Monday, November 30, 2009

brat cymraeg


Gyrrodd fy merch hynaf luniau a dynnodd hi yn ystod y cinio mawr. Dyma fi wrthi'n gweini pasteiod pwmpen wedi'u hanner llosgi. Y fi argraffodd DA IAWN ar fy mrat. (Fy hoff frat ydy o wrth reswm.) Cliciwch y llun i weld y geiriau'n well. Un o fy merched iau a grasodd y bisgedi.

Sunday, November 29, 2009

ar ôl yr wyl

Mae'r plant hyn wedi gadael y p'nawn 'ma, ac mae'r gweddill o'r teulu i ffwrdd heblaw am yr hogin fenga. Dw i newyydd orffen golchi'r dillad gwlau a hwfro ddwy ystafell. Does dim rhaid i mi baratoi swper heno. Dyma gael hoe fach efo panad o Paned Gymerig. 

Mi wnes i "enchilada" efo'r twrci oedd ar ôl neithiwr. Cuddiodd y perlysiau cryf arogl y cig. Roedd yn saig lwyddiannus. Dw i'n bwriadu gwneud hon ar ôl bob cinio twrci.

Wnaethoch chi wrando ar Ddal i Gredu heddiw? Rhys Llwyd sy'n westai'n trafod ei ffydd efo Maldwyn Thomas.

Friday, November 27, 2009

cinio gwyl ddiolchgarwch, 2


Dyma ginio mawr wedi drosodd a dw i wedi ymlâdd. Roedd y twrci'n flasus, diolch i'r bag popty. Aeth popeth yn iawn heblaw am y pasteiod pwmpen a oedd ar fin llosgi. (Anghofies i droi tymheredd y popty i lawr ar ôl y 15 munud cyntaf.) Ac eto cafodd pawb amser da. Roedd yna 13 wrth y bwrdd. Baswn i wrth fy modd yn ymlacio mewn 'onsen' - tarddell boeth yn Japan rwan!

Thursday, November 26, 2009

cinio gwyl ddiolchgarwch, 1



Gwyl Ddiolchgarwch ydy hi heddiw yn yr Unol Daleithiau. Mae'r rhan fwyaf o'r teuluoedd yn cael cinio traddodiadol mawr heddiw ond bydda i a fy nheulu'n cael ein un ni ar ddydd Gwener ers i'r ferch hanaf briodi. Gyda theulu ei gwˆr mae hi'n treulio dydd Iau ac wedyn dod aton ni ddydd Gwener. Felly bydda i'n coginio fy nhwrci yfory.

Es i a'r teulu i dyˆ bwyta yn y dref am ginio twrci fel llynedd. Yr un tyˆ bwyta sy'n cynnig cinio'n rhad ac am ddim eto. Roedd o'n llawn o fyfyrwyr a rhai trigolion a oedd eisiau derbyn y cynnig hael. Cafodd pawb ddigon o fwyd blasus.

Tuesday, November 24, 2009

dw i'n dysgu, rwy'n dysgu, rwyf yn dysgu, neu...

Dw i'n defnyddio'r ffurf 'dw i' ers dechrau dysgu Cymraeg rhyw chwe blynedd yn ôl, a fedra i ddim meddwl dweud dim byd arall ar lafar. Ond dw i'n gwybod bod 'dw i' yn eithaf anffurfiol ac eisiau defnyddio rhywbeth arall pan ysgrifenna i'n ffurfiol, e.e. llythyron ymholiad ayyb. (Dw i'n bwriadu cadw 'dw i' yn fy mlog .)

Beth ydy'r ffurf bersonol amser presennol 'bod' addas yn yr achos hwn? Un o'r pethau anodd i ddysgwyr Cymraeg ydy hyn yn fy nhyb i. 


Sunday, November 22, 2009

golygfa

Pan gyrhaeddais ben y bryn y bore ma, dyna beth welais at y dwyrain - haenau o fynyddoedd glas yn nofio yn y niwl gwyn yn y pellter. Dyma droi i mewn i'r fynwent yn ymyl i dynnu lluniau o'r olygfa. Mae hi mor hardd fel fy mod i wedi penderfynu gosod y llun fel 'header.'

Thursday, November 19, 2009

wedi gorffen

Dw i newydd orffen uned olaf Cwrs Meistroli ac yn teimlo cymysgedd o falchder a thristwch. Falch o, wrth gwrs, gyflawni'r cwrs a thrist oherwydd nad oes gen i ddim uned i'w wneud a'i gyrru hi at fy nhiwtor. Ond dyna ni. Y mae amser i ddechrau ac amser i orffen.

Roedd yn wych cael dysgu mewn strwythur a bod yn atebol am fy ngwaith heb sôn am gael gofyn cwestiynau i fy nhiwtor. Mae Nia, gyda llaw, yn diwtor medrus a ffeind. Mae hi'n barod i helpu bob tro. 

