Saturday, June 30, 2012

cyngerdd

Aeth yn dda iawn. Er bod fy merch yn anghofio nodyn neu ddau, cwblheuodd hi bopeth yn esmwyth. Daeth lawer o ffrindiau i'w chlywed yn llenwi tŷ'r tiwtor piano. Fe wnaeth hi sudd eirin ffres i fynd efo'r bisgedi (y llun.) Cawson ni noson braf.

Friday, June 29, 2012

10 dwsin o fisgedi

Mae fy merch yn chwarae piano heno yn nhŷ ei thiwtor yn gwahodd gwesteion. Bydd yna amser coffee ar ôl y cyngerdd bach, felly fe wnaethon ni grasu10 dwsin o fisgedi p'nawn 'ma. Roedd yn dipyn o waith wrth i'r popty'n mynd ymlaen am oriau. O'r diwedd maen nhw'n barod. Ces i un (neu ddau) i weld ydyn nhw'n iawn. ^^ Ydyn, maen nhw'n flasus. Mi wna i dynnu lluniau heno.

Thursday, June 28, 2012

newid

Mae fy mab hynaf newydd adael adref am Texas lle mae o'n cychwyn swydd yr wythnos nesaf. Bydd hi'n cymryd tua phedwar awr. Roedd o eisiau gadael yn ddigon cynnar i gyrraedd ei fflat er mwyn gwylio'r gêm bêl-droed gynderfynol (yr Eidal x yr Almaen.) Roedd o efo ni ers wythnosau wedi graddio yn y brifysgol. Roedd ei eiddo ym mhob man ond rŵan mae'r tŷ'n edrych yn hanner wag.

Wednesday, June 27, 2012

cacen avengers

Dathlon ni ben-blwydd fy mab ifancaf ddyddiau'n ôl er bod ei ben-blwydd go iawn ar y 5 Gorffennaf. Bydd y teulu i gyd heblaw fi oddi cartref pryd hynny - ei dad yn Japan, ei ddwy chwaer mewn cynhadledd ieuenctid yn New Orleans, ei frawd yn Texas yn cychwyn ei swydd. Roedd o eisiau cacen siocled, felly bu. Mae o a'r lleill wrthi'n gwylio Avengers yn ddiweddar. Felly gosodais i Lego (a gafodd o'n anrheg) arni hi. Maen nhw ar siocled, ddim ar fwd!

Tuesday, June 26, 2012

crwban

Ffeindiodd fy mab hynaf grwban yn yr ardd gefn tra oedd o'n torri'r lawnt y bore 'ma. Gosododd y plant ddarn o afal o'i flaen ond roedd o'n rhy ofnus i fwyta dim. Roedd o ar y dec cefn am sbel ond wedi diflannu wedyn. Mae crwbanod yn croesi ffyrdd yn aml yn yr gwanwyn. Fel dach chi'n dychmygu, dydyn nhw ddim yn llwyddo weithiau. Roedd rhaid i'r gŵr stopio'r car a'u helpu mwy nag unwaith.

Monday, June 25, 2012

ofnadwy o ddel!

Fedrwn i ddim peidio gweiddi "kawaii !!" (del !!) pan welais i'r cathod bach yma. Gorchudd twll ar gyfer iPhone ydyn nhw. Roedd gan rywun yn Japan syniad da. Mi faswn eu heisiau nhw i gyd pe bai iPhone gen i. Dw i ddim yn meddwl y bydd y gŵr eisiau un ohonyn nhw, mae arna i ofn.

Sunday, June 24, 2012

nyth gwag

Mae'r pedwar aderyn bach wedi gadael eu nyth yn ddiogel y bore 'ma gan gynnwys y bychan a syrthiodd ddyddiau'n ôl. Rŵan rhaid clirio'r nyth a'r silff. (Y gŵr a wneith y gwaith wrth gwrs!) Er bod gweld yr adar yn tyfu'n brofiad arbennig, maen nhw wedi gwneud llanast mawr wrth y drws blaen. Fydda i ddim eisiau nyth arall yno. Dw i'n hynod o falch beth bynnag bod popeth wedi mynd yn dda efo nhw i gyd. 

Saturday, June 23, 2012

the tourist

Dw i ddim yn gwirioni ar Johnny Depp; dim ond eisiau gweld y golygfeydd oeddwn i. A ches i mo fy siomi. Roedd dinas Venezia'n fendigedig; roeddwn i wrth fy modd efo'r gwaith camera o awyren yn enwedig. Druan o'r actorion, fodd bynnag, a oedd yn gorfod plymio yn y camlesi. (Mae'n ymddangos bod golygfa felly yn angenrheidiol ar gyfer ffilmiau sy'n lleoli yno!)

