Saesneg er mod i ddim yn eu deall nhw weithiau.

Sunday, November 18, 2007

atgofion o gymru 9

Roedd 'na ryw 20 o bobl yn fy nosbarth i. Brenda o Ynys Môn oedd y tiwtor. Roedd hi'n ardderchog. Rôn i wrth fy modd yn cael dysgu mewn dosbarth am y tro cynta.

Roedd pawb yn glên ac mi ges i hwyl. Ond roedd y rhan fwya ohonyn nhw'n siarad Saesneg yn yr amser coffi ac yn y dosbarth hefyd weithiau. Roedd 'na lai fyth o gyfleoedd i siarad Cymraeg tu allan i'r ysgol haf hyd yn oed ym Mangor. Roedd yn ymddangos i mi bod Cymry Cymraeg yn amharod i siarad yr iaith â dysgwyr. Mi ddechreues i deimlo'n euog defnyddio fy Nghymraeg llai-na-rhugl.

Yna, digwyddodd rywbeth gododd fy nghalon.

Saturday, November 17, 2007

atgofion o gymru 9

Roedd gen i hanner bwrdd efo fy llety. Roedd y bwyd yn dda iawn efo digon o ddewis. Rôn i'n hoffi iogwrt Cymreig ac yn ei fwyta bob dydd.

Am ryw reswm, roedd 'na lu o bobl ifainc swnllyd yn eu harddegau yn y ffreuter. Oedden nhw'n siarad Saesneg efo acen Americanaidd? Oedden! Mi nes i ofyn iddyn nhw o le oedden nhw'n dwad. O Idaho, Arkansas, Oklahoma! Roedd un ohonyn nhw'n nabod fy nhre fach hyd yn oed! Anghredadwy. Roedden nhw'n ymweld â nifer o lefydd yn Ewrop i ddysgu gwahanol ddiwylliannau.

Friday, November 16, 2007

atgofion o gymru 8


Pan gyrhaeddes i efo fy nghês trwm y neuadd breswyl yn Ffriddoedd, doedd y lifft ddim yn gweithio. Ac ar y 7ed llawr oedd fy ystafell (yr 8ed yn UDA)!! Ond mi ges i gymorth eto, diolch i ddyn clên arall.

Wrth i mi fynd drwy drws blaen y neuadd, mi nes i gyfarfod dysgwr arall byddai'n fynychu'r ysgol haf. Pan glywodd o fy enw, dwedodd o, "I know you!" Roedd o wedi darllen fy mhostiau i grwp yahoo o'r blaen. Roedd o'n dwad o Lerpwl ac un o'r bobl clên rôn i wedi cyfyrfod yng Nghymru. Naeth o roi lifft yn ei gar i mi bob dydd yn ystod y cwrs.

Roedd 'na fyfyriwr o Chicago ar yr un llawr hyd yn oed. Mi ddaeth y tri ohonon ni'n ffrindiau da.

Roedd fy ystafell yn gyfleus iawn efo ystafell ymolchi breifat. Mi ges i olygfa fendigedig o'r ffenest hefyd. Medrwn i weld Afon Menai, Beaumaris a Llandudno. Roedd gwylanod yn hedfan yn aml. Mi weles i enfys Gymreig am y tro cynta! (Diolch i Iwan am y llun hwn.)

Thursday, November 15, 2007

llythyrau

Dyna fo. Mi nes i sgwennu llythyrau at Dafydd ac i sgwyddfa ddiogelwch y Brifysgol heddiw yn dioch am ei help enfawr. Dw i ddim yn gwybod pam nes i ddim o'r blaen. Does gen i ddim esgus. Ar ôl blogio amdano fo, mi ges i fy atgoffa i sgwennu. Gwell hywr na hwyrach. Does gen i mo'i gyfeiriad ac dw i ddim yn gwybod ydy o'n dal i weithio yno. Gobeithio bydd y llythyr yn ei gyrraedd.

Wednesday, November 14, 2007

cinio spageti


Bydd ysgol y plant yn gwerthu spageti i ginio ddydd Iau i godi pres. 'Brownies' bydd y pwdin ac mi nes i bobi rhai p'nawn ma.

Doedd gen i ddim amser i sgwennu Atgofion o Gymru heddiw, ond dyma lun Dafydd i Rhys. Os bydd unrhywun yn ei weld o, dwedwch "helo" wrtho fo drosta i. Rhaid rhoi gwobr iddo am achub estron druenus.

Tuesday, November 13, 2007

atgofion o gymru 7

Dwedodd un o'r merched bod dim llety yn Safle Normal. Ffoniodd hi rai pobl drosta i ond doedd neb ar gael. Dydd Sul ydoedd. Ffoniodd hi ddyn diogerwch. Mi ddaeth o yn syth a ffonio sawl pobl hefyd ond doedd neb yn gwybod am fy llety. Oes gen i dderbynneb oddi wrth yr ysgol haf? Gofynodd o. Roedd gen i eli haul, sbectol haul a phopeth anangenrheidiol ond y llythyr oddi wrth drefnydd yr ysgol! Mi nes i dalu am y llety yn barod, ond ydw i'n mynd i chwilio am lety yn y dre?

Rôn i'n siarad yn Gymraeg gynta. (Yng nghanol yr argyfwng, rôn i'n meddwl bod Cymraeg y ferch yn swnio'n hyfryd, yn enwedig bod ei "ll" yn arbennig o laith ac yn ddeniadol.) Ond roedd pethau'n ormod. Roedd rhaid i mi troi i'r Saesneg.

Roedd y dyn yn gynorthwyol dros ben. Roedd o'n ffonio nifer o bobl ac ar ôl awr naeth o lwyddo i siarad â rhywun oedd yn gwybod am fy llety. Yn Ffriddoedd oedd o. Roedd yn amlwg mai pob dysgwr ond fi yn gwybod mai yn Ffriddoedd oedd y llety. Galwodd o am dacsi drosta i.

Basai fo'n aros am y tacsi efo fi tu allan y drws blaen. Ar ôl yr ollyngdod fawr, rôn i'n medru siarad Cymraeg yn well. Roedd o mor glên yn siarad yn araf am wahanol bethau difyr. Mi nes i ddweud sawl gwaith, "Dach chi isio mynd? Bydda i'n iawn." Ond fyddai fo ddim yn mynd heb weld y tacsi. Mi ddaeth o ar ôl mwy na hanner awr.

Cyn i mi fynd, mi nes i dynu llun ohono fo. Dafydd, fy angel. Na i byth yn ei anghofio fo!

Monday, November 12, 2007

atgofion o gymru 6

Wrth i'r trên nesu at Orsaf Bangor, ro'n i mor falch o weld y brifysgol ar bryn yn y pellter. Ar ôl cyrraedd yr orsaf, penderfynes i gerdded o gwmpas y dre cyn mynd i'r neuadd breswyl achos roedd hi'n rhy gynnar. Ro'n i'n cerdded awr neu ddau wrth llusgo'r cês trwm yn y glaw mân. Roedd 'na lawer o geir yn mynd heibio'n gyflym iawn. Yna, es i mewn tacsi i'r neuadd gan bod hi ar ben y bryn ac ro'n i'n eitha flinedig.

Ro'n i'n meddwl mai neuadd breswyl oedd Safle Normal lle byddai yr ysgol haf i fod i gael ei chynnal. Mi es i i'r llyfrgell am fanylion yn union fel dwedodd y llythr oddi wrth yr ysgol.

Ond doedd gan y ddwy ferch oedd yn gweithio yna ddim syniad o gwbl am fy llety.

Sunday, November 11, 2007

atgofion o gymru 5

Roedd yn wych cael cyfarfod fy ffrind a threilio dau ddiwrnod efo hi ar ôl sgwenni at ein gilydd yn gyson am flwyddyn. Dan ni'n siarad ar Skype bellach.

Mi nes i adael Wrecsam i fynd i Fangor bore ddydd Sul. Mi naeth hi roi i mi frechdan (tafellau trwchus o bara Village Bakery) cyw iâr a chaws Cymreig am y daith ar y trên. Roedd o'n arbennig o flasus.