Yr unig broblem gyda'r cwrs oedd y modd cludiant fel enw'r cwrs yn ei awgrymu - trwy'r post. Roedd yna ddwy streic Bost Brenhinol ers i mi ddechrau Cwrs Pellach ddwy flynedd yn ôl. Aeth uned ar goll hyd yn oed. Clywes i si y byddai'r cyrsiau'n mynd ar lein cyn hir. Basai hynny'n cyflymu'r broses yn sylweddol a dileu'r tâl post. Ond ar y llaw arall, basai hynny'n cwtogi'r mwynhad o wneud y cyrsiau..... O, wel, rhaid bwrw ymlaen, tydy?

Wednesday, November 18, 2009

o law i law

Doeddwn i ddim yn bwriadu darllen 'o Law i Law' yn wreiddiol a dweud y gwir ond prynais gopi o barch i Lanberis wedi treulio wythnos mor ddymunol yno. Ond ces i fy siomi ar yr ochr orau. Dw i wedi crio a chynhyrfu wrth ddarllen nofelau Cymraeg o'r blaen, ond dw i ddim yn cofio chwerthin yn braf. 

Mae John Davies, y prif gymeriad yn atgofio ei ddyddiau cynt. Pan ddaeth ffilm fud i'r pentref am y tro cyntaf, cafodd o a'i ffrind iddo eu gofyn i ddarparu 'sound effects' tu ôl y sgrin er mwyn tynnu mwy o bobl i'r ffilm. Er gwaethaf eu holl ymdrechion, daeth y "sound effects' eiliadau yn rhy hwyr a chaethon nhw eu hwtio gan y gynulleidfa. Druan o'r hogia!

Dydy fy nisgrifiad ddim yn ddigon da i gyfleu pa mor ddoniol ydy'r olygfa. Edrycha i ymlaen at ddarllen gweddill y nofel.

Monday, November 16, 2009

golygfa arall


Er fy mod i wedi dweud wrth Neil na sgrifenna i am swper mwyach, roedd rhaid tynnu llun o blât fy mab fenga heno. Caethon ni giw iâr, tatws stwns gyda grefi a brocoli. Creodd o olygfa yn ddangos coed gwyrdd o gwmpas llyn distaw... Os oes yna blant sy ddim yn hoffi brocoli, efallai'r basai hyn yn eu temtio nhw i'w bwyta.

Saturday, November 14, 2009

golygfa'r geni















Sbïwch beth ges i gan Judy o'r Bala! Hi ydy'r Saesnes yr arhosais gyda hi yn ystod yr Eisteddfod. Cogyddes gampus ydy hi ac mae hi'n gwau'n fedrus dros ben. Addawodd hi y byddai'n gwau set olygfa'r geni pan oeddwn i gyda hi. A chyrhaeddodd becyn heddiw. Mae pob doli'n cael ei gwau'n ofalus iawn ac maen nhw i gyd mor annwyl. Gosoda i nhw ar fwrdd ar ôl Gwˆyl Ddiolchgarwch.

Friday, November 13, 2009

gair newydd

Mae'n wych dod ar draws gair dw i newydd ei ddysgu mewn cyd-destun arall!

'Geriach' ydy'r gair y tro hwn. Un o'r geiriau dw i wedi ei ddysgu yn Uned 20, uned olaf y cwrs Cymraeg trwy'r post, a gair rhyfedd braidd ydy o achos fod o'n swnio fel ansoddair cymharol  - rhatach, iachach, oerach, geriach. Ond enw ydy o.

Dw i wedi dechrau darllen 'o Law i Law' a brynes i'n ail law ym maes yr Eisteddfod. Wrth gofio mynd i'r dref Caernarfon am ddiwrnod o hwyl gyda'i ewythr, mae John Davies, y pryf gymeriad yn adrodd beth ddwedodd ei fam wrth ei brawd:

"Daliai fy mam fod f'ewythr yn fy nifetha'n lân a châi ef siars ganddi, pan adawem am y trên, i beidio â phrynu melysion a phob math o 'hen geriach' imi yn y dref."

Does yna ddim treiglad meddal ar ôl 'hen' gyda llaw?

Thursday, November 12, 2009

fedrwch chi weld


Fedrwch chi weld y Ddraig Goch? Pan barcia i fy nghar ym maes parcio Wal-Mart, gwna i'n siwˆr y wynebith blaen y car allan. Ches i erioed sylw gan neb hyd yma gwaetha'r modd, ond pwy a wˆyr?

Wednesday, November 11, 2009

croeso mawr i oklahoma, mr. huckabee!


Roedd siop lyfrau fach yn Edmond, Oklahoma yn llawn dop neithiwr. Roedd yna gannoedd o gefnogwyr Mike Huckabee yn ciwio i gael ei lofnod ar gopïau ei lyfr newydd. 

Fy merch hynaf a'i gwr oedd dau ohonyn nhw. Cefnogwraig Huckabee bybyr ydy hi a dyma hi'n peintio llun bach sydyn a rhoi'n anrheg iddo fo ynghyd â'r cerdyn yr ysgrifennodd fy mhlant iau negeseuon arno.