Friday, June 22, 2012

y diwrnod cyntaf

Wedi rhoi dros ddwsin o gynigion i siopau lleol, mae fy merch wedi sicrhau gwaith rhan amser o'r diwedd. Ddoe oedd ei diwrnod cyntaf yn y siop hufen iâ boblogaidd. Roedd hi wrthi'n gweini cwsmeriaid am oriau. Rhaid i mi fynd â'r plant eraill yno i gael côn neu ddau (a mwy dw i'n siŵr) cyn hir.

Thursday, June 21, 2012

canlyniad gweld gemau

Mae fy nau fab wrthi'n gweld y Bencampwriaeth Pêl-droed Ewrop ar y teledu bob dydd. Maen nhw'n mynd i'r brifysgol leol lle cân nhw gysylltiad rhyngrwyd gwych. Roedden nhw'n arfer gweld gêm yn y bore, dod adref am ginio sydyn, a mynd ôl i weld gêm arall yn y p'nawn. Roedden nhw'n gweld dwy gêm ar yr un pryd yr wythnos yma wrth i'r bencampwriaeth nesau at y gêm derfynol. 


Efo cymaint o bêl-droed yn eu pennau, aethon nhw i chwarae gêm eu hun efo ffrindiau fy mab hynaf ddoe. Yn ymysg hogiau yn eu 20au, chwaraeodd fy mab ifancaf (12 oed) yn dda a sgorio gôl hyd yn oed! Effaith gadarnhaol y Bencampwriaeth heb os!

Wednesday, June 20, 2012

mae yna bedwar

Roeddwn i'n meddwl mai dau fabi yn y nyth wrth y drws ond mae yna bedwar. A syrthiodd un ohonyn nhw ddyddiau'n ôl. (Gosododd fy merch glustog dan y nyth rhag ofn!) Roedd ei fam yn ei fwydo lle'r oedd o, ond wrth gwrs roedd o mewn perygl. Fe wnaeth fy mab hynaf roi'r aderyn yn ôl at y nyth (yn gwisgo menig.) Mae'r bychan wedi setlo'n braf yn ffodus. Gobeithio y byddan nhw i gyd yn hedfan i ffwrdd yn ddiogel yn fuan.

Tuesday, June 19, 2012

hamburger enfawr

Roedd hi'n noson arall i bobl ifanc ein heglwys ni i godi pres. Roedden nhw'n gweini byrddau yn Del Rancho eto ac yn cadw'r cil-dwrn ar gyfer eu gweithgareddau. Es i a gweddill y teulu i'r tŷ bwyta neithiwr i'w cefnogi. Ces i frechdan gyw iâr. Cafodd y gŵr a'r ddau fab hamburgers enfawr. Pwysodd y cig tri chwater punt yr un. Gorffennodd yr hogiau bob tamaid. Cododd y bobl ifanc dros $500.

Monday, June 18, 2012

dim dŵr!

Mae'n dŵr ni newydd gael ei stopio heb rybudd. Mae yna ddynion dŵr yn gwneud rhywbeth yn yr ardd flaen. Maen nhw'n gwneud eu gwaith dw i'n gwybod, ond y broblem ydy chawson ni ddim rhybudd. Roedd rhaid rhoi'r peiriant golchi ar howld ar frys. Does dim dŵr i olchi dwylo hyd yn oed. Yn ffodus mae gan fy merch jwg llefrith wedi 'i lenwi efo dŵr ar gyfer ymarfer corf; dyma ni'n tywallt y dŵr ar ein dwylo ni i wneud y gwaith. Yn y cyfamser, mae'r criw'n cael hoe fach. (Mae'n amser cinio rŵan. Pam na ddechreuon nhw'r gwaith ar ôl bwyta eu cinio?)

Sunday, June 17, 2012

wythnos heb e-bost

Fel arfer dw i a fy merch hynaf yn e-bostio at ein gilydd bob dydd ac eithrio penwythnosau, a dan ni'n sgwennu am bethau sy'n digwydd yn ein bywydau ni. Dw i'n edrych ymlaen at hynny'n fawr i ddweud y lleiaf. Roedd hi yn Las Vegas efo'i gŵr a oedd yn mynychu cyfarfod yr wythnos diwethaf. Na fydd hi'n sgwennu pan fydd hi ar wyliau, felly chlywais i ddim ganddi hi am wythnos. Mae gen i lawer i ddweud wrthi a dw i'n siŵr bod ganddi hanes diddorol i adrodd wrtha i. Edrycha' i ymlaen at yfory!