Dim ond awr cymerodd hi i Fangor. Ro'n i'n edrych ymlaen at weld y golygfeydd, ond roedd 'na gloddiau uchel ar hyd y reilffordd. (Pam?) Mi ges i gipolwg o'r arfordir nawr ac yn a man yn unig.

Saturday, November 10, 2007

atgofion o gymru 4

Mi es i a'm ffrind i sesiwn sgwrs yn y llyfrgell leol yn Wrecsam. Roedd 'na ryw ddeg o ddysgwyr efo gwahanol lefelau. Roedd rhai gan gynnwys fi fy hun yn cael hi'n anodd dweud popeth yn Gymraeg a'r lleill yn rhugl. AW oedd un o'r dysgwyr rhugl. Roedd hi wedi dysgu Cymraeg i helpu ei phlant sy'n mynd i ysgol Gymraeg. Mae hi'n dysgu dosbarth i oedolion bellach. JH oedd dysgwr rhugl arall sy'n dysgu Ffrangeg hefyd. Dw i wedi eu nabod nhw drwy'r rhyngrwyd ac roedd yn braf eu cyfarfod nhw o'r diwedd. Roedd pawb yn gyfeillgar ac yn glên.

Roedd y sesiwn yn para am fwy na ddwy awr. Ro'n i braidd yn flinedig ar y diwedd ond yn falch o gael cyfle i siarad Cymraeg gymaint.

Friday, November 9, 2007

atgofion o gymru 3

Roedd 'na lawer o bobl yn cerdded yng nghanol y dre yn Wrecsam. Prynhawn Sadwrn ydoedd. Mi nes i sylwi bod na rai pobl efo arwyddion o blaen un o'r siopau, a phobl eraill yn edrych arnyn nhw gan gynnwys gohebydd efo camera fideo mawr.

Thomas Cook, wrth gwrs! Mi es i at un o'r gwrthdystwyr 'na a dechrau siarad yn Gymraeg. Roedd dyn efo gwallt gwyn yn glên ac yn siarad Cymraeg yn ARAF â fi. Ro'n i'n ei ddeall o yn dda iawn. Mi nes i ddweud wrtho fo mod i'n dysgu Cymraeg ac yn dwad o America ac yn mynd i Fangor i ddysgu yn yr ysgol haf, ac yn y blaen. Roedd o'n falch o glywed mod i wedi anfon neges e-bost at Thomas Cook am y broblem.

Thursday, November 8, 2007

profiad annifyr

Mi es i i Braums (siop hufen iâ a phethau eraill) bore ma i brynu bara a ffrwythau. Ar ôl cymryd braidd yn hir i ddewis orennau a grawnffrwythau a thorth o fara gwyn, es i â nhw i'r cownter. Yna sylwes i mai cerdyn y llyfrgell, dim y cerdyn credyd oedd gen i! Ac ro'n i heb bres parod. Roedd rhaid i mi ymddiheuro i'r hogan tu ôl y cownter a gadael y bwyd. Allan o'r siop yn gyflym es i.

Wednesday, November 7, 2007

atgofion o gymru 2

Mi ges i groeso mawr gan fy ffrind a'i gwr, a'u mam. Mi aeth hi a'i gwr â fi i Draphont Ddwr Pontcysyllte, i drefi Llangollen a Wrecsam.

Wrth i ni gerdded yng nghanol y dre yn Wrecsam, dyma ddyn efo gwallt a barf brith yn dwad ata i'n dweud yn sydyn,
"Excuse me. Kon nichiwa (Helo yn Japaneg.) Are you from Japan?"

Fel mae'n digwydd fod o wedi mynd i Japan efo Llynges Brydeinig yn y 60au, a chael croeso mawr gan y bobl leol. Felly, roedd o eisiau rhoi un ôl i mi i ddangos ei ddiolchgarwch. Mi ofynes i,
"Do you speak Welsh?"
Yna, dechreuodd o siarad Cymraeg! Saesneg oedd ei iaith gynta ond Cymraes oedd ei fam. Mi gaethon ni sgwrs fach ddymunol.

Tuesday, November 6, 2007

atgofion o gymru 1

Mae rhai ohonoch chi'n gwybod mod i wedi mynd i Gymru yr haf ma am y tro cynta. Dw i'n meddwl sgwennu o bryd i'w gilydd am rai digwyddiadau yn y siwrnau (diolch i'r dyddiadur o'n i'n gadw.) Dysgu Cymraeg yn yr ysgol haf a chyfarfod fy ffrindiau rhyngrwyd oedd prif fwriad y siwrnau na. Ond mi ges i wneud llawer mwy na hynny. Mi nes i sgwennu'r hanes at fy ffrindiau'n barod ond dw i'n meddwl bod yn syniad da sgwennu yn fy mlog.

Ar ddiwedd mis Mehefin, mi nes i hedfan o Dulsa, Oklahoma i Heathrow.

"Why Wales?" Gofynodd merch wrth gownter yn Heathrow ar ôl i mi ddweud mod i'n mynd i Gymru. Mi atebes i, "I just like it."

Yna, es i yn syth ar y tiwb a'r trên i Wrecsam er mwyn treulio dwy noson efo fy ffrind. Ro'n i'n llugso cês trwm ac eto roedd rhaid i mi fynd i fyny ac i lawr y grisiau! Ond diolch i'r dynion clên ym Mhrydain, mi ges i gymorth bob tro.

Mi gyrhaeddes i Gorsaf Caer ac ro'n i'n gyffro i gyd gweld arwydd Cymraeg (dwyieithog a dweud y gwir) am y tro cynta. Am waharddiad ysmygu oedd o.

Monday, November 5, 2007

pwy sy'n siarad japaneg?

Ar ôl darllen blog Dogfael heddiw, mi nes i benderfynu gwneud peth tebyg.

http://blogdogfael.org/2007/11/05/pwy-syn-siarad-iseldireg-2/

Hynny ydy, gwneud rhesr o siaradwyr Cymraeg sy'n medru Japaneg. Ond a dweud y gwir, dw i ddim ond yn nabod dau, un Cymro Cymraeg a'r llall, Saes sy wedi dysgu Cymraeg mewn Prifysgol. Mae'r Saes yn medru sgwennu llythrennau Japaneg hyd yn oed. (Dw i ddim yn gwybod eu safon Japaneg lafar.) Dw i heb glywed oddi wrthyn nhw ers misoedd. Felly s'gen i ddim syniad sut maen nhw.

O, oedd bron i mi anghofio un arall; Simon Ager. Mae o'n siarad llawer o ieithoedd yn ogystal â Chymraeg a Japaneg.

http://www.omniglot.com/aboutme.htm

Oes 'na unrhywun sy'n siarad neu dysgu Japaneg? Mi faswn i'n hapus rhoi cymorth i chi (ymarfer sgwennu neu siarad ar Skype!)

Sunday, November 4, 2007

yr hydref

O'r diwedd mae 'Daylight Savings Time' wedi drosodd yn America. Roedd yn braf cael cysgu awr ychwanegol bore ma. Roedd hi'n eitha cynnes (73F/23C) ond mae'r dail yn mynd yn lliwgar ac mae llawer ohonyn nhw wedi syrthio oddi ar goed. Bydd rhaid i ni ddechrau rhacanu (rake?) yn fuan. Mae 'na lawer o goed yn yr ardd fel y byddan nhw'n rhoi cymaint o waith rhacanu i ni bob blwyddyn.

Mae'n ymddangos bod tymor yr alergedd wedi drosodd hefyd. Roedd o'n hir iawn y tro ma ac fedrwn ni ddim mynd yn cerdded yn ystod y tymor. Dw i'n falch iawn mod i'n medru mynd rwan.

Saturday, November 3, 2007

ras 5 cilometr

Roedd 'na ras pum cilometr yn y dre bore ma. Mi neith tua 200 o bobl gystadlu. Mae fy ngwr a'n mab hyna (18 oed) yn rhedeg yn y ras ers blynyddoedd. Pan ddechreuodd ein mab ni chwe blynedd yn ôl, roedd o'n arafach na'i dad, wrth gwrs. Ond mae o'n llawer cyflymach bellach. Mi enillodd o'r 6ed lle ac y 19ed lle enillodd ei dad.