Mae o'n cael amser caled ond ceith o hyd i ffrindiau yn Oklahoma.

Tuesday, November 10, 2009

barod am y gaeaf

Amser cael lanhau'r simnai mae hi rwan er bod hi'n dal yn gynnes. Does wybod pryd bydd hi'n troi'n aeafol. Felly daeth yr hogia arferol i wneud y gwaith. Roedd yn cymryd yn hirach nag arfer. Rhaid bod y simnai'n fwy budr. Ar ôl iddyn nhw fynd, roedd y gwaith hwfro'n fy nisgwyl. Hyn ar ôl yr holl waith cribino'n ddiweddar! Doedd gen i ddim dewis ond bwrw ymlaen.

Wedi blino'n lân. Yr hyn roeddwn i'n meddwl amdano tra oeddwn i'n hwfro oedd - panad! Paned Gymreig hefo llymaid o lefrith. A dw i'n ei fwynhau o wrth sgwennu hyn. :)

Sunday, November 8, 2009

cribino!


Mae'r mab hynaf i ffwrdd. Mae'r gwˆr yn brysur dros ben. Mae gan y ferch hyˆn gefn tost. Mae gan y merched iau asthma. 

Rhaid gwneud y gwaith cribino wedi i'r cymdogion gribino eu gerddi blaen yn ddiweddar. Faswn i ddim eisiau i'r dail yn ein gardd ni gael eu chwythu i'w gerddi taclus. 

Felly dim ond fi a'r mab fenga sydd ar gael i wneud y gwaith. Roedden ni'n gweithio am ryw awr neithiwr yn y tywyllwch ac awr arall prynhawn yma. Basai'n ormod i ni'n ddau gribino'r ardd gyfan. Dim ond lle mwyaf amlwg iddi edrych yn ddigon taclus cribinon ni. Dw i wedi ymlâdd ond yn fodlon bod y gwaith wedi gorffen (am eleni!)

Saturday, November 7, 2009

collddail

Dw i newydd ddod ar draws y gair hwn wrth ddarllen papur bro Dyffryn Ogwen. Collddail - un o eiriau Cymraeg hunanesboniadol. Sut ydw i fod i wybod sut i ynganu heb sôn am beth ydy ystyr y gair hwn - deciduous?

Thursday, November 5, 2009

panad


Roedd y te a ges i yng Nghymru'n hynod o dda bob tro. Un o'r pethau dw i'n ei golli ydy o. 

Fedrwn i ddim dioddef y te a werthir yn y siopau yma mwyach, a dyma yrru e-bost at Carol yn Llanberis yn gofyn pa fath o de maen nhw'n ei yfed. Paned Gymreig wrth gwrs, a dyma brynu rhai ar lein gan gwmni o Texas. 

Mae o newydd gyrraedd a ches i banad hyfryd wrth ddarllen y pob gair Cymraeg ar y pecyn.

Wednesday, November 4, 2009

y fflam olympaidd

Wedi clywed gan Linda am y Fflam Olympaidd a ddaeth drwy'r dref Comox, dyma feddwl sut basai'n teithio dros y môr. Ar y llong efallai. Beth fasai'n ddigwydd yn y nos? Tybiodd fy ngwr mai cael ei ddiffodd yn ystod y nos a chael ei gynnau'r bore wedyn rhag achosi tân basai fo! Na, fedrwn i ddim credu hynny. Y fflam arbennig ydy o sy'n cael ei gynnau yng Ngroeg.  

 - awyren arbennig, criw o osgorddion i amddiffyn y fflam dydd a nos! Am ofal!





Tuesday, November 3, 2009

tawelwch yn Llanberis

Er bod y caffi newydd ar gopa'r Wyddfa wedi dod â nifer mawr o ymwelwyr i Lanberis yn rhoi hwb i economi'r dref, efallai nad ydy'r trigolion yn medru teimlo rhywfaint o ryddhad wedi i'r caffi gau ei ddrws dros y gaeaf.

Ymysg yr holl brysurdeb yn y dref, roedd y trên bach a oedd yn cario'r ymwelwyr a oedd am weld y caffi newydd yn rhedeg bob hanner awr.  Roedd o'n chwydu mwg du o'i gwmpas wrth ddringo a disgyn y mynydd. Roedd yr arogl mor ofnadwy fel fy mod i'n teimlo'n sâl a phenderfynais beidio mynd ar y trên wedi'r cwbl. Mae yna nifer o dai o gwmpas yr orsaf. Dw i'n teimlo dros y bobl sy'n byw yno. Tybed oes yna gynllun i wneud y trên yn drydanol?

Sunday, November 1, 2009

'wedge formation'


Ar ôl gwylio hanes Buddug ar 'You Tube,' cafodd fy mab fenga syniad. Dyma fo'n creu gyda'i Lego golygfa'r frwydr rhwng byddin Rufeinig a phobl Buddug. Sbïwch ar 'Wedge Formation' y Rhufeinwyr.