Saturday, June 16, 2012

camp newydd

Mae "adeiladwr" Lego Japan newydd orffen model o deml enwog gyda 30,000 darn o Lego. Gweithiodd ar ei ben ei hun a chymerodd ond llai na mis i wneud y gamp. "Roedd yn anodd creu model o adeilad pren efo Lego, ond ces i hwyl," meddai fo. Bydd y "teml" yn teithio o gwmpas Japan yn y gaeaf wedi cael ei arddangos yn lleol gyntaf.

Friday, June 15, 2012

helo mr. huckabee! ond....

Roeddwn i'n ofni y byddai'n cael ei ganslo oherwydd diffyg diddordeb, ond cynhaliwyd y cinio neithiwr fel trefnwyd. Roeddwn i gyffro i gyd am y cyfle i glywed Mike Hukabee yn annerch yn fyw. Roedd yna tua 250 o bobl wrth fyrddau crwn. Methais i fwyta'r stecen amrwd ond dim ots. Roedd yr asbaragws yn dda. Yna dechreuodd rheolwr y cartref henoed sy'n trefnu'r cinio siarad am ei gynllun newydd dros y cartref.... 


Roeddwn i'n sylweddoli am y tro cyntaf wedyn mai achlysur ar gyfer y cartref yn hytrach na Mike Huckabee oedd y cinio! Do, siarad wnaeth o. Dyn clên, dyn o egwyddor ydy o, ond rhaid cyfaddef fy mod i wedi cael fy siomi achos fy mod i'n barod i glywed o'n siarad am y wleidyddiaeth gyfredol. Methais i aros tan y diwedd hyd yn oed gan fy mod i'n gorfod mynd i'r tŷ bach!

Thursday, June 14, 2012

hwrê i'r ffôn symudol

Roeddwn i'n arfer gorfod derbyn hanner dwsin o alwadau ffôn diangen bob dydd. Fedrwn i ddim peidio ateb pob galwad rhag ofn mai gan y teulu roedd o. Does dim rhaid i mi ei wneud o mwyach wedi cael gwared ar y ffôn cartref. Mae'n wych! Braf gwybod pwy sy'n fy ngalw cyn ateb y ffôn hefyd (er bod hyn yn hollol normal i'r rhan fwyaf o bobl bellach.) Yr unig golled ydy nad ydw i'n cael dweud, "Mae'n ddrwg gen i. Dw i'n brysur rŵan. Sgen i ddim amser" yn Gymraeg wrth y gwerthwyr!

Wednesday, June 13, 2012

tornado yn venezia

Wedi cael fy synnu'n clywed am dornado yn Japan yn ddiweddar, clywais i am un arall annisgwyl sy'n ymosod ar Venezia. Roedd awdur y blog hwn yn digwydd bod ar arfordir i dynnu'r lluniau a fideo. 

Tuesday, June 12, 2012

dau aderyn bach

Roeddwn i'n ofni bod y pâr wedi rhoi'r gorau i'r nyth wrth y drws blaen. A dweud y gwir, maen nhw wedi dychwelyd ers i mi sgrifennu amdanyn nhw ond ddoedden nhw ddim ar y nyth yn gyson; felly ces i fy synnu'n gweld dau ben bach yn sticio allan ohono fo ddoe. Dim ond trwy ffenestr y drws meiddia' i gael cip ar y bychan sy'n aros am eu bwyd yn amyneddgar. Gobeithio yr eith popeth yn iawn efo nhw.

Monday, June 11, 2012

blog newydd

Dechreuodd fy merch (sydd newydd raddio) flog Saesneg heddiw. Mae hi'n hoff iawn o ddarllen a sgrifennu storiau ac yn bwriadu astudio ysgrifennu creadigol yn y brifysgol mewn dwy flynedd. Ei breuddwyd ydy bod yn awdures. Dyma hi'n postio ei phost gyntaf

Sunday, June 10, 2012

ffôn symudol

Doedd gen i erioed ffôn symudol tan ddoe. Doedd fawr o angen arna i. Ond wrth i ni ganu'n iach i wasanaeth rhyngrwyd AT&T, cawson ni wared ar y ffôn cartref hefyd. Ac mae gen i ffôn bach bellach. Prin dw i'n gwneud galwadau ffôn; er mwyn derbyn negeseuon y teulu dw i angen ffôn. Dw i ddim yn gorfod ateb y ffôn dim ond i glywed llais gwerthwr yswiriant mwyach.

Saturday, June 9, 2012

mae'n gyflym

Daeth gweithwyr cwmni teledu cabl lleol ddoe i gysylltu'r modem newydd efo'r llinell. Mae popeth yn anhygoel o gyflymach! Fedra i ddim peidio gweld nifer o glipiau You Tube i fwynhau'r cyflymder. Hwrê! Mae'r gŵr newydd fynd i ganslo'r cytundeb efo AT&T.

