Wednesday, March 31, 2021

blodau a photelau gwin

Prynodd y gŵr flodau hydrangea hardd. Y broblem ydy bod ganddyn nhw bennau trwm. Wedi ceisio sawl cawg heb lwyddiant, ces i syniad da. Dyma fo. Llwyddais ailgylchu potelau gwin ar yr un pryd.

Tuesday, March 30, 2021

gwefan newydd


Dw i'n hynod o falch i wybod bod yr Arlywydd Trump newydd lansio gwefan newydd sbon. Mae'n ymroddedig i warchod etifeddiaeth ei weinyddiaeth a'i weithgareddau ôl-lywyddiaeth. O'r diwedd bod modd syml i gyswllt â fo ar gyfer y bobl gyffredin ers i'w fuddugoliaeth etholiad ei ddwyn drwy dwyll a bygythiad. Dw i a'r gŵr yn dal i weddïo’n daer drosto fo'n ddi-baid ond roeddwn i'n ei golli'n ofnadwy. Pob bendith!

Monday, March 29, 2021

ym mharc nara

Mae fy nwy ferch yn Japan yn mwynhau gwyliau yn Kyoto ar hyn o bryd. Maen nhw newydd ymweld â Pharc Nara gerllaw sydd yn enwog am ei geirw rhydd. Mae gan ran fwyaf ohonyn nhw ddiddordeb ond mewn bwyta o law ymwelwyr, ond mae'r lleill yn bodloni cael eu hanwesu hefyd.

Saturday, March 27, 2021

iesu ein passover ni

Bydd Gŵyl Passover yn cychwyn heno yn cofio bod Duw wedi dod â'r Israeliaid ​o'r Aifft liw nos.
"Pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chwi," meddai Duw.

Friday, March 26, 2021

fideo newydd

Dyma fideo newydd sbon gan fy merch hynaf am ei murlun diweddaraf. Mae'n edrych pe bai hi'n paentio'n hawdd, ond dwedodd hi sawl tro tra oedd hi'n gweithio ba mor anodd paentio ar friciau. Cynorthwyydd gwerthfawr ydy ei gŵr hi sydd yn gweithio mor galed â hithau. Mae'n braf gweld ymateb ei chleient bob tro.

Wednesday, March 24, 2021

cerdyn gwyrdd newydd

Dw i newydd dderbyn cerdyn gwyrdd newydd (fisa preswylydd parhaol.) Fel arfer rhaid ymddangos yn y swyddfa benodol yn y dalaith arall er mwyn cwblhau popeth. Roeddwn i'n bryderus am y siwrnai hir at y swyddfa, ond dw i'n ddiolchgar nad oeddwn i'n gorfod mynd y tro 'ma. Mae'n debyg o achos Coronafeirws. 

Tuesday, March 23, 2021

saig higan

Roedd fy merch hynaf wrthi'n coginio ddydd Sadwrn er mwyn paratoi saig Higan, sef Diwrnod Cyhydnos Wanwynol. Coginiodd hi anko (past melys ffa coch) hyd yn oed yn lle agor tun. Roedd rhaid iddi wneud cyri, fodd bynnag, yn hytrach na soba (nwdls gwenith yr hydd) oherwydd nad ydy'i gŵr yn hoffi soba

Monday, March 22, 2021

tŷ bwyta gwaethaf

Es i a'r gŵr i'r tŷ bwyta gwaethaf yn y dref nos Wener (ddim yn fwriadol wrth gwrs.) Roedd y weinyddes yn esgeulus ac yn araf, a doedd y cogydd ddim yn gwybod sut i goginio cyw iâr. Na fydden ni byth yn dychwelyd yno, heb os. Er gwaethaf hynny, mae'r gŵr yn mynnu mai'r ail waethaf oedd!

Saturday, March 20, 2021

gwanwyn swyddogol


Dyma erthygl newydd sbon gan fy merch yn Japan ynglŷn â Diwrnod Cyhydnos Wanwynol. Heddiw (20 Mawrth) ydy'r ŵyl  eleni - y diwrnod i wahanu gaeaf a gwanwyn yn swyddogol. Bydd y gwanwyn yn bwrw ymlaen yn nerthol o heddiw ymlaen. Darllenwch fwy amdano fo yn yr erthygl.

Friday, March 19, 2021

beret coch

Mae'r gŵr yn hoffi gwisgo het, hyd yn oed yn y tŷ er mwyn cadw ei ben yn gynnes. Beret ydy ei ddewis yn ddiweddar pan nad ydy hi'n rhy oer. Prynodd un du fisoedd yn ôl, ac roedd eisiau un arall, lliw gwahanol; dewisodd goch, lliw hetiau MAGA. 

Wednesday, March 17, 2021

braint anhygoel

Mae fy merch hynaf wedi bod yn gwirioni ar Kabuki fel gweler yn amlwg yn fy mlog. Paentiodd hi rheiny fisoedd yn ôl, sef plant Ebizo Ichikawa yn eu gwisgoedd llwyfan. Cafodd hi sioc eithafol pan glywed hi fyddai Ebizo ei hun eisiau eu prynu! Ar ôl trefniadau ofnadwy o gymhleth, anfonodd hi nhw ato fo. A dyma fideo a wnaeth o'i blant yn rhoi eu barn ar y paentiadau, ac yn diolch i fy merch (yn Japaneg.)

