Wednesday, November 29, 2023

e-bost at aelodau IDF


Wrth i'r frwydr rhwng da ac anfad parhau yn Gaza, dyma gyfle i ysgrifennu e-bost at aelodau IDF er mwyn dangos cefnogaeth a chodi eu calonnau. Gyrru neges sydyn o fy nghalon a wnes i hefyd.

Tuesday, November 28, 2023

wobr heddwch nobel


"Enillodd Hamas Wobr Heddwch Nobel am ryddhau sawl plentyn a herwgipion nhw."
"Mae dynoliaeth, trugaredd a charedigrwydd eu gweithred yn ein hysbrydoli ni." 

Unwaith eto, gall erthygl y Wenynen wireddu un diwrnod.

Monday, November 27, 2023

llosgwr logiau

Cynnon ni tân yn y llosgwr logiau heddiw wrth y tymheredd ostwng yn ddigon oer. Mae gynnon ni fwy na digon o logiau i bara drwy'r gaeaf, diolch i'r ffrind sydd gan goedydd ar ei dir. Dyma'r gŵr wrthi'n gwneud ei hoff weithgaredd gaeafol. Dyma fi'n sychu'r dillad wrth y llosgwr.

Saturday, November 25, 2023

tarian

Stopiodd llyfr Salmau fwledi yn achub bywyd milwr IDF yn Gaza. Mae nifer o bobl yn gweddïo dros Israel. 

Friday, November 24, 2023

cinio diwrnod diolchgarwch yn japan

Cafodd fy mhlant yn Japan gyfle i fwyta cinio Diwrnod Diolchgarwch mewn tŷ bwyta Americanaidd. Dywedon nhw eu bod nhw'n teimlo fel pe baen nhw'n cael eu cludo yn ôl i'r Unol Daleithiau. Mae'n ymddangos, fodd bynnag, bod yna wahaniaeth mawr, sef maint y bwyd!

Thursday, November 23, 2023

diwrnod diolchgarwch

Molwch yr Arglwydd.
Diolchwch i'r Arglwydd, oherwydd da yw,
ac y mae ei gariad hyd byth.
Pwy all draethu gweithredoedd nerthol yr Arglwydd,
neu gyhoeddi ei holl foliant?
Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw barn,
ac yn gwneud cyfiawnder bob amser
y Salm 106

Tuesday, November 21, 2023

cowbois o america

Mae cowbois o America wrthi'n gweithio yn ffermydd Israel i roi cefnogaeth i gymunedau Jwdea Samaria yn yr amser caled. Go da, hogia! Gobeithio bod pobl Israel yn gweld bod Cristnogion go iawn yn eu caru nhw.

Monday, November 20, 2023

penblwydd priodas cyntaf

Dathlodd fy merch a'i gŵr yn Japan eu penblwydd priodas cyntaf ddoe. Aethon nhw'n ôl at y tŷ bwyta lle gynhaliwyd y seremoni a'r wledd briodas. Roedd criw'r gegin yn eu cofio nhw, a thynnodd staff lun hwn. Mae'r cwpl yn disgwyl eu babi cyntaf ym mis Chwefror!

Saturday, November 18, 2023

ysgwydd wrth ysgwydd

Dyma Samer. Mae o'n Gristion ac  Islaeliwr Arabaidd. Mae o'n falch o berthyn i IDF ac o fod yn ddinesydd o Wladwriaeth Israel. "Does gen i ddim mamwlad arall," meddai.

Mae o wrthi'n brwydro gyda'i frodyr Iddewig, ysgwydd wrth ysgwydd, er mwyn amddiffyn eu gwlad. "Byddwn ni'n ennill y rhyfel hwn, ac os myn yr Arglwydd, yn dod â’r gwystlon adref yn ddiogel," meddai.

Friday, November 17, 2023

allwch chi ddim caru Duw heb ....

Ymysg 300,000 o bobl a fynychodd y gwrthdystiad dros Israel yn Washington D.C., rhaid bod yno nifer mawr o Gristnogion sydd yn caru Iddewon ac Israel. Fel dywedodd Corrie Ten Boom, "Allwch chi ddim caru Duw heb garu'r bobl Iddewig." Wedi'r cwbl, Iddew ydy Iesu Grist!

Wednesday, November 15, 2023

sefyll gyda israel

Cynhaliwyd gwrthdystiad dros Israel yn Washington D.C. ddoe a fynychwyd gan 300,000 o bobl - Iddewon a Christnogion o bob cwr o UDA. 


"Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy.”
2  Brenhinoedd 6:16

Tuesday, November 14, 2023

o'r afon i'r môr

Mae torf yn galw am ddinistrio mamwlad yr Iddewon o'r afon i'r môr.
Addawodd Duw i roi tir o'r afon i'r môr i'w bobl.
Gyda llaw, Afon Iorddonen mae'r dorf yn ei olygu
tra mai Afon Ewffrates mae Duw wedi'i rhoi i'r Iddewon.

Monday, November 13, 2023

tasg amhosibl, rhifyn israel


Mae Dani wrthi'n chwarae gêm gynyddol gyda'i "ffrind." Mae ei ffrind yn cael hi'n ofnadwy o anodd ateb cwestiynau mae Dani'n gofyn iddo fo'n gyflym ac yn ddi-baid, os nad yn amhosibl. Ceisiwch eu hateb, bobl! 


Saturday, November 11, 2023

diwrnod feterans

Diolch yn fawr i'r holl gyn-filwyr. Diweddar dad y gŵr a oedd un ohonyn nhw. Carodd ei deulu a'i wlad hyd at ddiwedd ei fywyd. Mi fydd o'n colli ei galon pe byddai o'n cael gwybod beth sydd yn digwydd i'w wlad annwyl heddiw.

Thursday, November 9, 2023

mae oklahoma yn sefyll gydag israel

Aeth Kevin Stitt, Llywodraethwr Oklahoma ynghyd â Greg Abbott, Llywodraethwr Texas i Israel yr wythnos diwethaf. Wrth gyfarfod Benjamin Netanyahu, sicrhaodd fyddai Oklahoma yn sefyll gydag Israel fel ffrind, a byddai'n dal i weddïo drosti hi. Hwrê i Kevin Stitt!

Wednesday, November 8, 2023

brenhines y byd

Fe'm coronwyd yn Frenhines y Byd, gan fy ŵyr am fy mhenblwydd heddiw! Ysgrifennodd y neges greadigol yma ar y cerdyn. Hon ydy'r anrheg fwyaf annwyl a ges i erioed.

Tuesday, November 7, 2023

yfwch win!


Mae gwinllannoedd Israel yn cael hi'n ofnadwy o galed oherwydd bod eu gweithiwyr ifanc wedi'u galw i wasanaethu yn IDF. Dyma fodd gwych i'w cefnogi nhw - yfed gwinoedd Israel! Prynodd fy merch hynaf boteli ar unwaith, ond dydyn nhw ddim ar gael yn y dref fach hon. Archebais gas ar y we drwy Kosherwine. (Ces gludo rhad ac am ddim.) 

Monday, November 6, 2023

dysgu tramor, blwyddyn i ffwrdd yn gaza

"Cyfnewid pob gwystl gyda 100 myfyriwr o'r Unol Daleithiau o blaid Hamas"
"Da dros Israel, da dros UDA, da dros Hamas"
"Addysgol i fyfyrwyr"

Un o'r arwyddion doethaf a mwyaf doniol welais erioed!

Saturday, November 4, 2023

fel tarian

Bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau,
a chanu mewn llawenydd yn wastad;
bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw,
fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti.
Oherwydd yr wyt ti, Arglwydd, yn bendithio'r cyfiawn,
ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.
y Salmau 5: 11,12

Friday, November 3, 2023

cyflenwadau ac offer meddygol


Aeth nifer mawr o Iddewon ifanc sydd yn byw tu allan i Israel yn ôl at eu gwlad nhw er mwyn ymuno ag IDF yn yr argyfwng cenedlaethol. 

Daniel ydy un ohonyn nhw. Mae o'n ffrind i fy merch hynaf. Ar ôl gwasanaethu fel meddyg yn IDF am dair blynedd, roedd yn byw yn yr Unol Daleithiau nes dydd erchylltra'r Hydref 7. Yn ôl yn Israel rŵan, mae o a'i dîm yn ceisio codi arian ar gyfer cyflenwadau ac offer meddygol yn ôl y rhestr a luniwyd gan y meddygon a'r nyrsys ar ffiniau Israel. Eu nod nhw ydy 60,000 o ddoleri. Dyma'r linc.

Wednesday, November 1, 2023

achubwyd


Cyflawnodd IDF gynllun beiddgar, ac achub milwr IDF benywaidd o ffau Hamas. Dw i newydd gael gwybod bod ei theulu a holl drigolion y dref yn gweiddi ac ymbil ar Dduw am ei drugaredd drosti hi. Fe wrandawodd. Gweddïaf y byddan nhw'n dod i nabod Iesu, Gwaredwr Israel a achubodd y ferch.