Mae'r ras ma'n cael ei chynnal bob blwyddyn ac mae pobl y dre'n mwynhau cystadlu neu wylio yn cefnogi eu teuluoedd a'u ffriendau. Pwy enillodd y lle cynta? Hyfforddwr clwb 'cross country' fy mab!

Thursday, November 1, 2007

hen gragen

Dw i mor falch bod un o'r papurau newydd Japaneg yn sôn am Brifysgol Bangor. Hynny ydy, bod hi wedi dod o hyd i hen gragen ar Gwlad yr Iâ.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7060000/newsid_7066300/7066390.stm

http://www.yomiuri.co.jp/editorial/news/20071101ig15.htm
英国のバンゴー大学 (Prifysgol Bangor ym Mhrydain)

Mae'r golygydd yn canolbwyintio ar dynged drist y gragen mwy na dim arall. Mae o'n dweud bod yn drist iawn bod y gragen wedi cael ei lladd er mwyn i ni wybod ei hoed hi. " Felly (thus) naeth hi ddiweddu ei bywyd hir."

Wednesday, October 31, 2007

gwers japaneg

Gwers Japaneg arall heddiw. Mae Ron, fy myfyriwr wedi bod yn ysu am fynd i Japan eto. Ac rwan, ceith o fynd flwyddyn nesa. Bydd o'n mynd efo'i ffrind, bachgen o Japan sy wedi graddio yn y brifysgol leol ac yn dal i fyw fan ma. Byddan nhw'n ymweld eu ffrindiau yma ac acw am bythefnos. Mae o wrth ei fodd.

S'gynno fo unrhyw berthynas yn Japan ond mae o'n hoff iawn o Japan a'r bobl. Mae 'na tua 150 o fyfyriwyr Japaneaidd yn y dre ac mae pawb yn ei nabod o. Fo sy'n mynd â nhw i'r maes awyr ac yn eu casglu bron bob tro. A fo sy'n mynd â nhw i Wal-Mart bob wythnos.

Mae hi wedi bod yn anodd iawn iddo ddysgu iaith arall, yn enwedig yr iaith mor anodd â Japaneg. Ond mae o'n mwynhau dysgu o leia ac dw i'n falch.

Tuesday, October 30, 2007

lle mae cymry yn tulsa?

Mae Neil Wyn yn iawn. Dw i'n meddwl bod Cymry sy'n byw tu allan i Gymru'n tueddu'n 'cuddio' eu hun, wel, Cymry yn Oklahoma o leia. Fel arall, dw i ddim yn dallt pam nad ydw i'n medru dod o hyd iddyn nhw yn ninas enfawr fel Tulsa. Dw i'n gwybod mae 'na rhai yno: http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/papurau_bro/goriad/newyddion/mai03.shtml

Mi nes i gofrestru ar gyfer Facebook yn ddiweddar er mwyn bod yn ffrind i Corndolly. Dw i wedi ymuno â Network Tulsa a cheisio ffeindio siaradwyr eraill gan ddefnyddio geiriau fel, Cymru, Cymraeg, siarad, Wales. (Dydy 'Welsh' ddim yn gweithio achos bod llawer o bobl efo'r cyfenw ma.) Pwy ymddangosodd ar y sgrîn ond fi fy hun! O wel, na i ddal at eu ceisio.

Sunday, October 28, 2007

dyn o gymru

Mi aeth fy ngwr i wledd yn y gwesty ar ddiwedd y gynhadledd neithiwr. Roedd 'na 150 o aelodau newydd a naethon nhw gyflwyno eu hun yn dweud eu henwau a lle maen nhw'n dwad.

O Gymru roedd un ohonyn nhw! Mi geisioedd fy ngwr ei gyfarfod, ond roedd y neuadd mor enfawr ac roedd cymaint o bobl yno fel y oedd yn anobeithiol. Mae gan fy ngwr enw'r dyn o Gymru. Felly gobeithio ceith o hyd iddo wedyn. Mae'r hanes ma'n gyffrous iawn i mi. Dw i bron byth yn cael cysylltuadau ag unrhyw Cymry fan ma.

Saturday, October 27, 2007

dwy ddraig goch yn oklahoma

Dw i newydd ddarganfod bod 'na Ddraig Goch arall yn chwifio ar y Cynta o fis Mawrth yn Oklahoma ers flynyddoedd heb i mi wybod.

Mi ges i gyfeiriad Mrs. P sy'n byw yn Oklahoma City oddi wrth Dogfael sy'n gwybod mod i wedi chwilio am siaradwyr eraill yn Oklahoma. Mae un o'i ffrindiau'n meddwl mai he oedd ysgrifennydes Cymdeithas Gymraeg yn y dalaith ma. Mi nes i yrru llythyr ati hi yr wythnos ma a chael galwad ffôn oddi wrthi hi ddoe.

Yn anffodus, dwedodd hi bod hi erioed wedi clywed am Gymry yn Oklahoma. Ond roedd ei thaid a'i nain yn byw yn Ohio, ac yn siarad Cymraeg yn rhugl er bod gynni hithau ddim mymryn o'r iaith.

Er gwaetha'r siom cawson ni sgwrs ddymunol. Buodd hi yng Nghymru chwe blynedd yn ôl yn ymweld â'r Eisteddfod ac ati. Bydd hi'n codi Draig Goch ar y cynta o fis Mawrth pob blwyddyn. Mi nes i ddweud tipyn o'm hanes iddi hi hefyd.

Gobeithio bydda i'n cyfarfod rhywun ryw ddiwrnod.

Friday, October 26, 2007

corn maze

Mi aeth fy mhlant iau i ddrysfa yn Tulsa efo'r ysgol heddiw. (Es i ddim.) Corn Maze ydy'r enw. http://www.tulsamaze.com/photos.html

Mi gymerodd hi ryw ugain munud i fynd drwyddi. Mi gawson nhw reidio ar gert gwair, a chwarae mewn ystafell oedd yn llawn o gnewyll yˆd sych, a chael picnic wrth gwrs (brechdanau 'peanut butter' a mêl, sydd grawnwinen, creision, bananas a pheli reis.) Naethon nhw ddim rhostio 'marshmallows' y tro ma.

Diwrnod o hwyl roedd hi i'r plant. Mae awyr agored yr hydref wedi gwneud lles iddyn nhw, siwr iawn. Mi fyddan nhw'n cysgu'n dda heno.

Thursday, October 25, 2007

british contact lens association

Mae fy ngwr yn Florida yr wythnos ma'n mynychu cynhadledd optometreg. Mi naeth o gyfarfod doctor o Birmingham. Gofynodd o i'm gwr ysgrifennu erthygl dros British Contact Lens Association ac annog iddo ddod i'r gynhadledd yn Birmingham flwyddyn nesa. http://www.bcla.org.uk/conference.asp

Mae hynny'n newyddion diddorol! Dw i wedi ei gymell derbyn y gwahoddiad wrth gwrs. Faswn i ddim yn mynd efo fo er fod o'n penderfynu mynd ond basai hi'n wych datblygu cysylltiadau efo Prydain. (A dweud y gwir, dw i'n gobeithio bydd Adran Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd yn wahodd i ddod!)

Roedd fy ngwr wrth ei fodd pan glywodd o bod 'na wibdaith i Fanceinion i ymweld â stadiwm Manchester United ar ddiwedd y gynhadledd llanedd.

Wednesday, October 24, 2007

meddwl yn gymraeg

Mae'n rhaid i mi feddwl yn Gymraeg. Dw i'n gwybod mai hyn ydy ffordd dda i wella fy Nghymraeg, ac wedi gwneud hyn o dro i dro ond dim yn gyson. Dw i'n ddiog.