Friday, June 8, 2012

yakult yn y gofod

Roeddwn i'n arfer yfed Yakult pan oeddwn i'n blentyn yn Japan. Ces i fy synnu'n ei weld ar silffoedd mewn siopau yng Nghymru hyd yn oed. Rŵan mae o'n mynd yn bellach. Mae'n bosib bydd gofodwyr yn dechrau yfed Yakult er mwyn cadw'n heini. Mae'r cwmni wrthi'n ymchwilio'r posibilrwydd. Os cân nhw ganiatâd, byddan nhw'n dechrau profi yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol. 

Thursday, June 7, 2012

picnic yn corea

Er ei bod hi o dan lawer o bwysau wrth gychwyn dysgu nifer o ddosbarthiadau Saesneg yr wythnos gyntaf, mae fy merch yn Corea wedi dod yn gyfarwydd â nhw'n eithaf cyflym. Aeth hi ar wibdaith efo'r plant a chael picnic un diwrnod. Ces i fy synnu'n gweld pa mor gyfarwydd ydy popeth  - yr olygfa, y plant, y pecynnau cinio.

Wednesday, June 6, 2012

pasta llydan

Daeth ffrind fy merch i dreulio noson efo hi (i lenwi'r tŷ bron gwag?!) I swper coginiais i gyw iâr mewn saws tomato ar basta. Roeddwn i eisiau defnyddio pasta llydan ond mae'n anodd ffeindio amrywiaeth o basta yma. Doeddwn i ddim eisiau egg noodles. Yna, gwelais hwn ar waelod y silff. Fettuccine mae'n dweud ond maen nhw'n lletach na'r lleill, a mewnforiwyd o'r Eidal. Cawson ni saig flasus (er fy mod i'n dweud fy hun!)

Tuesday, June 5, 2012

canlyniad y storm

Cawson ni storm ofnadwy ddwy noson gynt. Dim ond p'nawn ddoe gwelais i hi - un o'n coed mawr ni wedi cael ei thorri'n ddau a gorwedd yn yr ardd gefn, dim ond llath oddi wrth y llinell drydan! Dw i'n falch iawn nad oedd hi'n cwympo ar y ffens chwaith. Bydd y gŵr yn ei thorri'n goed tân rywdro i ni gael eu llosgi yn y gaeaf nesa.

Monday, June 4, 2012

mae'n ddistaw

Mae'r plant ac eithrio un sy'n chwilio am waith wedi mynd at eu chwaer hŷn yn Norman am wythnos. Mi dwtiais i'r tŷ wedi iddyn nhw adael ddoe. Mae popeth yn dal yn daclus! Roedd yr awyrgylch yn rhyfedd ystod y swper neithiwr efo cyn lleied o bobl. Rŵan mae fy merch yn swyddfa ei thad, felly mae'n hollol ddistaw yn y tŷ. Dw i'n medru clywed tician y cloc.

Sunday, June 3, 2012

oedfa mewn tywyllwch

Roedd y gweinidog yn nesau at ddiwedd ei bregeth. Yn sydyn collon ni'r trydan. Trodd yr unig olau argyfwng ymlaen ond gan nad oes ffenestri ar y wal, roedden ni mewn hanner tywyllwch yn yr eglwys. Agorwyd y drysau i ni gael mwy o olau a chanwyd cwpl o ganeuon addoli i orffen yr oedfa. Cawson ni'n synnu ond roedd braidd yn ddymunol clywed adar tu allan wrth y gweinidog gwblhau'r oedfa. 

Saturday, June 2, 2012

ffarwel i att

Cawson ni ddigon. Mae AT&T yn enwog am eu gwasanaeth gwael. Does dim digon o staff, felly mae'n cymryd ofnadwy o hir i siarad â pherson go iawn ar ffôn. Hefyd mae'n ymddangos nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwella eu gwasanaeth chwaith. Dan ni newydd ffeindio bod cwmni teledu cabl lleol yn darparu gwasanaeth rhyngrwyd hefyd. Maen nhw'n ddrytach na AT&T ond yn 20 gwaith yn gyflymach. Felly ffarwel i AT&T am byth!

Friday, June 1, 2012

gwaith yr haf

Mae fy merch yn chwilio am waith yr haf ond mae'n anodd. Mae hi wedi rhoi cais at ddwsin o siopau lleol ond heb lwyddiant; mae yna lu o bobl ifanc sy'n gwneud yr un peth. Enillodd ysgoloriaeth i fynd i'r brifysgol ond dydy hi ddim yn talu am bopeth, felly mae hi angen gwaith. Cafodd hi waith am y tro felly yn swyddfa ei thad yn twtio'r lle a gwneid y gwaith cyfrifiadur nes iddi ffeindio rhywbeth.