Tuesday, March 30, 2010

haul ac awyr las

Dw i newydd orffen y llyfr hwn gan Cathrin Williams. Llyfr am ei phrofiadau a gafodd hi ym Mhatagonia ydy hwn. Treuliodd hi flwyddyn gron draw yn 1990 a 1991 yn dysgu dosbarthiadau Cymraeg sawl tro'r wythnos a phregethu o dro i dro wedi cael ei swyno gan y Wladfa ddeg o flynyddoedd cynharach.

Fel mae hi'n ei gyfaddef, cofnod personol ydy hwn, nid llyfr teithio i ddidynnu'r gynulleidfa eang. Fodd bynnag, mwynheais i'n fawr. Drwy ei Chymraeg coeth, ces i gip ar y bobl draw, hynny ydy'r bobl a ddaeth yn ffrindiau annwyl iddi sy mor niferus. A dw i'n cyd-deimlo â hi dros ei hiraeth am Batagonia er bod gwrthrych fy hiraeth yn wahanol iddi hi.

Mae'r llyfr allan o argraff bellach a phrynais i'r copi'n ail-law. Mae Cathrin yn sgrifennu colofnau i Ninnau, papur newydd Cymreig yng Ngogledd America. Roeddwn i'n gwirioni arnyn nhw pan oeddwn i'n tanysgrifio iddo fo. Falch o gael cyfle i ddarllen llyfr cyfan gwbl gynni hi.

Monday, March 29, 2010

diwedd y gaeaf

Beth sy'n cyfleu diwedd y gaeaf i chi? I mi - ein llosgwr logiau oer. Roedden ni'n llosgi'n logiau olaf ni ddoe ac mae'r llosgwr heb dân bellach. Mae gynno fo olwg braidd yn drist. Does dim rhaid cludo logiau o'r garej na chadw'r tân na llnau'r lludw drwy'r amser. Ac eto dw i'n ei golli fo yn enwedig y bore ma wrth i'r tymheredd ddisgyn yn annisgwyl neithiwr ac mae'n oeraidd!

Saturday, March 27, 2010

bbc vocab

Teclyn hwylus gallai fo fod. Ond yn aml iawn dydy BBC Vocab ddim yn dangos ystyr geiriau mwy anodd tra bydd o'n esbonio rhai syml.

Pa ddysgwr sy'n ddigon profiadol i ddarllen newyddion Cymraeg ddim yn gwybod beth ydy Cymru? Ond dydy gair fel 'crebachu' ddim yn cael ei liwddangos ar y dudalen hon. Ddim yr unig enghraifft ydy hyn chwaith. Well i mi beidio troi ato fel na cha' i mo fy siomi.

Tuesday, March 23, 2010

hwyaid ar orymdaith


Buodd y gŵr yn Memphis, Tennessee i draddodi darlith mewn prifysgol yn ddiweddar. Roedd o'n aros yng Ngwesty Peabody sy gan atyniad rhyfeddol i'w westeion. (Doedd o ddim yn gwybod amdano nes ei weld o.) Dyma fo'n gyrru llun o'r olygfa neithiwr. Mae'n anodd gweld yr hwyaid mae arna i ofn, ond mi gewch chi weld pa mor boblogaidd ydyn nhw!

Sunday, March 21, 2010

cenhinen pedr yn zushi




Un o'r pethau roeddwn i'n edrych ymlaen ato yn Japan oedd cyfarfod Catharine, Cymraes Gymraeg o Sir Fôn. Mae hi'n byw yn Japan ers 45 mlynedd wedi priodi dyn o Japan. Es i i Zushi, tref fach dwt ar lan y môr i'w chyfarfod a Nagako, ei ffrind Japaneaidd sy newydd ddechrau dysgu Cymraeg.

Mae Catharine yn dysgu'n llawn amser fel athro mewn prifysgol leol ac yn hollol rugl yn Japaneg. Ces i fy synnu'n clywed bod Dewi Llwyd wedi dod o'r blaen i Zushi i'w chyfweld hi.

Roedd hi'n ddiwrnod braf. Cerddais i ar y traeth cyn mynd i dŷ Catharine. Yna, ces i amser gwych gyda nhw'n sgwrsio, mynd am dro i ben y bryn a chael te blasus. Aeth yr amser heibio'n rhy gyflym. Roedd rhaid i mi adael yn gynnar i osgoi 'rush hour' ar y trên.

Roedd un genhinen Pedr o Ynys Môn yn dal i flodeuo yn ardd Catharine.

Saturday, March 20, 2010

japan!




Dw i'n ôl wedi treulio wythnos ddymunol yn Japan. Dyma'r tro cyntaf i mi fod yno ers tair blynedd. Treuliais i'r rhan fwyaf o'r amser gyda fy mam a oedd wrthi'n coginio prydau o fwyd blasus drosta i. Roedd yn braf cerdded y ffyrdd cul distaw ger ei fflat a'r strydoedd prysur gydag amrywiol o siopau wrth y ddwy ochr. Roedd yn ddigon oeraidd i fwynhau'r bath Japaneaidd gwych hefyd. Y peth rhyfedd oedd i mi deimlo fel pe bawn i wastad yn byw yn Japan heb symud i nunlle.

Friday, March 12, 2010

hwyl am y tro

Gadawa i am Japan yfory. Bydda i'n treulio'r rhan fwyaf o'r amser gyda fy mam a fydd yn 88 oed y mis nesa. Eith y teulu at fy merch hynaf yr wythnos nesa gyfan ar wahân i'r gŵr sy'n gorfod dychwelyd yn gynt i weithio (a gofalu am y moch cwta a'r pysgod.)