Ro'n i wedi gwella fy Saesneg drwy'r ffordd ma amser maith yn ôl yn Japan. Mae pob disgybl yn Japan i fod i ddysgu Saesneg am chwe blynedd o leia yn yr ysgolion. Ond dydy'r rhan fwya o'r bobl ddim yn medru Saesneg achos bod rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar gyfieithu'r Saesneg ysgrifenedig i'r Japaneg mewn dosbarthiadau heb ymarfer siarad.

Mi es i i'r coleg yn Tokyo am ddwy flynedd i astudio Saesneg ar ôl gorffen ysgol uwch. Mi nes i astudio gwahanol bynciau drwy gyfrwng y Saesneg hefyd. Coleg da oedd o er fod o'n fach. Ro'n nhw'n annog i ni feddwl yn Saesneg. Ac roedd rhaid i ni dalu dirwy os siaradwn ni Japaneg yn y coleg. Oherwydd hynny nes i lwyddo.

Dw i'n siwr bod y ffordd ma'n dda i wella unrhyw iaith dach chi'n ei dysgu. Yr her fwya ydy bod yn ffyddlon. Rhaid i mi wneud ymdrech os dw i eisiau bod yn rhugl.

Tuesday, October 23, 2007

cwrs pellach

Mi nes i gychwyn Uned 1 neithiwr a gwneud mwy heddiw. Mae 'na 20 o unedau yn y cwrs. Mae'n eitha hawdd ar y dechrau (dw i'n, mae o'n, maen nhw'n, ayyb) ond dw i wrth fy modd. Mae gen i diwtor ac fydd hi'n marcio fy ngwaith. Mae hyn yn wych achos mod i erioed wedi mynd i ddosbarth Cymraeg ar wahan i'r ysgol haf am wythnos ym Mangor eleni. Dw i'n edrych ymlaen at wneud myw o waith bob dydd.

Monday, October 22, 2007

mae o yma!

O'r diwedd! Mi gyrhaeddodd Cwrs Pellach p'nawn ma! Mi naethon nhw bostio ar y 4ydd o fis ma ym Mangor. Felly cymerodd hi'n ddeunaw diwrnod, ac mae'r amlen mewn cyflwr trist. Dw i'n hapus iawn beth bynnag. Mi na i ddechrau ar unwaith. Bydda i i fod i ddarllen Bywyd Blodwen Jones, ond dw i wedi ei darllen yn barod. Mi ga i recordio fy ngwaith mewn tâp weithiau i ymarfer siarad yn lle sgwennu. O, dw i'n gyffro i gyd!

Sunday, October 21, 2007

gwers ffrangeg 2

Mi aeth fy merch i'r ail wers Ffrangeg ddoe. Dysgodd hi rifau drwy 100 a mwy o fynegiannau newydd fel:

Á tout a l'heure. (Wela i ti.)

Dw i ddim yn gwybod sut ar y ddaear medr hi yngannu'r geiriau Ffrangeg. Mae hi'n dweud mai dim ond efelychu ei thiwtor mae hi. Dw i isio ymennydd plentyn yn dysgu Cymraeg!

Saturday, October 20, 2007

golwg ar japan

Mi nes i brynu llyfr bach i blant gan Wasg Gomer, sef Golwg ar Japan gan Lorens Gwyr (John.) Cyn iddo farw eleni, roedd o'n byw yn Japan yn dysgu Cymraeg i oedolion gan gynnwys y Dywysoges Michiko (Ymerodres ydy hi bellach.) Newyddion mawr i mi ydy hyn hefyd.

Mae'r holl ddisgrifiad Japan yn gywir ac yn glir efo llawer o luniau. Mi naeth o sgwennu am yr iaith yn syml iawn. Gad i mi roi enghraifft fy hun:

私はウェールズ語を習っています。(Watashi wa Uêruzugo o naratte imasu.) -Dw i'n dysgu Cymraeg.-

Mi glywes i bod na lyfrau dysgu Cymraeg a Mabinogi hyd yn oed drwy gyfrwng y Japaneg. (Mae na lyfrau dysgu Japaneg drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd!) Dw i ddim yn gwybod faint o bobl Japaneaidd yn dysgu Cymraeg ond hanes diddorol ydy hyn.

Friday, October 19, 2007

diwrnod hir

Mae fy mhasbort newydd gen i rwan. Mi es i i Houston i'w nôl ddoe. Siwrnau hir oedd hi. Mi nes i ardael y tyˆam 8:30 yn y bore a dod adre am 9:00 yn y nos. Mi es i ar yr awyren, ar y bws, ar y trên.

Roedd hi'n boeth! Llawer poethach nag Oklahoma mae Houston. Ac mae hi'n ddinas enfawr. Cholles i ddim fy ffordd serch hynny, diolch i'r arwyddion clir ar bob cornel stryd. (Ro'n i ar goll yn llwyr yng Nghaerdydd oherwydd diffyg ohonyn nhw.)

Mae Conswliaeth Japaneaidd ar y 30ed llawr mewn nendwr (mae llawer ohonyn nhw fan na.) Roedd hi'n cymryd pum munud yr unig i dderbyn fy mhasbort. Ac wedyn, mi nes i gychwyn fy siwrnau adre. Fydd dim rhaid i mi neud hyn eto ymhen deg mlynedd o leia.

Mi ges i syndod dymunol ar yr awyren i Houston. Ro'n i'n ail-ddarllen un o nofelau T Llew Jones (Tân ar y Comin.) Mi glywes i'n sydyn, "Do you speak Welsh?" hyn oddi wrth y dyn eisteddodd yn fy ymyl. Roed ei deulu'n dwad o Dde Cymru ac mae o'n gwybod rhai geiriau Cymraeg er fod o ddim yn siarad o gwbl. Mae gynno fo CD Bryn Terfel hyd yn oed. Wel! Dydy peth felly ddim yn digwydd bob dydd lle dw i'n byw!

Wednesday, October 17, 2007

rasait cyri japaneaidd

Dyma rasait i Rhys Wynne ac i unrhywun arall sy gan ddiddordeb.

Cynhwysion i bedwar:

1/2 - 1 lb o gig o'ch dewis
2 foronen ganolig
1 taten canolig
1 nionyn bach
1 coes o seleri
rhai bresych (os dach chi eisiau)

- wedi eu dorri'n ddarnnau

1 blwch bach o gymysgedd cyri Japaneaidd (angenrheidiol)
1 darn bach o siocled
1 banana bach wedi ei stwnsio
2 lwy de o saws coch
1 llwy de o 'peanut butter'

dwˆr

reis plaen wedi ei goginio

Dull:

Goginiwch y cig. Berwch(?) y llysiau ar y stôf nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch y cig. Coginiwch y cyfan am hanner awr mwy. Ychwanegwch y cymysgedd o gyri a'r sbeisys. Coginiwch nes bod y cymysgedd wedi ei doddi.

Rhowch y cyri ar y reis. A bwytwch!

A dweud y gwir, does dim 'cynhwysion cywir.' Mi fedrwch chi ddefnyddio eich dychmygion.

Dyma'r post hira sgwennes i erioed!

Tuesday, October 16, 2007

beth i swper?

Cyri a reis oedd ein swper ni heno. Un o'r prydau o fwyd Japaneaidd poblogidd ydy hwn, ac mae fy nheulu'n hoff iawn ohono fo hefyd. Mae o tipyn yn wahanol i rai Indiaidd.

Mae o fel stiw tew (neu botes trwchus?) efo gwahanol lysiau (moron, tatws, nionod, seleri, bresych) ac unrhyw gig. Well gynnon ni gyw iâr. Mae na gymysgedd o sbeisys arbennig fedrwch chi ei brynu. Dw i'n arfer ychwanegu banana, siocled, saws coch a "peanut butter" iddo fo. Dach chi'n ei fwyta efo reis.

Monday, October 15, 2007

ffair gerddoriaeth

Mae fy ferch hyna yn Efrog Newydd ers ddoe. Mae band (tri ohonyn nhw) ei chariad yn mynd i gystadlu mewn ffair gerddoriaeth nos Fawrth.

http://cmj.com/marathon/exhibit.php

Mae o'n canu ac yn chwarae gitâr, ac mae hi'n ffilmio. Mi ges i alwad ffôn oddi wrthi heddiw'n dweud byddan nhw'n mynd i ymweld â Central Park a Stature of Liberty.