Tuesday, March 16, 2021

mwgwd ac alergedd

Dechreuodd tymor alergedd. Roeddwn i'n arfer cadw at y tŷ am fwy na dau fis er mwyn osgoi'r paill, ond penderfynais fynd am dro eleni wrth wisgo mwgwd. Rhan o fywyd cyffredin yn Japan ydy gwisgo mwgwd pan fod annwyd arnoch chi, ond dim felly yng ngweddill y byd, hyd at y llynedd. Rŵan dw i'n medru mynd o gwmpas gyda mwgwd yn ystod y tymor alergedd heb neb yn edrych arna i'n rhyfedd, yr unig ganlyniad cadarnhaol y pandemig dyfeisiodig hwn, yn fy nhyb i.

Monday, March 15, 2021

gwers saesneg radio


Des i ar draws awdio hynod o gofiadwy ar YouTube, sef gwers Saesneg radio o 70dau gan Katsuaki Togo, athro o Japan. Dw i'n cofio'n dda ei gyfarch pleserus a'r gerddoriaeth fachog ar ddechrau pob gwers. Roeddwn i'n arfer gwrando arno fo'n aml pan oeddwn i'n dysgu Saesneg yn galed amser maith yn ôl. Bu farw ddwy flynedd yn ôl yn ôl peiriant chwilio.

Saturday, March 13, 2021

llais y bobl


Doeddwn i erioed wedi clywed COVFEFE cyn darllen erthygl amdanyn nhw; gwaharddodd Chase Bank y cwmni coffi hwnnw rhag defnyddio'u system oherwydd bod COVFEFE yn cefnogi'r Arlywydd Trump. Wedi'r mater fynd yn gyhoeddus, cynyddodd gwerthiant coffi COVFEFE 8 mil y cant. Dw innau newydd archebu pecyn o ffa coffi tywyll. Clywch lais y bobl!

Friday, March 12, 2021

gwas i'r gweinidog

Wrth agor drws adeilad yr eglwys ddoe, gwelais olygfa ryfedd - roedd "rhywun" wrthi'n glanhau'r llawr. Nid y gweinidog sydd yn gwneud y gwaith hwfro'n wythnosol oedd o, ond robot crwn sydd yn edrych fel chwilen ddu fawr! Roedd o mor rhyfeddol fel roeddwn i'n ei ddilyn am sbel. Methodd lanhau rhyw gongl neu ddau, ond ar y cyfan roedd o braidd yn dda - mynd o gwmpas yn araf wrth newid cyfeiriad pan darodd wal. Mae'r teclyn bach yn help mawr i'r gweinidog dw i'n siŵr!

Wednesday, March 10, 2021

murlun newydd

Mae fy merch hynaf newydd ddechrau ar furlun nesaf ar gyfer tŷ bwyta yn Stillwater, Oklahoma. Kabuki ydy'r thema eto, ei ffefryn erbyn hyn. Ar wal tu mewn mae hi'n paentio fel nad oes effaith tywydd ar ei gwaith.

Tuesday, March 9, 2021

cyfamod

Gyrrodd fy merch yn Japan lun a dynnodd oddi wrth ei fflat (sydd ar y 12fed llawr) - enfys berffaith! 

Dywedodd yr Arglwydd ynddo'i hun, “Ni felltithiaf y ddaear mwyach o achos dyn, er bod gogwydd ei feddwl yn ddrwg o'i ieuenctid; ni ddifethaf eto bopeth byw fel y gwneuthum. Tra pery'r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos.”

Monday, March 8, 2021

cartref newydd i fy noliau i

Wedi clywed bod fy merch hynaf yn ceisio prynu doliau Hina, penderfynais roi iddi fy ddwy i. Prynodd fy mam y rhain ar ôl i mi gael fy ngeni. Maen nhw wedi bod gyda fi drwy gydol fy mywyd. Roddwn i'n bwriadu eu rhoi i fy merch ryw ddiwrnod; gorau po gyntaf. Dw i'n siŵr bydd hi'n gofalu amdanyn nhw'n dda fel eiddo teuluol gwerthfawr.

Saturday, March 6, 2021

mazzio's

Ces i a'r gŵr swper mewn tŷ bwyta yn y dref oedden ni erioed bod ynddo. Tŷ bwyta pitsa ydy o. Cawson ni take-out sawl tro ganddo, ond roedd dyna'r tro cyntaf i ni eistedd at eu bwrdd. Er bod yn dŷ bwyta cadwyn, mae Mazzio's yn fwy lleol na Pizza Hut. Darllenais ei hanes am y tro cyntaf; sefydlwyd gan athro ysgol uwchradd yn Tulsa yn y 60au. Cafodd y gŵr bitsa cyw iâr a chig moch; ces i bitsa Groegaidd. Roedd yn braf cefnogi'r economi lleol eto.

Friday, March 5, 2021

coffi oer


Mae paratoi coffi gyda dŵr oer yn boblogaidd iawn. Dyma baratoi paned drosta i - blas ysgafn, ddim yn rhy ddrwg. Roedd y gŵr eisiau un hefyd. Ei farn: "Does ddim blas. Mae'n debyg i goffi'r eglwys," sydd yn golygu ofnadwy!

Wednesday, March 3, 2021

3edd mawrth, 2021

Gŵyl Hina hapus i'r holl ferched o bob oed!

Dyma erthygl amdani gan fy merch.

Tuesday, March 2, 2021

sgil gwerthfawr


Bwletin ein heglwys ni'r wythnos diwethaf:
Canmoliaeth: Am sgiliau trapio John Geasland a gafodd gwared â'r skunk dan yr adeilad a'i arogl a oedd yn llenwi'r holl safle.

Dw i'n hynod o ddiolchgar i John. Roedd yr arogl yn ofnadwy!

Monday, March 1, 2021

1af mawrth, 2021

"Gwnewch y pethau bychain."

Dydd Gŵyl Dewi Hapus.