Prynais i lyfr Cymraeg i ddarllen ar yr awyren yn benodol. Mae'r iPod wedi ei lenwi gyda fy ffefrynnau. I ffwrdd â fi felly. Edrycha i ymlaen at sgrifennu fy mlog yr wythnos wedyn.

Wednesday, March 10, 2010

ffarwelio â thostiwr

Dw i'n credu'n siŵr bod nifer mawr o offerynnau'n cael eu gwneud i beidio para'n hir yn fwriadol ddyddiau hyn. Mae rhaid i ni brynu microdon a thostiwr bron i bob dwy flynedd.

Heno gwelon ni ddiwedd ein tostiwr arall. Dan ni ddim yn bwriadu prynu un newydd fodd bynnag. Digon yw digon. Rhaid byw hebddo. Os bydda i eisiau tost yn arw, gwna i un ar badell ffrio. A dydy'r gŵr ddim eisiau trafferthu ei hun. Well gynno fo fwyta ei fara heb ei dostio. Mae yna fwy o le ar gownter y gegin bellach.

Monday, March 8, 2010

parti gwragedd


Es i i barti gwragedd heno i groesawu rhai sy newydd ddechrau dod i'n heglwys ni. Chwaraeon ni gêm fach er mwyn cael nabod ein gilydd yn well. Roedden ni i fynd ag eitem i ddangos i bawb beth ydy'n diddordebau. A rhaid iddo gael ei guddio mewn gorchudd gobennydd. Penderfynais i fynd â fy Meibl Cymraeg. Ces i gyfle i sôn tipyn am Gymru wrth un o'r gwragedd wedyn. Mi wnes i grasu Bara Brith i'r achlysur hefyd. Roedd yna ryw ugain a oedd yn mwynhau sgwrsio, lluniaeth ysgafn, 'jigazo' a ballu.

Sunday, March 7, 2010

fy ipod cyntaf!


Rhaid cyfaddef bod gen i ofn taclau newydd. Dw i'n gyfarwydd â defnyddio MACs i raddau bellach ond heb wybodaeth helaeth. Felly doeddwn i ddim yn awyddus i brynu iPod er pa mor boblogaidd ydy o. Dw i wedi bod yn dibynnu ar fy chwaraewr CD a fy recordydd tâp ffyddlon. Prynu un fodd bynnag wnes i'n ddiweddar er mwyn cael clywed Cymraeg yn hawdd tra bydda i oddi cartref i ymweld â fy mam yn Japan wythnos nesa. (Does gynni hi ddim cyfrifiadur.)

Fedra i ddim credu pa mor fach ydy o (iPod Shuffle) ac yntau'n medru dal cymaint o ganeuon a ballu. Yn ogystal â'r podlediad Cymraeg i ddysgwyr, dw i'n bwriadu recordio fy ffefrynnau Radio Cymru drwy Garage Band. Dw i ddim yn deall sut mae popeth yn gweithio, cofiwch. Dim ond dilyn cyfarwyddiadau'r gŵr dw i. Er bod y sain yn mynd drwy seinydd i Garage Band, mae o'n swnio'n eitha da ar iPod. Dw i'n hollol fodlon.

Friday, March 5, 2010

hugh griffith

Clywais yn rhaglen Nia heddiw am Hugh Griffith, actor o Sir Fôn a enillodd y wobr actor cynorthwyol gorau yn ffilm Ben Hur. Fe'i gofynnwyd gan griw a oedd yn medru Arabeg. Atebodd yn gadarnhaol ond yn Gymraeg a floeddiodd ar y ceffylau! Ces i hyd i'r clip ond mae'n amhosibl canfod beth oedd o'n ei ddweud. (Mae o'n ymddangos sawl tro.) Hanesyn difyr iawn beth bynnag.

Wednesday, March 3, 2010

codi'n blygeiniol

Dw i wrth fy modd yn darllen papurau bro. Braf yw cael gwybod beth sy'n digwydd mewn bywydau pobl gyffredin a chael dysgu geiriau newydd yr un pryd. Dw i'n mwynhau amrywiaeth o ddulliau sgrifennu hefyd.

Maen nhw'n rhy niferus i mi ddarllen pob dim, felly dw i'n tueddu i ganolbwyntio ar y rhai yng ngogledd-orllewin. Darllenes i erthygl heddiw am frecwast arbennig i godi arian at elusen. Y gair newydd a ddysgais i'r tro 'ma oedd "plygeiniol." Roedd rhaid i'r ddynes godi'n blygeiniol i baratoi'r brecwast mawr. Dysgais i "codi'n fore" ar fy ffordd i'r Bala'r llynedd. Tybiwn i fod y ddau ymadrodd yn golygu'r un peth.

Monday, March 1, 2010

cinio gŵyl dewi


Cawson ni gawl cennin (efo tatws, bacwn, persli a hufen,) tost caws a Bara Brith i ginio Gŵyl Dewi. Dydy neb arall yn dathlu'r Ŵyl yn ein hardal ni. Gwnes i'n siŵr fod fy nheulu'n ymwybodol ohoni hi drwy osod y bwrdd yn arbennig. Maen nhw'n hoff iawn o ginio Gŵyl Dewi beth bynnag. Fydden nhw ddim yn cwyno pe bai hi'n ddydd Gŵyl Dewi bob mis!