Dw i heb dderbyn Cwrs Cymraeg Pellach eto gyda llaw.

Sunday, October 14, 2007

archeb amazon 3

Mi nes i dderbyn pecyn arall ddoe.

1) nofel i ferched ifainc

2) CD cerddoriaeth Japaneaidd

Cerddoriaeth offerynnol efo un o'r offerynnau traddodiadol ydy hwn. Shamisen ydy enw'r offeryn. Mae o'n fel banjo efo tair tant. Mae gwahanol arddulliau yn y gelf ma. Y CD brynes i tro ma ydy un ohonyn nhw, sef Tsugaru Jamisen.

Mi glywes i bod Tsugaru Jamisen wedi bod yn boblogaidd dros ben ymysg y bobl ifanc yn Japan heddiw. Mae na gyngerddau a chystadlaethau ym mhobman. Mae rhai chwaraewyr yn perffomio dramor hyd yn oed.

Dyma ddau ohonyn nhw, Brodyr Yoshida yn chwarae rhywbeth traddodiadol a chyfoes.

http://www.youtube.com/watch?v=1i1FznZT7fU
http://www.youtube.com/watch?v=Ron17xFNBf0&mode=related&search=

Ro'n i'n arfer chware Shamisen pan o'n i'n ifanc (10-12 oed) o ganlyniad i ddylanwad fy mam. Ond dim Tsugaru ro'n i'n chwarae. Mae Tsugaru'n swnio'n llawer mwy deniadol yn fy marn i.

Saturday, October 13, 2007

bonjour madame!

Diwrnod mawr ydy hi heddiw achos bod fy merch sy'n 14 oed wedi dechrau ei gwersi Ffrangeg. Miss P. ydy ei thiwtor. Mae hi'n darllen ei Beibl ac yn gweddio'n Ffrangeg, meddai. Roedd yn genades i Ffrainc am 38 mlynedd. Mae hi wedi ymddeol erbyn hyn ac yn hapus dysgu Ffrangeg i fy merch a chael cyfle i ddefnyddio'r iaith.

Mi ddysgodd hi'r gwyddorau, rhifau (1 - 79,) cyfarchion syml fel "Bonjour Madame. Comment allez vous?" ac ati. Dw i mor falch â hi er mod i ddim eisiau dysgu Ffrangeg ar y hyn o bryd. Mi fedra i gydymdeimlo â hi. Mi faswn i'n gyffro i gyd taswn i'n cael mynd i wersi Cymraeg.

Friday, October 12, 2007

mynd i houston

Bydd rhaid i mi fynd i Houston, Texas ddydd Iau nesa i gasglu fy mhasport newydd. Am ryw reswm neu gilydd dydy Conswliaeth Japaneaidd ddim yn ddanfon pasportau newydd atoch chi. Mi ddylech chi fynd amdanyn nhw yn bersonol, ond does ddim llawer ohonyn nhw (Conswliaeth Japaneaidd) yn UDA. Yr un yn Houston ydy'r agosa (500 milltir i ffwrdd.) Dw i'n bwriadu hedfan achos mod i ddim eisiau gyrru am hugain awr. Dw i ddim yn edrych ymlaen at y daith ond bydd gen i rywbeth i sgwennu amdano yn fy mlog o leia.

A phwy a wyr? Efallai bydda i'n eistedd wrth ochr Cymry Cymraeg ar yr awyren ar ddamwain (fel nes i ar y trên i Lundain o Gaerdydd yn yr haf ma.)

Thursday, October 11, 2007

lle mae fy mhost?

Mi ges i siom mawr heddiw eto wrth edrych ym mlwch y post. Dw i wedi bod yn disgwyl Cwrs Pellach, llyfr gan Wasg Gomer a Lingo Newydd. Dylen nhw i gyd fod wedi cyrraedd erbyn hyn. O ganlyniad i streic Post Brenhinol ydy hyn, siwr iawn. Mi nes i glywed byddai un arall yr wythnos nesa!

Wednesday, October 10, 2007

penblwydd hapus i t. llew jones!

92 oed fydd T. Llew Jones (Thomas Llewelyn Jones) yfory (11/10/07.)

Fy hoff awdur ydy o. Mae ei Gymraeg braidd yn galed i ddysgwyr a dweud y gwir. Ond mae'r storiau mor ddiddorol fel mod i'n methu stopio darllen. Dau o'r gloch yn y bore oedd hi pan orffenes i ddarllen Tân ar y Comin.

Mi nes i sgwennu ato fo a chael ateb o'r blaen. Mi ddwedodd o fod o wedi teipio'r nofelau ar deipiadur o Japan (Brother) amser maith yn ôl. http://www.bbc.co.uk/cymru/ffeil/cefndir/tllewjones.shtml

Dyma restr y nofelau ddarllenes i:

Y Môr yn eu Gwaed
Tân ar y Comin
Trysor Plasywernen
Llyfrau Darllen Newydd 1
Barti Ddu
Cri y Dylluan
Y Ffordd Beryglus

Barti Ddu ydy fy ffefryn. (Dw i'n hoff o storiau llongau hwyliau ac Barti ydy fy hoff fôr-leidr.) Mi faswn i'n prynu'r gweddill o'i nofelau i gyd tasai gen i ddigon o bres.

Mae na raglen Radio Cymru (Clasuron) yn dathlu ei benblwydd (dw i'n meddwl.) Dw i erioed wedi darllen y storiau ma ond maen nhw'n wych beth bynnag. http://www.bbc.co.uk/radio/aod/mainframe.shtml?http://www.bbc.co.uk/radio/aod/cymru_promo.shtml

Penblwydd Hapus i chi, T. Llew Jones!!

Tuesday, October 9, 2007

newydd da o wlad bell

Mi ges i lythr drwy'r post heddiw oddi wrth ffrind arall yng Nghymru. Mi aeth hi ar ei gwyliau i Majorca am bum niwrnod ac mae hi newydd ddod adre. Mi gafodd hi amser hyfryd yn nofio ac yn torheulo.

Mae e-bost a'r rhyngrwyd yn gyfleus dros ben. Dw i wrth fy modd yn eu defnyddio nhw bob dydd. Ond mae llythyrau confensiynol yn rhywbeth arbening hefyd. Hapus iawn dw i cael hyd i lythr personol, yn y blwch post, sy wedi teithio dros y moroedd.

Dw i'n sgrifennu llythyrau'n gyson dim ond at ddwy ar hyn o bryd, sef fy mam yn Japan a'r ffrind hon yng Ngogledd Cymru. (Does gynnyn nhw ddim cyfrifiadur.)

"Fel dwˆr oer i lwnc sychedig, felly y mae newydd da o wlad bell."

Monday, October 8, 2007

gwyl columbus

Gwyl Columbus ydy hi heddiw yn UDA. Ond dim ond y gweithiwyr cyhoeddus sy'n cael diwrnord i ffwrdd. Aeth plant i'r ysgolion fel arfer. Yr unig peth sy'n wahanol ydy bod dim post neu godi sbwriel heddiw. Mae gan UDA wyliau eraill felly.

Dw i wrth fy modd yn dysgu Catchphrase yn y dull newydd. Dw i'n hoffi Ann Jones mwy na'r lleill. Mae'r tiwtoriaid i gyd yn dysgu iaith y De, felly dw i'n newid rhai pethau fy hun, e.e. : Fe aeth e i'r sinema neithiwr. -- Mi aeth o i'r sinema neithiwr. Mae'r gwersi'n llawer o hwyl.

Sunday, October 7, 2007

ch, ll, r

Mae fy ffrind yn Llundain yn dal i ddysgu Cymraeg. Mae hi'n dweud bod yn anodd iawn ynganu ch. Dydy hyn ddim yn rhoi gormod o drafferth i mi. Ac dw i wedi dysgu sut i ynganu ll wrth syllu ar geg Gareth Roberts yn y raglen, Talk About Welsh.

Yr her fwya oedd r. Fedrwn i ddim rowlio fy r's. Ro'n i'n credu bod rhai pobl wedi cael eu geni efo'r ddawn arbennig. Ond ro'n i'n ysu am rowlio fy r's fel mod i wedi penderfynu ymarfer nes i mi lwyddo. Rhaid mod i wedi ymarfer dros hanner mil gwaith tra o'n i'n cerdded. Ac o'r diwedd, mi nes i lwyddo! Dw i ddim cystal â Heledd Sion neu Dyfan Tudur wrth gwrs, ond dw i'n hapus!

Saturday, October 6, 2007

bbc catchphrase

Mi ges i ymarfer siarad da efo Ann Jones, tiwtor Catchphrase.

Mae bron pob dysgwr yn gwybod am y wefan hon ac dw i wedi 'dysgu' rhai gwersi o'r blaen. Ond sut yn union dach chi i fod i'w dysgu? Mi fedrwch chi wrando ar wahanol sgyrsiau neu ar y newyddion yn ceisio deall, neu ddysgu gramadegau. Ond beth am ymarfer siarad?

Nes i rywbeth newydd ddoe. Mi es i i wers 60, Original Catchphrase (baswn i, taswn i, ayyb) ac ateb cwestiynau Ann Jones cyn i Nigel Walker ddweud ei atebion. Mi nes i bwiso'r fysell aros tra o'n i'n ateb. Mi ges i wers bersonol effeithiol. Dw i'n mynd i ddysgu gwersi eraill yn yr un modd.

Friday, October 5, 2007

gair newydd 2

Mi ddes i ar draws gair newydd arall diddorol bore ma.

aralleirio

Dw i erioed wedi gweld y gair o'r blaen ond rhywsut neu gilydd medra i ddyfalu'r ystyr hon.

arall + eirio (geiriau) = other words : paraphrase!

Mae Blodwen Jones wedi profi'n iawn unwaith eto. "Mae'r Gymraeg mor 'logical' weithiau."

Thursday, October 4, 2007

ymarfer corff

Dw i'n brifo drwodd (all over?) Fy nghyhyrau, dw i'n meddwl. Mi nes i ddechrau ymarfer corff newydd, sef *slow burn fitness. Yn lle gwneud *push-ups a *sit-ups a chodi dymbel ysgafn drosodd a throsodd, dach chi'n gwneud hynny dwywaith neu dair gwaith yr un efo dymbel llawer trymach yn ARAAAAF iawn tan fedrech chi ddim gwneud rhagor. Mae popeth yn cymryd rhyw hanner awr ac dach chi i fod i ymarfer pob pum niwrnod yr unig. Maen nhw'n dweud bod yr ymarferion ma'n llawer mwy effeithiol. Dw i ddim yn siwr bod nhw'n iawn ond mae gen i fwy o amser i wneud pethau eraill o leia.

Mae'n ddrwg gen i ddefnyddio gymaint o eiriau Saesneg y tro ma. Does gen i ddim syniad sut mae dweud y rheina* yn Gymraeg.

Wednesday, October 3, 2007

cwrs cymraeg trwy'r post

Hwre! Dw i'n mynd i wneud Cwyrs Pellach trwy'r post! http://www.bangor.ac.uk/ll/wfa.php.en
Mi nân nhw ddanfon ffurflen cofrestru ac Uned 1 & 2 ata i. Fedra i ddim aros!

Dw i wastad eisiau gwneud rhywbeth felly. Dw i'n dysgu ar ben yn hun gan wneud pethau dw i'n eu hoffi, ond dw i angen mwy o strwythur yn fy nysgu ac bod yn atebol. Basai hi'n rhagorol mynychu dosbarth Cymraeg taswn i'n cael, ond does dim ar gael fan ma. Dyna pam mai cyfle delfrydol ydy'r cwrs ma. O, dw i'n edrych ymlaen!

Monday, October 1, 2007

Mr. Jenkins!

Torrodd un o forthwylion ein piano ni. Daeth dyn i drwsio fo. Ro'n i'n gyffro i gyd achos mai Jenkins oedd enw'r dyn. Mi nes i ofyn iddo oes hynafiad Cymry gynno fo. Oes! Rhyw hanner mil mlynedd yn ôl......

Mi nes i ddysgu gwers Japaneg eto. Sut medra i ddysgu fel y fy myfyriwr yn deall ac yn gwneud cynnydd? Anodd iawn. Dim ond dal ati.

Sunday, September 30, 2007

ffeiliau sain Saesneg i japaneaid

Mae na ffeiliau sain Saesneg i Japaneaid ay y we. Cymro ydy'r awdur. Tiwtor Cymraeg i oedolion yn Sir Benfro ydy Ceri Jones.
http://www.engvocab.com/intro_en.link

Mi nes i glywed fod o'n bwriadu gwneud rhai i Japaneaid sy eisiau dysgu Cymraeg! Oes na gymaint o Japaneaid sy eisiau dysgu'r iaith? A dweud y gwir, dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg drwy gyfrwng y Saesneg. Mae'n anos dysgu drwy gyfrwng y Japaneg, dw i'n meddwl. Gobeithio bydd o'n gwneud rhai yn Saesneg hefyd.

Saturday, September 29, 2007

taswn i'n

Beth fyddech chi'n ei wneud tasech chi'n cael dau ddymuniad?
1. Byddwn i'n siarad Cymraeg yn rhugl efo acen y Gogledd fel Bethan Dwyfor.
2. Byddwn i'n canu'n swynol fel Lleuwen Steffan.

Lle basech chi'n byw pe gallech chi'n byw unrhywle?
Baswn i'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru.

Beth faswn i'n wneud taswn i'n byw yng Nghymru?
Baswn i'n mynd i dri dosbarth Cymraeg yr wythnos, ac yn dysgu dawns werin a chwarae telyn. Baswn i'n cyfrannu at Gristnogaeth, Cymuned, Cymdeithas yr Iaith.

Dyna ni! Dw i a Corndolly wedi bod yn dysgu "taswn i, byddwn i...." yr wythnos ma.

Friday, September 28, 2007

ffair sborion

Mae'n eglwys ni'n mynd i gynnal ffair sborion yfory i godi pres ar gyfer y grwp ieuenctid. Maen nhw'n gobeithio mynd i fynychu cynhadledd ieuenctid Cristnogol yn Salt Lake City, Uta flwyddyn nesa. Dan ni i gyd wedi rhoi pethau dan ni ddim angen ond defnyddiol i'r bobl eraill. Byddan nhw'n gwerthu frecwast hefyd, 'pancakes', selsig, wyau wedi ffrio, pwddin, coffi, llefrith, sydd oren. Mi es i i helpu bore ma. Ro'n i'n ffrio selsig am awr a hanner.

Thursday, September 27, 2007

alergedd

Mi nes i golli cwsg neithiwr achos mod i wedi cael trafferth anadlu'n iawn. Mae alergedd yr hydref yn ofnadwy o waeth nag arfer eleni. Mae llawer o bobl yn diodde ar y hyn o bryd. Roedd rhaid i mi fynd at y meddyg a phrynu "inhaler" am y tro cynta erioed. "Ragweed" ydy un o'r pethau sy'n gyfrifol yn UDA. Mae o wedi tyfu'n enfawr ac yn nerthol o achos yr haf gwlypach. Gobeithio daw tymor yr alergedd i ben yn fuan.

Wednesday, September 26, 2007

merch o japan yn llundain, 3

Roedd fy ffrind braidd yn ddigalon ar ôl y dosbarth cynta o achos ynganiad rhai geiriau Cymraeg. Ond aeth yr ail ddosbarth yn well, mae'n ymddangos. Mae hi'n mynd yn gyfarwydd â'r iaith. Mi naeth hi ddysgu mwy o fynegiannau syml:

Sut dych chi?
Pwy dych chi?
Braf cwrdd â chi.
Ofnadwy

Mae hi wedi dysgu Ffrangeg hefyd ac yn medru siarad tipyn achos bod hi'n hoffi cerddoriaeth Ffrengig. Mae Ffrangeg yn haws siarad na Saesneg, meddai. Mae rhai geiriau, ynganiad a gramadeg Cymraeg yn debyg i Ffrangeg. Pob llwyddiant efo'i dysgu Cymraeg.

Tuesday, September 25, 2007

gwers japaneg 2

Gwers arall. Roedd rhaid i ni ddechrau o ddechrau achos bod hi'n amlwg bod fy myfyriwr ddim yn deall llawer. Naeth o ymarfer y sgwrs hon. Siarades i yn Saesneg a naeth o gyfieithu i'r Japaneg.

Carter: Noswaith da. Pwy ydy honna?
Sato: Miss Toda ydy honna.
Sato: Miss Toda, dyma Mr. Carter o America. Mr. Carter, dyma Miss Toda. Gohebydd Papur Asahi ydy hi.

Mi nes i ofyn iddo newid tipyn o eiriau. e.e. "Meddyg ydy Mr. Carter." "Athro prifysgol ydy Mr. Carter." Saer coed ydy Mr. Carter." Eitha sylfaenol ydy hyn ond dw i'n meddwl bod yn ymarfer effeithiol.

Gobeithio y byddwn ni'n medru gwneud cynnydd yn gyson.

Monday, September 24, 2007

archeb amazon 2

Mi ges i archeb arall gan Amazon heddiw:

1. Play and Learn French
2. nofel i ferched ifanc
3. CD (One Chance) gan Paul Potts

1. Mae gan fy merch arall ddiddordeb yn dysgu Ffrangeg. Mae'r llyfr efo CD yn edrych yn syml ac mae'r Ffrances yn swnio'n dda (dw i'n meddwl.) Efallai bydda i'n dysgu tipyn bach o eiriau a chyfarchion yn Ffrangeg. Ond dyna i gyd. Does gen i ddim digon o awydd neu gariad tuag ati hi yn dysgu'n ddwys.

3. Fersiwn Americanaidd ydy hwn. Mae gynno fo ddwy gân ychwanegol, sef "O Holy Night" a "Silent Night." Mae Potts yn ardderchog! Dw i eisiau ei glywed o'n canu'n Gymraeg hefyd.

Sunday, September 23, 2007

penwythnos arbennig 3

Mi naethon ni i gyd i'r eglwys bore ma. Roedd rhai pobl yn chwilfrydig am y dyn ifanc dieithr efo fy merch. Ar ôl y gwasanaeth, aethon ni i ffreutur y brifysgol i gael cinio. Roedd popeth yn flasus iawn. Gadawodd y ddau ar ôl cinio. Bydd hi'n cymryd tair awr i yrru'n ôl. Dw i'n hoffi cariad fy merch yn fawr iawn. Dyn didwyll, tyner efo gwên swil ydy o. Ac mae o braidd yn dawel achos fod o ddim yn dweud geriau gwag.

Chwaraeodd fy mab hyna gêm pel-droed p'nawn ma. Enillodd y tîm (2-1) er mai rhywun arall sgoriodd. Ces i hwyl cefnogi'r bechgyn.

Cafodd pawb fwy na ddigon o fwyd yn y ffreutur. Does dim rhaid i mi goginio heno. :)

Saturday, September 22, 2007

penwythnos arbennig 2

Cyrhaeddodd fy merch a'i chariad yn hwyr neithwr (10 o'r gloch.) Dyn ifanc hyfryd ydi o. Mae o'n siarad tipyn bach o Sbaeneg. Ar ôl iddi nhw gael swper a sgyrsiau bach efo ni, aethon ni â fo i'r gwesty agos. Roedd y swper yn dda, dw i'n meddwl.

Mae'n boeth eto heddiw (89F/30C.) Aeth fy merch â fo i'r brifysgol leol i ddangos y le ac i Afon Illinois.

Dw i'n mynd i wneud caserol cyw iâr a reis brown efo saws tomato, bara yˆd, tatws stwns efo grefi. Am bwdin, na i gymysgedd o hufen, oren, pinafal, bisgedi siocled a 'marshmallow.' Mae pawb wrth ei fodd efo'r pwdin ma bob tro.

Rhaid i mi gychwyn rwan!

Friday, September 21, 2007

penwythnos arbennig

Mae fy merch hyna sy wedi symud i dre arall am ei swydd yn dod adre heno efo'i chariad. Mi ddaw hi â fo i gyflwyno fo i'w theulu. Dan ni i gyd yn edrych ymlaen achos bod ni wedi clywed cymaint amdano fo oddi wrthi hi.

Dw i'n mynd i baratoi pryd o fwyd Japaneaidd - cig twrci wedi ei falu efo saws soya, reis, wyau, ffa gleision (green beans?) Am bwddin, dw i wedi gwneud dwy bastai bwmpen sy yn y popty ar hyn o bryd. (Mi fedra i glywed yr arogl hyfryd.)

Penblwydd fy ngwr heddiw mae hi hefyd. Na i fynd i siopa mewn awr cyn codi'r plant yn yr ysgol. Wedyn, bydd fy merch arall yn torri fy ngwallt. (Mae hi'n gweithio fel trinyddes gwallt y rhan amser.)

Thursday, September 20, 2007

dysgu cymraeg efo google, 1

Dw i'n google geiriai neu fynegiannau i weld sut maen nhw'n cael eu defnyddio. Dyma un:

naill ai .... neu

Ro'n i eisiau gwybod beth fyddai'n dilyn "naill ai." Mi ddes i o hyd i rhai enghreifftiau:

*Bydd angen i chi naill ai rhoi enw'r orsaf neu'r arhosfan.
*bod chi'n gofalu am blentyn sydd naill ai'n wael neu'n anabl
*naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg
*naill ai "mis Mawrth" neu'r blaned "Mawrth"

Felly ar ôl yr enghreifftiau ma, mae'n bosib defnyddio naill ai berf neu ansoddair neu arddodiad neu enw.

--------

Llongyfarchiadau i dîm Cymru!

cymru vs japan

Bydd tîm rygbi Cymru'n chwarae yn erbyn Japan yng Nghaerdydd heddiw. Pwy dw i'n mynd i gefnogi? Cymru! Fydda i ddim yn falch os colleith Japan, ond dw i eisiau Cymru enill pwybynnag mae hi'n chwarae.

Wednesday, September 19, 2007

fel y moroedd

Ro'n i'n gwrando ar bregeth yn Gymraeg ar y we ar ôl y ddolen roiodd Rhys Wynne yn ei sylw. Ar ddiwedd y bregeth, dechreuon nhw ganu emyn "Dyma gariad fel y moroedd..." Fo ydy'r emyn ces i enw fy mlog gynno fo!

merch o japan yn llundain, 2

Mi nes i siarad â hi ar Skype gynnau bach. Roedd hi eisiau siarad Saesneg i ymarfer ei sgil. Felly fu.

Mae hi'n meddwl mai o'r De mae'r tiwtwr yn dwad. (Roedd hi'n hwyr cyrraedd ac yn methu clywed ei hunan-gyflwyniad.) Roedd 15 o bobl yn y dosbarth i ddechreuwyr ac mae dau arall â safonai uwch. Do'n i ddim yn disgwyl bod cymaint o bobl eisiau dysgu Cymraeg yn Llundain.

Mae hi'n hapus efo'i dosbarth. Gobeithio bydd hi'n dal i fwynhau.

Tuesday, September 18, 2007

merch o japan yn llundain

Mae gen i ffrind rhyngrwyd yn Llundain. Merch o Japan ydy hi, ac mae hi'n dysgu Saesneg ac yn gweithio'r rhan amser. Mae hi'n hoffi Cymru wedi byw yng Nghaerdydd am fisoedd y llanedd. Mae gynni hi ddiddordeb yn dysgu Cymareg hefyd. Aeth hi i ddosbarth cynta nos Lun. Dwedodd hi bod pawb yn gyfeillgar iawn, ond bod hi'n anodd ynganu geiriau Cymraeg. Dysgodd hi gyfarchion syml, fel "Noswaith da" "Hwyl" ayyb. Gobeithio y cawn ni sgwrs ar Skype rywbryd. 'Sgwn i ddylwn ni siarad yn Japaneg, Saesneg neu Gymraeg?

Monday, September 17, 2007

gwers japaneg

Dw i'n dysgu Japaneg ar ddydd Llun i hen ddyn annwyl sy'n caru Japaneaid ac yn awyddus yn dysgu'r iaith. Mae o wedi bod yn dysgu ar ben ei hun dros flynyddoedd, ac yn gwybod cymaint o fynegiannau defnyddiol. Ond mae'n anodd iddo ddeall pobl a siarad. Mi fedra i gydymdeimlo â fo.

Mi ddechreues i ddysgu gwersi iddo fo misoedd yn ôl. Dw i'n gwneud fy ngorau glas ond mae'n un peth i fod yn rhugl ac yn beth arall i ddysgu pobl eraill. Ond heddiw, dw i'n meddwl bod ni'n gwenud yn well na'r arfer. Mi ddes i o hyd i ffordd iddo ymarfer siarad. Gobeithio bydda i'n medru bod yn gymorth rhywsut.

Wedyn, mi ges i sgwrs efo Linda ar Skype. Bydd hi a'i gwr yn mynd ar wyliau i "Canadian Rockies" mewn ychydig o ddyddiau. Siwrnau dda!

Sunday, September 16, 2007

eglwys ar y we

Es i ddim i'r eglwys heddiw achos bod fy mab iau'n sâl. Mae ffliw'n mynd o gwmpas y dre, ac mae llawer o bobl yn sâl iawn. Dw i wedi rhwbio ei fol drwy'r bore.

Dw i'n gwrando ar wasanaeth Moody Bible Church yn Chicago ar radio pan fedra i ddim mynd i'r eglwys am ryw reswm neu gilydd. Fel arfer, mae sain yr orsaff FM yn wael iawn. Ond heddiw, mi nes i wrando ar yr un gwasanaeth ar y we. Roedd y sain yn well o lawer.

Rhaid fy mab yn teimlo'n well bellach. Mae o'n chwarae efo'i chwaer. Dw i isio cysgu...

Saturday, September 15, 2007

teach yoursel welsh conversation

Dw i wedi gorffen y CD cynta. Y problem mawr ydy, fel dwedes i yn fy mhost diwetha, bod y bobl yn siarad yn rhy araf ac yn rhy glir. Does neb yn siarad fel na. Rhaid dysgu Cymraeg naturiol, hyd yn oed dechreuwyr.

Dyna pam dw i'n hoffi "Colloquial Welsh" gan Gareth King. Mae'r pedwar yn siarad yn gyflym iawn. Maen nhw'n swnio'n hollol naturiol. Efallai bydda i'n ceisio ymarfer sgyrsiau yn "Col. Welsh" â'r un modd (ar ôl gorffen "Teach Youself" wrth gwrs.)

Friday, September 14, 2007

archeb Amazon

Mae hi yma! Yeei! Mi nes i archebu tri pheth gan Amazon (UDA.)

1. map wal Cymru a Gorllewin Lloegr
2. CD (Caneuon Traddodiadol Cymru gan Siwsann George)
3. cwrs Cymraeg newydd sbon (Teach Yourself Welsh Conversation)

1. map - Doedd arna i ddim isio Lloegr ar fap ac mae Cymru'n rhy fach. Ond does dim arall ar gael gan Amazon UDA.

2. CD - Mae llais S. George'n ardderchog efo offer traddodiadol. Y peth gorau ydy'r llyfryn bach efo geiriau'r caneuon yn Gymraeg ac yn Saesneg sy wedi dod â'r CD.

3. cwrs - Mae tri CD efo llyfryn bach. Maen nhw'n canolbwyntio ar sgyrsiau efo tipyn o ramadeg. Maen nhw braidd yn hawdd ac mae'r bobl yn siarad yn rhy araf. Ond mae gynnyn nhw syniad da - dach chi i fod i gymryd rhan yn yr holl sgyrsiau. Gobeithio bydd rhywun yn gwenud cwrs efo'r un modd â safon ucha.

Thursday, September 13, 2007

dwylo gludiog

Dydd Iau ydy'r diwrnod dw i'n mynd i'r dre i ofylu am blant bach mewn lloches i wragedd. Heddiw roedd 'na ddwsin o blant rhwng un a phump oed a phedwar ohonon ni i eu gwarchod nhw yn yr ystafell fach.

Maen nhw'n bwydo'r plant bob tro. Dw i ddim yn gwybod pam. Dydyn nhw byth yn bwyta llawer fel arfer. Mae'r rhan fwya o'r bwyd yn cael ei dyflu mewn bin sbwriel. Ac bydd y plant yn dechrau chwarae efo'r bwyd yn eu dwylo. Spageti, ffrwythau, bisgeden, cacen, creision a.... CHEETOS.

Mae'n gas gen i Cheetos. Gobeithio bod UDA ddim yn allforio'r peth felly. Mae'r lliw oren gludiog ar eu dwylo, ar eu hwynebau, ar eu dillad, ar y byrddau, ar y cadeiriau, ar y carped, ar y teganau, ar y llyfrau ac ar BOPETH.

Mi ddes i adre'n cael cinio bach a sgwrs ar Skype efo fy ffrind yn Gymraeg.

Wednesday, September 12, 2007

Lleuwen Steffan

Mi nes i brynu tair cân Lleuwen Steffan, sef "Dyma Gariad" "Gwahoddiad" neu "Arglwydd, Dyma Fi" "Mil Harddach Wyt" gan iTunes. Mae'n dda gen i weld cymaint o ganeuon Cymraeg ar werth gynnyn nhw dyddiau ma. Dw i ddim yn rhy hoff o Jazz ond mae'r rheiny'n fendigedig! Mae llais melys Lleuwen wedi rhoi naws newydd i'r caneuon cyfarwydd ma. Mi ddes i o hyd i eiriau'r caneuon ar y we fel y medra i ganu hefyd.

Gyda llaw, fedrwch chi ddeud "na'r alarch balch" yn gyflym? Rhan o "Mil Harddach Wyt" ydy hon.

gair newydd

Mi ddes i ar draws gair newydd bore ma, sef lletygar. "Byddwch letygar heb rwgnach." Cyfeillgar, amyneddgar, lletygar - mae'r Gymraeg mor 'logical', fel dwedodd Blodwen Jones.

Tuesday, September 11, 2007

S'mae!

Dw i'n gyffro i gyd yn cychwyn blog am y tro cynta. Amcan y blog 'ma ydy gwella fy Nghymraeg gan ormodi fy hun ysgrifennu rhywbeth bob dydd (gobeithio.) Dw i'n gobeithio y bydd ysgrifennu yn gyhoeddus fel hyn yn gwneud i mi fod yn atebol am ddysgu'r iaith.

Dw i wrth fy modd efo Skype! Dw i'n ymarfer siarad efo fy ffrind yng Nghymru (dysgwraig arall) dwy neu dair gwaith yr wythnos. Dan ni'n siarad am bethau cyffredin, ac mi naethon ni gychwyn dysgu efo'n gilydd, sef bod ni'n ysgrifennu ymlaen llaw deg brawddeg ar ôl "Intermediate Welsh" gan Gareth King. Wedyn da'n ni'n eu darllen nhw fesul un tra bod ni'n eu cyfieithu nhw i'r Saesneg (i wneud yn siwr bod nhw'n gwneud synnwyr.) Da'n ni wedi dysgu Uned 11 - 15 erbyn hyn. Da'n ni'n cael llawer o hwyl ac mae hyn yn ymarfer da.

Heddiw, ro'n ni'n ceisio defnyddio geiriau rhannau corfforol. Dw i wedi dysgu gair newydd - padiau crimog (shin guards.)

Dw i'n siarad â Mali yng Canada weithiau hefyd. Dw i braidd yn nerfus, ond mae hyn yn gyfle gwerthfawr i mi.